Dwi am gychwyn yr wythnos hon gyda’r newydd trist fod y ddrama gerdd hir ddisgwyliedig ‘Gone With the Wind’ wedi cyhoeddi ei fod yn cau ar Fehefin 14eg a hynny oherwydd y gwerthiant gwael. Tipyn o siom yn bersonol, gan imi wirioneddol fwynhau addfwynder a llwyfaniad syml y gwaith -yn wahanol i Feirniaid eraill y
Ac o sôn am feirniaid, fe ddaeth Eisteddfod yr Urdd arall i ben ar gaeau fferm Gloddaeth Isaf, Bae Penrhyn, ac ysgolion o blant a phobl ifanc yn gorfoleddu neu’n gegrwth am gael y wobr gyntaf neu am gael cam! Un o uchafbwyntiau’r wythnos imi oedd gweld Aelwyd yr Ynys yn cystadlu ar y detholiad o ddrama gerdd Gymraeg, â’m swynodd yn llwyr. Roedd hyder lleisiol, presenoldeb llwyfan a doniau actio bob aelod o’r cast o safon uchel iawn, a braf gweld Manon Wyn Williams yn hawlio’r brif ran, ar lwyfan y Brifwyl. ‘Llwch yn ein Llygaid’ oedd teitl y ddrama gerdd o waith Rhian Mair, Eleri Richards a Delyth Rees, a hanes y cloddio copr ar Fynydd Parys oedd cefndir y stori. Dwi’n cofio gweld y cynhyrchiad gwreiddiol o’r gwaith yma sawl blwyddyn yn ôl yn Ysgol Bodedern gan Theatr Ieuenctid Môn, ac yna rai blynyddoedd wedi hynny yn Eisteddfod yr Urdd 2004 yng Nghaergybi. Rhyfedd fel mae rhai perfformiadau yn aros yn y cof, a pherfformiad Manon Wyn Williams oedd yr uchafbwynt bryd hynny hefyd. Braf oedd dilyn gyrfa Manon, a’i gweld yn cipio Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn yr Eisteddfod y llynedd.
Siom oedd gweld mai dim Aelwyd yr Ynys oedd yn cystadlu ar rai o’r prif gystadlaethau ar y pnawn Sadwrn. Rhaid gofyn ble oedd yr Ysgolion Uwchradd lleol? Y Creuddyn, Dyffryn Conwy, Glan Clwyd? Siawns nag oes yna ddrama gerdd yn cael ei lwyfannu’n flynyddol yn yr ysgolion – neu hyd yn oed gyfleodd yn y gwersi drama i greu ‘chwarter awr o adloniant’?
A gan i minnau hefyd gael y cyfle i fod yn Feistr Defod y Fedal Ddrama, braint yw cael llongyfarch Huw Alun Foulkes ar ei lwyddiant yn cipio’r Fedal eleni, a hynny ar ei ymgais gyntaf. Gwych iawn. Dwi’n edrych ymlaen i ddarllen ei waith, wedi cael blas ar bortread Stewart Jones a Dyfrig Evans yn ystod y seremoni.