Y Cymro 18fed Ebrill
Wedi cael hwb o obaith ac agor
drws dychymyg a gweledigaeth led y pen, diolch i ŵyl gofiadwy Arad Goch
ddechrau’r mis, cael fy nharo â’r siom (a’r pryder) mwyaf yr wythnos hon.
Digwydd bwrw golwg ar wefannau ein dwy Theatr Genedlaethol, a chael fy synnu
a’m digalonni gan arweiniad a gweledigaeth dorcalonnus y ddwy.
Fy hen gyfaill anwadal y
Theatr Genedlaethol i gychwyn, sydd fel y gwcw yn dwyn clod a chanmoliaeth o
gartrefi cwmnïau eraill. Wedi lansio eu
‘rhaglen swyddogol’ ddechrau’r flwyddyn, bob tro byddai’n ymweld â’u gwefan,
mae yna ddatblygiad, neu ogwydd arall. Y tro hwn, newyddion am ‘Crëwyd yn Felinfach’
sef cyfnod preswyl o’r 9fed o Ebrill hyd 2il o Fai. Wrth groesawu’r cyfnod
preswyl, bechod na chyhoeddwyd y preswyliad ar gychwyn y flwyddyn, gan fod y
cyfan yn teimlo’n ail-law a munud olaf, erbyn hyn. A beth sydd ar gael yno?
Wel, y gymysgfa fwyaf hen ffasiwn a diflas, sy’n swnio’n fwy fel rhaglen
cymdeithas Capel, na’n Theatr Genedlaethol. ‘Yn ôl i'r 50au -
17 Ebrill, 7:00pm
Neuadd
Bentref Dihewyd
Noson i'r teulu cyfan gyda cherddoriaeth a gwisgoedd o'r 50au!’
neu ‘Noson yng nghwmni Caryl Lewis
24 Ebrill, 8:00pm
Theatr Felinfach.
Dewch i
ymuno ag awdures Y Negesydd bydd yn sôn am ei gyrfa’.
Mwy o
ddwyn wedyn, fel y gwelsom gyda gwaddol Sherman Cymru ar y dechrau, gyda’r enw
anffodus iawn ‘Protest Fudur
11 Ebrill, 8:00pm
Tafarn y Vale of Aeron.
Dewch i ddathlu ysgrifennu newydd dros beint!
16+’ . Mi wyddwn eisoes am waith Sara Lloyd, cyfarwyddwr cyswllt newydd y cwmni, gyda’r mudiad ‘Dirty Protest’ yng
Nghaerdydd, a dim ond gobeithio bod hitha wedi’i phenodi am ei dawn ac nid i
elwa ar waith sydd eisoes wedi’i ddatblygu yn y brifddinas. Pam ddim cynnal noson o ddarlleniadau o’r
gwaith newydd sydd ar y gweill gan y Theatr Genedlaethol? Mi wn fod sawl awdur
wrthi yn datblygu gwaith i’r cwmni. Pam ddim rhoi cyfle iddyn nhw gael rhoi
blas o’u gwaith newydd, yn lle ail bobi gwaith criw Gaerdydd?
Ond y
siom a’r sioc fwyaf oedd y noson yma : ‘Darlleniad o 'Yn Debyg Iawn i Ti a Fi'
a noson yng nghwmni Arwel Gruffydd
25 Ebrill, 7.30pm
Theatr Felinfach
Noson i
ddathlu 10 mlwyddiant Theatr Genedlaethol Cymru’. Fu bron imi dagu ar fy mhaned
wrth weld hwn. Ydi Mr Gruffydd wedi colli’r plot, dwch? Be aflwydd sydd eisiau
mynd am yn ôl, yn lle ymlaen? Mae drama Povey eisoes wedi cael ei pherfformio
gan Bara Caws a’i mwrdro gan ein Theatr Genedlaethol yn yr anghenfil o gynhyrchiad a gafwyd nôl ar gychwyn y cwmni. Cynhyrchiad dwi dal yn ceisio ei
anghofio! Ai dyma’r ffordd gorau i ddathlu penblwydd y cwmni Cenedlaethol yn
ddeg oed? Deffrwch da chi, y Bwrdd Cwsg!
Ddechrau’r
flwyddyn, wrth gyflwyno syniadau i Radio Cymru, fe gynigiais gyd-gynhyrchiad
i’r Theatr Genedlaethol, i ddathlu darlith enwog Hywel Teifi Edwards am yr
wythnos dyngedfennol honno yn hanes y Ddrama Gymraeg, ym mis Mai 1914. Theatr Newydd Caerdydd oedd y lleoliad, a gŵyl ddrama
gan gwmni preswyl a roddodd gychwyn i’r syniadaeth am gwmni Cenedlaethol. Es i
gyn belled â holi argaeledd y Theatr, ac roedd ganddynt sawl dydd yn rhydd, yn
yr union wythnos. Am gyfle gwych meddwn i, i ddathlu 100 mlynedd ers yr ŵyl a 10fed pen-blwydd y cwmni. Ond ni
chefais ateb pellach gan Arwel, oedd fod i drafod yr achlysur efo’r Bwrdd.
Colli cyfle arall, yn fy nhyb i.
Mae’r cwmni yn hysbysebu swyddi newydd yn ogystal. ‘Aelodau Newydd i’r Bwrdd’ a ‘Chynorthwyydd Artistig’
(ac yntau newydd benodi cyfarwyddwr cyswllt!). Synnwn i ddim na welwn ni swydd
y Cyfarwyddwr Artistig yn cael ei hysbysebu yn fuan iawn!
A rhag ichi feddwl mai
‘dadl bersonol’ arall ydi hon, (yn ôl yr Academyddion yn Aberystwyth!) mae’r un
pryder yn cael ei fynegi am National Theatre Wales, yn ogystal. Wedi’u blwyddyn gyntaf anturus, a môr o gynyrchiadau diddorol ym mhob cwr o Gymru, mae’r cwmni
fel tasa nhw wedi colli’i ffordd rhwng môr a mynydd. Cael ein bwydo fesul
cynhyrchiad yda ni bellach, sy’n awgrymu bod y cyfarwyddwr John E McGrath ar
goll, heb fedru cyhoeddi rhaglen lawn.
Mae’r unig ddau gynhyrchiad sydd ar eu gwefan yn coffau digwyddiadau
hanesyddol – ‘Mametz’ yn ddigwyddiad theatrig allanol i goffau’r Rhyfel Mawr, a
‘Llareggub Re-visited’ yn Nhalacharn, yn cofnodi 100 mlwyddiant Dylan Thomas –
cynhyrchiad arall sy’n ymdrin ag ‘Under Milk Wood’, sy’n bla syrffedus dros
Gymru ar hyn o bryd. Wedi gwylio’r fidio byr, sydd i fod i roi blas o’r ‘sioe’ newydd yma gan Marc Rees a Jon Treganna,
mae’n rhaid imi fynegi’n onest bod y cyfan yn edrych yn nawddoglyd o uchel ael,
a diflas tu hwnt.
Felly, pryder yn wir, ac
awgrym cryf fod y cwmni Cymraeg yn mynd am eu hôl a’r cwmni Saesneg ar goll,
tra bod y cwmnïau theatr mewn addysg a phobol ifanc (gyda chanran isel o arian
y ddwy arall) yn llamu ymlaen yn hyderus, tuag at Gaeredin ac yn
Rhyngwladol. Cwmnïau sy’n hollol
gyffyrddus oddi mewn i ofod du y THEATR, a ddim yn cuddio eu gwendidau tu ôl i
dechnoleg neu leoliadau allanol. Cwmnïau sydd â’r ddawn i ddweud stori yn syml,
i fynd â’r gynulleidfa ar daith, i gydio yn ein hemosiynau ac i roi adloniant
penigamp. Tybed ydi’r ddau gwmni arall yn treulio gormod o amser yn
dadansoddi’n wyddonol yn hytrach na’n creu theatr ar lwyfan?
Mae’n amser deffro Gymru fach, ac efallai yn amser
newid, unwaith eto.