Total Pageviews

Friday, 29 April 2011

'The Passion'






Y Cymro – 29/04/11

Rhyw basio heibio, neu drosto (diolch i’r M4) fu fy unig gysylltiad â Phorth Talbot cyn y Pasg yma. Tref â naws negyddol neu ddirmygus oedd hi, yn sgil y Newyddion neu’r ystadegau truenus, a môr o goncrit yr M4 yn gorfodi pawb i fynd heibio o’r ochor arall. Ond diolch i un o feibion y dref, yr actor o Hollywood Michael Sheen, cwmni theatr Wildworks a National Theatre Wales, fydd gen i (a miloedd eraill) angerdd ac atgofion melys iawn am y dref unigryw hon am weddill fy oes.

‘The Passion’ oedd trydydd cynhyrchiad ar ddeg National Theatre Wales, sy’n cloi blwyddyn gyntaf hynod o lwyddiannus yr arweinydd artistig John McGrath. Dyma flwyddyn sydd wedi cyffwrdd pob cornel o Gymru; sydd wedi mynd â’r Theatr gorau posib at y bobol; sydd wedi cydweithio a grwpiau cymunedol a chwmnïau bach a mawr drwy’r wlad, ac sydd wedi tanio’r gobaith am ddyfodol tanbaid y Theatr yng Nghymru.

Cynhyrchiad 72awr oedd ‘The Passion’, gan gychwyn yn swyddogol am dri ar bnawn Gwener y Groglith, gan orffen yn hwyr ar Sul y Pasg. Hanes oriau olaf yr Iesu oedd wrth wraidd y cyfan, ond diolch i syniad a sgript farddonol y bardd Owen Sheers, fe blethwyd stori gywrain, llawn haenau a hanes lleol drwy’r cyfan, nes troi’r digwyddiad theatrig hwn yn llawer mwy na darn o theatr.

Roedd yr hadau wedi’u plannu’n ofalus cyn bod yr un aelod o’r gynulleidfa wedi cyrraedd, diolch i’r ddwy flynedd o gynllunio a chydweithrediad dros fil o’r gymuned leol. Gyda’r dref wedi’i threchu gan luoedd arfog y cwmni busnes ICU, oedd â’u bryd ar gael gwared â’i thrigolion er mwyn hawlio’r mwynau oedd yn drysor odditani , roedd dirfawr angen am Rywun i’w Hachub. Deugain dydd a deugain nos cyn cychwyn ein stori, diflannodd athro lleol (Michael Sheen) gan adael ei fam (Di Botcher) a’i frodyr (Rhys Matthews a Kyle Rees)i grwydro’r dref yn ddyddiol i chwilio amdano. Roedd posteri yn bla ar ffenestri’r siopau ac adroddiadau ar y newyddion lleol.

A minnau newydd ddeffro yn Llundain am chwech fore Gwener (er mwyn cychwyn am Gymru i ddal y dechrau am dri) roeddwn i’n gandryll ac ar goll yn llwyr o weld, drwy gyfrwng y Gair (Twitter) fod y cyfan eisoes wedi cychwyn ar draeth Aberafan y bore hwnnw, gyda dychweliad ‘Yr Athro’ a gafodd ei weld yn cael ei drochi yn y môr gan y ‘Dieithryn’ (Nigel Barrett). Y dieithryn a ddaeth yn ei dro i fod yn Ioan Fedyddiwr, a ddilynodd pob cam o’r daith hyd y diwedd un. Wedi myllio braidd am imi golli’r cychwyn, cefais wybod yn fuan iawn mai tridiau felly yr oedd hi am fod. Roedd sawl golygfa annisgwyl arall wedi’u trefnu, ac felly roedd gofyn bod ar flaena’ nhraed, os am gael profi’r cynhyrchiad yn ei llawn ogoniant.

Ymunais â’r chwe mil eraill oedd wedi’u casglu ar y traeth am dri, yn gymysg o gorau lleol, o gamerâu ffilm a theledu, o gerddorfeydd a diddanwyr lu, oedd wedi’i hymgasglu mewn cylch ar y traeth. Aros am gyrhaeddiad y ‘gŵr busnes’ (Hywel Simons) sef pennaeth y cwmni ICU oedd y bwriad, a’r seremoni groesawu yn cael ei ymarfer yn drylwyr o dan oruchwyliaeth y Maer a’r pwysigion lleol. I gyfeiliant 12 cwch o filwyr arfog y cyrhaeddodd y ‘gŵr busnes’ lannau’r traeth, gan eu hannerch, a chyfeirio at y cyfoeth oedd eisoes wedi dod i’r dref yn sgil codi’r draffordd sef y ‘passover’, ac y byddai llawer mwy o dda yn dod i’w rhan yn fuan iawn. (Cafodd ei wir fwriad sef i ddifa’r holl dref, mo’i ddadlennu tan yn hwyrach yn y dydd, pan ddangoswyd sgwrs gyfrinachol â’r Maer, yn ddamweiniol o flaen y dyrfa). Ynghanol y dathlu, mae un o’r gwrthwynebwyr lleol ‘Joanne’ (Francine Morgan) yn agor ei chot i ddadlennu ffrwydradau ar hyd ei chorff, ac yn bygwth hunanladdiad dros yr achos.
Dyma yw’r allwedd sy’n dod â’r ‘Athro’ i lygaid y dyrfa am y tro cyntaf, wrth iddo lwyddo i’w hachub, gan ennill ei ddilynwr a’i ddisgybl cyntaf sy’n ymuno ag Ef ar y daith. (Joanne gyda llaw a ddaeth i fod yn Jiwdas yn y Swper Olaf).

Dyna oedd diwedd yr olygfa swyddogol gyntaf, gyda’r ail (yn ôl y rhaglen) ddim tan saith ar sgwâr y dref. Roedd y siom o golli’r bore wedi fy rhybuddio, ac felly fe ddewisais i, a chwta hanner cant arall, i ddilyn yr ‘Athro’ a Joanne ar hyd y traeth, a diolch byth mod i wedi! Buan, y daethom at bysgotwr lleol a ddaeth i’w adnabod fel ‘Peter’ (David Rees Talbot). Ymunodd Pedr â’r daith, a buan roeddem yn cerdded ar hyd yr afon, draw am y dref. Dwy awr a hanner o daith dalltwch! Roedd yr Athro yn aros bob hyn a hyn, er mwyn ein haddysgu am yr ardal leol, cyn oedi ger yr afon am bicnic. ‘Faint ohonoch chi sy’ ma?’, meddai’r Sheen yn gellweirus, ‘...tua pum mil ia?!’. Ac fe borthodd y pumdeg ohonom ar chwe brechdan ham, paced o greision ac oren! All geiriau fyth ddisgrifio fath brofiad.

Erbyn saith yr hwyr, roedd y dyrfa wedi ymgasglu unwaith yn rhagor ger Neuadd y Dref ar gyfer Anerchiad swyddogol y gŵr busnes, ac yma eto roedd y gwrthwynebwyr yn gweiddi’n groch yn ei erbyn. Cododd un ferch leol ar ben y wal i’w herio, cyn cael ei saethu’n farw gan un o’r milwyr. Roedd y cyfan mor ddramatig chyffrous, a’r ias oer yn rhedeg i lawr y cefn o weld wyneb yr Athro, unwaith eto ar y sgrin, yn cludo corff y ferch ifanc ymaith. Roedd yr amwysedd a’r dirgelwch ynglŷn â’r Athro yn cynyddu, a buan iawn y gwelsom ni’r perygl a’r genfigen yn llygaid penaethiaid ICU, wrth i’r dorf gael eu swyno ganddo.

Ar ddiwedd y Nos Wener, roeddwn i’n dyheu am weld mwy, ac yn amheus os oedd mwy i’w weld ai peidio. Gwelais oleuadau yn fflachio ar y mynydd, gan feddwl mai paratoi ar gyfer y dydd i ddod yr oeddent. Dalld bore wedyn fod yr Athro a’i ddisgyblion wedi treulio’r nos ar y mynydd, draw o lygaid y cyhoedd, wrth i’r ddrama bersonol a chorfforol barhau i Michael Sheen.

Roedd y Sadwrn hefyd yn llawn cyffro ac emosiwn, wrth i fwy o stori’r dref gael ei ddadlennu mewn dwy olygfa wirioneddol wefreiddiol. Y cyntaf yn y fynwent wrth ddilyn dau frawd (Matthew Aubrey a John-Paul Macleod) meibion Sebedeus, oedd yn chwilio’n ddyfal am eu mam, ynghanol y meirw byw. Roedd y fynwent yn llawn o gyrff byw, bob un yn fud, gan syllu ar y ddau fab yn rhuthro’n orffwyll o’r fynwent i’w cuddfan o dan y ‘passover’ concrid. Roedd y muriau wedi’i gorchuddio ag enwau mewn sialc, enwau bedydd o bob oes, yn gymysg o’r Gymraeg a’r Beiblaidd, a sawl un wedi’i chroesi allan, fel petai’r ddau yn cadw cyfrif dros feirw’r dref. Dyma ddau o’r digartref, wedi’u hel o’u tai, yn sgil codi’r draffordd. Yr un oedd neges yr ail olygfa, a geiriau Waldo yn atseinio yn fy nghlust. Traffordd lle bu teuluoedd a thai, a choncrid lle fu cymdogaeth. Roedd y neges yn glir, ac ergydion lleol tuag at dranc y Porth yn sgil yr M4 yn boenus o fyw. Roedd yr olygfa ger Stryd Llewellyn yn drasig o drist wrth i hen ŵr hel atgofion am y strydoedd a’r teuluoedd a gofiodd wrth edrych allan drwy ffenest ei lofft. Ffenest oedd bellach yn wynebu’r hunllef o bileri concrid. Fesul un, fe ddychwelodd y teuluoedd, oll yn ei gynnau gwynion, ac roedd adlais hyfryd o Dan y Wenallt yn eu mynegiant.

Dod i achub y tri wnaeth yr Athro eto, gan eu hannog (ynghyd â’r gymuned gyfan) i anwesu’i hatgofion gan ddod i’w ddilyn. Ymlaen aeth y ddrama yn ôl i’r Ganolfan siopa oedd bellach dan ei sang. Gwadu adnabod ei fam yn gyhoeddus, oedd y bennod nesaf, a’n bwriodd i’r Swper Olaf yn un o Glybiau Cymdeithasol y dref. Yma eto, gwelsom werth a pharch y cynhyrchiad drwy lwyddo i ddenu enwau mawr fel Iwan Rheon, Paul Potts a’r Manic Street Preachers i ddiddanu’r dorf. Torrodd yr Athro’r frechdan, a’i rannu i’r rhai â’i ddilynodd cyn diolch i bob un am ei addysgu Ef.

Trodd Gesethmane i fod yn stad o dai Abbeyville Court , ble cafwyd golygfa arall hynod o gofiadwy wrth i’r Athro ymddiddan yn ei wewyr â’i Dad; ei ‘dad’ gyda llaw yn trwsio’r to ar dŷ cyfagos, ac yn gofyn i’w fab godi darn o lechen oedd wedi disgyn i’r llawr. Roedd haenau o ystyr ymhob gair ac ystum. “Shame, like I said, to lose a slate...” meddai’r tad wrth ei fab, “...if it saves the whole house, got to be worth it in the long run hasn’t it?”

Cael ei atal a’i arestio wnaeth yr Athro ar y nos Sadwrn, a threulio’r noson mewn cell yn yr Orsaf Heddlu lleol. Fe wyddai’r dyrfa a ddaeth yn eu dillad tywyll mai emosiynol ac ingol fyddai’r golygfeydd ar y Sul. Golygfeydd welodd yr Athro yn cael ei ddedfrydu i’w farwolaeth, a hynny yn cael ei wneud yn gynnil drwy roi’r dewis i ferch ifanc yn y Dorf. Oedd hi am weld colli’i chartref, a’r holl bethau da oedd wedi dod yn sgil y ‘passover’ a’r arian a ddaeth i’r dref? Na, oedd ei hateb deirgwaith, ac felly dyna benderfyniad y Peilat o ddyn busnes wedi’i wneud.

Aethpwyd ag Ef ymaith, ei guro a gosod coron o weiren bigog ar ei ben. Llusgwyd Ef drwy’r dref a’i Groes, nes iddo ddisgyn yn waedlyd ar y llawr. Cludwyd Ef i’r Ganolfan Siopa ble y cawsom weld ei fam yn golchi ei glwyfau i gyfeiliant telynau a chôr lleol.

Roedd yr awyrgylch a’r emosiwn ar strydoedd y Porth, wrth i’r deuddeg mil o dystion wylio Sheen yn llusgo’r Groes am dair milltir o ganol y dre i’r traeth yn wefreiddiol. Roedd y dyrfa yn fud (ar wahân i ambell i feddwyn a’i seidr a’r sigaréts) a’r dagrau ar wyneb yr hen a’r ifanc yn adrodd cyfrolau. Cydiodd sawl un yn dynn mewn lluniau a’u hatgofion o’r dref, fel pe baent am godi allor o atgofion wrth droed y Groes. Yn crogi o’r lampau stryd ar hyd y promenad roedd siwtiau tywyll, yn iasol o effeithiol o dan y neon, ac yn erbyn y nos. Codwyd y Groes, a’r Athro’n gruddfan arni, i gyfeiliant ‘Dafydd y Garreg Wen’ a’i eiriau olaf yn atsain o is-neges y cyfan “I remember...” y crefodd, “...Beach Hill, The Trafalgar Ball... The Majestic... Egan’s...Bernies... The Starlight Club...” a gyda phob enw marw, anghofiedig, cafwyd bonllef o gytuno gan y dyrfa. Bob un yn iasol o ddirdynnol, a dynnodd ddagrau i lygaid y caletaf, wrth i luniau a ffilm o’r dref a fu, gael ei daflunio ar ffynnon o ddŵr a gododd fel mur y tu cefn iddo.

Dyma fwy na chynhyrchiad theatr. Dyma gynhyrchiad a digwyddiad y bydd sôn amdani am flynyddoedd i ddod. Yn addysgiadol ac yn llawn adloniant. Profodd pobol y Porth rywbeth arbennig iawn dros y Pasg. Braint oedd cael bod yno i’w rannu. Diwedd bythgofiadwy i flwyddyn gyntaf National Theatre Wales, sy’n sicr wedi gneud eu marc, mewn mwy nag un ffordd, ar bobol Cymru a thu hwnt. Un gair. Gwych.

Bydd rhaglen yr ail flwyddyn yn cael ei gyhoeddi ddiwedd Mai.

Friday, 8 April 2011

‘The 25th Annual Putnam County Spelling Bee’





Y Cymro – 8/4/11

Myfyriwr yn y swyddfa ‘cw soniodd gyntaf am y ddrama gerdd ‘The 25th Annual Putnam County Spelling Bee’, pan gyhoeddodd y Donmar Warehouse eu bod am lwyfannu cynhyrchiad o’r ddrama gerdd o gomedi gan William Finn a Rachel Sheinkin. Chlywais i erioed amdani cyn hynny, ac yn wir doedd y teitl ddim yn apelio nac yn swnio fel drama gerdd! A bod yn hollol onest, doeddwn i ddim yn dalld y teitl hyd yn oed, ac wrth gamu mewn i’r Donmar ar gyfer eu perfformiad olaf ond un pnawn Sadwrn diwethaf, doeddwn i fawr callach!

Gweddnewidiwyd gofod unigryw’r Donmar i fod yn Gampfa mewn Ysgol Uwchradd, yn swydd Putnam yn yr Amerig. Fel y gallwch fentro, roedd popeth dros ben llestri yn las a melyn, yn fflagiau a baneri, yn fyrddau a chadeiriau, yn farciau ar y lloriau a nyth pêl rwyd yn crogi uwchben y cyfan. A minnau fel arfer yn hwyr, (diolch i dwristiaid Sadwrn y ddinas a chynlluniau cwbl hurt Trafnidiaeth Llundain i adnewyddu’r twneli tanddaearol ar ddiwrnod prysura’r wythnos!) dyma gyrraedd fy sedd i ganfod rhai o’r actorion eisoes ymhlith y gynulleidfa ac ar y llwyfan. Ein croesawu a’n cyfarch oedd eu bwriad, ac o’n blaen roedd chwe myfyriwr, ynghyd a lodes benfelyn hynod o drawiadol, yn ein hannog i eistedd ar gyfer y gystadleuaeth sillafu enwog.

A dyna a gafwyd mewn gwirionedd. Awr a hanner o sillafu geiriau gan y chwe myfyriwr, a phedwar dieithryn o’n gynulleidfa, gydag ambell i gân a dawns rhwng bob un. Roedd y comedi yn deillio o ystyr y geiriau, gan fod pob myfyriwr yn cael ymgeisio am ‘ystyr’ a ‘defnydd mewn brawddeg’ o bob cais. ‘Douglas Panch’ (Steve Pemberton) yw Meistr y Geiriau , a gallu comediol Pemberton yn taro deuddeg tro ar ôl tro. Felly hefyd gyda’i gydymaith, y flonden ‘Rona Lisa Peretti’ ( Katherine Kingsley) a lwyddodd i amenio neu adlibio i’w gynorthwyo.

Wedi codi’r pedwar o’r gynulleidfa, y dasg gyntaf oedd cael eu gwared, a gymerodd 45 munud, drwy geisio’u gorau i roi geiriau cwbl annerbyniol ac anodd iddynt. Wedi llwyddo i’w colli, canolbwyntiwyd ar y chwe chymeriad, pob un a’i ddull unigryw ei hun o sillafu’r geiriau. Yn eu mysg roedd ‘Olive Ostrovsky’ (Hayley Gallivan ) y ferch unig, sy’n methu ei mam sy’n teithio’r India, ac sy’n methu talu’r tâl cystadlu; ‘Leaf Coneybear’ (Chris Carswell ) sy’n derbyn negeseuon cudd ynglŷn â’r sillafu; y lwmp o swnyn ‘William Barfée’(David Fynn) sy’n cael ei arwain gan ei droed sy’n sillafu’r geiriau o’i flaen a’r breuddwydiwr a’r merchetwr ‘Chip Tolentino’ (Harry Hepple ) sy’n cael ei hun mewn tipyn o stad! Yn cadw trefn ar y cyfan, wedi’i wisgo fel gwenynen yn eu ddu a’i felyn y mae ‘Mitch Mahoney’ (Ako Mitchell) croenddu, sy’n arwain y collwyr oddi ar y llwyfan ar ddiwedd pob gornest.

Tindroi a theneuo wnaeth y stori erbyn hanner ffordd, ac er bod y cwmni wedi llwyddo i ddenu a dal sylw’r gynulleidfa, a’n gwahodd i ymuno yn yr hwyl (gan gynnwys tyngu llw ar y cychwyn!) fe gollwyd llawer ohonom ar y daith. Erbyn y diwedd, ble roedd gwir angen y dathlu a’r gefnogaeth gynulleidfaol, roedd pawb yn dawel, bron yn cysgu!

Mae’r ddrama gerdd yn perthyn yn agos i afiaith a synidadaeth ‘Spring Awakening’ , gyda’i ieuenctid garw, y dawnsio gwyllt a’r meicroffonau mewn llaw. Er imi hoffi’r syniad craidd, byddai deugain munud wedi bod yn fwy na digon. Undonog oedd y patrwm wedi hynny, gyda’r unig hiwmor yn codi o’r geiriau, ac ambell i gyfeiriadaeth wleidyddol gyfoes.

Dwi’n falch mod i wedi profi’r wefr o’i weld, a falle mod i rhy hen i ryw hurtni fel hyn, ond yn anffodus cytuno gyda dwy seren Michael Billington yn y Guardian fuo rhaid i minnau y tro hwn.

Friday, 1 April 2011

Un Nos Ola Leuad





Y Cymro 01/4/11

Taro wyth yn hytrach na deuddeg wnaeth addasiad diweddara Theatr Bara Caws o nofel Fawr Caradog Prichard, ‘Un Nos Ola Leuad’. “Da ni wedi gwerthu pob tocyn ym mhob canolfan drwy Gymru gyfan ers y noson gyntaf ym Methesda cofia”, meddai Linda Brown, gweinyddydd y cwmni. “Yn fy 28 mlynedd o weithio hefo Bara Caws - dwi erioed wedi gweld hyn 'di digwydd o'r blaen,” ychwanegodd.

Ac MAE hynny yn galondid mawr iawn imi ac i’r Ddrama Gymraeg, sydd yn sicr yn profi rhyw Ddadeni cyffrous ar hyn o bryd. Fu gen i barch mawr tuag at Bara Caws ers blynyddoedd bellach, ac atgofion plentyndod am eu teithiau di-ri i bob cornel o Gymru, gan gynnwys Y Ganolfan yn Nolwyddelan ble y gwelais gynyrchiadau a ysgogodd fy niddordeb sicr ym Myd y Ddrama. Dwi di sôn sawl tro am eu cyfraniad safonol, cyson o’r digri a’r difrif dros y blynyddoedd, a does gen i ddim amheuaeth y byddai sawl cornel o Gymru yn dlawd iawn eu hadloniant celfyddydol, heb ymweliad chwarterol a’u dogn o’r Bara (Caws) beunyddiol!

Ym 1961, y cyhoeddwyd y nofel , ac felly priodol oedd nodi’r dathliad, trwy lwyfannu addasiad Betsan Llwyd (cyfarwyddwr y sioe bresennol) o addasiad John Ogwen a Maureen Rhys o’r nofel, ar gyfer un o deithiau olaf Cwmni Theatr Cymru, nôl ym 1981. Cafwyd dathliad arall o’r gwaith ym 1991, pan aeth Cwmni Gaucho ati i addasu’r nofel yn ffilm, gyda Betsan Llwyd yn portreadu’r fam a Dyfan Roberts yn y brif ran.

Mae’r stori ddirdynnol yn wybyddus i bawb. Hanes ‘Y Dyn’ (Rhys Richards) sy’n dychwelyd i’w ardal enedigol, ar noson ola leuad, wrth i atgofion o’i blentyndod lifo’n ôl i’w boenydio. Wrth iddo gofio’i hynt ai helynt pan yn blentyn (Sion Trystan), mae’n cofio hefyd am y llu o gymeriadau lliwgar a fu’n rhan annatod o’i fagwraeth a’i fro. Cymeriadau sy’n cael eu darlunio’n ddramatig a llwyddiannus ar y cyfan gan yr ensemble sef Arwyn Jones, Rhodri Siôn a Manon Wilkinson. Ond daw’r boen fwyaf a’r euogrwydd o gofio gwallgofrwydd ei fam (Carys Gwilym), sy’n awgrymu’n gryf ei fod yntau hefyd bellach yn diodde’r un penyd, yng ngolau’r lleuad llawn.

Gwendid mwyaf y cynhyrchiad hwn imi, ydi gogoniant Bara Caws. Mae hi’n nofel rhy fawr o lawer i’w gwasgu i lwyfan mor fach. Mae angen pellter, ehangder a dyfnder yma i gyfleu’r gwallgofrwydd a’r unigrwydd sydd o dan haenau trwchus o hiwmor a thristwch. Fe ddylai’r cyfan fod ar gynfas llawer mwy, sy’n caniatáu i’r goleuo ( a ddylai dderbyn y flaenoriaeth oherwydd pwysigrwydd y nos a’r lleuad) i yrru ias oer i lawr y cefn. Rhyw faglu dros ei gilydd wnaeth y chwe actor, ar y llwyfan caeth o lechi llwyd ac ambell i focs symudol. Roedd presenoldeb cyson ‘Y Dyn’ ar y lefel uchaf, yn y cefndir, yn gelfyddydol gywir, ond oherwydd cyfyngderau’r set, yn caethiwo Rhys Richards ar sawl lefel.

Os am lwyfannu addasiad o’r maint hwn, yna dylid cwtogi’r cwmni i ddau actor yn unig, a lleihau’r set a’r dodrefn, gan adael dim ond Y fam a’r mab, fel dwi’n amau oedd yng nghynhyrchiad gwreiddiol John Ogwen nol ym 1981. Byddai hynny wedi bod yn dipyn mwy o sialens i’r cwmni.

Roedd hiwmor yr addasiad yn gweithio’n llawer gwell na difrifoldeb y ffilm ym 1991. Cafwyd sawl golygfa hynod o gofiadwy fel y ffeit a’r miri efo’r organ yn yr Eglwys a weithiodd yn dda. Felly hefyd gyda’r myrdd o ymweliadau a chameos gan y cymeriadau lliwgar, drwy gydol y stori. Y gwendid imi, dro ar ôl tro, oedd bod rhuthr yr addasiad neu’r cyfarwyddo, yn peri i’r golygfeydd gael eu gollwng ar ddiwedd y gair yn hytrach na’r emosiwn. Y ddwy enghraifft am trawodd fwyaf oedd yr olygfa enwog wrth i’r mab ffarwelio a’i fam, wedi mynd â hi i’r Seilam. Falle bod y geiriau ar y ddalen wedi dod i ben, ond byddai cynnal yr edrychiad, yr emosiwn, yr euogrwydd a’r boen wedi gallu bod yn llawer cryfach. Felly hefyd gyda’r diweddglo a’n gadawodd yn swrth, yn ddifflach ac yn crefu am fwy.

Llwyddodd Rhys Richards, ar y cyfan, o fewn cyfyngderau’r set, i gyfleu’r dyn diarth yn dda iawn, er nad oeddwn yn teimlo fod y briodas rhyngddo â’i hunan ifancach ym mhresenoldeb Sion Trystan, mor agos ag y dylai fod. Hiwmor, afiaith a llygaid lliwgar Sion Trystan am trawodd fwyaf am y sioe, oedd yn cwbl gredadwy fel y mab, yn enwedig yn artaith y crio, o golli’i fam. Roedd ‘gwallgofrwydd’ Carys Gwilym hefyd yn gynnil ac yn effeithiol , ond bod gwir angen lle iddi ddianc tu hwnt i’r geiriau mewn mannau.

Caethiwed sioe deithiol oedd pennaf wendid y cynhyrchiad imi. Serch hynny, synnwn i ddim na fydd y rhan helaeth o’r gynulleidfa wedi mwynhau treulio orig yng nghwmni cymeriadau lliwgar Caradog Prichard, ac ail-flasu gogoniant un o nofelau mwya’r iaith Gymraeg.

Mae’r daith yn dod i ben nos yfory. Bydd y cwmni yn ymweld â Rhuthun heno (Ebrill 1af) a Criccieth fory (Ebrill 2il). Mwy am Bara Caws drwy ymweld â www.theatrbaracaws.com