Total Pageviews

Friday 1 August 2008

'Her Naked Skin'






Y Cymro – 01/08/08

Dwi di dysgu gwers yr wythnos yma, a hynny drwy garedigrwydd Theatr Genedlaethol Lloegr. Roeddwn i wedi clywed llawer o sôn am ddrama newydd Rebecca Lenkiewicz, ‘Her Naked Skin’ sy’n cael ei lwyfannu ar hyn o bryd yn Theatr Olivier ar lannau’r Tafwys. Deallais, o’r hyn a ddarllenais, mai drama am Fudiad y Suffragettes oedd hon, a bod gan yr awdures ddiddordeb mawr yn y pwnc, byth ers iddi ganfod llyfr ar stondin marchnad dafliad carreg o’r theatr.

Fe gychwynnodd y ddrama drwy ddangos y delweddau enwog o Emily Wilding Davidson yn rhedeg o flaen Ceffylau’r Brenin yn y Derby ym mis Mehefin 1913. Dyma un o drasiedïau mwya’r ymgyrch, ac un o’r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes y frwydr am hawliau’r merched. Wedi’r driniaeth hynod o ddramatig o’r deunydd gweledol, a charlamu’r ceffylau yn cael eu plethu gyda haenau o haearn oedd yn cynrychioli’r carchar a’r cartrefi, cawsom ein cyflwyno i’r prif gymeriad ‘Lady Celia Cain’ (Lesley Manville) a’i gŵr, y gwleidydd, ‘William Cain’ (Adrian Rawlins). Drwy gynnwys golygfeydd yn y Senedd, cawsom weld agwedd amharchus y gwŷr tybiedig doeth yma wrth drafod y drasiedi yn y Derby, a’r diffyg diddordeb yn yr ymgyrch a’r tor cyfraith.

Buan iawn hefyd daethom i weld cryfder y merched oedd wedi dewis i ymgyrchu ac ymladd am eu hawliau, a hynny o bob oed wrth iddyn nhw dorri ffenestri, llosgi adeiladau a chynnal protestiadau. Yn eu mysg oedd y Foneddiges Cain, a gafodd ei charcharu yng Ngharchar Holloway, gyda’r gweddill. Yma eto, cawsom ein cyflwyno i ragor o’r ‘cymeriadau’, bob un a’i stori a’i resymau dros ymgyrchu. Yr un mwyaf cofiadwy, heb os, oedd ‘Florence Boorman’ (Susan Engel) y cymeriad hŷn, oedd, dybiwn i, fod i gynrychioli’r Emmeline Pankhurst, un o bileri’r Mudiad yn y cyfnod hwn. Yno hefyd oedd y ferch ifanc brydferth ‘Eve Douglas’ (Jemima Rooper) oedd wedi cael ei threisio pan yn ifanc, ac wedi lladd ei phlentyn ar ei enedigaeth. Wrth dreulio amser yn cyd-weithio yn y gegin, mae’r Foneddiges Cain yn dod yn gyfeillgar iawn gyda’r ferch ifanc, a chyn pen dim, fe dry’r cyfeillgarwch yn berthynas rywiol erotig. Yn anffodus imi, fe dry’r ddrama hefyd yn astudiaeth o berthynas y ddwy, ar draul hanes y Mudiad, a’r hyn roeddwn i eisiau ei weld a’i ddysgu.

Ar ddiwedd yr Act gyntaf, roeddwn i’n teimlo’n flin. Ai fi oedd wedi camddeall bwriad y ddrama, ‘ta wedi cael fy nghamarwain gan yr heip a fu ynghylch y cefndir? Allwn i mond gobeithio y byddai’r Ail Act yn mynd yn ôl at dranc yr Ymgyrch, a chyfle inni ddysgu mwy am y Frwydr bwysig yma yn ein hanes. Ond dychwelyd, dro ar ôl tro, wnaethon ni at hanes y berthynas rhwng y ddwy, oedd yn ceisio plethu hanes y Frwydr gyda’r frwydr bersonol. Yn anffodus, y stori bersonol enillodd y dydd, ac roedd hynny yn siom mawr.

Do, mi ddysgais fymryn yn fwy am yr hyn fu’n rhaid i’r Merched yma ddioddef yn y Carchar o’r bwydo-bwriadol i’r bwlio dyddiol, ond y wers fwya’ ddysgais i oedd y peryg i ragdybio’r hyn roeddwn i’n feddwl ro’n i am ei weld. Petawn i’n gwybod mai stori am ddynes ganol oed yn ymserchu mewn merch brydferth ifanc, yna go brin y byddwn i wedi bod mor awyddus i weld y ddrama.

Yn nhraddodiad gorau’r Ganolfan hynod hon ar lannau’r Tafwys, a’r amrywiaeth o gyfoeth sydd i’w gael oddi mewn, mae’n werth gweld y ddrama petai ond i werthfawrogi’r Set a’r modd y mae’r cyfan yn llifo o un olygfa i’r llall. Llifo yn rhy rhwydd efallai, oedd yn codi’r cwestiwn a’i drama lwyfan ‘ta drama deledu oedd yma mewn gwirionedd?. Yn sicr, roedd yna lawer iawn o olygfeydd cynnil, agos-atoch-chi, ond efallai ddim digon o’r golygfeydd mwy dramatig a swmpus.

Mwy o wybodaeth am y cynhyrchiad ar www.nationaltheatre.org.uk

No comments: