Total Pageviews

Friday 17 April 2009

'Jet Set Go' i Daniel!



Y Cymro – 17/04/09

Mae’n braf medru cychwyn y golofn gyda newyddion da iawn. Llongyfarchiadau calonnog i Daniel Evans am gael ei benodi yn Gyfarwyddwr Artistig dros Theatrau Sheffield. Cafodd y newyddion ei gyhoeddi’r wythnos diwethaf, a Daniel yn amlwg wrth ei fodd, ac yn gynhyrfus iawn dros y fenter newydd.

Bydd Daniel yn cychwyn ar y swydd, yn rhan amser, o ganol fis Ebrill, cyn derbyn yr awenau’n llawn o gychwyn Mehefin. Mae’n dipyn o her iddo, gan fod theatr enwog y Crucible a’r Lyceum, yn dod o dan adain y sefydliad newydd, a bydd y Crucible, ar ei newydd wedd, wedi gwario £15.3 miliwn ar ei adnewyddu, yn barod erbyn mis Tachwedd. Bydd tymor Daniel yn cychwyn o fis Chwefror 2010 ymlaen.

Ers ei gynhyrchiad hyderus a hynod o gofiadwy o ‘Esther’ i’r Theatr Genedlaethol yn 2006, bu Daniel yn cyfarwyddo yn yr Young Vic ac yn Ysgol Ddrama a Cherdd y Guildhall yma yn Llundain. Nid troi cefn ar y perfformio yw ei fwriad, ond yn hytrach i ehangu ei sgiliau fel cyfarwyddwr. Yn sicr, mae ganddo’r gallu a’r weledigaeth i gyflawni’r gwaith, a bydd ei brofiad helaeth o weithio gydag actorion a chyfarwyddwyr nodedig yma yn Llundain, a thu hwnt, yn gymorth amhrisiadwy iddo.

Braf iawn oedd medru llongyfarch actor ifanc arall o Gymru’r wythnos hon, sy’n perfformio ar hyn o bryd mewn drama gerdd newydd yn un o theatrau llai’r ddinas. Sôn ydw’i am Mark Evans, o Ddyffryn Clwyd, a gafodd gymaint o lwyddiant ddechrau’r flwyddyn yn y gyfres ‘Your Country Needs You’ ar BBC. Roeddwn i’n falch iawn o weld Mark, ac Amy Coombes yn perfformio’n hyderus yn y ddrama gerdd ‘Jet Set Go!’ yn Theatr Jermyn Street.

Mae’r ddrama gerdd fer hon wedi’i selio ar brofiadau’r ‘Cabin Crew’ wrth baratoi, ac yn ystod taith i Efrog Newydd. Mae’r cymeriadau i gyd yn wahanol i’w gilydd, a phob un a’i broblem. Y Gymraes ‘Hayley’ yw Amy Coombes, a’i hacen ddeheuol gyfoethog yn adlais annwyl o Ruth Madoc yn y gyfres ‘Hi-de-hi’ flynyddoedd yn ôl. Heb os, gan ‘Hayley’ y mae un o ganeuon mwyaf cofiadwy’r sioe, a hynny wrth iddi hel atgofion am ei bywyd carwriaethol nôl yng Nghymru, neu’r ‘valley’ sy’n odli’n gyfleus iawn gyda’i chyn cariadon, ‘Barry, Danny, Gary a Sally’! Roedd datganiad Amy yn gyfoethog a chofiadwy, ac yn un o uchafbwyntiau’r noson imi.

Portreadu’r cymeriad hoyw ‘Richard’, sy’n casáu’r ddelwedd arferol o fod yn hoyw yw’r dasg sy’n wynebu Mark Evans. Er gwaethaf ymdrechion yr arch hoyw ‘Ryan’ (John McManus), gwrthod ildio i’w ddymuniad wna ‘Richard’, sy’n parhau i freuddwydio am ei ddyn delfrydol. I mewn i’r pair lliwgar ychwanegwch dau beilot hurt, Albanes awdurdodol, y flondan fywiog a’r Sbaenes secsi, ac fe gewch chi awr anturus yn yr awyr!

Fyddai wastad yn edmygu’r unigolion sy’n gyfrifol am lwyfannu sioe fel hon, yn yr achos yma'r cyfarwyddwr a’r coreograffydd Luke Sheppard sy’n gorfod cynhyrchu’r cyfan drwy gyfamod ariannol sylweddol, sy’n risg enfawr yn yr oes ariannol sigledig sydd ohoni. Mae’r amser, yr egni, yr arian a’r brwdfrydedd sy’n cael ei orfodi ar y cynhyrchiad, er mwyn sicrhau llwyddiant, i’w ganmol yn fawr, ac yn rhan anorfod o lwybr unrhyw un tuag at lwyddiant yn Llundain.

Heb os, drwy frwdfrydedd, amynedd, gwaith caled a dyfalbarhad (a dos go helaeth o dalent) y daeth cymaint o lwyddiant i lwybrau Daniel. Felly hefyd i Mark Evans, sy’n amlwg yr un mor angerddol drwy ei waith gydag ieuenctid Theatr Elwy, er mwyn gweld llawer mwy o Gymry yn y West End. Hir y pery hynny, gyda chefnogaeth theatrau Cymru a thu hwnt.

Mwy am ‘Jet Set Go’ drwy ymweld â www.takenotetheatre.co.uk

No comments: