Total Pageviews

Friday 17 July 2015

'King Charles III'

Y Cymro 17/07/15

Roeddwn i wedi bwriadu bwrw golwg dros yr arlwy ragorol sydd ar ddigwydd yn yr ŵyl ‘ffrinj’ ymylol eleni, ond roedd hynny cyn imi gael y cyfle i ail-glywed drama, ac yn wir cynhyrchiad weles i’n Llundain ma, rai misoedd yn ôl.

Dwi wedi dewis i sôn am y ddrama wych ‘King Charles III’ a gafodd ei lwyfannu’n wreiddiol yn yr Almeida, cyn cael ei ail-lwyfannu ynghanol y ddinas. Roeddwn i mor hapus o glywed bod BBC Radio 3 wedi dewis addasu’r clasur cyfoes hwn, a gafodd ei ddarlledu nos Sul diwethaf. 


‘Beth petai…?’ oedd man cychwyn sawl nofel i’r diweddar Eirug Wyn, a beth petai’r Frenhines Elizabeth II yn marw?, yw man cychwyn drama wych Mike Bartlett. Fe agorodd y cynhyrchiad gyda requiem draddodiadol yn cael ei ganu yng ngolau cannwyll gan y cast cyfan. Requiem angladdol y Frenhines bresennol, cyn i’r cecru a’r hanes dychmygol (sy’n anghysurus o real) gychwyn rhwng y Llywodraeth Brydeinig a’i disgynnydd, y Brenin Charles III (Tim Pigott-Smith) a’i wraig Camilla (Margot Leicester).  Cyn i’r cymeriadau gael eu henwi ar lwyfan, (ac yn fwy felly o’r fersiwn radio) roedd yr eironi o wybod am fywydau real y cymeriadau hanesyddol a chyfoes yma, yn donnau diddiwedd o is-themâu a dyfnder dramatig.


Mawredd y ddrama imi ydi camp Bartlett i’w gyfansoddi ym mhatrwm barddoniaeth Shakespeare – llinellau deg sillaf gydag ambell odl bwrpasol sy’n tanlinellu’r gic! Roedd hyn yn gwbl fwriadol, ac yn agor wedi hynny ar gyfoeth o gyfeiriadaeth am drasiedïau hanesyddol y Meistr ei hun, gan gynnwys y Brenin Llŷr, Macbeth, Henry IV, V a VI a llawer mwy.  Campwaith yr addasiad radio ydi medru creu’r darlun ac awgrym gyda sain a cherddoriaeth bwrpasol, yn enwedig felly gyda presenoldeb yr ysbryd Diana, sy’n dychwelyd i rybuddio a chynghori ei chyn-ŵr a’i meibion.

Dro ar ôl tro, yn ystod y perfformiad ac yn fwy felly yn nhawelwch fy nychymyg wrth wrando ar y wledd eiriol weledol drwy donfeddi’r radio (gwledd y byddwn i’n wir yn annog i hunan-bwysigion BBC Radio Cymru WRANDO arno a DYSGU ohono!), cefais wefr o wybod am wirionedd posib yr hyn oedd yn digwydd.  Mae’r geiriau yn gyforiog o gyfeiriadaeth a’r arlliw ac awgrym o drasiedïau’r gorffennol, yn fwynhad pur. Fel gyda’r rhybuddion dirifedi am berygl pŵer a hunan hyder yn nhrasiedïau’r Groegiaid, a fyddai’n gyfarwydd i ganran fechan o gynulleidfa Shakespeare, mae troad y rhod i ninnau'r un mor bwerus.


Beth bynnag fo’ch chwaeth wleidyddol am y teulu breintiedig hwn, dyma ddrama sydd yn agor y drws ar drafodaeth a rhagwelediad posib o’r hyn a all ddigwydd.  Beth fydd ein tynged wedi colli’r teyrn fu’n ‘gofalu’ drosom (neu fu’n godro’r system?!) am 63 o flynyddoedd? A hithau bellach wedi teyrnasu am gyfnod hirach nag oedran llawer i wleidydd presennol, beth fydd ymateb y llywodraeth pan fydd olynydd newydd yn cael ei goroni?  Mae’r ddrama’n archwilio’r tir ffrwyddlon hwn, ac yn ôl Bartlett ei hun, wedi ei orfodi i archwilio’r ‘beth petai…?’ o bob cyfeiriad. Tybed os mai gwir (a theg?) yw’r honiad bod ateb i bopeth drwy fynd yn ôl dros hanes yr hyn a fu?


Os na chawsoch gyfle i glywed y ddrama dros y penwythnos, rwy’n eich annog i geisio ei glywed ar wefan BBC Radio 3.  Mae’r ddrama ar gael i ‘wrando eto’ am dros 20 diwrnod, o’r wythnos hon. Plîs gwnewch…

No comments: