Total Pageviews

Friday 10 July 2009

'Carrie's War'





Y Cymro – 10/07/09

Fi fyddai'r cyntaf i ymhyfrydu o glywed y Gymraeg yn cael ei ganu a'i lefaru yn un o theatrau Shaftsbury Avenue. Clod felly i'r cynhyrchiad diweddara i agor yn Theatr Apollo, sef addasiad Emma Reeves (sy'n hanu o Wrecsam) o nofel nodedig Nina Bawden, 'Carrie's War'.

Wedi'i osod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae'r stori yn olrhain hanes yr efaciwis 'Carrie Willow' (Sarah Edwardson) a'i brawd 'Nick' (James Joyce) a'r llanc peniog 'Albert Sandwich' (John Heffernan) sy'n gorfod ffoi o ganol dinas Llundain i Dde Cymru. Wedi cyrraedd y wlad, sy'n llawn defaid a dynion yn canu yng nghynhyrchiad Andrew Louden, mae'r brawd a chwaer yn canfod eu hunain yng nghartref ceidwadol 'Mr Evans' (Siôn Tudor Owen) a'i chwaer annwyl, di hyder, a dry'n 'Auntie Lou' (Kacey Ainsworth) . Mynd i ganol byd o ddirgelwch wna’r bonwr ‘Sandwich’ wrth gyrraedd plasty ‘Mrs Gotobed’ (Prunella Scales) sy’n cuddio yno o dan weinyddiaeth y ‘Mr Johnny’ (James Beddard) methedig a’r wrach o forwyn croen ddu ‘Hepzibah Green’ (Amanda Symonds).

Yn raddol, fe ddysga’r plant nad yw petha cweit fel y disgwyl yng Nghymru, wrth i’r plasty a’i benglog guddio a chynnal hen hanes o gam-drin a chaethwasiaeth, a ‘Hepzibah’ wrth ei bodd yn adrodd yr hanes dychrynllyd a’r felltith sydd ar y plasty.

Mae’r nofel wedi swyno cannoedd o blant dros y blynyddoedd, a sawl un yn ei dridegau yn medru cofio gorfod darllen y gwaith yn yr ysgol. Dwi’n cofio’r nofel o fy nyddiau yn Ysgol Dyffryn Conwy, a’r cysylltiad â Chymru yn tanio’r dychymyg i’r dim. Ond rhywle, unai rhwng plentyndod a chanol oed, neu rhwng Llanrwst a Llundain, collodd y nofel ei apel, ac yn anffodus, nes i ddim mwynhau’r hyn a welais ar y llwyfan.

Er cystal ymgais rhai o actorion mwyaf profiadol Prydain fel Prunella Scales (Sybil o ‘Fawlty Towers’) a Kacey Ainsworth (‘Little Mo’ o Eastenders) i ynganu’r Gymraeg, allwn i’m peidio teimlo’n anniddig pam na ddefnyddiwyd y toreth o actorion Cymraeg sy’n ddi-waith ar hyn o bryd. Falle bod angen y statws i werthu tocynnau, digon teg, ond gyda’r actorion iau, sydd yno i lenwi neu i gymeriadu, does dim cyfiawnhad. Drwy gynnwys mwy o Gymry, efallai y byddai’r corws bach o bedwar wedi medru llwyddo i ganu’r ail bennill o ‘Ar Hyd y Nos’ neu ‘Calon Lân’ yn hytrach nag ail-adrodd y pennill gyntaf hyd syrffed. A tra dwi ar fy mocs sebon, oes rhaid clywed dafad yn brefu i ddynodi bod y trên wedi cyrraedd Cymru?!

Wedi dweud hynny, gwnaeth y ddau actor o Gymru sef Daniel Llewelyn-Williams a welais yng nghynhyrchiad Clwyd Theatr Cymru o ‘An Inspector Calls’ flynyddoedd yn ôl a Siôn Tudor Owen eu gwaith yn rhagorol. Roedd llyfnder eu hacenion Cymraeg yn amlwg yn rhagori ar y gweddill, a phwy a ŵyr maint eu cyfraniad i’r sgript ac i weddill o’r cast drwy’r Gymraeg a’u gwybodaeth o’n hetifeddiaeth.

Anwastad hefyd oedd safon set Edward Lipscomb. Er cystal oedd y ddau gartref - y plasdy moethus ar ddwy lefel ar yr ochor chwith, a’r cartref cynnil ar y dde, roedd y wlad a’r bryniau yn y canol yn hynod o dila, gyda torreth o lwyfannau (rostras) a stepiau blith draphlith, a llenni camouflage o boptu. Rhad a rhwystredig yw’r geiriau sy’n dod i gof, a methiant y weledigaeth efallai o fedru mynd â ni ar daith ddyrys heb orfod gweld llawnder pob lleoliad.

Hoffwn i’n mawr fedru annog y Cymry i heidio i weld y cynhyrchiad, petai ond i werthfawrogi’r ymdrech i blesio’r Cymry! Ond, mae arna i ofn fod yna lawer o rwystredigaethau sy’n fy atal rhag gwneud hynny; nid yn unig y prinder o actorion o Gymru, ond hefyd yr addasiad clogyrnaidd, yr ormodiaeth o ganu undonog a syrffed y stori mewn mannau heb ddigon o ddrama i gynnal y gwyliwr.

Os am fentro, neu am fwy o flas, ymwelwch â www.carrieswar.com - sydd, gyda llaw, yn cynnwys is-deitlau Cymraeg ar fideo o promo’r sioe!.

No comments: