Total Pageviews

Friday 13 February 2009

'Valkyrie' ac 'Entertaining Mr Sloane'





Y Cymro – 13/2/09

Wythnos o hel atgofion fu hi’r wythnos hon, wrth i sawl cynhyrchiad ddwyn atgofion yn ôl am flynyddoedd a fu.

Yn y sinema y cychwynnais yr wythnos, wrth wylio ffilm ddiweddara Tom Cruise, ‘Valkyrie’. Drwy ymchwil a dyfeisgarwch Saunders Lewis yn ei ddrama ‘Brad’, fe ŵyr y Cymry’n iawn am y stori hon, ac ymgais Corps y Swyddogion i ladd Adolf Hitler. Clod hefyd i’r Cymry, ac i’r diweddar gyfarwyddwr ffilm Gareth Wynn Jones am addasu’r ddrama yn ffilm i S4C ar gychwyn y nawdegau. Wrth wylio ‘Valkyrie’ a’i gyllideb o $60 miliwn, mae’n braf medru cyhoeddi fod yr hyn a grëwyd gan Ffilmiau Tŷ Gwyn a S4C, bron i bymtheg mlynedd yn ôl gystal os nad gwell mewn mannau. Mae’r clod am hynny yn aros gyda’r cynllunydd Medwyn Roberts, a’i dîm profiadol, yn ogystal â chynllun gwisgoedd Gwenda Evans a gweledigaeth y cyfarwyddwr, Gareth Wynn.

O’r sgrin fawr i’r llwyfan mwya’ yn Stiwdios Trafalgar, er mwyn gweld yr ail-gynhyrchied eleni, o waith y dramodydd Joe Orton - ‘Entertaining Mr Sloane’. Unwaith eto, roedd celloedd y co’ yn camu’n ôl i ganol y nawdegau, a chof da am un o gynyrchiadau cynnar Clwyd Theatr Cymru o’r ddrama yma gyda’r actor ifanc Joe McFadden yn y brif ran, dan gyfarwyddyd Dominic Cooke.

Mathew Horne o’r gyfres boblogaidd ‘Catherine Tate’ yw’r llanc ifanc golygus ‘Sloane’ yng nghynhyrchiad Nick Bagnall, gyda neb llai na’r unigryw Imelda Staunton fel ‘Kath’, y lletywraig unig, angerddol sy’n cymryd ffansi at y llanc ifanc, heb wybod am ei orffennol, deurywiol, troseddol. Tydi presenoldeb ‘Sloane’ ddim yn plesio’r tad anniddig, rhannol ddall ‘Kemp’ (Richard Bremmer), yn enwedig felly wrth iddo ei adnabod (drwy ei groen llyfn) fel llofrudd ei gyn-reolwr. A mwy o densiwn gyda chyrhaeddiad y mab a’r brawd ‘Ed’ (Simon Paisley Day) sy’n falch o weld y llanc ifanc ac yn dyheu am ei groesawu i’r tŷ, ac i’w wely, fel sy’n amlwg o’r hyn sy’n cael ei awgrymu.

Rhaid imi gyfaddef bod Act gynta’r ddrama hon wastad yn fy swyno. Wrth i’r drws gael ei agor i’r parlwr hen-ffasiwn o’r pumdegau, gyda’i bapur wal melynllyd tyllog a’i garpedi dwl a budr, ryda ni’n cael ein bwrw’n syth i ganol y ddrama wrth i ‘Kath’ dywys y bonwr ‘Sloane’ drwgdybus i’w chartref a’i chalon.
Mae slicrwydd deialog Orton yn benigamp wrth i’r ddau drin y geiriau mor gelfydd, gyda’r ddau gymeriad yn herio a herian ei gilydd hyd yr eithaf. Felly hefyd gyda gweddill y ddrama sy’n chwyrligwgan o chwarae a chwerwder, sy’n gyforiog o gomedi a thrasiedi, trais a pheisiau tryloyw!

Wrth edrych yn ôl, i ddyddiau’r amrywiol Wyliau dramâu, o Fôn i Faldwyn o Gonwy o Geredigion, fyddai wastad yn cofio geiriau doeth y beirniaid fel Mair Penri, Ednyfed Williams, Robin a Laura Jones a J O Roberts am bwysigrwydd gwasgu pob owns o gomedi o bob eiliad posib ar lwyfan. Roedd hynny i’w weld yn amlwg yn y cynhyrchiad yma - gymaint felly nes bod yr actorion yn ymatal rhag chwerthin, wrth i’r gynulleidfa fwynhau’r arlwy.

Er cystal oedd yr Act gyntaf, sy’n diweddu gyda’r ‘Kath’ hanner noeth yn plymio ar ben y ‘Sloane’ sigledig, sy’n amlwg yn gorfod ildio i chwantau angerddol y wraig rwystredig, braidd yn araf i ailgynnau’r fflam oedd yr Ail Act.

Fel unrhyw chwyrligwgan, pan roedd y daith yn sydyn a mentrus, roedd y mwynhad gymaint y fwy, ond yn y mannau araf, digynnwrf a fflat, roedd undonedd y digwydd yn ddiflas, wrth i’r cwffio geiriol fynd yn llethol. Bai’r ddrama o bosib, yn hytrach na chynhyrchiad.

Ie, wythnos o atgofion, a dau atgof newydd ar gychwyn 2009. Pwy a ŵyr be ddaw ymhen pymtheg mlynedd arall…

Mwy o fanylion ar www.trafalgar-studios.co.uk

No comments: