Total Pageviews

Friday 19 December 2008

'Edward Sissorhands'






Y Cymro – 19/12/08

Un o fy hoff ffilmiau yw ‘Edward Sissorhands’ o waith Tim Burton. Trwy bortread Johnny Depp o’r Frankenstein o gymeriad ‘Edward’ sy’n cael ei greu gan y dyfeisydd sy’n byw yn y plasty gothig ar ben y bryn, fe grëir ffilm gofiadwy, ffantasiol a rhamantaidd iawn.

Cyn medru creu ei ddwylo, mae’r dyfeisydd oedrannus yn cael trawiad ar ei galon, ac yn marw. Gadewir Edward druan gyda dwy law sydd wedi’i greu o lafnau sisyrnau amrywiol. Wedi cael ei fabwysiadu gan deulu unigryw yn y dref gyfagos, buan iawn y daw Edward yn dipyn o seren, wrth arddangos ei sgiliau arbennig i dorri’r gwrychoedd a’r llwyni yn siapiau trawiadol. O’r gwair at y gwallt, ac mae pob copa walltog yn y dref eisiau i Edward roi ei stamp ffasiynol ar eu pen. Ond yr hyn sy’n creu’r gwrthdaro yw’r ffaith bod Edward yn syrthio mewn cariad gyda merch benfelyn y teulu - Winona Ryder, yn groes i ddymuniadau ei chariad brwnt. Wrth i bethau boethi rhwng y ddau, a chalon ‘Kim’ gael ei doddi gan anwyldeb Edward, fe dry’r dref yn ei erbyn, a’i orfodi i ddychwelyd i’w guddfan gothig ar ben y bryn.

Ac yno y mae Edward o hyd, yn creu cerfluniau o iâ er cof am ei gariad coll. Ac yn ôl yr hen wraig ar ddiwedd y ffilm, sy’n adrodd y stori, mae’n annog pawb i gofio, bob tro mae hi’n bwrw eira, mae’n debyg mai Edward sy’n brysur yn ei blasty ar y bryn yn naddu’r iâ gyda’i lafnau prysur.

Stori hudolus yn wir, a phan glywais i fod y coreograffydd enwog Matthew Bourne wedi addasu’r ffilm yn gynhyrchiad llwyfan, roeddwn i’n sicr o’n nhocyn. Fe gofiwch imi weld cynhyrchiad Bourne o’r ‘Nutcracker’ ‘radeg yma'r llynedd yn Sadlers Wells, ac yn gynharach eleni yng Nghaerdydd. Ac fel gyda’i gynyrchiadau nodedig eraill fel ‘Carman’ a’i ‘Swan Lake’ i ddynion, roeddwn i’n sicr y byddai’r cynhyrchiad yn lobscows o liw, o setiau chwaethus, o gerddoriaeth gyfoethog a dawnsio penigamp.

Ac wrth gymryd fy sedd yn Sadlers Wells, ches i mo fy siomi. Yr hyn sy’n fy synnu dro ar ôl tro gyda’i waith ydi’r gallu sydd ganddo i lenwi’r llwyfan â’i ddanteithion, gan greu delweddau hynod o drawiadol. Mae’r cyfan yn ddibynnol ar gerddoriaeth emosiynol Danny Elfman o’r ffilm wreiddiol, sy’n rhoi’r pwyslais i gyd ar y symud a’r ystum corfforol.

Un o’r golygfeydd mwyaf cofiadwy yw’r modd mae’n rhoi bywyd i’r gwrychoedd yn y gerddi, wrth i’r dawnswyr – wedi’u cuddio gan ddail, ddechrau symud a dawnsio wrth i Edward eu torri. Yr un modd gyda’r olygfa yn salon trin gwallt ‘Edwardo’, a’r modd celfydd y datguddir inni’r creadigaethau blewog rhyfeddol o un i un.

Ar ddiwedd yr Act gyntaf, roeddwn i wedi gwirioni efo’r hyn welais i, ac yn dyheu am weld yr ail-ran, gan wybod beth oedd tranc Edward a’i gariad coll. Ond, yn anffodus, collwyd yr hud a’r stori wedi’r egwyl, a daeth y cytganau o ddawns yn rhy fawr a rhy hir, er mwyn ymestyn y cyfan. Dechreuais golli diddordeb yn yr hyn oedd yn digwydd ar y llwyfan, a surodd hyn fy mwynhad ohono.

Ac fel ro’n i wedi amau, ar ddiwedd y ddawns, ac Edward yn ôl yn ei guddfan o blasdy, fe ddechreuodd hi fwrw eira ar y gynulleidfa, wrth i’r gerddoriaeth chwyddo i’w gresiendo. Eiliad hynod o ddramatig, a rhywbeth y byddwn i fel arfer yn ei ganmol i’r cymylau, pe bawn i ddim yn eistedd yn union o dan un o’r ffynnonnau ewynnol!! Ychwanegodd gwlybaniaeth yr ewyn fwy o siom nag o ganmoliaeth y tro hwn.

Heb os, dwi’n siwr y daw’r cynhyrchiad yn ei dro i Gaerdydd unwaith eto, wedi gorffen ei daith ryngwladol ar hyn o bryd. Mwy o fanylion ar www.edwardscissorhands.co.uk

No comments: