Total Pageviews
Friday, 26 May 2006
'Golff' a 'Little Children'
Y Cymro - 26/5/06
Ro’n i am gychwyn y golofn drwy ddweud mai dau gynhyrchiad amatur aeth a’m sylw'r wythnos hon - efallai mai amaturiaid oedd yn perfformio, ond roedd safon y ddwy ddrama yn broffesiynol iawn, iawn.
Draw i Langefni nos Iau i weld cynhyrchiad y Theatr Fach o ddrama William R Lewis - ‘Golff’. Fues i’n ffodus iawn o weld cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o’r ddrama hon dros ddeng mlynedd yn ôl, a gallaf ddweud a llaw ar fy nghalon, mod i wedi mwynhau’r cynhyrchiad yma gystal â chynhyrchiad y diweddar Graham Laker ohoni, nôl ym 1993. Ro’n i’n rhyfeddu at lyfnder y cynhyrchiad, a’r sgript oedd yn gyfoethog o dafodiaith a chwedloniaeth Sir Fôn.
Cafwyd perfformiadau cofiadwy iawn gan bob aelod o’r cast, a golygfeydd oedd yn ein tywys ni o’r dwys i’r digri. Cadernid Tony Jones fel y penteulu twyllodrus ‘Morris’, a chynildeb arbennig Manon Wyn Williams fel ‘Ceinwen’ ei ferch, a’i chariad ‘Euros’ - Ifan Wyn. Diniweidra Marlyn Samuel fel ‘Joyce’ oedd yn gofalu am feistres y tŷ ‘Gwyneth’ - Eirian Young. Hiwmor a chynhesrwydd J R Williams fel ‘Gruff’ y gwas, a’r cynghorydd cydwybodol lleol ‘Arwyn’, Elwyn Jones. Dan gyfarwyddyd yr awdur, dyma wledd o adloniant mewn drama dair act gyfoethog a chofiadwy.
I Theatr Gwynedd wedyn nos Wener i weld noson ola’ cynhyrchiad myfyrwyr Celfyddydau Perfformio Coleg Menai. Ddim yn aml y medrai ddweud y gallwn i fod wedi aros yn fy sedd mewn theatr am awr arall - ond mi allwn i’n hawdd fod wedi gwylio’r sioe yma eto!
‘Little Children’ oedd teitl y sioe a gyfansoddwyd gan Gydlynydd Celf, Dylunio a’r Cyfryngau'r Coleg, Ian Selwyn Lloyd. Dyma sioe ddwyieithog (er mwyn cynnwys myfyrwyr Cymraeg Iaith gyntaf a’r di-Gymraeg) tipyn o sialens ynddo’i hun, ond fe wnaethpwyd hynny yn effeithiol iawn drwy fynd â ni yn ôl i 1961, a chanolbwyntio ar bedwar o blant mewn ysgol yng Nghapel Celyn y Bala, a llond dosbarth o blant mewn ysgol debyg ynghanol dinas Lerpwl. Drwy ddiniweidrwydd y plant, cawsom ein cyflwyno i hanes Tryweryn, a’r ofn a’r diffyg deall oedd yng Nghymru, tra bod disgyblion Lerpwl yn paratoi i ddod am drip addysgiadol i Ganolfan Preswyl ‘Colomendy’ ger Y Bala.
Dyma gast cry iawn unwaith eto, a phob aelod yn rhoi ei orau ar y llwyfan. Roedd yma sawl cameo cofiadwy iawn - gan ddarpar actorion sy’n meddu ar ddawn na all neb ei ddysgu - sef presenoldeb llwyfan. Roedd eu gwylio yn ymateb i’w gilydd ac i bob emosiwn yn galonogol yn enwedig yn yr ystafell ddosbarth yng Nghymru. Clod hefyd i’r disgyblion a’r athrawon yn Lerpwl nid yn unig am gynnal yr acen mor berffaith, ond am y cyd-chwarae a’r cymeriadu.
Rhaid enwi Mathew Barrett ac Awen Thomas oedd yn wych fel dau o’r pedwar plentyn yng Nghymru; rhyfeddais at gynildeb Ian Moores fel ‘Paul Simms’ oedd yn rhy dlawd i gael mynd ar y trip i Gymru ac Arwel Griffiths fel ‘Morris the Milk’. Calondid mawr oedd gweld cymaint o fwynhad a thalent gan griw mor ifanc. Mae’r dyfodol yn saff, fel dwi’n siŵr gawn ni’i brofi eto'r wythnos nesaf, yn Eisteddfod yr Urdd…
Friday, 19 May 2006
'Rentaghost - The Musical'
Y Cymro : 19/5/06
Tybed faint ohonoch chi sy’n cofio’r cymeriadau Timothy Claypole, Hazel McWitch neu hyd yn oed Nadia Popov? Os da chi’r o’r un genhedlaeth â mi, ac wedi’ch sodro o flaen y teledu ar gychwyn yr 80au, yna bydd cymeriadau’r rhaglen i blant ‘Rentaghost’ yn siŵr o ddod ag atgofion melys i’r cof am amser te! Pan glywais i ar ddechrau’r flwyddyn bod drama gerdd ar y gweill, mi archebais fy nhocyn yn syth, gan ddychmygu y byddai’r sioe yn ‘sell-out’! Wrth ddewis fy sedd yn theatr yr Empire yn Lerpwl, wyddwn i ddim bod y sioe yn ymweld â Chaerdydd a Llandudno! Ta waeth, penwythnos yn Lerpwl - rhywbeth i edrych ymlaen ato! Yr unig beth wyddwn i am y sioe oedd mai’r digrifwr Joe Pasquale oedd yn gyfrifol am y sgript, yn ogystal â bod yn ‘llais yr ysbryd’. Cyfuniad diddorol, meddyliais, gan ddychmygu digonedd o hwyl os nad dim arall! Wel y fath siom! Pantomeim o sioe shabi, goleuo giami, setiau rhad, sgript oedd yn gweddu’n well i ddigrifwr ‘stand-up’ a dim golwg o Miss Popov!
Mae’r stori wedi’i osod yn Swyddfa ‘Rentaghost’ - swyddfa sy’n cynnig - fel mae’r enw yn awgrymu, gwasanaeth i ddychryn pobol. Yn yr ail-olygfa, cawn ein cyflwyno i’r gwamalwr Timothy Claypole (Joseph Wicks) - sy’n ymddangos allan o gwpwrdd ffeilio gyda llaw! - a Hazel McWitch (Laurie Sydonie). Daw hi’n amlwg bod rheolwr y cwmni Fred Mumford (Chris Cambridge) wedi derbyn eu swydd gyntaf sef mynd i ddychryn ymwelwyr Maudlin Manor, ond mae gan y golygydd papur newydd Randolph Upchurch (Richard Alan) gynllun i ddifa’r cwmni a dwyn cyfoeth y Plas.
Ynghanol miri’r pantomeim, mae yna ambell i linell ddoniol yn ogystal ag ambell i dric clyfar, ond fawr ddim fel arall. Wedi gweld y sioe ‘Acorn Antiques’ y llynedd, roeddwn i wedi dychmygu llawer mwy. Collwyd y cyfle i greu sioe gofiadwy fyddai’n deilwng i goffau’r gyfres a welodd 58 pennod, dros 9 cyfres ar y BBC rhwng 1976 a 1984. Bob Block oedd awdur y gyfres aeth yn ei flaen wedi hynny i greu cyfresi poblogaidd eraill i blant sef ‘Grandad’ gyda Clive Dunn a ‘Galloping Galaxies’.
Er mwyn symud fy meddwl wrth wylio’r sioe, meddyliais am gyfresi tebyg yn y Gymraeg - cyfresi fyddai’n gweddu i’r math yma o driniaeth. Beth am sioe lwyfan o’r gyfres gomedi ‘Naw Tan Naw’ gan Eilir Jones, neu ‘Siop Siafins’ gyda Bfeian Lloyd Jôs?; ‘Hafod Henri’, ‘Glas y Dorlan’ neu ‘Bob a’i Fam’? Beth am gymeriadau cofiadwy Caryl, Siw Huws ac Emyr Wyn yn ‘Ibiza, Ibiza’ a ‘Steddfod, Steddfod’?! Dyna chi sioe - a sialens nesa i Caryl ella - y dalent ‘gosa sganddo ni at Victoria Wood!
Yn 2001, daeth ‘Rentaghost’ yn rif 12 mewn pleidlais gan Sianel Pedwar o’r ‘can sioe blant mwyaf cofiadwy’ - yn anffodus, mi fydda i’n cofio’r sioe lwyfan am y rhesymau anghywir…
Mae’r sioe eisoes wedi ymweld â Chaerdydd ond i’r rhai dewr sydd am fentro, cewch y cyfle i’w gweld hi yn Theatr Gogledd Cymru Llandudno ar Fehefin y 3ydd.
Friday, 12 May 2006
'Old Times' a 'The Birthday Party'
Y Cymro - 12/5/06
Dwy ddrama o eiddo Harold Pinter sy’n cael sylw'r wythnos hon. Yn gyntaf, cynhyrchiad y London Classic Theatre o ‘Old Times’ fu’n ymweld â Theatr Gwynedd.
Cyfansoddwyd y ddrama ar gychwyn y 70au, a chael ei pherfformio’n wreiddiol gan gwmni y Royal Shakespeare yn Llundain. Hanes tri ffrind yn ail-gwrdd wedi cyfnod o ugain mlynedd yw’r ‘stori’ gan hel meddyliau ac atgofion am eu hieuenctid yn Llundain yn y 50au.
Cryfder Pinter yw’r chwarae-ar-eiriau sy’n cael ei blethu mor fedrus â’r seibiau - seibiau sy’n dweud cyfrolau. Heb fawr o ddigwydd ar y llwyfan, mae’n rhaid cael perfformiadau cry’ gan yr actorion er mwyn cynnal ein diddordeb. Roedd Jackie Drew a Julie Hale yn cymeriadu’n dda iawn fel y wraig a’i ffrind, ond chefais i mo’n argyhoeddi’n llwyr gan berfformiad Richard Stemp fel y gŵr. Osgo ei gorff oedd yn bennaf gyfrifol am hyn a’i or-bwyslais ar ‘eiriau oedd yn tynnu llawer oddi ar gynildeb Pinter.
Yn bersonol, fyddwn i ddim yn dweud bod ‘Old Times’ ymysg y gorau o’i ddramâu - ac allwn i lawn ddeall pam bod seddi gwag o’n gwmpas i ar gychwyn yr ail-act! Er gwaetha’r dryswch (sydd gyda llaw yn gwbl fwriadol!) mae’n werth aros am yr ail-act, petai ond er mwyn y synnwyr, os nad y mwynhad!
Bydd y cwmni yn ymweld â Theatr Colwyn, Bae Colwyn ar yr 2il o Fehefin, Aberdaugleddau ar y 3ydd a Harlech ar yr 20fed.
Os am fwynhad llwyr, gai’ch annog i geisio gweld cynhyrchiad Clwyd Theatr Cymru o glasur adnabyddus Pinter - ‘The Birthday Party’.
Dyma gynhyrchiad godidog gan gast cry’ a phrofiadol. O’r eiliad cyntaf, hyd y gair olaf, fe’m swynwyd gan lyfnder a chretinedd y stori, a theimlais sawl gwaith bod y ddrama wedi’i chyfansoddi yn arbennig ar gyfer yr actorion! Mae’n anodd credu (o weld y cynhyrchiad yma) bod perfformiadau cyntaf o’r ddrama ym 1958 wedi’i chael ei ddisgrifio fel rhai diflas a dwl!
Hanes Stanley - (Trystan Gravelle) cerddor di-waith yn byw mewn llety gwely a brecwast mewn tref glan môr yw ffocws y stori. Cafwyd perl o berfformiad gan Trystan sy’n hanu o Drimsaran ger Llanelli - perfformiad sy’n brawf teilwng o’i addysg yn R.A.D.A a’i brofiad efo’r RSC. Dyma actor y dylid gweld llawer mwy ohono ar lwyfannau Cymru.
Actor arall o Gymro roddodd berfformiad o safon uchel oedd Steffan Rhodri fel y Gwyddel McCann sy’n dod i darfu ar ddedwyddwch y llety ynghyd â’i gymar amwys Goldberg (Philip York). Unwaith eto, cafwyd perfformiad caboledig gan Steffan fel un o’r dihirod yn gyrru Stanley druan i ffwndro’n lân. Felly hefyd gan Petey (John Atterbury) a Meg (Elizabeth Counsell) fel perchnogion y llety, a’u cyfaill Lulu (Emily Pithon). Cafwyd cyd-chwarae gwych rhwng y chwe actor - yn enwedig felly yn ystod parti pen-blwydd Stanley, yn yr ail-act.
Drwy’r defnydd effeithiol o ‘oleuo a’r sain, a chyfarwyddo medrus Phillip Breen, ‘roeddwn i’n ysu am yr act olaf er mwyn gwybod tynged Stanley druan. Dwi’m yn siŵr os ges i ateb terfynol i hynny, ond dyna gryfder Pinter. Rhydd i bawb ei ddehongliad, ond mae’r profiad o gyrraedd ato yn un pleserus iawn!
