Y Cymro – 30/04/10
Dwi ‘di sôn droeon, dros y blynyddoedd, am y weledigaeth theatrig; y ddawn brin honno i fedru troi drama ben i waered, a rhoi gwedd newydd, ffres ar hen batrwm. Dyna ichi gynhyrchiad Stephen Daldry o ‘An Inspector Calls’ sy’n Glasur cydnabyddedig erbyn hyn. Yr hyn a wnaeth Daldry oedd troi drama enwog J.B. Priestly ar ei ben, ac yn hytrach na chyflwyno’r ystafell fwyta a chiniawa’r teulu, fel yr olygfa gynta’, mae’n dewis ffocysu ar yr ‘Inspector’ - yr ymwelydd dirgel sy’n galw i amharu ar y teulu a’i gwestiynu brwd. O gloi’r teulu yn y tŷ dol yng nghornel y llwyfan, gan adael i’r olygfa barhau tu ôl i’r muriau caeedig, mae’r sylw i gyd ar yr arolygydd tu fas, sy’n gwylio ac yn gwrando ar y cyfan yn y glaw. Meddwl tu allan i’r bocs, fel petai, gan roi gogwydd, ac o bosib, ystyr newydd i’r cwbl.
Pan glywais i am gynhyrchiad ‘newydd’ Tom Morris o’r ddrama ‘Juliet and Her Romeo’ yn yr Old Vic ym Mryste, roeddwn i’n wir edrych ymlaen am ei weld. Nid yn unig am fod enw Siân Phillips yn gysylltiedig â’r gwaith, ond am y rheswm syml, cynhyrfus a chwbl unigryw, mai hi fyddai’n portreadu Juliet! Rhag ichi feddwl fod yr hen hogyn Griffiths ‘na wedi drysu’n llwyr, dyna yw gogoniant y cynhyrchiad. Mae ‘Romeo’ (Michael Byrne) a ‘Juliet’ (Siân Phillips) bellach mewn gwth o oedran, a’r ddau yn preswylio’n ddedwydd yn y ‘Verona Nursing Home’ a’i ddwy adain bwrpasol - ward ‘Montague’ ble mae’r werin a ‘Romeo’ yn lletya, a moethusrwydd y ‘Capulets’ sy’n gartref i ‘Juliet’ a’i ‘brawd’ (yn yr addasiad yma) ‘Tybalt’ (Tim Barlow).
Mae’r ‘Nyrs’ (Golda Rosheuvel) yma o hyd, yn gofalu am y ‘Juliet’ oedrannus, a’r newid yn ystod oedran y ddwy yn ddiddorol; yma hefyd mae ‘Benvolio’ (Terry Taplin) a ‘Mercutio’ (Dudley Sutton) y ddau yn ffraeo gydol y ddrama, sy’n gwneud i’r llofruddiaeth yn ail hanner y ddrama yn fwy credadwy. Wedi mynd mae’r rhieni, ond yn eu lle, mae ‘Ms Capulet’ (Abigail Thaw) sef ‘merch’ Juliet, sy’n ceisio’i gorau i ganfod cymar i’w mam, drwy ei chyflwyno i’r gŵr busnes cefnog ‘Paris’ (Michael Medwin). Yma hefyd mae’r ‘Friar Lawrence’ (Tristan Sturrock) sy’n cyfuno holl swyddogaeth y Brawd sy’n gweinyddu’r briodas gudd, ac yn darparu’r gwenwyn terfynol.
O restru’r uchod, does dim angen egluro’n fanylach, gan fod y cyfan yn llwyddo, a’r stori garu enwog yn eistedd mor gyffyrddus ym mynwes y genedl hŷn, ac y mae yn nwylo’r ieuenctid ffôl. Yn fwy felly mewn mannau, wrth i ing henaint, a’i greulondeb bery i’r Drasiedi fod yn llawer mwy dirdynnol.
Cryfder y cynhyrchiad yw perfformiad gwefreiddiol Siân Phillips fel un o’r “star-cross'd lovers ”, sy’n hawlio’r sylw a’n cydymdeimlad, yn y ddrama rymus hon. Ei phresenoldeb urddasol, trydanol, sy’n goleuo’r llwyfan llawn. Anghofiai fyth mor olygfa enwog ar y balconi, sydd bellach ar ail lawr y cartref, wrth i’r ddau ddatgan eu cariad wrth ei gilydd. “How cam’st thou hither...?” medda hi’n bryderus, wrth weld yr henwr wrth ei ffon a’i byjamas, yn dyheu amdani; “...the orchard walls are high and hard to climb...”. Ac er bod ei ateb yntau mor eironig â Shakespeare ar ei orau, roedd ei ymateb onest a thawel “With love’s light wings did I o’er-perch these walls” yn ddirdynnol o deimladwy, ac eto’n ddoniol o ddwys.
‘War Horse’ yn y West End, yw un o lwyddiannau diweddar Tom Morris, a hawdd gweld ehangder ei weledigaeth, a’r parch sydd ganddo tuag at emosiwn ac eironi. Y briodas berffaith rhwng addasiad Sean O’Connor, cynllun set syml, ond cwbl effeithiol Tom Pye, a gweledigaeth angerddol Morris tuag at y testun, sy’n aros efo mi, ymhell wedi gadael y theatr. Dim ond gobeithio y bydd cyfle i chwithau hefyd brofi’r wefr a’r weledigaeth, os caiff y cynhyrchiad ei ail-gyflwyno yma yn Llundain. “For never was a story of more woe than this of Juliet and her Romeo”