Y Cymro 24/07/15
Tybed faint ohonoch sy’n cofio John Ogwen a
Maureen Rhys yn portreadu’r gŵr a’r wraig wrthryfelgar yng nghyfieithiad
Gwenlyn Parry o ddrama Ted Whitehead, ‘Alpha Beta’? Yn y Royal Court ym 1972 y
llwyfannwyd y gwreiddiol dadleuol a phrin iawn iawn bu’r cynyrchiadau ohoni
wedi hynny. Diolch byth am y perl o theatr fechan y Finborough sy’n enwog am
ail-lwyfannu’r clasuron coll yma, sy’n llyfrgell werthfawr o lenyddiaeth y
llwyfan.
Hawlfraint Archifdy Gwynedd / Theatr Cymru |
Frank a Norma Elliot yw’r cwpl priod sy’n amlwg
yn cael anhawster mawr i fyw gyda’i gilydd ac wedyn ar wahan. ‘Cignoeth’ a
‘chreulon’ oedd yn poenydio fy sylw drwy gydol y tair act, wrth i’r ddrama
geisio adlewyrchu onestrwydd neu ffug barchusrwydd y briodas draddodiadol.
Wrth gamu dros drothwy’r theatr 60 sedd sy’n hen
gyfarwydd imi bellach, cefais sioc bleserus iawn o weld goruwch ystafell y
dafarn fechan wedi’i weddnewid i fod yn fflat foethus, fodern, wen a chlinigol
Mr a Mrs Elliot. Roedd hi’n amlwg fod cynhyrchiad Purni Morell am ein gwahodd i
ganol bywyd a gwrthdaro’r ddau. Cawsom ein hannog i eistedd ble y mynnem, a’r
dewis helaeth yn cynnwys soffa foethus lwyd, bwrdd bwyd a chadeiriau modern,
meinciau pren gwladaidd (ffug modern!) neu ar riniog y ffenest lydan. O’n cwmpas roedd amrywiaeth o lampau
cyfoes o bob lliw a llun, a golau naturiol yn ffrydio drwy ffenestri niwlog y
gofod. A bod yn gwbl onest efo chi, faswn i wedi medru mudo’n hawdd iawn i’r hafan
fodern glyd, nepell o fonedd Chelsea!
Pan ddychwel Frank (Christian Roe) adref ar
gychwyn y ddrama, mae’n amlwg o’i osgo a’i ymddygiad bod coelcerth o dân gwyllt
yn mudlosgi oddi mewn. Felly hefyd gyda’i wraig Norma (Tracy Ifeachor) sydd
wrthi’n brysur yn gwyngalchu’r muriau’r ‘cartref’. Dro ar ôl tro, roeddwn yn
gwingo dan orthrwm y gŵr ac yna yn cael fy ngwylltio gan boen meddwl y wraig.
Carchar o gariad creulon sy’n bwlio’r
gynulleidfa i ochri gyda’r naill neu’r llall, dro ar ôl tro.
Er nad oeddwn wedi camu i run theatr (nac yn wir
wedi gadael y groth!) pan lwyfannwyd y gwreiddiol, mae’r ddrama’n parhau i fod
yn astudiaeth greulon (neu rhy onest efallai?) o’r stad briodasol. Yr
hunanoldeb materol o fethu byw arwahan, (morgais, plant, cartref a char) ac
eto'r angen ysbrydol a chorfforol am ryddid rhywiol, llonyddwch ac asbri
hwyl! Deunydd deugain mlynedd oed sy’n dal yn gyfoes yn yr oes hon o ysgariad
neu’r ‘open relationships’ bondigrybwyll sy’n bla ymysg cyplau ifanc, wedi’u
dal yn y Wê o ddewis dyddiol.
Diddorol oedd darllen am brofiad John Ogwen yn
Aberystwyth gyda’r ddrama ”…o’r dechrau teimlai’r ddau ohonom (a thrafodwyd hyn
yn ystod yr egwyl gyntaf) fod y gynulleidfa’n ochri gormod gyda’r gŵr ffraeth
miniog ei dafod, a rhywsut ddim eisiau gweld safbwynt y wraig. O ddechrau’r ail
act, gan ddefnyddio’r un ddeialog, wrth reswm pawb, rhoddais fwy o gasineb yn y
dweud. Teimlodd y ddau ohonom y gynulleidfa’n dechrau newid a’r syniad yn tyfu
yn eu plith fod bai mawr o’r ddwy ochr am y tor-priodas yn y ddrama”.
Drwy gydol y tair act – sy’n cael ei lifo’n un
cyfanwaith 90 munud yma, cefais fy nhynnu o un ochr i’r llall gan gyfarwyddo ac
actio medrus y cwmni. Ai salwch meddwl y
wraig oedd i’w feio ta brynti’r gŵr? Ai brynti blacmel y wraig sy’n carcharu
rhyddid y gŵr? Cyfoeth o haenau diddiwedd y nionyn, sy’n siŵr o dynnu dagrau.
Gwych iawn.
Yn anffodus, mae’r cynhyrchiad wedi dod i ben
erbyn hyn. Tybed ydi hi’n bryd am ail-lwyfaniad o’r gwreiddiol Gymraeg…? Neu o
leia cael gweld John a Maureen ar lwyfan eto…?!