Y Cymro - 30.11.07
Aeth yn ei flaen i ddyfynnu'r Arglwydd de Walden - sefydlwr egin Theatr Genedlaethol ar gychwyn yr ugeinfed ganrif : “ ‘The nation should undertake a thorough process of self analysis and ultimately self-criticism that would enable it to grapple with the many contradictions with which its sense of identity is riddled.’ Hynny yw, roedd angen dybryd arnom ni fel cenedl i feithrin gwrthrycholdeb a gonestrwydd os oeddem ni am greu Theatr Genedlaethol o safon, o werth, ac o berthnasedd i’r genedl gyfan.”
Yr wythnos hon, fe ges i’r fraint o weld drama ddiweddaraf Ian Rowlands sef ‘Blink’ yn Theatr Cochrane yma yn Llundain. Drama yn cael ei chyflwyno gan y cwmni newydd anedig ‘F.A.B’ a hynny dan gyfarwyddyd Steve Fisher. Drama yn yr iaith Saesneg, yn cael ei berfformio’n grefftus a chofiadwy gan dri actor rhugl eu Cymraeg. A drama yn seiliedig ar un o’r pynciau mwyaf perthnasol, dadleuol a phersonol i’r gymuned Gymraeg a fu erioed. Drama a ddylid fod wedi’i chyfansoddi yn Y Gymraeg a’i chyflwyno gan ein Theatr Genedlaethol.
Fe gychwynnodd y ddrama yn sgil cnoc ar ddrws cegin Ian yng Nghaerdydd. Tu ôl i’r drws roedd cyfaill iddo, a ddywedodd y geiriau : ‘You know how you’ve always wanted to talk about John Owen and how I’ve never wanted to talk about him. Well I’m ready to talk now’. Rai misoedd yn ddiweddarach, tra yn yr Iwerddon, fe gychwynnodd Ian ysgrifennu’r ddrama a lifodd ohono ‘bron yn ei ffurf orffenedig, fel petai’r angen i ddod yn fyw wedi bod yno ers tro; drama oedd angen ei gyfansoddi, datganiad roedd yn rhaid imi’i wneud’. Mae’n cyflwyno’r ddrama i’w gyfeillion, i’r rhai sydd wedi darllen y ddrama, ac wedi datgan mai drama ‘amdanyn nhw’ yw hon.
Hanes un teulu o’r Rhondda sydd yma yn y bôn; y fam (Lisa Palfrey) a’i mab ‘Si’ (Sion Pritchard) a fynychodd yr Ysgol Uwchradd Gymraeg lleol, ble y datblygodd ddiddordeb mawr ym myd y ddrama yn sgil ‘y duw’ drama lleol ‘Arfon Jones’. Ac yntau ddim ond yn ddwy ar bymtheg oed, fe ddihangodd ‘Si’ i Lundain, gan adael ei gariad cyntaf ‘Kay’ (Rhian Blythe) a’i deulu ar ôl. Wyddai neb yn iawn pam bod ‘Si’ wedi gneud hyn, nes iddo ddychwelyd saith mlynedd yn ddiweddarach, a’i dad ‘Bri’ bellach yn glaf yn yr ysbyty. Wedi dychwelyd adref, mae un o’i gyfeillion yn sôn wrtho fod yr athro drama wedi’i arestio gan yr heddlu, ar amheuaeth o gam-drin plant. Dyma’r sbarc sy’n tanio atgofion poenus yng ngorffennol caeedig ‘Si’, ac sy’n gneud iddo orfod wynebu’r hyn a ddigwyddodd. I ail-gofio’r geiriau “ ’If you want to be a great actor, you must experience everything’ - twelve words that ruined a life”. Trwy orfodi’r plant i berfformio rhannau o ddramâu dadleuol tebyg i ‘Equus’ a ‘Spring Awakening’ o waith yr Almaenwr Frank Wedekind, fe drodd y gwersi diniwed yn garchar i chwantau rhywiol anfaddeuol ‘Arfon Jones’ ac a halogodd gof ‘Si’ a’i orfodi i geisio dianc rhag ei atgofion.
Allai mond canmol a diolch o galon am ddawn Ian Rowlands nid yn unig i drin geiriau mor gelfydd, ond hefyd am fynd i’r afael â’r pwnc sensitif a pherthnasol yma. Drama a barodd imi nodi’r geiriau ‘cignoeth’ ac ‘onest’ ar glawr fy rhaglen, yn enwedig ar gychwyn yr ail-act, ac a’m hatgoffodd o’r hen deimlad anghysurus a gefais wrth wylio dramâu dadleuol Sarah Kane am y tro cynta. Wedi dweud hyn, ro’n i eisiau mwy. Rhyw gyffwrdd a rhedeg i ffwrdd wnaeth y ddrama i mi ar brydiau, gyda stori’r teulu yn cysgodi’r GWIR roeddwn i’n dyheu amdano. Tydi ffurf y ddrama ddim yn helpu, a ninnau yn neidio rhwng y presennol a’r gorffennol, ac fe gollwyd hud, pŵer a chryfder y ddrama mewn sawl man. Roeddwn i’n gweld yr angen i gyfleu’r ofn a’r pŵer sydd gan y ‘bleiddiaid yma mewn gwisg defaid’ nid yn unig ar feddyliau diniwed y plant, ond hefyd ar eu teuluoedd a’u cyfeillion.
O’r dagrau yn llygaid Lisa Palfrey, diniweidrwydd Rhian Blythe ac angerdd ac emosiwn ym mhortread cofiadwy Sion Pritchard, fe wnaeth y tri actor eu dyletswydd yn wych a hynny i gyfarwyddyd medrus Steven Fisher. Unwaith eto, dyma set syml ond odidog gan Rhys Jarman, a’i ynys o wely a chadair mewn môr o esgidiau a blodau yn effeithiol dros ben.
Dwi am orffen fel y cychwynnais efo araith Ian Rowlands a gytunai â’r Almaenwr, Schiller, pan ysgrifennodd “ ‘Does 'na ddim modd osgoi’r effaith sylweddol all theatr genedlaethol sefydlog o safon gael ar ysbryd cenedl.’ Yr allweddair yw safon. Yn anffodus, fel yr ysgrifennodd George Bernard Shaw ganrif yn ddiweddarach, ‘If Wales will not have the best Wales can produce, she will get the worst that the capitals of Europe can produce, and it will serve her right’.”
Mae’r gair olaf, hefyd, yn mynd i Ian : “Wedi’r fait acccompli, bellach mae’n ddyletswydd arnom ni, gynulleidfa’r Gymru newydd, werthuso’r cwmni yn wrthrychol, a hynny’n gyson, am fod theatr unrhyw wlad yn fesur o iechyd cenedl. Rhaid i ni asesu gweledigaeth y cwmni a mesur ei gynnyrch yn ôl safonau’r gorau yn Ewrop. Rhaid i’r cwestiynau anodd fynnu atebion, mynnu gonestrwydd os y’n ni am osgoi’r ‘gwaetha all Ewrop gynnig’… Breuddwydiaf am theatr o safon yng Nghymru; theatr sydd o berthnasedd i’r genedl gyfan ac i’r byd tu hwnt i ffiniau’n rhagfarnau hanesyddol; y culni hwnnw sy’n llesteirio datblygiad, nid yn unig y ffurf ar gelf, ond ein cenedl ni. Efallai mai aelod o’r gynulleidfa fydda i o hyn allan, ond fydda i’n dal i gwestiynu hyd nes iddi fod yn amser i mi gamu, gan obeithio unwaith yn rhagor, yn ôl ar lwyfan y theatr yng Nghymru.”