Total Pageviews

Friday 11 April 2014

Gŵyl Agor Drysau Arad Goch

Y Cymro 11eg Ebrill

Agor Drysau’ oedd bwriad Gŵyl Theatr, bob-yn-ddyflwydd, Arad Goch yn Aberystwyth yr wythnos diwethaf. Ond hawdd fyddai ail-enwi’r ŵyl yn ‘herio stigma’ yn ogystal, gan fod hi’n amlwg iawn, o’r diffyg cefnogaeth a fu, gan rai o brif Sefydliadau Theatr a’r Wasg yng Nghymru, fod angen addysgu ac arweiniad ar sawl un ohonynt.  Er mai darparu adloniant ar gyfer ‘plant ac ieuenctid’ Cymru yw prif nòd cwmnïau fel Arad Goch, Frân Wen, Theatr Iolo ac adain ieuenctid o Clwyd Theatr Cymru (y pedwar gyda llaw yn bresennol gartrefol yn yr ŵyl eleni), mae’r Theatr a brofais i, a sawl un arall, yn well, ac yn gryfach na’r hyn a welsom ar brif lwyfannau Cenedlaethol (a drudfawr) ein gwlad fach, ers tro byd. Agorwyd drws amheuaeth fod gwir weledigaeth a gallu theatrig wedi’i wthio i’r sector unigryw yma. Gair i gall i’r cwmniau prif ffrwd yng Nghymru.


Ond nid dim ond dathlu talent ac arbenigedd y Cymry oedd diben yr ŵyl.  Wedi’r diwrnod cyntaf yn unig, cyhoeddais yn llawn balchder mai dyma ‘Caeredin Ceredigion’, gan fod y bwrlwm a’r brwdfrydedd, y trafod a’r elfen deuluol ryngwladol yn amlwg i bawb. O ddiwyg a thaclusrwydd y trefnu gan staff y nyth gwenyn creadigol Arad Goch, (a’i risiau ar dro diddiwedd yn peri imi ddisgwyl gweld John a Maureen, wrth esgyn i  ben y Tŵr!) i’r posteri lliwgar llachar a’r baneri oedd yn addurno’r dref.  Popeth yn ei le, y croeso a’r paneidiau (diolch i Gaffi Edwina!) a’r balchder haeddiannol yn eu gwaith yn chwa o awyr iach hyderus, fel stormydd ddechrau’r flwyddyn, yn deffro a chwalu gweledigaeth sigledig theatr Cymru, ar hyn o bryd.


55 perfformiad, dros 4 diwrnod, a chynrychiolaeth o 22 gwlad, yn cael ein tywys o ysgol gynradd i uwchradd, o ganolfan gelf i stiwdio, er mwyn profi gwefr theatr, ar ei gorau. Cafwyd derbyniadau a diolchiadau, ymweliadau ac ymateb gan Faer y Dref , yr Aelod Seneddol lleol, Cadeirydd y Cyngor Sir a’r Gweinidog dros Gelfyddyd o’r Cynulliad Cenedlaethol, a phob un yn diolch am frwdfrydedd Jeremey Turner a Mari Rhian Owen, a’u staff am ddarparu’r fath wledd weledol.


Bu cryn drafod yn ogystal, a hynny am y tro cyntaf, a’r ŵyl bellach yn ei hwythfed flwydd, ers ei sefydlu yn 2000. Tair trafodaeth a gafwyd eleni, gan gychwyn ar ddydd pen-blwydd Arad Goch, drwy edrych yn ôl dros y 25 mlynedd a fu, ac sydd i ddod. Cafwyd cyfraniadau a chyd-destun o sawl gwlad gan gynnwys Sweden, Rwsia a De’r Affrig, a siom oedd deall bod yr un stigma yn bodoli yn y gwledydd hynny, yn ogystal. Synnais o glywed bod actorion theatr ‘plant / mewn addysg’ yn derbyn llai o gyflog na’r cwmnïau prif lwyfan, a bod y gagendor rhwng cyllidebau yn grochan o gonsyrn.  


Denu diddordeb bobol ifanc mewn cerddoriaeth a drama oedd yr ail drafodaeth, a hynny dan arweiniad hyderus Yr Athro Thomas Johnson, yn sôn am gynllun arbennig ‘Music Generation’ yn yr Iwerddon, a Mari Rhian Owen (a’i chyfaill Mimi y llygoden) yn cyfleu blynyddoedd o brofiad o allu defnyddio drama, a chymeriadu, er mwyn dysgu iaith a chwalu hualau cymdeithasol. Yr Oes Ddigidol oedd y drafodaeth olaf, gan ofyn y cwestiwn sylfaenol a’i gimig oedd y cyfan, yng nghyd-destun y Theatr?.  


Clywsom farn dau gwmni oedd wedi bod ddigon dewr i arbrofi yn yr ŵyl eleni, drwy geisio gwthio’r ffiniau. Matthew Jones, o Arad Goch, a fu’n gyfrifol am y ddrama-drydar ‘Outsiders’, oedd yn annog y gynulleidfa i yrru negeseuon trydar i’r cymeriadau, yn ystod y ddrama, wrth iddyn nhw siarad â’i gilydd drwy gyfrwng eu ffonau symudol. Poorboy Theatre o’r Alban wedyn,  a gyflwynodd inni fonolog am berthynas dau, o ddwy wlad wahanol, oedd yn cyfathrebu drwy ddefnyddio ‘facetime’ neu neges ffôn, neu luniau digidol, yn cael eu taflunio ar y sgrin tu cefn i’r actor Jeremiah Reynolds.  Yn bresennol yn y gynulleidfa i gyfrannu i’r sgwrs oedd Huw Marshall, ar ran S4C, oedd yn croesawu’r cynnydd yn y defnydd digidol, gan herio’r cwmnïau i fynd yn bellach. Ond roedd yn rhaid imi leisio pryder yn ogystal, gan rybuddio y gallai gor-ddefnyddio neu ddibyniaeth ar y digidol dragwyddol, fod yn hualau i greadigrwydd naturiol y Theatr, ac efallai bod sawl cwmni bellach, gan gynnwys y rhai Cenedlaethol, yn cuddio’u gwendidau creadigol, dan fôr o ddallineb digidol. Ein cysuro wnaeth Jeremy Taylor gan ychwanegu ei fod wedi bod yn dŷst i’r ‘gimigau newydd’ yma sawl gwaith yn y gorffennol, ac fod y Theatr wastad wedi goroesi popeth.

Braf hefyd oedd profi gwaith dau o artistiaid preswyl Arad Goch. Darlleniad o ddrama Eiliot Moleba o Dde’r Affrig, oedd yn sôn am ymdrech un dyn i geisio creu'r ferch ddelfrydol.  Cafodd nifer eu synnu gan natur gignoeth y cynnwys, a chyfaddefodd Jeremy ei fod rhwng dau feddwl ynghylch caniatáu ei chynnwys yn yr ŵyl. Ond diolch iddo a’r actorion, am fod mor ddewr, ac am godi trafodaeth ddifyr am rôl y ferch a phŵer rheolaeth dros rywioldeb a gwleidyddiaeth.  Lea Adams oedd yr ail, artist wrth ei galwedigaeth, a fentrodd i’r llwyfan perfformio gyda’i sioe ‘Ofn’ oedd yn brofiad theatrig llawn dyfnder ar wahanol lefelau, ac a adawodd y gynulleidfa ynghlwm dan wê o wlân, wedi iddi goncro ei hofn o’r pry cop.


Newydd hefyd eleni oedd y ffaith bod Gŵyl Map yn cyd-redeg â’r brif ŵyl, gyda’r bwriad o roi’r cyfle i fyfyrwyr Cymru uno, er mwyn dysgu a chyd greu (yn gelfyddydol!) drwy gyfres o weithdai gydag arbenigwyr fel Dafydd James a Rhian Morgan. Er mai dim ond myfyrwyr Yr ATRiuM, Prifysgol De Cymru, Caerdydd a Phrifysgol Aberystwyth oedd yn bresennol, rhaid imi ddatgan consyrn gwirioneddol na welais fawr ddim o griw Aber, yn ystod yr ŵyl. Sôn am golli cyfle, a fy mhrif neges iddyn nhw (a’u darlithwyr) ydi mai ar y llwyfan mae dysgu am ddrama, nid mewn llyfrgell. Diolch i fyfyrwyr Caerdydd am eu dyfalbarhad a’u diddordeb diflino, a braint oedd cael eu hannerch, ar gychwyn yr wythnos, i sôn am bwysigrwydd bod yn onest, wrth adolygu. Cenadwri sydd yn amlwg wedi’i glywed, gan inni wahodd eu barn, fel cyw adolygwyr, am gynnwys yr ŵyl eleni. Ac felly, dyma agor tudalennau’r Cymro, i’r genhedlaeth nesaf o leisiau deallus, gan ddiolch i Arad Goch am fraenu ac aredig y tir.



No comments: