Total Pageviews

Friday 28 October 2011

'Earthquakes in London'





Y Cymro – 28/10/11

Tra bod y rhan fwyaf o adolygwyr Llundain yn heidio am adeilad y National Theatre ar lannau’r Tafwys, i weld drama ddiweddara Mike Bartlett sef ‘13’, mynd am Theatr Richmond wnes i, i weld drama gynharach ganddo, sef ‘Earthquakes in London’. Dyma gynhyrchiad teithiol gan y Theatr Genedlaethol, ac yn ôl yr adolygiadau cynnar a ddaeth i law, yr un syniadau, themâu a theipiau o gymeriadau, sydd yn y ddwy. Y peryg mawr efallai o fod yn or-ddibynnol ar yr un dramodwyr, dro ar ôl tro, heb ddim byd newydd i’w ddweud.

Diwedd y byd yw’r brif thema, a’r ffaith ein bod ni, deiliaid diweddara’r blaned ryfeddol hon yn araf ddinistrio’r hinsawdd, ac yn peryglu gwledydd y trydydd byd. Diflaniad a dinistriad pentrefi anghysbell Affrica, difodiant yr arth wen, gwanc y cwmnïau teithio cyfoethog a’i dymuniadau i ymestyn maesydd awyr a’r nifer o awyrennau sy’n cludo deiliad tai haf o Brydain i bellafoedd y byd. Ydi, mae bob un yn ddadl bwysig, ond dwi wedi syrffedu bellach ar yr un driniaeth ddramatig sy’n cael ei fwrdro gan bob dramodydd. Yr un ffeithiau, ffaeleddau a’n Ffawd.

Gwta flwyddyn yn ôl, ac o bosib, tua’r un cyfnod a phan agorodd y cynhyrchiad gwreiddiol o ‘Earthquakes in London’ yn y Cottesloe, fe welais ddrama arall gan y Theatr Genedlaethol o’r enw ‘Greenland’. Yma eto, yr un dadleuon, yr un pentrefi Affricanaidd, yr un cymeriad mewn siwt arth polar a’r un problemau a barodd i’r gynulleidfa gadw draw, adolygiadau anffafriol a chau cynnar.

Un gwahaniaeth y tro hwn yw’r ffaith mai cyd-gynhyrchiad rhwng cwmni theatr Headlong, sef cwmni’r cyfarwyddwr Rupert Goold a’r Genedlaethol sydd dan sylw, a dyma unig achubiaeth y cynhyrchiad yn fy marn i. Fel gyda'i gynhyrchiad llwyddiannus a hudolus o ‘Enron’ dro yn ôl, cafwyd yr un driniaeth theatrig y tro hwn - cyfuniad o daflunio, dawnsio a chanu; golygfeydd byr, byrlymus a thro yn eu cynffon. Ychwanegwch at hynny set ar dro chwaethus un o fy hoff gynllunwyr, Miriam Buether, goleuo celfydd Tim Mitchell a cherddoriaeth Alex Baranowski, ac mae’r cynhwysion sicr yma ar gyfer llwyddiant ysgubol. Pam felly fy mod i wedi syrffedu’n llwyr yn Richmond, ac wedi dwys ystyried gadael yn yr egwyl, fel sawl un arall?

Rhaid i’r bai ddisgyn ar y sgript. Llawer rhy hir, angen ei olygu, meddwi ar eiriau a delweddau. Dadlau hyd syrffed heb symud ymlaen. Un teulu yw canolbwynt y stori, ac yn benodol, tad a thair chwaer sydd â syniadau gwahanol am achub y byd, dros gyfnod eang rhwng 1968 a 2525. ‘Sarah’ (Tracey-Ann Oberman) yr hynaf, sydd bellach yn Weinidog yr Amgylchedd yn y Llywodraeth ac sy’n cwffio’n feddyliol rhwng cyfalaf a’i chydwybod, ‘Freya’ (Leah Whitaker) sy’n feichiog a hunanddinistriol sy’n poeni am ddyfodol y byd i’w babi heb ei eni, a’r myfyriwr hedonistaidd ‘Jasmine’ (Lucy Phelps) sy’n smocio, yfed a chael ei defnyddio gan blacmeliwr Affricanaidd, sy’n ceisio dial ar ei chwaer. Pob un, mewn un ffordd neu’i gilydd, wedi’u heffeithio gan farwolaeth gynnar y fam i ganser, a diflaniad y tad, ‘Robert’ (Paul Shelley) i bellafoedd yr Alban, wedi sylweddoli’n gynnar yn ei yrfa am effaith dinistriol yr awyrennau a’u hallyriant ar ddyfodol y blaned.

Ychwanegwch at hynny'r gwŷr anffyddlon a diog, y cariadon lliwgar a lluosog, llais a phresenoldeb y plentyn heb ei eni, y plant presennol sy’n poeni mwy am eu Playstations na’r pegynau Polar, ac fe gewch chi flas, diflas iawn o’r lobsgóws diddiwedd o ddatganiadau gwleidyddol sy’n cael eu lleisio. Wedi cyrraedd 2525, a’r fam wedi cyflawni hunanladdiad drwy daflu’i hun oddi ar bont Waterloo (i gyd yn ôl y ‘Gair’ mae’n debyg, y daw proffwyd i’r rhybuddio a’n hachub yn y presennol) roedd adlais o ddrama epig Kushner, ‘Angels in America’, wrth inni gael ein tywys i’r ‘Nefoedd’, ac edrych yn ôl, ar yr hyn a fu / fydd, yn yr Oes sydd ohoni.

Neges gyfoes bwysig heb os, ond gormod o bwdin, a all dagu a drysu gwir fwriad y cyfan.

Mae ‘13’ i’w weld ar hyn o bryd yn y National Theatre a ‘Earthquakes in London’ ar daith tan ganol Tachwedd, ac wedi Richmond yn ymweld â Rhydychen a Chaergrawnt (hynny, ynddo’i hun, yn adrodd cyfrolau!).

No comments: