Total Pageviews
Friday, 18 July 2008
'Marguerite' / 'The Revenger's Tragedy'
Y Cymro 18/07/08
Dwy ddrama a dau gyfnod yr wythnos hon. Cynhyrchiad olaf Jonathan Kent yn ei dymor yn y Theatr Frenhinol yr Haymarket sef y ddrama gerdd newydd ‘Marguerite’ a chynhyrchaid cynhyrfus, dadleuol a diddorol Melly Still yn y Theatr Genedlaethol sef Clasur Thomas Middleton, ‘The Revenger’s Tragedy’.
Rhaid canmol holl gynhyrchiadau Jonathan Kent yn yr Haymarket drwy’r flwyddyn – bob un, ar y cyfan wedi bod yn llwyddianus o’r gomedi ‘The Country Wife’ llynedd i ‘The Sea’ o waith Edward Bond ddechrau’r flwyddyn. A dyma fentro i fyd y ddrama gerdd gyda deunydd newydd sbon o waith Alain Boublil a Claude-michel Schönberg, sef y ddau a roes inni’r Clasur ‘Les Miserables’.
Mae ‘Marguerite’ wedi’i osod ym Mharis, ynghanol yr Ail Ryfel Byd, wrth i’r Ffrancwyr ddod i delerau gyda phresenoldeb yr Almaenwyr. Rhai ohonynt fel ‘Marguerite’ (Ruthie Henshall) a’i chyfeillion cyfoethog ffroenuchel yn mwynhau’r partion a’r gwledda yng nghwmni Uwch Swyddogion y Fyddin fel ‘Otto’ (Alexander Hanson). Ond mwy pryderus a gwyliadwrus oedd y werin, gan gynnwys y cerddor ‘Armand’ (Julian Ovenden) a’i chwaer ‘Annette’ (Annalene Beechey) a’i chariad, yr Iddew, ‘Lucien’ (Simon Thomas). Wrth i’r Rhyfel waethygu, a’r bomiau ddisgyn ym Mharis, mae ‘Marguerite’ yn syrthio mewn cariad gyda’r cerddor ifanc golygus ‘Armand’, sy’n arwain at y diweddglo trasig.
Siomedig ar y cyfan oedd y gerddoriaeth a’r caneuon, er i’r Cyfarwyddwr Cerddorol, y Gerddorfa a’r Cast i gyd wneud eu gwaith yn gampus. Doedd yr hud, na’r alawon caniadwy a chofiadwy a gafwyd yn ‘Les Mis’ ddim ar gyfyl hon, a’r alawon cymhleth a’r discordiau ddim yn hawdd ar y glust. Siomedig hefyd oedd llais y brif actores, sy’n cael ei ddefnyddio i werthu’r sioe. Gwir seren y cynhyrchiad ydi’r cariad ifanc Julian Ovenden sydd â phresenoldeb anhygoel ar y llwyfan, a llais gwefreiddiol.
Oherwydd maint y llwyfan, o fewn gogoniant y Theatr fendigedig hon, doedd y cynhyrchiad ddim i’w weld yn gyffyrddus, gyda’r angen am ehangder a llwyfan llawer lletach yn amlwg. Llwyddodd Set wydr Paul Brown i gyfleu y moethusrwydd a strydoedd niwlog Paris i’r dim, a goleuo Mark Henderson yn gweddu’n addas.
Mae’r ddrama gerdd i’w gweld yn yr Haymarket tan Tachwedd 1af. Mwy o fanylion ar www.trh.co.uk
Mynd yn ôl i’r ail-ganrif ar bymtheg wnes i yn y Theatr Genedlaethol yng nghynhyrchiad Melly Still o ddrama Thomas Middleton, ‘The Revenger’s Tragedy’. Er mai ym 1606 y gwelwyd y ddrama am y tro cyntaf, roedd y cyfan wedi’i osod, fwy neu lai yn y presennol, gyda’r dillad a chynllun set diddorol Ti Green a Melly Still yn gyfoes a gafaelgar.
Trasiedi teuluol fwy neu lai ydi’r ddrama sy’n cychwyn gyda dyhead un gwr ifanc ‘Vindice’ (Rory Kinnear) i ddial am farwolaeth ei gariad. Yn raddol, daw ei frodyr ‘Hippolito’ (Jamie Parker), ei chwaer ‘Castiza’ (Katherine Manners) a’i fam, ‘Gratiana’ (Barbara Flynn) hefyd yn rhan o’r drasiedi. Trasiedi hefyd sy’n digwydd yn Llys y Dug Eidalaidd (Ken Bones) ac un o’i feibion anwar ‘Lussurioso’ (Elliot Cowan).
Portread o drais, dial ac anwarineb ydi’r ddrama, a llwyddodd y cynhyrchiad sy’n bron i dair awr i gyfleu hynny i’r dim. Mae yma waed, mae yma wledda, ymladd, dawns a rhyw, a’r cyfan i gyfeiliant cerddorfa fechan a’r ‘counter tenor’ Jake Arditti, yn ogystal â’r DJ’s gwrthgyferbyniol ‘differentGear’.
A minnau’n eistedd ym mhen ucha’r theatr, roedd gwylio’r cyfan fel edrych ar ffilm, wrth i’r llwyfan tro droi yn gyson i gyflwyno delwedd newydd ar y sgrin. Roedd yma ddrama ymhobman, rhwng y waliau, mewn cilfachau, tu ol i ddrysau ac o fewn yr ystafelloedd moethus. Gweledigaeth gwefreiddiol unwaith eto, a synnwyr dramatig yn ei holl ogoniant.
Mae ‘Revenger’s Tragedy’ yn y Theatr Genedlaethol tan Awst 28ain. Mwy o fanylion ar www.nationaltheatre.org.uk
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment