Total Pageviews

Friday 1 October 2010

'Krapp's Last Tape'



Y Cymro 01/10/10

Dwy ddrama a dau gynhyrchiad cwbl wahanol yr wythnos hon. O’r Beckett llwm, llonydd ac weithiau’n llawen i gynhyrchiad newydd o’r Clasur cyfoethog a chofiadwy Les Miserables yn y Barbican, sy’n llawn Cymry!

Michael Gambon yw’r enw mawr sy’n denu’r cyhoedd i Theatr y Duchess ar hyn o bryd er mwyn treulio awr yng nghwmni’r hen ŵr ‘Krapp’, sy’n pydru byw ar achlysur ei ben-blwydd yn chwedeg naw, yn bwyta bananas ac yn cofnodi blwyddyn o gofiant ar dâp ar bob pen-blwydd. Monolog o eiddo Beckett yw ‘Krapp’s Last Tape’ sydd wastad yn denu’r enwau mawr i ymgymryd â’r dasg enfawr o’i bortreadu - o Patrick Magee i John Hurt a hyd yn oed Harold Pinter ei hun.

Yn ystod yr orig lonydd a llwm, sy’n cychwyn gyda bron i chwarter awr o dawelwch wrth i ‘Krapp’ ddeffro’n araf, cyn symud o amgylch ei ddesg i chwilio am dâp sain arbennig, cyn dod o hyd i ddwy fanana, a’u bwyta’n gyfan, cawn glywed un o’r tapiau a recordiwyd 30 mlynedd yn gynharach, ar achlysur ei ben-blwydd yn 39 mlwydd oed.

Buan y daw hi’n amlwg i bawb, pam bod y tâp a’r atgof arbennig yma mor bwysig iddo, a thalp helaeth o’r ddrama yn ffrydio o’r peiriant ‘reel to reel’ sy’n cael ei dyrchu o’r llanast yn y llofft gerllaw.

Dyma bortread o fethiant o awdur, sy’n meddwi ar eiriau ac êl, sy’n byw ar fananas ac atgofion blynyddol, sy’n cefnu ar bob awgrym o gariad, ac wedi ymserchu’i fywyd ar gyfer ei ‘opus...magnum’.

Er cystal oedd trydan hudolus Gambon, sy’n llusgo’i hun ar draws y llwyfan, yn cwffio efo’i emosiynau wrth hel atgofion am yr hyn a fu, roedd y cyfan i mi braidd yn ddiflas a di-liw. Er imi fedru deall yn iawn beth oedd byrdwn Beckett, a’r syniad canolog yn un atyniadol, am hen ŵr yn ail-fyw ei fywyd yn flynyddol, doedd yr oedi, y llonyddwch, a’r talpiau helaeth o lais ar dâp ddim yn ddigon i fy niddanu, ac allwn i’m aros i gael dianc allan i liw a llawnder yr Aldwych!

Mae ‘Krapp’s Last Tape’ i’w weld yn y Duchess tan yr 20fed o Dachwedd - mwy o fanylion drwy ymweld â www.nimaxtheatres.com

No comments: