Total Pageviews

Friday 26 May 2006

'Golff' a 'Little Children'


Y Cymro - 26/5/06

Ro’n i am gychwyn y golofn drwy ddweud mai dau gynhyrchiad amatur aeth a’m sylw'r wythnos hon - efallai mai amaturiaid oedd yn perfformio, ond roedd safon y ddwy ddrama yn broffesiynol iawn, iawn.

Draw i Langefni nos Iau i weld cynhyrchiad y Theatr Fach o ddrama William R Lewis - ‘Golff’. Fues i’n ffodus iawn o weld cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o’r ddrama hon dros ddeng mlynedd yn ôl, a gallaf ddweud a llaw ar fy nghalon, mod i wedi mwynhau’r cynhyrchiad yma gystal â chynhyrchiad y diweddar Graham Laker ohoni, nôl ym 1993. Ro’n i’n rhyfeddu at lyfnder y cynhyrchiad, a’r sgript oedd yn gyfoethog o dafodiaith a chwedloniaeth Sir Fôn.

Cafwyd perfformiadau cofiadwy iawn gan bob aelod o’r cast, a golygfeydd oedd yn ein tywys ni o’r dwys i’r digri. Cadernid Tony Jones fel y penteulu twyllodrus ‘Morris’, a chynildeb arbennig Manon Wyn Williams fel ‘Ceinwen’ ei ferch, a’i chariad ‘Euros’ - Ifan Wyn. Diniweidra Marlyn Samuel fel ‘Joyce’ oedd yn gofalu am feistres y tŷ ‘Gwyneth’ - Eirian Young. Hiwmor a chynhesrwydd J R Williams fel ‘Gruff’ y gwas, a’r cynghorydd cydwybodol lleol ‘Arwyn’, Elwyn Jones. Dan gyfarwyddyd yr awdur, dyma wledd o adloniant mewn drama dair act gyfoethog a chofiadwy.

I Theatr Gwynedd wedyn nos Wener i weld noson ola’ cynhyrchiad myfyrwyr Celfyddydau Perfformio Coleg Menai. Ddim yn aml y medrai ddweud y gallwn i fod wedi aros yn fy sedd mewn theatr am awr arall - ond mi allwn i’n hawdd fod wedi gwylio’r sioe yma eto!

‘Little Children’ oedd teitl y sioe a gyfansoddwyd gan Gydlynydd Celf, Dylunio a’r Cyfryngau'r Coleg, Ian Selwyn Lloyd. Dyma sioe ddwyieithog (er mwyn cynnwys myfyrwyr Cymraeg Iaith gyntaf a’r di-Gymraeg) tipyn o sialens ynddo’i hun, ond fe wnaethpwyd hynny yn effeithiol iawn drwy fynd â ni yn ôl i 1961, a chanolbwyntio ar bedwar o blant mewn ysgol yng Nghapel Celyn y Bala, a llond dosbarth o blant mewn ysgol debyg ynghanol dinas Lerpwl. Drwy ddiniweidrwydd y plant, cawsom ein cyflwyno i hanes Tryweryn, a’r ofn a’r diffyg deall oedd yng Nghymru, tra bod disgyblion Lerpwl yn paratoi i ddod am drip addysgiadol i Ganolfan Preswyl ‘Colomendy’ ger Y Bala.

Dyma gast cry iawn unwaith eto, a phob aelod yn rhoi ei orau ar y llwyfan. Roedd yma sawl cameo cofiadwy iawn - gan ddarpar actorion sy’n meddu ar ddawn na all neb ei ddysgu - sef presenoldeb llwyfan. Roedd eu gwylio yn ymateb i’w gilydd ac i bob emosiwn yn galonogol yn enwedig yn yr ystafell ddosbarth yng Nghymru. Clod hefyd i’r disgyblion a’r athrawon yn Lerpwl nid yn unig am gynnal yr acen mor berffaith, ond am y cyd-chwarae a’r cymeriadu.

Rhaid enwi Mathew Barrett ac Awen Thomas oedd yn wych fel dau o’r pedwar plentyn yng Nghymru; rhyfeddais at gynildeb Ian Moores fel ‘Paul Simms’ oedd yn rhy dlawd i gael mynd ar y trip i Gymru ac Arwel Griffiths fel ‘Morris the Milk’. Calondid mawr oedd gweld cymaint o fwynhad a thalent gan griw mor ifanc. Mae’r dyfodol yn saff, fel dwi’n siŵr gawn ni’i brofi eto'r wythnos nesaf, yn Eisteddfod yr Urdd…

No comments: