Total Pageviews

Friday 12 May 2006

'Old Times' a 'The Birthday Party'


Y Cymro - 12/5/06

Dwy ddrama o eiddo Harold Pinter sy’n cael sylw'r wythnos hon. Yn gyntaf, cynhyrchiad y London Classic Theatre o ‘Old Times’ fu’n ymweld â Theatr Gwynedd.

Cyfansoddwyd y ddrama ar gychwyn y 70au, a chael ei pherfformio’n wreiddiol gan gwmni y Royal Shakespeare yn Llundain. Hanes tri ffrind yn ail-gwrdd wedi cyfnod o ugain mlynedd yw’r ‘stori’ gan hel meddyliau ac atgofion am eu hieuenctid yn Llundain yn y 50au.

Cryfder Pinter yw’r chwarae-ar-eiriau sy’n cael ei blethu mor fedrus â’r seibiau - seibiau sy’n dweud cyfrolau. Heb fawr o ddigwydd ar y llwyfan, mae’n rhaid cael perfformiadau cry’ gan yr actorion er mwyn cynnal ein diddordeb. Roedd Jackie Drew a Julie Hale yn cymeriadu’n dda iawn fel y wraig a’i ffrind, ond chefais i mo’n argyhoeddi’n llwyr gan berfformiad Richard Stemp fel y gŵr. Osgo ei gorff oedd yn bennaf gyfrifol am hyn a’i or-bwyslais ar ‘eiriau oedd yn tynnu llawer oddi ar gynildeb Pinter.

Yn bersonol, fyddwn i ddim yn dweud bod ‘Old Times’ ymysg y gorau o’i ddramâu - ac allwn i lawn ddeall pam bod seddi gwag o’n gwmpas i ar gychwyn yr ail-act! Er gwaetha’r dryswch (sydd gyda llaw yn gwbl fwriadol!) mae’n werth aros am yr ail-act, petai ond er mwyn y synnwyr, os nad y mwynhad!

Bydd y cwmni yn ymweld â Theatr Colwyn, Bae Colwyn ar yr 2il o Fehefin, Aberdaugleddau ar y 3ydd a Harlech ar yr 20fed.

Os am fwynhad llwyr, gai’ch annog i geisio gweld cynhyrchiad Clwyd Theatr Cymru o glasur adnabyddus Pinter - ‘The Birthday Party’.

Dyma gynhyrchiad godidog gan gast cry’ a phrofiadol. O’r eiliad cyntaf, hyd y gair olaf, fe’m swynwyd gan lyfnder a chretinedd y stori, a theimlais sawl gwaith bod y ddrama wedi’i chyfansoddi yn arbennig ar gyfer yr actorion! Mae’n anodd credu (o weld y cynhyrchiad yma) bod perfformiadau cyntaf o’r ddrama ym 1958 wedi’i chael ei ddisgrifio fel rhai diflas a dwl!

Hanes Stanley - (Trystan Gravelle) cerddor di-waith yn byw mewn llety gwely a brecwast mewn tref glan môr yw ffocws y stori. Cafwyd perl o berfformiad gan Trystan sy’n hanu o Drimsaran ger Llanelli - perfformiad sy’n brawf teilwng o’i addysg yn R.A.D.A a’i brofiad efo’r RSC. Dyma actor y dylid gweld llawer mwy ohono ar lwyfannau Cymru.

Actor arall o Gymro roddodd berfformiad o safon uchel oedd Steffan Rhodri fel y Gwyddel McCann sy’n dod i darfu ar ddedwyddwch y llety ynghyd â’i gymar amwys Goldberg (Philip York). Unwaith eto, cafwyd perfformiad caboledig gan Steffan fel un o’r dihirod yn gyrru Stanley druan i ffwndro’n lân. Felly hefyd gan Petey (John Atterbury) a Meg (Elizabeth Counsell) fel perchnogion y llety, a’u cyfaill Lulu (Emily Pithon). Cafwyd cyd-chwarae gwych rhwng y chwe actor - yn enwedig felly yn ystod parti pen-blwydd Stanley, yn yr ail-act.

Drwy’r defnydd effeithiol o ‘oleuo a’r sain, a chyfarwyddo medrus Phillip Breen, ‘roeddwn i’n ysu am yr act olaf er mwyn gwybod tynged Stanley druan. Dwi’m yn siŵr os ges i ateb terfynol i hynny, ond dyna gryfder Pinter. Rhydd i bawb ei ddehongliad, ond mae’r profiad o gyrraedd ato yn un pleserus iawn!

Bydd y cwmni yn yr Wyddgrug tan yr 20fed o Fai cyn mynd ar daith wedi hynny gan ymweld â Chapter, Caerdydd rhwng Mai 25ain a’r 27ain.

No comments: