Y Cymro 26 Mehefin
Roeddwn i wedi bwriadu trafod West End Live yr
wythnos hon, penwythnos rhad ac am ddim ynghanol Llundain, sy’n rhoi blas o rai
o’r dramâu cerdd sydd i’w weld yn y ddinas. Ond, roedd hynny cyn imi weld dwy
ddrama fer neithiwr, yn un o theatrau lleia’r ddinas.
Mamau Aberfan sydd dan sylw yn y ddrama fer ‘The
Revlon Girl’, a hynny rai misoedd wedi’r gyflafan yn Hydref 1966. Er nad oeddwn
i’n byw nac yn bod bryd hynny, fe arhosodd cysgod y ddamwain angheuol dros fy
mhlentyndod. Dros ddeugain mlynedd wedi hynny, cefais gyfle i ymweld â’r pentref
a’i resi o feddau gwyn fud. Fe erys yr
atgof o dawelwch poenus cenhedlaeth goll, efo fi am byth.
Mae’r ddrama o waith y dramodydd o Gymro Neil Anthony Docking yn ymweld
ag un o’r nosweithiau cymdeithasol a drefnwyd gan y mamau, er mwyn ceisio dod i
delerau gyda’u colled. Ar y noson dan sylw, y ferch o gwmni colur Revlon (Avon
heddiw) (Terri Dwyer) sy’n ceisio annog y mamau i guddio’u digalondid dan bowdr
a phaent. Ond buan iawn fe sylweddola nad oes digon o golur yn y byd all guddio
creithiau colli plentyn, ac fe gafwyd atgofion poenus gwahanol iawn gan y
bedair fam Gymreig – Bethan Thomas, Charlotte Gray, Sarah Jayne Hopkins a
Michelle McTernan.
Aros yn y byd cyfoes wnaeth yr ail-ddrama fer,
eto gan yr un awdur, ac wedi’i gyfarwyddo unwaith eto gan ei wraig Maxine
Evans, yn enedigol o Gwm Dulais. ‘Barren’ oedd ei theitl a colli plentyn oedd y
thema, gan y cwmni newydd-anedig October Sixty Six. Llanc ifanc (Will Norris) yn cyfarfod â
seiciatrydd mewn ysbyty meddwl yw crynswth y ddrama, a hynny er mwyn trafod
gwewyr meddwl ei wraig (Ruth Minkley) wedi iddi golli plentyn. Ond fe egyr yr
awr a ddilyna ar un o’r dramâu gorau imi’i weld yn Llundain eleni.
Gonestrwydd poenus y profiad, neu ddyfnder ymchwil
a dealltwriaeth o iselder a cholled oedd yn cydio o’r cychwyn cyntaf, gyda’r
ddwy ddrama. Fe’m gadawyd yn gegrwth a
hollol wag wrth adael y theatr, oherwydd dyfnder yr hyn a brofais oddi mewn i
furiau bychan Theatr Tristan Bates, nepell o Covent Garden. Roedd portreadau
pwerus y mamau, a’r ddau riant yn yr ail ddrama fel gwylio tân gwyllt ym mud
losgi cyn ffrwydro’n llanast o flaen eich llygaid. Dwy ddrama ddylai’n sicr o
gael eu haddasu (yn hawdd iawn) i donfeddi radio 4.
Yn gyfeiliant cynnil digonol i’r ddwy drasiedi
mae set syml Elizabeth Smith, goleuo a thrac sain sy’n anwesu pob eiliad, ac
eto’n dangos parch a dealltwriaeth o’r eiliadau dramatig hynny sy’n aros yn y
cof.
Cwmni bychan ar gyflogau a chyllidebau llai yn
dangos yn glir mai angerdd a phrofiadau byw sy’n cyfrif. Oedd, roedd yma
ddiffyg hyder actio gan ambell un, ond fe’m hargyhoeddwyd i’n llwyr gan
ddiffuantrwydd eu portreadau a’r daith emosiynol a rannodd bob un gyda ni’r
gynulleidfa.
Dwy ddrama sy’n haeddu cynulleidfa a’n cymeradwyaeth
cywiraf. Mae ‘The Revlon Girl’ a ‘Barren’ i’w weld heno (26ain o Fehefin) a nos
fory yn unig yn Theatr Tristan Bates.