Y Cymro – 16/08/13
Mae’r West End ma wedi mynd yn
dwl-Dahl ar hyn o bryd, gyda chymaint o addasiadau gwahanol o waith yr awdur
toreithiog, a anwyd yng Nghaerdydd, Roald Dahl. Wedi llwyddiant (hunan
chwyddedig) y sioe Matilda, sydd bellach wedi agor ar lwyfannau Broadway yn
ogystal, bu hir ddisgwyl a dyfalu sut oedd y cyfarwyddwr enwog Sam Mendes, am
fynd i’r afael ag addasu’r ‘clasur’ ‘Charlie and the Chocolate Factory’ ar
lwyfan enfawr theatr frenhinol yn Drury Lane.
Gyda chyllideb o hyd at £20
miliwn, roedd 'na ddigon o drin a thrafod, a’r disgwyliadau yn uchel iawn am
gynhyrchiad theatrig tu hwnt. Ac wedi
bod yno, ar un o’r pum noson i’r Wasg (sy’n record ynddo’i hun!) mae’n amlwg
iawn ble mae’r holl arian wedi’i wario.
Mae’r stori am ‘Charlie’ (Jack
Costello) sy’n byw gartre’n dlawd gyda’i rieni a’i neiniau a’i deidiau (sy’n
rhannol gaeth yn eu gwely) yn gyfarwydd i bawb, yn sgil sawl addasiad ffilm
enwog o’r stori. Wedi ennill un o bum
tocyn aur prin, mae Charlie, a’i daid ‘Joe’ (Nigel Planer) yn cael ymweld â
ffactri siocled yr unigryw ‘Willy Wonka’ (Douglas Hodge), yng nghwmni ei gyd
enillwyr lliwgar a rhyngwladol.
Oherwydd natur y stori, mae’r act
gyntaf yn eithaf araf deg a llwyd, wrth ddarlunio llymder ei fywyd teuluol, a’i
ddyhead am gael dianc, sy’n cael ei gyfleu yn wych drwy’r gân ‘A letter from
Charlie Bucket’ a’i dric llwyfan slic sy’n ei ddilyn. Roedd yn llawer gwell gen i gynildeb, a
llonyddwch lliwgar yr act hon, na’r ffair ddrudfawr o driciau llwyfan, pypedau,
dawnsfeydd a setiau dros ben ffactri (hynod theatrig) yr ail-act, ddidrugaredd.
Fel gyda gwendid ‘Matilda’ imi, mae’r ail act hon lawer rhy fywiog a phrysur,
wedi’i gorlwytho â phethau da, sy’n gadael rhywun yn teimlo’n sâl o
or-felysder.
Rhaid hefyd canmol cynildeb y Gymraes
Alex Clatworthy, sy’n portreadu mam Charlie,
‘Mrs Bucket’, ynghyd a’i gŵr Jack Shalloo fel y tad. Er bod gofyn i’r
creadigaethau ifanc sy’n ennill y tocynnau fod yn erchyll o afiach, yn ôl diben
Dahl i ddysgu gwers i blant ‘drwg’, roedd naturioldeb cymeriadau’r actorion wedi’i
foddi gan feddylfryd ac ystumiau’r ysgolion dramâu bondigrybwyll sy’n pecynnu’r
perfformwyr ifanc hyn, yn hytrach na meithrin eu doniau unigol.
Digon sâl, a di-nod yw’r caneuon
hefyd, o waith Marc Shaiman a Scott Wittman, y ddeuawd a fu’n gyfrifol am
lwyddiant y ddrama gerdd ‘Hairspray’, fu ar daith yn ddiweddar. Yr unig un sy’n dal y glust yw ‘Pure
Imagination’ sydd wedi’i ddwyn o’r ffilm, ac sy’n cyd-fynd ag un o’r golygfeydd
mwyaf trawiadol y sioe, tua’r diwedd.
Os am sbloets o liw, a chynnwrf
theatrig, neu os am ffoi i fyd doniol a dychymyg gorfelys-sur Dahl, yna mae’n
werth ei weld. Mae beirniaid theatr Llundain, fel finna, wedi eu rhwygo gan eu
barn. Rhai’n mynnu rhoi pum seren i’r sioe, ac eraill namyn dwy neu dair. Mae un peth yn sicr, bydd hi’n siŵr o letya
ar Drury Lane am flwyddyn neu ddwy, nes bydd y siocled wedi toddi a’r siwgr
wedi suro.
Mae ‘Charlie and the Chocolate Factory’ i’w weld yn Theatr Drury Lane.