Total Pageviews

Friday 14 August 2009

Haf 2009


14/08/09

Wedi fy absenoldeb yr wythnos diwethaf, orig yr wythnos hon i egluro pam, ac i fodloni’r chwilfrydig ynglŷn â fy ngwaith o ddydd i ddydd yn Llundain! Falle bod rhaid ohonoch yn dychmygu fy mod yn treulio fy nyddiau yn hamddena ar lannau’r Tafwys, cyn suddo i sedd gyfforddus mewn theatr wahanol bob nos! Adegau prin iawn yw’r rheiny erbyn hyn! Dros gyfnod yr haf, mae’r ymweliadau theatr swyddogol yn prinhau, gan fod y “gwaith” yn llenwi pob dydd a nos!

Ers blwyddyn a hanner bellach, dwi’n arwain y tîm cenedlaethol brwdfrydig sy’n cael ei adnabod fel ‘Youth Music Theatre UK’. Dros gyfnod yr haf, mae gennym 17 drama gerdd yn cael ei berfformio ar draws gwlad o fewn 6 wythnos! O’r Ŵyl Ieuenctid Rhyngwladol yn Aberdeen i bellafion gorllewinol Plymouth; o’r Ŵyl ymylol yng Nghaeredin i ehangder llwyfan Stranmillis yn Belfast. Pobol ifanc rhwng 11 ac 21 oed yw’r diddanwyr, a chwmnïau wedi’u dethol o 1,400 o bobl ifanc a ddaeth i wrandawiadau drwy gydol Ionawr a Chwefror eleni. Cyfarwyddwyr, Coreograffwyr a Chynllunwyr blaengar y West End a thu hwnt sy’n hyfforddi, a thechnegwyr medrus y maes yn rhoi graen ar y cyfan.

Mae’r cwmni eisoes wedi perfformio addasiad cyfoes o ‘Peter Pan’ yn yr Alban, yn ogystal â champwaith comig cerddorol Gerry Flanagan o gwmni nodedig ‘Shifting Sands’ sef ‘Fool’s Gold’ yn Plymouth. Gwaith y dramodydd dawnus Marie Jones, sef ‘The Chosen Room’ aeth â hi yn Belfast, tra bod cyfarwyddwr cerdd ‘Riverdance’ a Van Morrison, Mark Dougherty yng ngofal y gerddoriaeth.

Y penwythnos yma, y Gogledd sy’n mynd â hi gyda chynhyrchiad o ‘The Watchers’ yn Bradford a chyfansoddiad unigryw’r cerddor talentog Conor Mitchell sef ‘Eight’ yn ardal y Llynnoedd. Bydd yr Haf yn dod i ben yng nghyffiniau Llundain gyda dwy sioe fwya’r cwmni. Addasiad Howard Goodall a Nick Stimson o waith Shakespeare, ‘A Winter’s Tale’ yn Guildford, a’r cywaith cerddorol o gerddoriaeth James Bourne o’r grŵp ‘Busted’, ‘Loserville - The Musical’, o dan arweiniad cyfarwyddwr cerdd ‘Mamma Mia!’, Martin Lowe.

Yn ogystal â’r uchod, mae’r cwmni hefyd yn darparu 9 cwrs wythnos, sef y ‘Stiwdio’ sy’n dod â chriw at ei gilydd i greu drama gerdd o fewn 5 diwrnod, cyn ei berfformio ar y chweched dydd. Bob un yn unigryw, ac yn trafod pynciau amrywiol o ysbrydion i Aberfan.

Ers blwyddyn bellach, dwi wedi bod yn ceisio hybu’r cwmni yng Nghymru, a braf yw medru gweld ffrwyth y llafur ym mhresenoldeb Steffan Harri Jones o Drefaldwyn fel un o brif gymeriadau ‘A Winter’s Tale’. Yn ymuno â Steffan fel rhan o’r gerddorfa mae Bethan Machado o Gaerdydd, sy’n rhoi dau reswm imi fedru ymddiddan â hwy yn y Gymraeg! Braf hefyd yw medru arddangos y faner Gymraeg a grëwyd ar gyfer y cwmni, er mwyn medru denu rhagor o Gymry i wrandawiadau 2010!

Dwi di pregethu fwy nag unwaith yn y golofn hon dros y blynyddoedd am bwysigrwydd cysylltiadau a’r cyfleoedd i weithio gyda phobol o du hwnt i Gymru. Drwy gyfarfod a dysgu arddulliau gwahanol o lefaru neu symud neu ganu, mae’n agor meddylfryd gwahanol am berfformio, ac mae hynny i’w weld yn amlwg yn y waddol sy’n dilyn. Allwn i ddim bod yn fwy balch na medru clywed canmoliaeth Howard Goodall, a holl dîm cynhyrchu ‘A Winter’s Tale’ wrth glywed llais melfedaidd, profiadol Steffan Harri. Prawf yn wir fod gan y Cymry dalent, a da chi, dowch inni ddangos hynny i’r byd.

No comments: