Total Pageviews

Saturday, 25 July 2009

'Oliver'





Y Cymro – 24/07/09

Dwi wedi gwrthod mynd i weld y sioe ‘Oliver’, byth ers i gwmni Cameron Macintosh wrthod tocynnau i’r Cymro i fynychu noson y Wasg. Falle ichi gofio dro yn ôl imi lambastio’r cwmni am eu diffyg cefnogaeth i’r Cymry, a nhwtha wedi manteisio ddigon arnom ni yn sgil y ‘gwên fêl yn gofyn fôt’ ar gyfer Gwion Wyn Jones, sy’n rhannu’r brif ran gyda James Donaghey a Francesco Piancentini-Smith.

Ond gyda’r newydd fod seren y sioe, Rowan Atkinson yn rhoi’r gorau i’w rôl fel ‘Fagin’ ganol mis Gorffennaf, er mwyn gwneud lle i’r diddanwr Omid Djalili, cefais wahoddiad drwy gyfaill i weld un o nosweithiau olaf Atkinson.

Mentro’n eiddgar felly i’r Theatr Royal ar Drury Lane ar un o nosweithiau poetha’r flwyddyn. Staff y theatr yn rhannu ffans cwmni Cameron Macintosh i bob aelod o’r gynulleidfa, gan nad oes system awyru yn un o theatrau hynna’r ddinas. Dim clem o’r rhaglen pwy oedd am bortreadu ‘Oliver’ ar y noson, a siom o ganfod mai’r Sgotyn Francesco Piacentini-Smith oedd yn hawlio’r sylw’r noson hon.

All neb wadu dawn gerddorol Lionel Bart o greu’r ddrama gerdd hynod hon yn seiliedig ar stori Dickens and fachgen ifanc o’r wyrcws sy’n canfod ei hun ynghanol gang o ddihirod ifanc mwya’ lliwgar Llundain. Mae’r caneuon yn ganadwy a chofiadwy, ac alawon adnabyddus fel ‘Food Glorious Food’, ‘Oliver!’, ‘Where is love?’, ‘I’ll do anything’, a’r anfarwol ‘Oom-pah-pah’ wedi’u mwrdro a’u mwynhau dros y blynyddoedd gan gynyrchiadau mewn ysgolion ac ar lwyfannau amatur a phroffesiynol. A deud y gwir, cawl eildwym o gynhyrchiad ydi hwn, yn seiliedig ar gynhyrchiad gwreiddiol Sam Mendes a fu yn y Palladium rhwng 1994 a 1998.

Mae holl nodweddion y bnr Mackintosh i’w weld yn amlwg; setiau moethus Anthony Ward sy’n codi a symud bob sut er mwyn creu strydoedd tywyll Llundain ac is-fyd lliwgar y dihirod, coreograffi celfydd yr arch-goreograffydd Matthew Bourne a chyfarwyddo medrus Rupert Goold. Siomedig oedd y sain a grëwyd gan y gerddorfa, ac roedd hynny yn ddirgelwch pur imi. I unrhyw un sy’n adnabod y sgôr gerddorol, doedd y cyfoeth cynnes sy’n cynnal yr alawon ddim yno, a’r caneuon mwy tawel fel ‘Where is love?’ yn dioddef o’r herwydd.

Prif wendid y cyfan oedd yr agwedd nawddoglyd a gyflwynwyd o’r cychwyn cyntaf. Roedd pob aelod o’r cast yn camu ar y llwyfan, a’u hosgo, eu hagwedd a’u hunan hyder i gyd yn gweiddi’n groch ‘dan NI yn DDA, ac da CHI yn gwybod hynny!’. Pan gamodd Jodie Prenger i’r llwyfan fel ‘Nancy’ (yr un a gurodd ein hannwyl Tara Bethan ar gyfres deledu’r BBC y llynedd), bu bron iddi aros i’r gynulleidfa gymeradwyo cyn canu’r un gân! Felly hefyd gyda Rowan Atkinson wnaeth lanast o’r cymeriad ‘Fagin’ yn fy marn i. Clywais eisoes fod y bnr Atkinson wedi ceisio cynnwys elfennau o’i greadigaeth hynod ‘Mr Bean’ i’r rhan, ac yn sgil hynny, collwyd ochor sinistr y rhan drwy greu jôc o hen ddyn sy’n cludo tedi bêr ac yn ymhyfrydu o wisgo gemwaith a thlysau benywaidd. Doedd gan y bechgyn ifanc ddim ofn o gwbl tuag at yr hen ddyn creulon hwn.

Pan ddisgynnodd y llen ar ddiwedd y sioe, roedd y godro yn amlwg eto, a’r cast yn dychwelyd dro ar ôl tro i odro’r gymeradwyaeth dila, gan fod pawb eisiau gadael yr adeilad, oherwydd y gwres! Roedd diffyg proffesiynoldeb y cast ifanc hefyd yn amlwg wrth iddynt wneud stumiau ar y gynulleidfa wrth ymadael.

Profiad anffodus felly wedi’r hir ymaros, a rhybudd pendant i unrhyw sioe lwyddiannus. Tydi’r ffaith bod bob tocyn wedi’i werthu am fisoedd ddim yn arwydd o lwyddiant! Llai o hunan ganmol efallai a mwy o ostyngeiddrwydd?

Mwy am y sioe drwy ymweld â www.oliverthemusical.com

Friday, 17 July 2009

'La Cage Aux Folles'





Y Cymro – 17/07/09

Un ffordd o gadw sioe yn fyw yn y West End ydi newid yr actorion yn gyson. Does 'na'm dwywaith fod enwau cyfarwydd yn denu ac yn gwerthu, ond efo'r sioe'r bûm i'n ei gweld (ddwywaith) yn ddiweddar, roedd y dieithriaid ar y llwyfan yn llawer mwy derbyniol a chredadwy na'r enwogion.

Do, o'r diwedd, llwyddais i gael fy hudo a'm caethiwo gan 'La Cage Aux Folles' a gychwynnodd ei daith yn stabl lwyddiannus y Mernier Chocolate Factory, ond sydd bellach yn y Playhouse ger Embankment. Falle bod y stori yn gyfarwydd i lawer yn sgil ffilm lwyddiannus a theimladwy Édouard Molinaro ym 1978, sy’n seiliedig ar ddrama Jean Poiret o 1973. Ym 1996, cyfarwyddodd Mike Nichols addasiad arall o’r stori o dan y teitl Saesneg ‘The Birdcage’ gyda Robin Williams a Nathan Lane yn y prif rannau.

Hanes cwpl hoyw canol oed sydd yma yn y bôn; 'Georges' (Philip Quast) sy'n rheoli'r clwb nos nodedig 'La Cage Aux Folles' yn St Tropez, a'i sioeau nwydus, rhywiol a cherddorol gan ddynion mewn gwisgoedd benywaidd, neu'r nesa peth at ddim! 'Albin' (Roger Allam) yw ei bartner, neu'r wraig os mynnwch chi, ond sy'n fwy cyfarwydd fel 'Zaza' prif seren y clwb ers blynyddoedd maith, ac sy'n dal i ddenu'r tyrfaoedd. Tydi perthynas y ddau ddim yn berffaith, pa berthynas sydd wedi'r holl flynyddoedd, ond gyda chyrhaeddiad mab Georges sef 'Jean-Michel' (Stuart Neal), mae pethau'n troi o ddrwg i waeth. Mae Jean-Michel am briodi 'Anne Dindon' (Alicia Davies), ond gan fod ei thad mor geidwadol, ac wedi areithio'n gyhoeddus yn erbyn y gymuned hoyw, does 'na'm rhyfedd nad yw Jean-Michel yn awyddus i wahodd Albin i'r briodas.

Trwy'r cecru a'r crio, ynghyd a datganiad hynod o bwerus o 'I am what I am', dyma ddod at gryfder a dyfnder y darn. Yn wahanol i 'Priscilla' a 'Hairspray' dwy sioe arall sy'n dathlu drag ar hyn o bryd, mae yma emosiwn ac onestrwydd yn eu portread o gwpl mewn oed yn dod i ddeall ei gilydd yn well. Mae'n ddarlun agored a theimladwy o bwysigrwydd derbyn pawb fel ag y maent; er gwaetha’r gwendidau, rhaid dathlu’r hyn sy’n bwysig sef cariad a theulu.

Er bod y Playhouse yn un o theatrau llai Llundain, mae’r llwyfan yn llawn drwy gydol y sioe, a dawn cyfarwyddo Terry Johnson yn werth ei weld wrth i’r stori lifo o un olygfa i’r llall. Mae set Tim Shortall yn asio’n berffaith gyda’r weledigaeth wrth greu theatr o fewn theatr, a gosod y gerddorfa o boptu’r llwyfan o fewn y set. Gan fod cymaint o’r digwydd dramatig yn y clwb nos, gefn a blaen y llwyfan, hoffais yn fawr y modd cynnil a chreadigol y crëwyd hynny. Felly hefyd gyda fflat moethus, dros ben llestri’r cwpl, sy’n cael ei weddnewid yn llwyr yn yr ail ran i fod yn foel, geidwadol a chrefyddol er mwyn plesio rhieni Anne.

Heb os, cryfder y darn i imi oedd portread cwbl gredadwy ac emosiynol Roger Allam fel ‘Albin’, a gallwch chi’m peidio cydymdeimlo gydag o / hi drwy gydol y daith. Roedd ei ddatganiadau o ‘A little more mascara’ ac ‘I am what I am’ yn yr Act gyntaf yn bwerus a chofiadwy, felly hefyd y ddeuawd garu rhwng y ddau ‘Look over there’ a’i thema gerddorol sy’n cael ei ail-ganu’n gyson.

Fel mynychwyr clwb ‘La Cage…’, mae’r gynulleidfa yn cael eu croesawu gan ‘Georges’ ac yn wir yn cael eu diddanu cystal â’r gwreiddiol gan yr ‘adar’ brith - roedd coreograffi a chymeriadu ‘Les Cagelles’ yn werth ei weld a Nolan Frederick, Nicholas Cunningham, Darren Carnall, Gary Murphy, Dane Quixall a Ben Bunce yn haeddu’i henwi.

Ers agor y sioe, mae Douglas Hodge a Graham Norton wedi portreadu ‘Albin’, a seren y gyfres ‘Torchwood’, John Barrowman eisoes wedi cytuno i wthio’i ffordd i’r ffrogiau ym mis Medi. Yn bersonol, allwn i’m dychmygu ddim byd gwaeth na gweld Norton neu Barrowman yn portreadu’r cymeriad sensitif, trasig ac eto’n gryf, yma. Falle fyddai’i anghywir, pwy ag ŵyr, ond bydd yr atgofion pleserus am y ddau berfformiad cofiadwy weles i’n ddiweddar, yn ddigon i’m cadw i’n hapus am amser maith.

Mwy am y sioe drwy ymweld â www.lacagelondon.com

Friday, 10 July 2009

'Carrie's War'





Y Cymro – 10/07/09

Fi fyddai'r cyntaf i ymhyfrydu o glywed y Gymraeg yn cael ei ganu a'i lefaru yn un o theatrau Shaftsbury Avenue. Clod felly i'r cynhyrchiad diweddara i agor yn Theatr Apollo, sef addasiad Emma Reeves (sy'n hanu o Wrecsam) o nofel nodedig Nina Bawden, 'Carrie's War'.

Wedi'i osod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae'r stori yn olrhain hanes yr efaciwis 'Carrie Willow' (Sarah Edwardson) a'i brawd 'Nick' (James Joyce) a'r llanc peniog 'Albert Sandwich' (John Heffernan) sy'n gorfod ffoi o ganol dinas Llundain i Dde Cymru. Wedi cyrraedd y wlad, sy'n llawn defaid a dynion yn canu yng nghynhyrchiad Andrew Louden, mae'r brawd a chwaer yn canfod eu hunain yng nghartref ceidwadol 'Mr Evans' (Siôn Tudor Owen) a'i chwaer annwyl, di hyder, a dry'n 'Auntie Lou' (Kacey Ainsworth) . Mynd i ganol byd o ddirgelwch wna’r bonwr ‘Sandwich’ wrth gyrraedd plasty ‘Mrs Gotobed’ (Prunella Scales) sy’n cuddio yno o dan weinyddiaeth y ‘Mr Johnny’ (James Beddard) methedig a’r wrach o forwyn croen ddu ‘Hepzibah Green’ (Amanda Symonds).

Yn raddol, fe ddysga’r plant nad yw petha cweit fel y disgwyl yng Nghymru, wrth i’r plasty a’i benglog guddio a chynnal hen hanes o gam-drin a chaethwasiaeth, a ‘Hepzibah’ wrth ei bodd yn adrodd yr hanes dychrynllyd a’r felltith sydd ar y plasty.

Mae’r nofel wedi swyno cannoedd o blant dros y blynyddoedd, a sawl un yn ei dridegau yn medru cofio gorfod darllen y gwaith yn yr ysgol. Dwi’n cofio’r nofel o fy nyddiau yn Ysgol Dyffryn Conwy, a’r cysylltiad â Chymru yn tanio’r dychymyg i’r dim. Ond rhywle, unai rhwng plentyndod a chanol oed, neu rhwng Llanrwst a Llundain, collodd y nofel ei apel, ac yn anffodus, nes i ddim mwynhau’r hyn a welais ar y llwyfan.

Er cystal ymgais rhai o actorion mwyaf profiadol Prydain fel Prunella Scales (Sybil o ‘Fawlty Towers’) a Kacey Ainsworth (‘Little Mo’ o Eastenders) i ynganu’r Gymraeg, allwn i’m peidio teimlo’n anniddig pam na ddefnyddiwyd y toreth o actorion Cymraeg sy’n ddi-waith ar hyn o bryd. Falle bod angen y statws i werthu tocynnau, digon teg, ond gyda’r actorion iau, sydd yno i lenwi neu i gymeriadu, does dim cyfiawnhad. Drwy gynnwys mwy o Gymry, efallai y byddai’r corws bach o bedwar wedi medru llwyddo i ganu’r ail bennill o ‘Ar Hyd y Nos’ neu ‘Calon Lân’ yn hytrach nag ail-adrodd y pennill gyntaf hyd syrffed. A tra dwi ar fy mocs sebon, oes rhaid clywed dafad yn brefu i ddynodi bod y trên wedi cyrraedd Cymru?!

Wedi dweud hynny, gwnaeth y ddau actor o Gymru sef Daniel Llewelyn-Williams a welais yng nghynhyrchiad Clwyd Theatr Cymru o ‘An Inspector Calls’ flynyddoedd yn ôl a Siôn Tudor Owen eu gwaith yn rhagorol. Roedd llyfnder eu hacenion Cymraeg yn amlwg yn rhagori ar y gweddill, a phwy a ŵyr maint eu cyfraniad i’r sgript ac i weddill o’r cast drwy’r Gymraeg a’u gwybodaeth o’n hetifeddiaeth.

Anwastad hefyd oedd safon set Edward Lipscomb. Er cystal oedd y ddau gartref - y plasdy moethus ar ddwy lefel ar yr ochor chwith, a’r cartref cynnil ar y dde, roedd y wlad a’r bryniau yn y canol yn hynod o dila, gyda torreth o lwyfannau (rostras) a stepiau blith draphlith, a llenni camouflage o boptu. Rhad a rhwystredig yw’r geiriau sy’n dod i gof, a methiant y weledigaeth efallai o fedru mynd â ni ar daith ddyrys heb orfod gweld llawnder pob lleoliad.

Hoffwn i’n mawr fedru annog y Cymry i heidio i weld y cynhyrchiad, petai ond i werthfawrogi’r ymdrech i blesio’r Cymry! Ond, mae arna i ofn fod yna lawer o rwystredigaethau sy’n fy atal rhag gwneud hynny; nid yn unig y prinder o actorion o Gymru, ond hefyd yr addasiad clogyrnaidd, yr ormodiaeth o ganu undonog a syrffed y stori mewn mannau heb ddigon o ddrama i gynnal y gwyliwr.

Os am fentro, neu am fwy o flas, ymwelwch â www.carrieswar.com - sydd, gyda llaw, yn cynnwys is-deitlau Cymraeg ar fideo o promo’r sioe!.

Friday, 3 July 2009

'Calendar Girls'


Y Cymro – 03/07/09

Does na’m dwywaith mai ‘Calendar Girls’ ydi un o’r ffilmiau Prydeinig mwyaf poblogaidd ers tro. Yn seiliedig ar gangen o Sefydliad y Merched, sy’n penderfynu diosg eu dillad er mwyn cynhyrchu calendar, a chodi arian, mae’r stori wedi cyffwrdd calonnau pawb sy’n ei weld. Bellach, mae’r ffilm wedi’i droi yn ddrama lwyfan, ac wedi taith o amgylch y wlad, mae’r merched wedi setlo yn Theatr Noël Coward yn y West End.

Ymysg y Cast niferus o enwau benywaidd nodedig, mae Siân Phillips, sy’n diosg ei dillad ynghyd a Lynda Bellingham, Patricia Hodge, Gaynor Faye, Brigit Forsyth, Julia Hills ac Elaine C.Smith. O ystyried cryfder y cast, y stori a’r enwogrwydd a ddaeth yn sgil y cyfan, roeddwn i wironeddol yn edrych ymlaen yn fawr at weld y ddrama.

Wrth setlo ynghanol y pyrms, y perlau a’r pesychu cyson, roedd hi’n amlwg fod bysus o ganghennau’r WI yn heidio i Lundain bob nos. Rhan fwyaf ohonynt, o be glywes i, heb weld y ffilm hyd yn oed. Mantais yn wir, yn fy meddwl i, oherwydd dyna yw’r gwendid drwyddi draw. Y ffilm ar lwyfan sydd yma; bron na allwch chi adrodd y sgript air am air, ac ambell i linnell fel ‘I think we’ll need considerably bigger buns!’ ddim cweit mor ddoniol a’r tro cynta imi’i glywed o.

Crfyder y cynhyrchiad heb os ydi’r cyfle sydd yma i fynd dan groen y cymeriadau. Yn wahanol i’r ffilm, lle mae’r lluniau mor bwysig, y gair sy’n goresgyn tro hwn. Mae presendoleb ‘John Clarke’ gŵr ‘Annie‘ (Patricia Hodge ) sy’n dioddef o Leukemia, a sy’n gwaelu fel mae’r tymhorau yn gwibio heibio, o’r Haf i’r Gwanwyn, yn deimladwy iawn. Yn enwedig felly pan mae’r salwch yn ennill y dydd, a’r gadair olwyn wag yn adrodd cyfrolau ym mrig yr hwyr. Felly hefyd gydag ambell i is-gymeriad, sydd, i bob pwrpas, ddim ond yno i godi gwên neu oherwydd eu siap a’u hoed. Mae’r awdur, Tim Firth wedi sicrhau cyfle iddyn nhw hefyd gael ehangu eu cefndir, a rhoi is-storiau effeithiol yn eu sgil.

Yr olygfa orau ydi creu’r lluniau, a phob gosodiad yn codi gwên a chymeradwyaeth wrth i’r merched dewr guddio’i bronnau ag amrywiol declynnau, ffrwythau neu gacennau! Does ryfedd fod pawb yn heidio nôl wedi’r egwyl i weld canlyniad y cyfan. Ond, doedd yr ail-act ddim cystal, ac roedd gen i deimlad fod yr awdur yn cwffio i gynnwys ehangder ail ran y ffilm. O sylw’r Wasg ar y pentref, i’r cwerylu, y llythyrau, yr hysbysebion, a’r hyn o gollwyd sef y trip i’r Amerig, ac effaith enwogrwydd ar gyfeillgarwch. Roedd caethiwo’r digwydd o fewn y Neuadd bentref ddim yn helpu chwaith, gydag ambell i olygfa allan ar y bryniau.

Braf yw medru dweud fod Siân Phillips ymysg y gorau am daflu’r llinnellau doniol, dro ar ôl tro, a chymeradwyaeth y gynulleidfa yn deilwng iawn i ddawn un o’n hactoresau mwyaf profiadol. Mae’n hen bryd inni gael y fraint o weld Siân ar lwyfan yng Nghymru, yn y Gymraeg, ond gyda’r sefyllfa bresennol fel ag y mae hi, dwi’n amau’n fawr os welwn ni hi, na ‘run actor profiadol arall yn codi statws y Ddrama’n Nghymru.

Y prif wendid oedd bod yn rhy ffyddlon i’r ffilm; wedi dweud hynny, falle mai dyna mae’r rhan fwyaf o bobol am ei weld. Gewch chi bendefynu os mai mantais neu methiant ydi medru rhagfynegi’r llinnellau, dro ar ôl tro. Wrth i ganoedd o flodau’r haul godi ar ddiwedd y ddrama, codi hefyd wnaeth ambell i aelod o’r WI!

Clod i’r merched am hynny, a chlod i gangen Ripley, sydd wedi codi dros ddwy filiwn o bunnau ers creu’r calendar gwreiddiol.

Bydd y Cast presennol i’w weld yn Theatr Noël Coward tan Gorffennaf 25ain. Mwy o fanylion drwy ymweld ag www.seecalendargirls.com