Total Pageviews

Friday 11 April 2008

'Wedding Day at the Cro-Magnons'


Y Cymro – 11/4/08

‘Wedding Day at the Cro-Magnons’, Theatr Soho, **

Mwya’n y byd o ddramâu dwi’n eu gweld, y mwya’ tebyg i’w gilydd ydi’r cyfan! Mae’n brofiad od. Eistedd yn y theatr, a dechrau amau fy hun... ydw’i wedi gweld y ddrama yma o’r blaen? Pam bod hi mor gyfarwydd? Mae’n fwy o siom, pan fo hynny yn yr un theatr ag y weles i’r ddrama wreiddiol, a hynny gwta flwyddyn ynghynt!

Dwi’n cofio canmol drama gyntaf Hassan Abdulrazzak, ‘Baghdad Wedding’ i’r cymyla. Drama wedi’i osod yn Irac, yn adrodd hanes trasiedi un teulu, ar ddiwrnod priodas y mab. Yng ngeiriau’r ddrama : ‘Yn Irac, tydi priodas ddim yn briodas heb fod gynnau’n cael eu tanio. Fel ym Mhrydain, tydi priodas ddim yn briodas heb i rywun chwydu neu geisio cysgu efo un o’r morynion!’. Mawredd y ddrama oedd portreadu bywyd bob dydd trigolion y ddinas, er gwaetha’r ffrwydradau a’r rhyfela. Cynhyrchiad Cwmni Theatr Soho oedd y ddrama, sef ail-gynhyrchiad i’r arweinydd artistig Lisa Goldman.

A dyma ddod at eu cyd-gynhyrchiad diweddara, sef ‘Wedding Day at the Cro-Magnons’ sef cyfieithiad Shelley Tepperman o waith Wajdi Mouawad. Lebanon yw lleoliad y briodas yma, ac ymunwn â theulu’r briodferch ar fore’r briodas, wrth i bopeth fynd o’i le. Eto, yng ngeiriau’r ddrama, ‘mae 'na brif gwrs sy’n gwrthod marw, priodferch sy’n methu aros yn effro a’r mater bychan bod y priodfab ar goll’. Yr hyn sy’n gneud y ddrama yma’n wahanol yw’r ffaith mai comedi tywyll sydd ma, ac fe gyfarwyddodd Patricia Benecke y gwaith i odro’r eitha’ allan o bob diferyn o gomedi.

Ar gychwyn y ddrama, mae’r fam ffwdanus ‘Nazha’ (Beverley Klein) yn pryderu am safon y bwyd sydd ar gael yn y tŷ ar gyfer y brecwast priodasol tra bod ei mab plentyniadd ‘Neel’ (Mark Field) yn ceisio plicio tatws meddal ar gyfer y wledd. Daw cymydog lleol ‘Souhayla’ (Karina Fernandez) i’w cynorthwyo, ac yn wir i’w hachub, drwy gyfrannu amrywiol brydau i’r wledd. Dim ond llais y briodferch ‘Nelly’ (Celia Meiras) a glywir o’r ystafell molchi gerllaw, gyda’r eglurhad ei bod hi’n syrthio i gysgu ar ddim y dyddiau yma. Dim ond gyda’r ail-adrodd parhaol o’r cwestiynau ‘Pryd da ni’n mynd i Berdawnay?’ ac ‘Ai Dydd Gwener da ni’n mynd i Berdawnay?’ y mae rhywun yn dechrau amau bod rhywbeth mawr yn bod. Wrth i’r tad, ‘Neyif’ (Patrick Driver) gyrraedd, yn llusgo dafad sy’n gwrthod marw ar gyfer y wledd, fe dry’r cyfan yn ffars lwyr, wrth i’r gwaed ddechrau tasgu, yn ei ymdrech i ladd yr anifail.

A bod yn hollol onest, erbyn hyn, roeddwn i wedi dechrau laru, a roedd yna sawl rheswm da iawn dros hynny. Doedd yr actio ddim yn ddigon da i gynnal y ffars roedd y cyfarwyddwr yn ceisio’i greu, a doeddwn innau ddim cweit yn siŵr os mai ffars oedd hon i fod! Roedd yna rywbeth telynegol yn arddull y ddrama, yn enwedig yn yr ail a’r drydedd act wrth i’r teulu eistedd o amgylch y bwrdd yn disgwyl am y priodfab. Adleisiau sicr o ‘Wrth aros Godot’, ond roedd ymddangosiad y briodferch yn ei gwisg-wen a’i diffyg ofn o’r ffrwydradau sy’n drac sain barhaol drwy’r ddrama, yn fy argyhoeddi fod yna dro yng nghynffon y ddrama. Tro fyddai’n codi’r ‘ffars’ roedd y cyfarwyddwr wedi’i greu i dir llawer iawn uwch.

A dyna a gafwyd yn fy nhyb i. Wnâi ddim ymhelaethu rhag chwalu’r ddrama i’r rhai digon dewr i fentro ei gweld! Ond oherwydd y tro, fe ddylai’r ddrama fod wedi’i chyfarwyddo yn hollol wahanol. Roedd angen i’r set fod yn llai naturiolaidd, ac er bod yna olion ffrwydrad yn un o’r muriau, roedd gweddill y fflat moethus yn rhy berffaith. Doedd y trac sain cwbl hollol bwysig yn fy marn i, a’i ffrwydradau penodol parhaol ddim yn ddigon eglur, na dramatig, a’r cyfan yn dod o un ffynhonnell yn hytrach na defnyddio’r ‘stereo’ trawiadol sydd ar gael y dyddiau yma.

Prif wendid y ddrama, yn anffodus i’r awdur, oedd y cynhyrchiad yma ohoni, ac mae hynny’n bechod ac yn golled fawr i gynulleidfaoedd Llundain. Mae’n debyg bod y ddrama wreiddiol o dan ei theitl ‘Journée de noces chez les Cro-Magnons’ a’r cynhyrchiad gwreiddiol o’r cyfieithiad ohoni wedi bod yn llawer mwy llwyddiannus.

Mae’r ‘Wedding Day at the Cro-Magnons’ i’w weld yn Theatr Soho tan Ebrill 19eg. Mwy o wybodaeth ar www.sohotheatre.com

No comments: