Friday, 30 December 2011
Edrych nol dros 2011...
Y Cymro – 30/12/11
A dyna ni, blwyddyn arall wedi dod i ben, ac wedi rhuthro heibio ddwedwn i. Dwi di colli cownt o sawl sioe dwi wedi’i weld eleni, rhai yn llwyddiannau mawr, eraill yn wan ac yn well anghofio amdanynt. Heb os, un o sioeau mwya’r flwyddyn, y bydd llawer o sôn amdani yn ystod y flwyddyn sydd i ddod fydd ‘Matilda’ sef cynhyrchiad cwmni’r Royal Shakespeare sy’n addasiad o’r nofel i blant gan Roald Dahl.
Wedi cychwyn ei thaith dros yr Haf yn Stratford, bellach mae’r sioe wedi ymgartrefu yn y Cambridge Theatre, nepell o galon Covent Garden yma’n Llundain. Wrth gamu i mewn i’r theatr, mae’n amlwg fod y cwmni yn ffyddiog y bydd y sioe yn ymgartrefu yma am sawl blwyddyn, gan fod y gwario ar y set yn enfawr. Amgylchynir y llwyfan gan gannoedd o lythrennau Scrabble o bob lliw a siâp, wedi’i gosod yn ofalus er mwyn creu geiriau pwrpasol sy’n rhan o’r sioe. Mae’r cyfan yn un sbloets o liw a phrysurdeb, yn union fel cychwyn y ddrama gerdd, sy’n carlamu i’r llwyfan fel oen cynta’r gwanwyn, yn llawn asbri a balchder.
Hanes un ferch ifanc ‘Matilda’ (Eleanor Worthington Cox ) yw calon y stori, sy’n beniog, yn wybodus ac yn cael ei thrin yn warthus gan ei rhieni afiach (Josie Walker a Paul Kaye ) . Tydi petha’n gwella dim yn yr ysgol, wrth iddi ddod wyneb yn wyneb â rhagor o gymeriadau tywyll a dros ben llestri Dahl fel y brifathrawes ‘Miss Agatha Trunchbull’ (Bertie Carvel) sy’n casáu plant, ac felly’n eu trin yn warthus o fewn muriau caeth y carchar o ysgol.
Er cystal ydi’r lliw a’r llawenydd, a cherddoriaeth a geiriau doniol y comedïwr Tim Minchin, roedd y cyfan dros ben llestri imi, a’r sain yn llawer rhy uchel, nes peri imi gael cur yn fy mhen erbyn yr egwyl. Falle fy mod i’n eistedd yn rhy agos at flaen y llwyfan i lawn werthfawrogi’r sbloets enfawr, ond allwn i’n gwadu nad oes yma sioe hynod o lwyddiannus, fydd yn aros yn y West End am sawl blwyddyn i ddod.
Dwy sioe arall am plesiodd yn fawr, ac sy’n dilyn ôl troed ‘Matilda’ i’r West End yn 2012 yw ‘Sweeney Todd’ a ‘Singing in the Rain’ - y ddwy wedi cychwyn eu taith yn theatr boblogaidd gŵyl Chichester dros yr Haf. Clod mawr iddyn nhw. Ffarwelio’n ddagreuol wnes i a dwy ddrama gerdd hyfryd arall - dwy ddrama gerdd Brydeinig, newydd ond, am ba reswm bynnag, a fethodd i ddenu’r tyrfaoedd mawr sef ‘Betty Blue Eyes’ a ‘Love Story’. Llanw a thrai’r llwyfannau mawr, ac sy’n destun trafod diddiwedd yma yn Llundain ynglŷn â’r cynhwysion angenrheidiol i sicrhau llwyddiant dros amser.
Parhau i’m denu yn ôl i Gymru wnaeth National Theatre Wales, a’u cynhyrchiad o ‘The Passion’ dros y Pasg un o fy uchafbwyntiau pendant dros y flwyddyn a fu, felly hefyd ‘The Dark Philosophers’ a welais yng Nghaeredin. Edrych ymlaen yn eiddgar at weddill eu rhaglen liwgar, dros y flwyddyn sydd i ddod.
Bu mynych ymweliadau â Sheffield yn ogystal, i gefnogi a chael fy ngwefreiddio gan gynyrchiadau Daniel Evans. O’r sioe liwgar ‘Me and My Girl’ y Nadolig diwethaf i ‘Company’ eleni, o ‘Racing Demon’ ac ‘Othello’ i ddyfnder pwerus a dirdynnol ‘The Pride’. Gwych iawn, a’r tocynnau trên ar gyfer 2012, eisoes wedi’u harchebu.
Dramau newydd wedyn, fel ‘The Kitchen Sink’, ‘Salt, Root and Roe’ a ‘Bea’ am plesiodd yn fawr, a mawredd cynyrchiadau fel ‘Frankenstein’ yn y National Theatre, a’m gadawodd yn gegrwth.
Yn 2011, y cefais wefr am y tro cyntaf yng ngwaith Shakespeare, gan ddechrau gweld pam bod cymaint o bobl wedi gwirioni arno dros y blynyddoedd : o’r ‘Richard III’ yn yr Old Vic i ‘Richard II’ yn y Donmar, ill dau yn wefreiddiol, diolch i berfformiadau caboledig y prif actorion.
A gorffen gyda gobaith mawr 2012, y gwelwn ni gychwyn urddasol o’r diwedd i dymor newydd Arwel Gruffydd a’n Theatr Genedlaethol. Falle y bydd yn rhaid aros tan fis Awst cyn y gwelwn ni’r prif gynhyrchiad yn eu haddasiad o ‘Y Storm’ gan Shakespeare, heb anghofio ‘Sgint’ yn y Gwanwyn.
Edrych ymlaen yn eiddgar felly am flwyddyn arall o liw a llawenydd ar lwyfannau Cymru, Llundain a thu hwnt. Blwyddyn Newydd Dda ichwi oll!
Friday, 16 December 2011
'Company'
Y Cymro – 16/12/11
Ddim yn aml y byddai’n gadael y theatr yn ddagreuol, neu hyd yn oed yn gegrwth. Ond mi ddigwyddodd hynny’n sicr, wythnos yma, wrth adael y Crucible yn Sheffield. Y rheswm oedd eu cynhyrchiad pum seren ddiweddaraf o ddrama gerdd y dewin cerddorol Stephen Sondheim, ‘Company’.
Byth ers gweld cynhyrchiad syml ond pwerus o’r ddrama gerdd hon nôl yng Nghaeredin yn 2007, mae neges y stori wedi aros gyda mi. Dwi’n cael fy nennu yn ôl ati, dro ar ôl tro, a hynny yn bennaf oherwydd un gân ar ddiwedd y sioe ’Being Alive’ ond sy’n allwedd i’r cyfan, ac yn rhoi’r ergyd emosiynol pwerus iawn ichi.
Hanes llanc ifanc ‘Bobby’ (Daniel Evans) sydd ar drothwy ei ben-blwydd yn 35 mlwydd oed yw craidd y stori; mae’n sengl , yn unig ac eto â fflyd o ffrindiau agos, o bob oed sy’n cadw cwmni iddo. Drwy bob perthynas sydd o’i gwmpas y gwêl ‘Bobby’ wendidau - sy’n ei ddenu yn ôl at yr hyn sy’n ei gadw draw o bob perthynas. Yr ofn, neu yng ngeiriau un cyfaill, ‘so many reasons for not being with somebody, but not one good reason for being alone’.
I werthfawrogi pŵer ac emosiwn y darn yn llawn, fyddwn i’n awgrymu i unrhyw un geisio gwrando ar y gân ‘Being Alive’ CYN mynd i’w gweld hi. Os nad ydach chi’n gyfarwydd â’r ergyd sydd i ddod ar ddiwedd y stori, yna fe all yr act gyntaf deimlo’n od a gwag, gan mai prin iawn ydi’r wybodaeth sy’n cael ei ryddhau am gymeriad ‘Bobby’. Bod yn dyst i dreialon a thrybini pump o gyplau amrywiol sydd o’i gwmpas yw prif nod y cyfan, a thair o’i gyn cariadon benywaidd.
‘Harry’ (Damian Humbley) a ‘Sarah’ (Claire Price) a’u priodas dymhestlog o gelwyddau, ‘Peter’ (Steven Cree) a ‘Susan’(Samantha Seager) y cwpl perffaith ond sydd ar fin gwahanu, ac eto’n FWY hapus gyda’i gilydd wedi gwahanu!. ‘Jenny’ (Anna-Jane Casey) a ‘David’ (David Birrell) sy’n dianc o’u bywydau llwm i smocio marijuana gyda ‘Bobby’, a ‘Paul’ (Jeremy Finch) sydd ar fin priodi ‘Amy’(Samantha Spiro) sy’n amlwg ddim eisiau ei briodi, a’r cwpl hŷn a sinigaidd ‘Joanne’ (Francesca Annis) a ‘Larry’ (Ian Gelder) sy’n hapus i fod yn anhapus efo’i gilydd.
Yna ei gariadon, ‘April’ (Lucy Montgomery) sy’n gweini i gwmni awyrennau, sydd bron yn berffaith, cyn iddi hedfan o’i fywyd i ddinas arall, ‘Kathy’ (Kelly Price) sydd eto’n ymadael, cyn iddo gael y cyfle i ymdrechu a ‘Marta’(Rosalie Craig) sy’n aflednais a ffraeth ac sy’n well cadw draw!
Angor i astudiaeth o berthynas pobl â’i gilydd yw penblwydd ‘Bobby’ yn y bôn, a dro ar ôl tro, mae’n dymuno am y ferch berffaith, fyddai’n gyfuniad o gryfderau’r uchod, ond sy’n amhosib ei chanfod.
Er gwaetha’r dyfnder, mae’r ddrama gerdd yn llawn o alawon cofiadwy a chanadwy Sondheim fel ‘Side by Side by Side’, ‘ You Could Drive a Person Crazy’ a ‘What Would We Do Without You’ a gyda diolch i goreograffi gwych Lynne Page a chyfarwyddo medrus a gofalus Jonathan Munby, ceir eiliadau o’r theatr gerddorol gamp ar ei gorau!
Does na’n dwywaith fod y cyfnod a’r gofod yn holl bwysig i ddal naws y cyfan, ac mae Efrog Newydd y 1970au, a’i gefnlen o adeiladau uchel, sy’n ymwthio’n dawel i’r nos, a gwisgoedd lliwgar, cyfforddus y cyfnod, yn ychwanegu at y mygu unig. Clod i allu dewinol y cynllunydd set Christopher Oram.
Ond, unwaith yn rhagor, dyfnder perfformiad trydanol Daniel Evans fel y prif gymeriad, ynghyd â chameos cofiadwy Samantha Spiro, Francessca Annis a Claire Price yw gwerth pob ceiniog a mwy o bris y tocyn. Yr atgofion melys fydd yn aros ar silff lyfrau’r co’, bob tro y meddyliai am y ddrama gerdd hon byth mwy.
Yng ngeiriau Sondheim ei hun, "Company does deal with upper middle-class people with upper middle-class problems... what they came to a musical to avoid, they suddenly find facing them on the stage”.
Mynnwch eich tocynnau heddiw. Mae ‘Company’ yn Sheffield tan y 7fed o Ionawr.
Friday, 9 December 2011
'Pippin'
Y Cymro – 09/12/11
I ofod hoffus a melys y Menier Chocolate Factory y bues i ganol yr wythnos, i ddal eu cynhyrchiad cerddorol teuluol blynyddol. ‘Pippin’ o waith Stephen Schwartz (cyfansoddwr y ddrama gerdd fythol boblogaidd ‘Wicked’) yw eu dewis, fentrai ddweud, dewr eleni. Yn nhraddodiad y dramâu cerdd gynnar yma, dim ond un gân gofiadwy sydd wedi gwir goroesi o’r sioe, a ‘Corner of the Sky’ yw honno.
Drama o fewn drama, neu stori o fewn stori sydd yma yn y bôn; hanes llanc ifanc ‘Pippin’ (Harry Hepple ) sy’n cael ei wahodd gan griw o actorion (neu storïwyr) i fod yn brif gymeriad yn eu stori a gaiff ei arwain gan y prif storiwr (Matt Rawle). Yn y gân ‘Corner of the Sky’, mae ‘Pippin’ yn rhannu ei freuddwydion â’i gyd wrandawyr, a’i awydd i greu byd perffaith : “So many men seem destined to settle for something small, But I won't rest until I know I'll have it all... Rivers belong where they can ramble, Eagles belong where they can fly, I've got to be where my spirit can run free, Got to find my corner of the sky”
Ond buan iawn y sylweddola ‘Pippin’ fod ei awydd i greu y byd perffaith yn ddiffygiol a ffôl, wrth i ryfel, trais, llofruddiaeth, brad a chenfigen fygu ei ddelfryd, a’i arwain at ddiweddglo hunanddinistriol o dan y diafol o storïwr awgrymog.
Dewis ‘dewr’ y tîm creadigol y tro hwn yw gosod stori ‘Pippin’ o fewn byd cyfrifiadurol o’r 90au. Y canlyniad yw cymysgfa weledol anhygoel o ddelweddau wedi’u taflunio a goleuo diguro, wedi’u plethu â set lwydaidd, lastig sy’n cynnig posibiliadau symud slic. Ond, mae’r un driniaeth electro-fodern wedi’i roi i’r gerddoriaeth, sydd imi yn fwrn, yn boenus ac yn afiach. Ychwanegwch at hynny'r dryswch o’r stori wreiddiol a’i neges aneglur, tywyll a diobaith, y gwres llethol annioddefol mewn gofod clyd a llawn, wedi’i foddi mewn goleuo a thaflunio, ac roedd y canlyniad yn brofiad amhleserus iawn.
Mae’n amlwg fod y theatr wedi gwario ffortiwn ar y cynhyrchiad beiddgar yma, gyda’r gobaith o ddilyn llwyddiant sioeau tebyg i ‘Sunday in the Park with George’, ‘The Invisible Man’ neu ‘Aspects of Love’. Yn anffodus, imi, doedd y deunydd craidd ddim yn ddigon cryf, ac felly amlygu’r gwendidau wnaeth y cyfan.
Go brin y gwelwn ni’r cynhyrchiad yma yn hawlio’r gwobrau Whatsonstage, flwyddyn i rŵan.
Mae ‘Pippin’ i’w weld yn y Menier Chocolate Factory tan y 25ain o Chwefror.
Gwobrau Whatsonstage
Y Cymro – 09/12/11
Wrth i’r Nadolig agosáu, prysuro wna llwyfannau Llundain gyda llu o seremonïau gwobrwyo, gwasanaethau carolau i godi arian at wahanol elusennau a sioeau newydd yn agor. I seremoni cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Whatsonstage yr es i ddydd Gwener ddiwethaf, a hynny yn y Café de Paris yng ngogoniant Nadoligaidd Leicester Square. Roedd yno lu o wynebau cyfarwydd, o’r flwyddyn theatraidd a fu, a braf oedd gweld y Cymry, unwaith yn rhagor, yn hawlio rhan o’r clod.
Y ddwy sioe newydd ‘Matilda the Musical’ (a welais bythefnos yn ôl, ac y byddai’n sôn amdani dros yr wythnosau nesaf) a ‘Ghost the Musical’ (dwi heb weld, ond am fynd yn fuan yn 2012, gan fod y Cymro Mark Evans yn ymuno â’r cast) sy’n arwain yr enwebiadau gyda naw gwobr posib yr un.
Sioeau eraill sy’n cael lle amlwg yw’r hyfryd ‘Crazy for You’ a ‘Lord of the Flies’ a fu yn theatr awyr agored Regents Park, dros yr haf; y bythol boblogaidd a’r bythgofiadwy ‘Betty Blue Eyes’ sydd bellach wedi cau. Yn y categorïau dramâu, mae lle amlwg i ‘Richard III’, ‘Frankenstein’ a ‘Driving Miss Daisy’, heb anghofio ‘One Man, Two Guvnors’ (a welais yn y National Theatre, ac eto, heb gael y cyfle i rannu’r profiad gyda chwi ddarllenwyr o Gymru).
Pleidleisiodd dros 11,000 o ymwelwyr y wefan Whatsonstage ar gyfer y Gwobrau sy’n cynnwys ‘digwyddiad theatraidd y flwyddyn’ a braf yw gweld cynhyrchiad National Theatre Wales o ‘The Passion’ yn dal i hawlio’r sylw. Felly hefyd gyda’r wobr am gynhyrchiad lleol gorau (tu allan i Lundain) a chynhyrchiad Daniel Evans o ‘Othello’ ymysg yr enwebiadau helaeth.
Croesi bysedd felly, a phob dymuniad da i bob un ohonynt, yn y brif seremoni fis Chwefror nesaf.
Friday, 2 December 2011
'Tosca'
Y Cymro – 02/12/11
Ac o’r clyd a chynnes at foethusrwydd a mawredd set Frank Philipp Schlössmann a chynhyrchiad nodedig Catherine Malfitano o opera fawr Puccini, ‘Tosca’. Dyma un o eiconau benywaidd enwoca’ Byd yr Opera, a stori drasig sy’n cynnwys cariad, trais, artaith, llofruddiaeth a hunanladdiad, a’r cwbl yn enw cariad a ffyddlondeb.
Gwyn Hughes Jones yw’r arlunydd ‘Mario Cavardossi’ sy dd mewn cariad â’r gantores enwog ‘Floria Tosca’ (Claire Rutter) er gwaethaf ymdrech y dihiryn ‘Baron Scarpia’ (Anthony Michaels-Moore) i dreisio ‘Tosca’ ac sy’n peri i’r ddau farw’n drasig erbyn diwedd yr opera.
Dyma gynhyrchiad sy’n darlunio ysblander Rhufain ym 1800 yn berffaith drwy’r gwisgoedd a’r setiau moethus, sy’n ddigon i gipio’ch gwynt ar nodau soniarus Puccini. ‘A singer who has established himself as a leading Puccini tenor on both sides of the Atlantic’ yw canmoliaeth hael arweinydd artistig yr ENO John Berry, am y Cymro o Fôn, Gwyn Hughes Jones, ac roedd ei berfformiad yn sicr yn wefreiddiol a chofiadwy iawn . ‘Brafô!’ meddai un gŵr bonheddig ar ddiwedd ei Aria, a chytuno cant y cant wnes innau.
Mae Tosca’ yn y Coliseum, Llundain, ar ddyddiadau penodol, tan ddiwedd Ionawr 2012.
'The Kitchen Sink'
Y Cymro – 02/12/11
Dilyn y Cymry fu fy hanes yr wythnos hon wrth alw mewn i’r Bush Theatre er mwyn dal Lisa Palfrey a Steffan Rhodri yn y ddrama gartrefol ‘The Kitchen Sink’ a mawredd llwyfan y Coliseum wedyn, ar gyfer perfformiad hudolus Gwyn Hughes Jones, fel yr arlunydd yn opera fawr Puccini, ‘Tosca’.
Dwi di bod yn ffan mawr o waith Lisa Palfrey a Steffan Rhodri ers cryn amser; byth ers perfformiad cofiadwy Lisa fel y ‘Gwennie’ fregus yn nrama Ed Thomas, ‘House of America’ a Steffan fel y Gwyddel ‘Mc Cann’ yn nrama Pinter, ‘The Birthday Party’ yng Nghlwyd Theatr Cymru nol yn 2006. Dau actor ifanc sydd wedi llwyddo i goncro muriau theatrau Llundain, ac sy’n cael eu parchu a’u croesawu’n fawr am wneud hynny.
Withernsea, Swydd Efrog yw lleoliad cartref y teulu agos yn ‘The Kitchen Sink’, a threulio blwyddyn rhwng bwrdd a sinc y gegin wnawn ni yn nrama wreiddiol Tom Wells, wrth iddynt geisio cwffio yn erbyn hualau caeth eu bywyd, yn ysu am dorri’n rhydd o’u cwysi creulon. Ond, fel gyda llinell anfarwol Parry Williams, does dim dianc i’w gael rhag hon, ac aros o fewn eu milltir sgwâr yw dewis, os nad penyd bob un ohonynt, a charu’r hyn sydd o’u cwmpas “cos it's knackered and funny and it's falling in the sea”
Rhygnu byw o baned i baned wna’r fam ‘Kath’ (Lisa Palfrey) sy’n prysur gasglu ei darnau ugain ceiniog er mwyn fforddio i brynu sinc newydd i’r gegin; ysu am gael mynychu coleg celf yw breuddwyd eu mab hoyw ‘Billy’ (Ryan Sampson) ac er i’r freuddwyd gael ei gwireddu, siom ac estron yw’r byd mawr tu hwnt i’r pentref, ac yn ôl at ffedog ei fam y daw yntau erbyn cwymp y dail. Wedi suro mae bywyd i’r tad, ‘Martin’(Steffan Rhodri) sy’n ddyn llaeth wrth ei alwedigaeth, ond sy’n gorfod gwerthu ei fan a’i fusnes, yn sgil tiliau tsiep Tesco a gwthio ymaith pob arwydd o gariad yn ei dallineb o ddryswch wna’r ferch ‘Sophie’ (Leah Brotherhead) er cystal ymdrechion y llipryn annwyl o gariad, a’r prentis o blymwr ‘Pete’ (Andy Rush).
Allwn i’m peidio â theimlo fod adlais sicr yma o glasur o ddrama Jim Cartwright ‘Little Voice’ neu ‘Beautiful Thing’ o waith Jonathan Harvey; delio â theuluoedd dosbarth gweithiol wna’r ddwy, a chynhesrwydd clos y teulu, sy’n ffrwydro yn ystod y ddrama, cyn dod yn ôl at ei gilydd, o dan ddealltwriaeth wahanol, cyn i’r llen olaf ddisgyn.
Yng ngofod newydd y Bush Theatre (sydd bellach yn hen lyfrgell Sheppard’s Bush) llwyddodd Ben Stones i ail-greu'r tŷ ar y tywod bregus hwn, gyda’i furiau holltedig hallt, ei gegin weithredol sy’n cynnwys ffwrn sy’n tanio a thap sy’n chwistrellu dŵr yn ôl y gofyn. Hoffais yn fawr yr awgrymiadau cynnil o’r newid tymhorau, o’r blodau haul unigol a dyfodd yn gynnil yn erbyn y pedwar piler, i gwymp y dail a’r eira erbyn y diwedd.
Campwaith o actio clos y pum actor fydd yn aros yn y cof, yn byw bob berf ac yn anadlu bywyd ac enaid i gymeriadau hoffus Wells. Doeddwn i ddim eisiau ymadael â’r theatr ar ddiwedd y ddrama, gan fod yr angen i wybod mwy am eu stori yn mynnu aros. Arwydd sicr o lwyddiant y perl o ddrama brydferth, gynnes hon.
Mae ‘The Kitchen Sink’ i’w weld yn y Bush Theatre tan yr 17eg o Ragfyr.