Total Pageviews

Friday 23 November 2007

'A Night in November'


Y Cymro – 23/11/07

Wrth i Theatr Bara Caws gychwyn ar eu taith efo monologau Alan Bennett, achubais innau ar y cyfle i weld un o’r amryfal fonologau sy’n britho theatrau Llundain ar hyn o bryd. Er mod i’n ffan mawr o’r ‘fonolog’ fel arddull, mae unrhyw actor neu gwmni sy’n mentro mynd i’r afael ag un yn gorfod bod yn llawer mwy gofalus. Does 'na ddim dianc yma. Un actor sydd ar y llwyfan, ac mae llygaid y gynulleidfa arno neu arni gydol y sioe. Rhaid i’r actor hwnnw neu’r actores honno gyflwyno inni nifer o gymeriadau gwahanol, drwy enau’r prif gymeriad, a’n tywys drwy’r holl olygfeydd sy’n gefndir i’r stori. Rhaid iddo/iddi osod naws y stori o’r cychwyn, rhaid cyfleu’r tensiwn a’r gwrthdaro sy’n galonnog i bob drama dda, ac yn fwy na dim, rhaid creu tonnau dramatig gydol y sioe er mwyn cynnal diddordeb y gynulleidfa.

Y Wyddeles Marie Jones sy’n gyfrifol am gyfansoddi’r ddrama a’i theitl priodol ‘A night in November’ sydd i’w gweld yn Stiwdio Trafalgar ar hyn o bryd. Marie ydi awdur y ddrama lwyddiannus ‘Stones in His Pockets’, a sy’n cydweithio unwaith yn rhagor â’i gŵr Ian McElhinney sy’n cyfarwyddo’r sioe.

Mae’r ddrama yn cychwyn ar Nos Fercher, 17 Tachwedd 1993 - y noson dyngedfennol honno pan ddaeth Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth wyneb yn wyneb â’i gilydd ar gae pêl-droed Parc Windsor, Belfast ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 1994. I lawer o’r tu allan, roedd y gêm yma yn gyfle i’r ddwy garfan herio’i gilydd ar y cae pêl-droed yn hytrach na thrwy wleidyddiaeth, ideoleg neu drais enwadol. Ond o fewn Gogledd Iwerddon, gwelwyd y cyfnod a arweiniodd at y gêm hon fel y gwaethaf o’r 35 mlynedd o wrthdaro. Gwta fis cyn y gêm, yn sgil methiant ffrwydrad yr IRA ar ffordd Shankhill, lladdwyd 10 o bobl mewn siop bysgod yn Belfast; saith diwrnod wedi Shankhill, lladdodd yr UFF (Ulster Freedom Fighters) dri ar ddeg o bobl mewn tafarn yn Swydd Derry gan weiddi ‘trick or treat’ mewn digwyddiad a ddaeth i’w adnabod fel ‘cyflafan Greysteel’.

‘Kenneth McCallister’ yw’r cymeriad truenus sy’n adrodd yr hanes, a hynny drwy enau’r diddanwr a’r cyflwynydd teledu Patrick Kielty. Dyma gymeriad sy’n anhapus o fewn ei fywyd bob dydd gyda’i briodas yn prysur chwalu, ei waith yn ei ddiflasu a’i ddiddordeb angerddol mewn pêl-droed a’i deyrngarwch i’w wlad, yn peri iddo werthu popeth sydd ganddo er mwyn canfod digon o arian i hedfan i’r UDA i ddilyn ei wlad. Ond trwy’r tensiwn a’r trais yn ystod y cyfnod, mae’r cymeriad yn gorfod ail-ystyried ei ddaliadau Protestannaidd a’i werthoedd, ac fel pob drama dda, mae yma newid erbyn y diwedd.

Er gwaethaf ymdrech fawr Kielty i fynd dan groen y cymeriad, a’r ffaith fod ei dad wedi cael ei ladd gan y UFF ym 1988, roedd rhywbeth ar goll yn ei berfformiad. Y prif wendid oedd y ffaith mai cyflwynydd ac nid actor ydio. Doedd y gallu ddim ganddo i ddod â’r mân gymeriadau eraill fel y wraig a’i gyfeillion yn fyw ar lwyfan. Er tegwch iddo, doedd na ddim digon o densiwn na’r cyfleoedd i greu tonnau dramatig yn y môr o ddeunydd oedd ar ei gof. Llithrodd y cyfan o’i enau ar brydiau mor ddiymdrech nes fy llwyr ddiflasu. Llwm a diddychymyg oedd set syml David Craig sef cyfuniad o lefelau llwyd o amrywiol faint, a chylch llwyd oedd yn adlewyrchu’r sgrin gron uwchben a roddodd inni ddelweddau awgrymiadol i gyfleu lleoliad neu deimlad.

Fel y gallwch ddisgwyl, mae yma hiwmor, a hwnnw yn hiwmor unigryw’r Gwyddelod. Roedd hynny ar ei orau pan gyrhaeddodd y cymeriad yr UDA, a chael ei hun yn y wlad enfawr ddiarth, wrth geisio gneud ffrindiau newydd efo’r hwn a’r llall. Dyma le oedd Kielty ar ei orau, yn tanio’r llinellau doniol dro ar ôl tro, a’i amseru yn berffaith. O gael actorion mwy profiadol o’i gwmpas, a sgript sy’n cynnig mwy o densiwn a drama, dwi’n siŵr y byddai’r noson arbennig hon ym mis Tachwedd, wedi medru bod yn llawer mwy cofiadwy nag y bu.

Mae ‘A night in November’ i’w weld yn Stiwdio Trafalgar tan Ragfyr 1af. Mwy o fanylion ar www.theambassadors.com/trafalgarstudios/

No comments: