Total Pageviews

Friday 9 January 2009

'Loot'



Y Cymro – 9/01/09

Rhyw berthynas o garu a chasáu fu gen i erioed efo’r dramodydd Joe Orton. Byth ers imi weld cynhyrchiad hynod o lwyddiannus a chofiadwy Clwyd Theatr Cymru o’i ddrama ‘Entertaining Mr Slone’ yn ystod tymor preswyl cynta’r cwmni flynyddoedd maith yn ôl, bu diddordeb mawr gen i yn ei waith. Roedd y ffilm - ‘Prick up your ears’ - yn seiliedig ar hanes bywyd personol a charwriaethol y dramodydd yn agoriad llygaid, ac roedd ei hiwmor tywyll a’i themâu dyrys yn atyniadol iawn.

Pan glywais fod yna ddiddordeb helaeth yn ei waith eleni, a dau gynhyrchiad o’i ddramâu yn britho llwyfannau Llundain, bu’n rhaid derbyn y gwahoddiadau i’w gweld. Y gyntaf i gyrraedd, oedd y gwahoddiad i fynd draw i Theatr y Tricycle yng Ngogledd Llundain i weld cynhyrchiad o’r ddrama ‘Loot’.

Dyma gomedi tywyll iawn am fab a gŵr sy’n dygymod efo marwolaeth y fam. Tra bod y gŵr ‘Mc Cleavy’ (James Hayes) yn galaru, mae’r mab, ‘Hal’ (Matt Di Angelo) yn cynllwynio ynghyd â’i ‘gariad’ deurywiol, ‘Dennis’ (Javone Prince) sydd hefyd yn gwasanaethu fel Ymgymerwr yr Angladd, ynglŷn â sut y dylid cuddio’r arian y bu i’r ddau ei ddwyn o’r banc. Mae’r ddrama yn cychwyn gyda chorff y fam yn amlwg yn yr arch agored, tra bod y gŵr ‘Mc Cleavy’ yn ceisio trafod trefniadau’r angladd gyda’r weinyddes fu’n gyfrifol am iechyd ei wraig, ‘Fay’ (Doon Mackichan). Mae’r cyfan yn troi’n ffars lwyr, gyda chyrhaeddiad yr arolygydd cudd o’r Heddlu ‘Truscott’ (David Haig).

Er cystal oedd cynllun set Anthony Lambie, a gyflwynodd inni gartre’r teulu, a’i ddrysau amrywiol a’i gwpwrdd dillad nodedig sy’n guddfan i’r arian ar gychwyn y ddrama, ac yna corff y fam wrth i’r ddrama fynd rhagddi, roedd yna wacter mawr i’w deimlo am y cynhyrchiad. Dim ond gyda chyrhaeddiad y meistr comediol David Haig fel yr heddwas cudd, y cododd lefel y cynhyrchiad, ac a’m hatgoffodd o’i berfformiad hynod o gofiadwy fel ceidwad y siop yng nghynhyrchiad yr Haymarket o ‘The Sea’ y llynedd.

Yr actor golygus Matt Di Angelo yw prif atyniad y cynhyrchiad, a hynny yn seiliedig ar ei berfformiadau teledu yn y gyfres ‘Eastenders’ ac wedi hynny ei symudiadau celfydd a’i gorff siapus a fu’n rhan annatod o’r gyfres ‘Strictly Come Dancing’ y llynedd. Er i’r Cynllunydd fynnu ei orfodi i wisgo’r trowsus gwyna a’r tynna a welais i ar lwyfan erioed, a’i droi i edrych fel y Michael Caine ifanc, roedd perfformiad a phortread yr actor ifanc yn hynod o lwyddiannus. Clod mawr iddo yntau, yn ei rôl gyntaf ar lwyfan. Fe ymdrechodd am y gorau i roi cymaint o gredinedd â phosib yn ei gymeriad, felly hefyd gyda gweddill y cast, ond wedi’r cychwyn addawol, fe lithrodd y cyfan i ddifancoll, ac fe gollais gredinedd llwyr yn sefyllfa drasig gomig y cymeriadau.

Wedi’r egwyl, gobeithiais am y gorau y byddai’r cast cryf yn adennill fy ffydd a’m diddordeb, ond yn anffodus, roedd fy anghredinedd yn eu sefyllfa, yn ogystal ag undonedd y cynhyrchiad yn syrffedus o ddiflas, a threuliais weddill y noson yn gwylio bysedd fy oriawr, er mwyn dal y trên tanddaearol nesaf yn ôl tua De’r Ddinas.

Siom felly ar drothwy’r Flwyddyn Newydd, ond gobaith y bydd cynhyrchiad y Trafalgar Studios o ‘Entertaining Mr Slone’ gyda’r amryddawn Imelda Staunton yn llawer gwell ddiwedd y mis.

Mae ‘Loot’ i’w weld ar hyn o bryd yn y Tricycle, Kilburn. Mwy o fanylion ar www.tricycle.co.uk

No comments: