Y Cymro – 26/09/08
Wyddwn i fawr am y sioe ‘We Will Rock You’ heblaw’r ffaith fod y cyfan yn seiliedig ar ganeuon y grŵp Queen. Wedi bod yn dyheu am weld y sioe ers tro, a hynny’n bennaf am fod Cymro Cymraeg o Lanrwst yn rhan o’r Cast, llwyddais i ganfod sedd yn theatr y Dominion, Nos Sadwrn.
Aeth sawl blwyddyn heibio ers y tro diwethaf imi fod yn y Dominion, a hynny’n un o’r adegau cynharaf imi deithio i Lundain i weld drama gerdd fy hun. ‘Beauty and the Beast’ oedd y sioe bryd hynny, a mawredd y gofod theatrig yma’n siwtio’r stori Disneyaidd dylwyth teg i’r dim.
Rhyw brofiad chwithig oedd bod ynghanol y gynulleidfa ‘Nos Sadwrn’ yma, gan fod fy holl ymweliadau â’r theatr y dyddiau yma yn tueddu i fod ganol yr wythnos. Y peth cyntaf am trawodd oedd yr amrywiaeth helaeth - yn bartïon o ferched, cyplau meddw (yn amlwg am wneud noson ohoni), teuluoedd, criwiau o ieuenctid wedi gwisgo fel y cymeriadau, y parchus a’r amharchus (a’u siampen a’u ffons symudol swnllyd) Wn i ddim os mai’r sioe arbennig yma oedd yn gyfrifol am hynny, ta’r ffaith mai Nos Sadwrn oedd hi. Liciwn i feddwl mai’r rheswm cyntaf sy’n wir, ac os felly, does na’m dwywaith fod cysylltu sioe lwyfan gyda cherddoriaeth boblogaidd yn gweithio, ac yn denu cynulleidfa wahanol i’r dilyniant Lloyd Webberaidd!. Dyna ichi ‘Mama Mia’, ‘Dirty Dancing’, ‘Jersey Boys’ a’r byr-hoedliog, ‘Desperately Seeking Susan’ yn brawf pellach o hynny.
Wrth i nifer o ddyfyniadau yn cyfeirio at gerrig milltir cerddoriaeth roc a phop gael eu taflunio ar y llen ar gychwyn y sioe, buan iawn y sylweddolais i fod ‘We Will Rock You’ wedi’i osod yn y dyfodol. Y dyfodol tywyll hwnnw, yn ôl Ben Elton, awdur y sioe, lle bydd rhyddid i wrando, i ganu, neu hyd yn oed gyfansoddi caneuon wedi cael ei wahardd, a phawb yn cael eu gorfodi i ddilyn arweiniad y corff llywodraethol. Ond mae un cymeriad, sef ‘Galileo’ (Ricardo Afonso) yn gwrthod dilyn y drefn, a buan iawn mae o, a’i gydymaith ‘Scaramouche’ (Sabrina Aloueche) yn torri’n rhydd, ac yn ceisio newid y byd. Yn rheoli’r byd afreal yma mae’r ‘Killer Queen’ (Mazz Murray) a ‘Khashoggi’ (Alex Bourne) sy’n treulio rhan fwyaf o’u hamser yn cael eu codi a’u gostwng a’u troi ar lwyfan symudol ar flaen y prif lwyfan!
Mae gweddill o drigolion y byd llwm yma’n disgwyl cyrhaeddiad ‘yr Un’ fydd yn newid eu byd, a’u harwain at eu hanthem goll - y ‘Bohemian Rhapsody’. Ynghanol y criw, mae ‘Arweinydd y Gwrthryfelwyr’ (Craig Ryder) - y Cymro o Ddyffryn Conwy sydd wedi bod yn rhan o ensemble'r Cwmni ers rhai blynyddoedd. Roeddwn i mor falch o fod wedi cael y cyfle i weld Craig yn y rhan, gan mai dyma’r noson olaf iddo berfformio efo’r Cwmni. Mae o wedi’i ddewis i fod yn rhan o gast y sioe fawr nesaf i agor yn y West End y flwyddyn nesaf sef ‘Priscilla Queen of the Dessert’ gyda neb llai na Jason Donovan yn y brif ran. Dyma ichi ŵr ifanc sydd wedi gweithio’n galed iawn i hawlio’i le yn y West End, a hynny o’i ddyddiau cynnar yng nghynyrchiadau Ysgol Dyffryn Conwy i Goleg LIPA yn Lerpwl. Roedd ei berfformiad a’i allu lleisiol yn gofiadwy iawn, a phob lwc iddo yn y dyfodol. Clod hefyd i Garry Lake, Cymro di-Gymraeg o Dde Cymru, sydd wedi bod yn aelod cyson o gynhyrchiadau Clwyd Theatr Cymru.
Hiwmor yr awdur a’r cyfarwyddwr Ben Elton, set drawiadol Mark Fisher a delweddau fideo Mark Fisher a Willie Williams, ynghyd â cherddoriaeth fythganiadwy Queen sy’n cyfiawnhau pris y tocyn imi. Heb os, mae ymweliad â’r sioe yn noson allan go iawn, ac a’m hatgoffodd o fod mewn cyngerdd roc ar adegau. Yr unig feirniadaeth imi’n bersonol, a dyma’r hyn a deimlais gyda ‘Mama Mia’ yn ogystal, oedd imi fedru clywed y caneuon yn agosáu linellau ymlaen llaw, wrth i’r ddialog ein harwain (yn glefyd ar y cyfan) at y ‘clasur’ nesaf. I ffans Queen a Freddie Mercury, roedd hynny’n werth bod ceiniog.
Mae ‘We Will Rock You’ i’w weld yn Theatr y Dominion, Llundain. Mwy o wybodaeth ar www.dominiontheatrelondon.org.uk