Total Pageviews

Tuesday 1 July 2008

Adolygiad ar gyfer Taliesin : Y Theatr Genedlaethol yng Nghymru


Y Theatr Genedlaethol yng Nghymru
Gwasg Prifysgol Cymru : golygwyd gan Hazel Walford Davies

Tawn i’n gwybod wrth dderbyn y gwahoddiad i adolygu’r gyfrol hon, mai ffrwyth comisiwn a nawdd gan aelodau Bwrdd Theatr Genedlaethol Cymru yw’r gwaith, yna go brin faswn i wedi cytuno. Fe ŵyr caredigion y Theatr yng Nghymru am fy anfodlondeb efo’r cwmni presennol, yn ogystal â’m gonestrwydd pur bod yr Arweinydd Artistig anghywir wrth y llyw. Gresyn na fyddai sawl un arall yn magu digon o hyder i gytuno’n gyhoeddus â mi, ac i arbed mwy o saethau gwenwynig am ‘ddadl bersonol’ rhag taro’n nghefn. Ond wedi darllen y gyfrol, rwy’n credu bod y cynnwys yn adrodd cyfrolau, ac yn cadarnhau fy nadleuon dros y blynyddoedd diwethaf.

Does 'na’m dwywaith fod yr angen am y gyfrol hon yn amlwg. Yng ngeiriau’r Athro Hywel Teifi Edwards ar gychwyn y gyfrol, ‘Rhagoriaeth y gyfrol hon yw ei bod hi, mewn pum pennod, yn olrhain ffawd cysyniad y theatr genedlaethol o ddyfodiad Howard de Walden i Gastell y Waun yn 1911, hyd ymdrechion seithug Emily Davies rhwng 1982 ac 1984. Cwestiwn arall ydi pam mai Bwrdd y Theatr Genedlaethol sydd wedi’i chomisiynu yn hytrach na rhannu’r arian i gomisiynu dramâu newydd gan ddramodwyr profiadol neu ifanc? Ydi clodfori’r hanes yn bwysicach na’i pharhad? Ers ei chyhoeddi yn 2007, tybed a oes gwersi wedi’u dysgu o’i chynnwys?

Yr hyn a’m swynodd i am y gyfrol oedd yr unigolion sydd dros y blynyddoedd wedi brwydro i weld sefydlu ‘theatr genedlaethol’, a hynny drwy eu hangerdd a’u cariad mawr at y theatr. Unigolion tebyg i’r Emily Davies a’i gwaith unigryw gyda Chwmni Theatr Cymru rhwng 1982 a 1984, yn gwthio’r ffiniau yn barhaol drwy gyflogi cyfarwyddwyr oedd â gweledigaeth wahanol a mentrus fel Ceri Sherlock. Lisa Lewis yw awdur y bennod honno, a diolch iddi am roi'r darlun cyflawn, drwy ddyfynnu’n helaeth o Wasg y cyfnod, a’r llu o adolygiadau o’r Daily Post i Llanw Llŷn.

Mentergarwch a gweledigaeth Wilbert Lloyd Roberts wedyn, ym mhennod Lyn T Jones am hanes y dadlau dros theatr sefydlog a theatr symudol, a hynt a helynt y cwmni theatr rhwng 1964 a 1982. Cynlluniau uchelgeisiol, a chyfnod roddodd inni rai o actorion mwya’ profiadol Cymru’r dyddiau yma, theatrau newydd a dramâu gwreiddiol sydd bellach yn rai o Glasuron y Gymraeg. Y cyfan, mwy neu lai, yn ffrwyth hyfforddiant a gweledigaeth y cyfarwyddwr.

Y ddwy bennod gyntaf yw’r rhai mwyaf gwerthfawr heb os, yn olrhain cyfraniad amhrisiadwy Yr Arglwydd Howard de Walden - ‘...y Sais uchelfri a ymroes i argyhoeddi’r Cymry nad pwnc i wag siarad amdano oedd theatr genedlaethol’ yn ôl Hywel Teifi, ‘...eithir delfryd y gellid ei sylweddoli trwy ddawn a nerth ewyllys.’ Dyma ŵr oedd â phot o arian, ac yn fodlon gwario er mwyn codi statws y ddrama Gymraeg. Y pot o arian ar ddiwedd yr enfys, y bu cymaint o gwmnïau yng Nghymru yn dyheu amdano byth ers hynny. Y pot o arian sydd, yn fy nhyb i, yn cael ei wastraffu yn y ffordd anghywir, ar hyn o bryd, ar waethaf parhad a dyfodol y theatr yng Nghymru.

Mae’n drueni mawr na chynhwysid pennod ychwanegol yn olrhain hanes y diweddar athrylith Graham Laker a’i gyfraniad eithriadol gyda Chwmni Theatr Gwynedd tuag at greu'r peth agosaf weles i erioed at Theatr Genedlaethol. Roedd ei ymdriniaeth o’r set i’r goleuo i’r actio wastad o safon uchel, ac fe lwyddodd i lwyfannu’r Clasuron, addasiadau, a’r cyfoes drwy ei weledigaeth unigryw ei hun.

Does ryfedd, wedi darllen y gyfrol, bod yr ymgais i sefydlu theatr genedlaethol i Gymru wedi bod yn lwybr hir a llafurus, a bod sawl calon a chyfrif banc wedi’i chwalu yn y broses. Dwi’n deall rŵan, pam bod cynifer o garedigion y theatr yng Nghymru mor warchodol o’r cwmni presennol, a neb yn fwy na fi, yn falch o weld sefydlu’r cwmni hwnnw. Ond, â’r cwmni bellach yn ei phumed flwyddyn, mae angen am newid yn yr arweiniad theatrig. Mae angen inni symud ymlaen, a phenodi cyfarwyddwr llawer iawn mwy profiadol a mentrus. O ddarllen y gyfrol, synhwyrwch yr angerdd â’r cariad tuag at weld sefydlu theatr gyffrous yng Nghymru, ac nid cwmni sy’n ymdrechu i fod yn ‘gyfoes’ trwy lwyfannu’r Clasuron prin y Gymraeg, gydag actorion gwan a setiau drud.

Croesawu dyfodiad y Theatr Genedlaethol ‘yn dynn ar sodlau’r Refferendwm ta drawmatig yn 1997 a roes i ni’r Cynulliad ym mae Caerdydd’ wna Hywel Teifi ar gychwyn y gyfrol, wrth obeithio y bydd codi cartref parhaol i’r cwmni presennol yng Nghaerfyrddin yn rhoi inni ‘...adeilad rhiniol y bydd ynddo lwyfan ar gyfer ateb anghenion a bodloni gofynion dychymyg a dirnadaeth y bobol.’

Ond beth yw gwerth ‘adeilad rhiniol’ heb y gallu i lwyfannu, i gyfansoddi, neu i lefaru’r genadwri honno? Mae’r atebion i gyd yn y gyfrol hon; hyfforddiant, gweledigaeth ac angerdd. Y tri pheth sylfaenol sydd ar goll ar hyn o bryd, a’r tri pheth sydd wrth galon yr unigolion wrth wraidd y gyfrol hon.

No comments: