Total Pageviews

Friday 20 February 2009

'On the Waterfront'




Y Cymro – 20/2/09

Fel un sy’n gweld o leia’ dau gynhyrchiad yr wythnos yma yn Llundain, mae’n hawdd iawn digalonni ar y safon dderbyniol, ddigynnwrf a diddychymyg sy’n britho llawer o’r hyn sydd ar lwyfannau’r ddinas. Peth diarth ydi medru gadael y theatr yn gwbl fodlon, yn gynhyrfus ac wedi fy ngwefreiddio gyda’r safon, y sgript a gweledigaeth y cyfarwyddwr.

Dyna’n union ddigwyddodd yr wythnos hon, gyda chynhyrchiad y cyfarwyddwr Steven Berkoff (sydd hefyd yn actio yn y ddrama) o’r addasiad i lwyfan o’r ffilm enwog ‘On the Waterfront’ sydd i’w weld ar hyn o bryd yn Theatr Frenhinol yr Haymarket.

Yn seiliedig ar y ffilm o’r un enw a ryddhawyd ym 1954, mae’r ddrama yn olrhain hanes y prif gymeriad ‘Terry Malloy’ (Simon Merrells) sy’n rhan o’r maffia sy’n rheoli’r dociau yn Efrog Newydd y pumdegau. ‘Johnny Friendly’ (Steven Berkoff) ydi pen y mafia, sydd â’r gallu i reoli bywydau’r gwŷr sy’n ceisio gwaith yn ddyddiol, ac sy’n barod iawn i gynnig benthyciadau ariannol gyda chytundebau cwbl anymarferol i dalu’r dyledion. Gyda’r heddlu ar eu gwarthau, sy’n ceisio cael unrhyw un i roi tystiolaeth yn eu herbyn, buan iawn y mae’r cylch cyfrin yn delio gydag unrhyw ddarpar ‘ganeri’. Marwolaeth, neu’n hytrach llofruddiaeth ‘Joey Doyle’ (Alex McSweeney) yw’r sbardun sy’n cychwyn y ddrama, wrth i gydwybod ‘Terry’ gael ei boenydio, yn sgil dod wyneb yn wyneb gyda chwaer y dioddefwr, ‘Edie Doyle’ (Coral Beed). Gyda chymorth yr offeiriad ‘Father Barry’ (Vincenzo Nicoli), mae cydwybod ‘Terry’ yn cael ei wthio i’r eithaf, a’i deyrngarwch i’r maffia, i’w gariad, i’w gyd-ddyn ac i’w frawd ‘Charley Malloy’ (Antony Byrne) sydd hefyd yn aelod o’r maffia, beri cryn gyfyng gyngor iddo.

Cyn bod yr un gair wedi’i yngan, na’r un troed wedi cyffwrdd y llwyfan moel, llwyd a serth, roedd symlder y set yn apelio’n fawr, gyda chysgod y ‘Statue of Liberty’ yn gefnlen cwbl addas. Rhyddid, ar sawl lefel wahanol, oedd y thema, a’r fflam yn llaw’r ddelw wedi’i ddileu er mwyn gosod arf y gweithiwr yn ei le. Gwaith nid gweledigaeth oedd yn bwysig i’r bobol, er mwyn rhoi bwyd ar y bwrdd ac yn y bol.

Clod yn wir i’r cynllunydd Jason Southgate. O’r set i oleuo Mike Robertson oedd eto mor greadigol â’r llwyfan, a’i oleuadau symudol yn creu siapiau addas i gyd fynd â naws yr olygfa.

Roedd gweledigaeth y cyfarwyddwr i’w weld ymhobman, ymhob ystum a phob gair. O ymddangosiad cyntaf y maffia, bob un a’i got laes golau a’u hetiau Trilbi, yn sleifio’n slic a seimllyd ar draws y llwyfan i’w cadeiriau moel. Bob un a’i acen Americanaidd gredadwy, a’u hofn neu’u haddoliad o’r Pen yn amlwg. Credais ymhob portread o’r cymeriadau, ac roedd y golygfeydd rhwng Berkoff a Simon Merrells fel ‘Terry’ yn danllyd o ddramatig a chofiadwy. Cystal os nad gwell na Marlon Brando yn y ffilm wreiddiol.

Disgrifiodd Berkoff thema’r ffilm fel trasiedi Groegaidd - yr unigolyn yn brwydro yn erbyn y Drefn annheg. Cyfaddefodd bod gweithio ‘yng nghysgod enfawr y ffilm’ yn gryn sialens, a’r ymdrech fwyaf oedd canfod y stori wreiddiol, a’i berthnasu i’r gynulleidfa bresennol. Heb os, fe lwyddodd, ac fe saif yr hyn sydd i’w weld ar y llwyfan fel drama ynddo’i hun.

Y sylw at y mân bethau, y gofal, y gallu a’r weledigaeth sy’n codi’r cynhyrchiad yma ymhell uwchlaw’r gweddill. Hir y pery’r cynhyrchiad, a’r cof amdano.

Mwy o wybodaeth ar www.thr.co.uk neu www.kenwright.com

No comments: