Total Pageviews

Friday, 10 April 2009

'War Horse'



Y Cymro – 10/04/09

Wedi’r lliw a’r llawenydd yn anialwch Awstralia'r wythnos diwethaf, gyda’r sioe ‘Priscilla Queen of the Desert’ a’i ddau Gymro, yn parhau i ddenu’r cynulleidfaoedd, dioddef i raddau mae rhai o’r dramâu cerdd fwy ceidwadol. A bod yn onest, does 'na ddim cyfle gwell na’r cyfnod yma i brynu tocynnau i weld rhai o sioeau hŷn y West End, gan gynnwys ‘Joseph’, ‘Blood Brothers’ a ‘Chicago’ sy’n cynnig tocynnau mor rhad â £10 y pen, neu £20 yn cynnwys pryd o fwyd 2 gwrs a’r tocyn! Heb fynd i dramgwyddo hawliau marchnata’r Cymro, mae’n broses eitha’ hawdd dod o hyd iddynt, a’r gwefannau ‘munud olaf’ (cyfieithwch!) yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau.

Yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, mae’r theatrau yn dioddef, a synnwn i fawr o weld rhai sioeau yn ffarwelio â’r ddinas yn fuan iawn. Wrth i sioeau mawr fel ‘Priscilla’, ‘Oliver’ a ‘Wicked’ barhau i ddenu’r tyrfaoedd, tenau iawn yw’r gefnogaeth i’r gweddill. Wedi dweud hynny, fe ges i’r cyfle yn ddiweddar i ail-ymweld â’r sioe ‘Wicked’, ac mi gefais siom o weld pa mor denau oedd y Cast (o ran nifer nid maint corfforol!) a pha mor synthetig electronig oedd y ‘gerddorfa’. Nid cyfrinach yw’r ffaith mai 4 allweddell sy’n cynnal rhan helaeth o’r sioe bellach, sy’n peri cryn ddadlau ymysg cerddorion y West End, sy’n amlwg yn colli gwaith o’r herwydd.

Braf iawn felly yw gweld Theatr Genedlaethol Lloegr yn mentro i’r gofod gwag yn Theatr y New London, wedi ymadawiad y ddrama gerdd byr hoedliog, ‘Imagine This’ y llynedd, gyda’r clasur o gynhyrchiad, ‘War Horse’. Wedi’i lwyfannu’n wreiddiol nol ym 2007, a’i ail-lwyfannu yn y National yn 2008, bellach mae’r cynhyrchiad mawreddog yma, gyda’i gast o dros 30 o actorion a phypedwyr, wedi sicrhau eu lle am gyfnod yn y gofod crwn hwn. Doeddwn i ddim wedi ystyried pa mor debyg yw’r gofod yma, a fu’n gartref i’r sioe ‘Cats’ am flynyddoedd maith, i brif theatr y National, yr ‘Olivier’. Tebyg iawn o ran siap, ond ddim o ran y sain.

Mae’r nofel wreiddiol o waith Michael Morpurgo, yn stori ddirdynnol am fachgen ifanc o’r enw ‘Albert Narracott’ (Kit Harington) a’i fam ‘Rose’ (Bronagh Gallagher) a’i dad ‘Billy’ (Curtis Flowers) sy’n etifeddu ebol a enwir yn ‘Joey’, wedi i’r ‘Billy’ meddw ei ennill mewn Ocsiwn yn y Plwy. Wrth i’r ebol dyfu, tyfu hefyd wna’r berthynas glos, gyfeillgar a hynod o dwymgalon rhwng ‘Albert’ a’r ceffyl. Wrth i ysfa’r tad am arian gynyddu, mae’n frwydr barhaol i ‘Albert’ geisio cadw’r ceffyl, a rhwystro ymdrechion ei dad i’w werthu. Ond yng nghysgod y Rhyfel Mawr, mae’r arian a’r angen am geffylau o safon ‘Joey’ yn enfawr, a buan iawn, mae’r ceffyl yn ymuno â gweddill y llanciau ifanc ar Faes y Gâd. Wedi torri’i galon efo’r golled, mae ‘Albert’ yn dianc o afael ei deulu, ac yn dilyn ‘Joey’ i’r Drin.

Er bod peth cwtogi ar y gwreiddiol, a hynny o ran y Set yn fwy na dim, oherwydd diffyg hyblygrwydd llwyfan yr ‘Olivier’, mae naws ac angerdd y gwreiddiol yn parhau. Mae’n ddrama sy’n anwesu eich emosiynau, ac yn godro’r dagrau wrth bortreadu’n real iawn y cyfnod trasig yma yn ein hanes. Fe syrthiwch mewn cariad gyda gwaith cynllunio Basil Jones ac Adrian Kohler fu’n gyfrifol am y pypedau o geffylau, ac fe synnwch o weld pa mor effeithiol yw’r bambŵ a’r lledr sy’n creu’r cyfan.

Fe ddwedais i’r llynedd mai cynhyrchiad fel ‘War Horse’ sy’n fy atgoffa o ble daw fy angerdd, fy nghariad a fy ngobeithion am bŵer y Theatr. Mae’r emosiwn, y teimlad a’r atgofion a grëwyd gan y cwmni o fewn y ddwy awr ac ugain munud euraidd yma yn amhrisiadwy.

Petai gweledigaeth ein Theatr Genedlaethol ninnau yng Nghymru yn gallu cynnig imi'r un safon a’r profiad, yna mi faswn i’n hapus iawn, iawn. Mynnwch eich tocynnau nawr. Mwy o fanylion ar www.nationaltheatre.org.uk

No comments: