29/11/09
Mi wn fod y Nadolig yn agosáu pan glywaf alawon cofiadwy Handel o’i gampwaith clasurol ‘Messiah’. Pan glywais fod yr ENO am wneud opera o’r campwaith clasurol, allwn i’m aros am y briodas gynhyrfus rhwng y lleisiau a’r llwyfan.
Deborah Warner gafodd ei dewis i gyfarwyddo’r gwaith, a hynny wedi cyd-weithio llwyddiannus ar ‘St John Passion’ gan Bach yn 2000. Mae’r ENO hefyd wedi llwyfanu ‘Requiem’ Verdi yn y gorffennol, felly doedd dim dewis arall ond mynd i’r afael â’r ‘Messiah’ y Nadolig hwn.
Cyfaddefodd Warner nad oedd hi’n gyfarwydd o gwbl â’r gwaith cyn cychwyn arni, ac felly roedd hi’n llawer haws delio gyda’r gerddoriaeth o’r newydd, gan geisio cyrraedd diffiniad newydd a chyfoes ohoni. A dyma a gafwyd, wrth i’r ‘ddrama’ ar y llwyfan ddilyn naws y gwreiddiol drwy rannu’n dair thema wahanol; y disgwyl am Achubwr a’r Geni , y Gwyrthiau a’r Genadwri ac yna’r Aberth pennaf, a’r Gobaith am fywyd tragwyddol.
Nifer o olygfeydd i gyfleu’r themâu perthnasol a gafwyd ar y llwyfan, i gyfeiliant y gerddorfa a chorws yr ENO, gyda’r unawdwyr - Catherine Wyn-Rogers, John Mark Ainsley, Brindley Sherratt a Sophie Bevan, yn canu’r Geiriau Sanctaidd, i gyd-fynd â’r golygfeydd cyfoes. Roedd yr act gyntaf yn hynod o drawiadol, wrth i’r cwmni cyfan, mewn gwahanol olygfeydd, ‘ddisgwyl’ am gyfaill, cymar, teulu, meddyg, waith, tyrfa, rhieni, yn ôl y galw. Mae’r cyfan yn cael ei ganoli mewn Eglwys wrth i’r Offeiriad ddatgan, ‘Comfort ye’, wrth aros am ei dyrfa.
Plethiad o ddelweddau trawiadol o’r Meseia mwy traddodiadol a gafwyd yn yr ail act, wrth i’r digwydd canolbwyntio ar y gefnlen o luniau, gyda’r un mwyaf cofiadwy yn blethiad o wynebau o bob Oes, wrth i ddegau droi’n gannoedd, yn filoedd ac yn filiynau.
Deffro’r meirw oedd thema’r drydedd act, yn nhraddodiad yr Atgyfodiad, ac o gychwyn gyda chlaf yn ei gwely mewn ysbyty, yn derbyn morffin, hyd y diwedd wrth i’r llwyfan cyfan lenwi gyda chyrff ar welyau tryloyw godi o’u gorwedd, a throi at ogoniant y Machlud ar y sgrin enfawr o’u blaen.
Roedd y diweddglo yn emosiynol, yn gofiadwy ac yn ddigon i atgyfnerthu’r amheuwr cryfaf, bod gobaith i bawb. Ond nid dyna fwriad Warner, ond yn hytrach i gyfleu cryfder y gerddoriaeth gan adael i’r gynulleidfa geisio’u dehongliad ei hun.
Does 'na’m dwywaith fod ymweliad â’r Coliseum yn ddigwyddiad o bwys, ac yn atgof i’w drysori. O’r goleuo, i’r setiau, i’r sain a’r gerddoriaeth, dyma’r gorau ar waith, a braint oedd cael bod yno.