Bydd y cwmni yn yr Wyddgrug tan yr 20fed o Fai cyn mynd ar daith wedi hynny gan ymweld â Chapter, Caerdydd rhwng Mai 25ain a’r 27ain.
Friday, 5 May 2006
Edrych mlaen...
Y Cymro - 5/5/06
Wedi derbyn copi o raglen newydd Galeri yng Nghaernarfon, cefais siom o weld bod 'na ‘run cynhyrchiad o ddrama yno dros y misoedd nesaf. Felly, dyma benderfynu bwrw golwg ar arlwy’r wythnosa nesaf er mwyn codi fy nghalon!
Clywais fod Theatr Bara Caws yn paratoi sioe glybiau newydd gyda Dyfan Roberts, Bryn Fôn a Tony Llewelyn yn cyd-weithio ar y sgript ar y thema ‘teledu’. Mae’n amlwg bod arddull y sioe glybiau yn talu’n dda i’r cwmni, ac yn sicr mae galw mawr am docynnau pan ar daith. Achubiaeth sioeau o’r math yma yw’r dychan a’r doniolwch - a tydi hynny ddim yn golygu tynnu’r un hen jôcs budur o’r cwpwrdd ac esgus anghofio geiria! Gair o gyngor felly, ac aros i weld!
Gydag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar y gorwel, cofiwch am y sioeau sy’n gysylltiedig â hi : ‘Plas Du’ - drama gerdd o eiddo Hywel Gwynfryn a Robat Arwyn yw’r sioe ieuenctid sy’n cael ei pherfformio ym Mhafiliwn yr Eisteddfod ar Nos Sadwrn, 27ain o Fai.
Cafodd y sioe ei chomisiynu yn wreiddiol gan BBC Radio Cymru i ddathlu ei phen-blwydd yn 25ain oed yn 2002. Bydd Robat Arwyn hefyd yn cyfarwyddo’r sioe, a hynny am y tro cyntaf. Drama Gerdd o eiddo Leah Owen ac Angharad Llwyd yw’r sioe gynradd a hynny am hanes ‘Glyndŵr’ fydd eto i’w gweld yn y pafiliwn ar Nos Fawrth a Mercher, 30ain a’r 31ain o Fai. Angharad fydd hefyd yn cyfarwyddo.
Dathliad o waith Caryl Parry Jones yw’r cyngerdd agoriadol ar Nos Sul 28ain o Fai, eto yn y Pafiliwn. Wrth sôn am Caryl, cofiwch am y noson arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe ar Nos Sadwrn, 12fed o Awst. ‘O’r Sioe’ yw teitl y noson sy’n cael ei ddisgrifio fel ‘noson fythgofiadwy yn cynnwys caneuon o sioeau cerdd boblogaidd’ gydag unawdwyr fel Daniel Evans Tara Bethan, Angharad Brinn, Rebecca Trehearn, Aled Pedrick ac Emyr Wyn Gibson. Y corfeistr fydd Eilir Owen Griffiths gyda Caryl yn cynhyrchu! Mynnwch eich tocynnau yn fuan ddweda i!
Wrth sôn am docynnau, gobeithio eich bod wedi prynu tocynnau i weld cynhyrchiad diweddara’r Theatr Genedlaethol o ‘Esther’. Dyma gynhyrchiad gododd fy nghalon i’n fawr, a bydd y cwmni yn ymweld â Theatr y Sherman, Caerdydd yr wythnos hon, cyn mynd am Aberteifi, Abertawe a Bangor dros y bythefnos nesa. Wedi’r daith ddod i ben, bydd Daniel Evans yn dychwelyd i Lundain i ail-lwyfannu’r ddrama gerdd ‘Sunday in the Park with George’ o waith Stephen Sondheim, yn Theatr y Wyndham. Cafodd Daniel ganmoliaeth uchel yn chwarae’r brif ran yn gynharach eleni, ac mae’r sioe bellach wedi cyrraedd y West End. Bydd y sioe yn agor ar y 13eg o Fai.
Bydd Llwyfan Gogledd Cymru yn gorffen eu taith efo’r ‘Theatr Freuddwydion’ y penwythnos yma, a hynny yn Theatr Gwynedd, Bangor. Ond dwy ddrama o eiddo Harold Pinter fydd yn cael fy sylw i - ‘Old Times’ gan gwmni'r London Classic Theatre a ‘The Birthday Party’ gan Clwyd Theatr Cymru sydd i’w weld yn y Wyddgrug tan yr 20fed o Fai, cyn mynd ar daith.
Subscribe to:
Posts (Atom)