Y Cymro – 09/11/07
Roeddwn i wedi bwriadu adolygu’r sioe ddiweddara i agor yn y West End yr wythnos hon, sef y ddrama gerdd ‘Hairspray’. Ond yn ystod yr wythnos daeth sawl dogfen hynod o ddiddorol i’m sylw; dogfennau sydd, er cystal oedd y ddrama gerdd weles i, yn cynnwys llawer mwy o ffars, comedi a thrasiedi...
Yn gyntaf, datganiad i’r Wasg gan Gyngor y Celfyddydau ar y 1af o Dachwedd ynglŷn â Bwrdd y Theatr Genedlaethol : ‘Bydd y Cadeirydd a phedwar aelod yn ymddeol ddechrau 2008 yn ôl trefn cyfansoddiad y cwmni , ac mae angen aelodau newydd i lenwi'r bylchau am dymor o dair blynedd.’
O’r diwedd, meddwn i. Mae’r rhywun yn rhywle wedi gwrando arna’i, ac mae’r cwmni yn amlwg wedi canfod ac wedi darllen eu Cyfansoddiad! Falle i’r rhai craff ohonoch gofio imi nodi yn y golofn hon ar Awst 3ydd bod ein hannwyl Theatr Genedlaethol wedi anwybyddu eu trefn gyfansoddiadol sy’n nodi bod traean o Fwrdd y Theatr i fod i ymddeol yn eu ‘AGM’ blynyddol : (‘One third (or the number nearest one third) of the Trustees must retire at each AGM other than the first AGM following the incorporation of the Charity, those longest in the office retiring first...’). Allan o’r 13 gwreiddiol, mae 10 (o gynnwys Lyn T Jones y Cadeirydd) yn parhau i fod yn aelodau, a hynny bedair blynedd yn ddiweddarach.
Er imi gysylltu gyda Chyngor y Celfyddydau, a derbyn llythyr yn ôl o Gaerdydd yn nodi bod y mater wedi’i roi yn nwylo’r ‘Uwch Swyddog Datblygu’r Celfyddydau’ yng Ngogledd Cymru, ches i fyth ateb. Mi wadodd Gareth Miles, un o’r aelodau gwreiddiol, ar raglen Gwilym Owen bod hyn yn wir, gan ddatgan mai ‘ensyniadau cas’ oedd y ffeithiau yma, gan fy ngalw yn ‘hate-ie’ yn hytrach na ‘luvie’!
Ond, mae’r dirgelwch a’r dryswch yn parhau...
Yn ôl y datganiad i’r Wasg ar y 6ed o Dachwedd gan y Theatr Genedlaethol eu hunain, ‘Mae’r deuddeg aelod y Bwrdd presennol wedi llywio’r cwmni ers ei sefydlu bedair blynedd yn ôl o dan arweiniad y Cadeirydd a Chyn-Bennaeth BBC Radio Cymru, Lyn T. Jones. Bellach mae cyfansoddiad y cwmni’n nodi’r angen i newid traean o aelodaeth y Bwrdd.’
Ai fi sy’n methu darllen, ta ydi rhywun yn dehongli’r Cyfansoddiad i siwtio’u hunain?!
Ond pa reswm mae’r Theatr Genedlaethol yn ei roi am yr angen i ganfod aelodau newydd tybed? ‘Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn chwilio am Gadeirydd newydd a phedwar aelod arall o’r Bwrdd Rheoli sydd â’u haelodaeth wedi dirwyn i ben.’
‘Wedi dirwyn i ben’ sylwer, os mai dyma’r llinyn mesur mae’r cwmni am ei ddefnyddio, beth am weddill aelodaeth y Bwrdd? Pam nad ydi eu ‘haelodaeth’ hwy hefyd ‘wedi dirwyn i ben’?. Fe gychwynnodd bob un ar yr un pryd! O’n sỳms i, mae aelodaeth o leia’ 10 o’r bobl ddoeth yma ‘wedi dirwyn i ben’? Pwy sydd wedi penderfynu pa 4 (ynghyd â’r Cadeirydd) sydd yn rhaid mynd, a pha 5 sy’n parhau i wasanaethu’n ‘anghyfreithlon’ gan nid yn unig dorri’r amod ‘newydd’ o ‘dair blynedd’ ond hefyd eu Cyfansoddiad sylfaenol?
Yn ôl Rheolydd Cyffredinol newydd y Theatr Genedlaethol Cymru, Mai Jones, y pedwerydd mewn pedair blynedd, ‘Penodir aelodau newydd y Bwrdd yn unol ag argymhellion Pwyllgor Nolan ar Safonau ym Mywyd Cyhoeddus.’ Da iawn, medde chi, ond pa argymhellion eraill mae Pwyllgor Nolan yn ei ddatgan? Wel, yn syml mae 'na Saith Egwyddor o Fywyd Cyhoeddus a bennwyd gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus yng nghanol yr 1990au. Dyma’r Egwyddorion (a elwir yn Egwyddorion ’Nolan’ gan amlaf gan mai’r Arglwydd Nolan o Brasted oedd yn cadeirio’r Pwyllgor ar y pryd): Anhunanoldeb, Unplygrwydd, Gwrthrychedd, Atebolrwydd, Bod yn agored, Gonestrwydd ac Arweiniad. Dyma’r ‘egwyddorion’ mae’r Cynulliad am i Gyrff Cyhoeddus ei ddilyn er mwyn ‘sicrhau bod arian y trethdalwyr yn cael ei wario yn unol â dymuniadau’r Cynulliad Cenedlaethol’
Ers cychwyn y Theatr Genedlaethol yn 2003, mae’r cwmni wedi derbyn bron i bedair miliwn o arian cyhoeddus. Mae Mai Jones eto’n cyhoeddi’n dalog : ‘Cofrestrwyd Theatr Genedlaethol Cymru fel elusen bedair blynedd yn ôl. Ers hynny llwyfannwyd 13 o gynyrchiadau.’ 13 o gynyrchiadau dros 4 blynedd?. Felly, dyna chi £300,000 yr un!!! Faint tybed o Grant Blynyddol mae Cwmnïau llai fel Theatr Bara Caws ac Arad Goch yn ei gael o gymharu â hyn?
‘Ar hyn o bryd mae’r cwmni’n paratoi i symud i LLWYFAN – sef cartref parhaol yn y Ganolfan Mentergarwch Diwylliannol newydd ger Coleg y Drindod, Caerfyrddin’. Datblygiad sydd wedi costio £2.5 miliwn arall!.
A be ‘da ni am gael am ei harian dros y flwyddyn nesa? Er i’r rhan helaeth o gwmnïau theatr lansio eu tymhorau newydd nôl ym mis Medi, fe ymddangosodd y newyddion am gynhyrchiad ‘newydd’ ein Theatr Genedlaethol ar wefan y cwmni rai wythnosau yn ôl. ‘Cyfieithiad newydd gan Gareth Miles o ddrama enwog Arthur Miller 'THE CRUCIBLE' - ‘Y Pair’ ... Ar daith : 7 Chwefror - 14 Mawrth 2008... drama ysgubol gyda chast enfawr ac yn stori wefreiddiol am gydwybod, cariad ac iachawdwriaeth. Bydd y cynhyrchiad yn lansio Tymor 2008 y cwmni ar thema bradwriaeth.’ O diar, dyma ni gast ‘enfawr’ arall, fydd (synnwn i ddim) yn llawn o gyn-aelodau o Glanaethwy! Gresyn nad oes ganddo ni neb arall yng Nghymru fedar addasu neu gyfieithu drama ‘blaw Gareth Miles? A beth am weddill o dymor y ‘bradwriaeth’? Pa berlau eraill fedrwn ni ddisgwyl o weledigaeth ysgubol yr arweinydd artistig? Dyna ichi ddirgelwch arall! Dro yn ôl, ar wefan Cyngor y Celfyddydau, fe nodwyd mai drama Saunders Lewis ‘Brad’ a’r hir-ddisgwyliedig ‘Iesu’ gan Aled Jones Williams, ynghyd â’r ‘Pair’ fyddai’r tymor newydd. Bellach, o edrych ar yr un wefan, ‘Siwan’ sydd yno ar gyfer Mai 2008 a dim sôn am yr ‘Iesu’! Mae’n amlwg fod arweiniad y cwmni'r un mor fregus â’i gweinyddu...!
‘Atebolrwydd?, Bod yn agored?, Gonestrwydd? ac Arweiniad?’ – falle y dylai’r Cynulliad a Chyngor y Celfyddydau ddechrau cyfarwyddo’r Bwrdd a’r Cwmni, cyn i’r llen ddisgyn ar y ddelfryd o Theatr Genedlaethol y bu cymaint o ddisgwyl amdani...
No comments:
Post a Comment