Friday, 25 November 2011

'Salt, Root and Roe'



Y Cymro – 25/11/11

Bwthyn ar draeth yng ngorllewin Cymru yw’r lleoliad ar gyfer ail ddrama’r Cymro Tim Price, ‘Salt, Root and Roe’, sydd i’w weld yng ngofod tanddaearol clyd Stiwdios Trafalgar yma yn Llundain ar hyn o bryd. Rhan o dymor newydd y Donmar Warehouse yw’r cynhyrchiad, sy’n cynnwys gwaith gan Conor McPherson a Jean Paul Sartre rhwng rŵan a diwedd Ionawr. Pedwar actor, a dim ond un ohonynt yn Gymry, sy’n rhan o’r delyneg o ddrama ddirdynnol a thrist hon.

Calon y ddrama yw’r ddwy chwaer oedrannus ’Iola’ (Ann Calder-Marshall) ac ‘Anest’ (Anna Carteret) sy’n penderfynu terfynu eu bywydau, ynghlwm a’i gilydd, yn nhonnau oer y môr. Wedi derbyn llythyr ffarwel gan ei modryb, mae merch ‘Anest’, ‘Menna’ (Imogen Stubbs) yn rhuthro i’r bwthyn i chwilio amdani, gyda chymorth yr heddwas lleol ‘Gareth’ (Roger Evans). Buan iawn y sylweddolwn fod ‘Menna’ hefyd yn diodde’n feddyliol wrth gael ei dylanwadu’n drwm gan OCD ei gŵr dros lendid. Wedi i’r ddwy chwaer ddychwelyd, dychryn a chynddeiriogi wna ‘Menna’ o weld ei mam yn rhan o gynllwyn ei modryb i ladd ei hun, a buan y daw’r egluro, y cofio, yr edifarhau ac amlygrwydd salwch creulon ‘Iola’ sef dementia i halltu a hollti’r teulu agos hwn.

Mae’r sgript o waith Price yn llawn hiraeth ac atgofion am eu tad, a’i chwedlau Cymreig a swynodd y ddwy ferch fach, lawer dydd. Mae yma ganu ac is thema gynnes o’r hen benillion ‘Aderyn du a'i blufyn sidan,’ a thocyn go helaeth o’r Gymraeg, rhwng dialog cyhyrog y teulu, wrth geisio delio gyda gorddryswch ‘Iola’. Yr astudiaeth o greulondeb henaint a’m swynodd fwyaf, wrth wylio’r dadfeilio drwy berfformiad trydanol a dagreuol Anna Calder-Marshall, sy’n byw’r cymeriad o’r eiliad cyntaf hyd at dristwch y diwedd pwerus a chofiadwy.

Oes, mae yma wendidau, a’r pennaf un yw anallu’r cast profiadol yma i ynganu’r Gymraeg. Yn ôl y rhaglen, cawsant eu dysgu gan Penny Dyer fel ‘hyfforddwr tafodiaith’ gyda Lisa Jên Brown fel ‘ymgynghorodd cerddoriaeth Cymru’. Er bod sŵn yr acen ddeheuol (nid Gorllewinol) yn canu’n gywir yn gyffredinol, roeddwn i’n gwingo bob tro y clywais yr ‘Iow-lah’ Saesnig diog yn hytrach na phurdeb afieithus yr ‘Iola’ Gymraeg. Pwrpas amlwg y Gymraeg oedd profi mai dyma oedd iaith gyntaf y ddwy chwaer, ac yn rhan o’u gorffennol diflanedig hiraethus. Yn anffodus, roedd y baglu estron yn pellhau’r cofio yn hytrach nag anwesu’r oes a fu.

Mae 'na gwestiwn amlwg yn codi eto ynghylch pam na chastiwyd tair actores o Gymru yn y rhannau godidog yma?. Byddai rhywun o statws Siân Phillips neu Sharon Morgan wedi llwyddo gystal os nad gwell na’r dewisedig rai. Peidiwch â’m ngham-ddallt i, mae perfformiad y pedwar actor ar y llwyfan yn drydanol a chofiadwy tu hwnt, ond byddai’r Cymry wedi medru crisialu cywirdeb y cyfan.

Er cystal oedd cynllun set syml Chloe Lamford, o fewn hualau creulon cyfyngderau’r gofod clyd, allwn i’m peidio â theimlo bod y ddrama yn dioddef o bryd i’w gilydd, oherwydd y diffyg symud. Yn enwedig felly rhwng y golygfeydd, lle nad oedd dianc i’r actorion wrth gael eu coreograffi’n gynnil i symud ac ail-osod ar gyfer yr olygfa ddilynol. Hoffais yn fawr y tanc pysgod yng nghefn y set, gyda’r bwthyn bach yn suddo yn ei ddŵr, wedi’i oleuo’n ofalus gan Anna Watson, sy’n ein hatgoffa am freuder bywyd. Roedd cyfarwyddo Is Gyfarwyddwr y Donmar, Hamish Pirie hefyd yn llwyddiannus ar y cyfan, a’i allu i wneud i’r actorion fyw’r rhannau anodd hyn yn effeithiol iawn, dro ar ôl tro.

Aeth yr iâs oer ddramatig i lawr fy nghefn tua diwedd y sioe, wrth i’r ddwy chwaer ddewr baratoi am eu hangau wrth gefnu am y môr, law yn llaw, i gyfeiliant goleuo pwrpasol a cherddoriaeth linynnol chwyddedig . Arwydd sicr o lwyddiant theatrig yr ennyd, a’r olygfa ddirdynnol fydd yn aros gyda mi, am amser hir.

Mae ‘Salt, Root and Roe’ i’w weld yn Stiwdios Trafalgar tan y 3ydd o Ragfyr.

Friday, 18 November 2011

'Wicked'





Y Cymro – 18/11/11

Draw yn yr Apollo wedyn, a fy mhumed ymweliad â’r sioe ‘Wicked’ sydd, yn anffodus, yn gwaethygu a gwanio bob tro rwy’n ei weld. Roedd y wefr o weld y gwreiddiol nol yn 2006 yn brofiad nas anghofiaf, gyda’r llwyfan a’r set enfawr yn llawn o liw, actorion a’r gerddoriaeth yn gyfoethog o synau cerddorfa lawn. Bellach, bychan yw’r ensemble a sain yr allweddellau rhad yn ceisio efelychu mawredd y miwsig. Mynd yn fwy a mwy ifanc mae’r cwmni yn ogystal, sy’n golygu bod llawer o’r actorion presennol heb aeddfedu’n iawn i hawlio’u cymeriadau. Roedd hi mor amlwg eu bônt fel peiriannau bychan yn ail-adrodd y symudiadau a’r dawnsfeydd, gair am air, yn fecanyddol o syrffedus a diddychymyg.

Yn anffodus, doedd Marc Evans ddim gwell. Wedi gweld Adam Garcia a Lee Mead, y ddau yn llawer mwy profiadol i bortreadu’r llanc ifanc golygus ‘Fiyero’, doedd y waw factor ddim ar gyfyl perfformiad fflat, undonog a phlastig Evans.

Diolch byth am gadernid a gwreiddioldeb Rachel Tucker, sydd wedi llwyddo i ddod â’i phersonoliaeth Gogledd Iwerddon bigog i’r brif rôl ‘Elphaba’, y wrach ddrwg werdd, sy’n ennill y dydd, ar ddiwedd y sioe.

Mae’r ddwy sioe i’w gweld ar hyn o bryd yma yn Llundain, ac os ymwelwch chi â’r wefan ‘munud olaf’ (cyfieithwch ac ychwanegwch ‘.com’ ar ei ddiwedd!), falle gewch chi fargen, mor rhad â £35 am y seddi gorau.

'Billy Elliott'









Y Cymro – 18/11/11

Dilyn y Cymry sydd ar lwyfannau’r West End wnes i dros yr wythnosau diwethaf, gan ail-ymweld â dwy sioe sydd wastad wedi bod yn agos iawn at fy nghalon; ‘Billy Elliot’ i gychwyn yn theatr y Victoria Palace gyda’r fythol fybli Gillian Elisa, a ‘Wicked’ wedyn, dafliad carreg o’i gilydd, yn theatr yr Apollo Victoria gyda Marc Evans o Sir Ddinbych.

Dyma’r drydydd ymweliad imi â’r sioe ‘Billy Elliot’ sy’n seiliedig ar y ffilm enwog o’r un enw am y llanc ifanc ‘Billy’ (Dean Charles-Chapman) sy’n ceisio gwireddu ei freuddwyd o gael bod yn ddawnsiwr, yng ngwyneb llu o anawsterau. Wedi’i leoli yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr yn ystod streic y glowyr ym 1984/85, mae’n stori’n gyflawn ac emosiynol am angerdd y gwahanol genedlaethau sydd am lynu wrth eu gwerthoedd, doed a ddelo.

Bellach yn ei seithfed flwyddyn yn y Victoria Palace, prin iawn ydi’r tocynnau o hyd, a phrinnach fyth yw tocyn rhad ar gyfer y sioe, gan ei bod hi’n dal i werthu. Un o’r rhesymau amlwg am hynny imi, yw cerddoriaeth ganadwy a chofiadwy Elton John, sy’n cyfleu’r angerdd, y frwydr, y cwffio a’r cyfnod i’r dim. Felly hefyd gyda choreograffi gwefreiddiol Peter Darling, sydd ymysg y gorau ar unrhyw lwyfan yn Llundain y dyddiau yma. Mae ei ddawn i blethu a phriodi gwahanol garfannau’r gymdeithas yn wledd i’r llygaid, wrth i’r mur o heddweision ymdoddi drwy’r glowyr a’r genod ifanc sy’n dawnsio ballet. O gael y ‘Billy’ cywir yn y brif ran, gall ei symudiadau yntau fod mor drydanol â’r geiriau a’r gerddoriaeth sy’n cyd-fynd â’r cyfan, heb sôn am yr olygfa brydferth pan mae ‘Billy’ yn hedfan fry yn ei freuddwydion mewn deuawd o ddawns glasurol â dawnsiwr ballet brofiadol.

Wedi colli’i fam yn ifanc, mae’r ‘Billy’ deuddeg oed yn byw adref gyda’i frawd ‘Tony’ (Tom Lorcan), ei dad (Martin Marquez) a’i nain (Gillian Elisa). Dyma deulu caled, sydd wastad wedi gorfod cwffio yn erbyn y Drefn, wrth weithio oriau mawr yn y Pyllau Glo am arian bach. Gyda’r streic yn ei anterth, yr arian yn brin, y gobaith a’r balchder yn danbaid, does fawr o groeso i ddymuniad ‘Billy’ o gael bod yn ddawnsiwr. Gwaethygu mae petha dros y flwyddyn dyngedfennol honno, wrth i Magi Thatcher a’r giwed, rwygo sawl teulu arwahan, yn eu brwydr ddyddiol i fyw.

Roedd hi’n hyfryd i weld Gillian Elisa ar lwyfan y West End am y tro cyntaf, mewn rôl tu hwnt o anodd, a gafodd ei anfarwoli gan y dalentog Ann Emery (sydd newydd ddychwelyd i’r sioe, wedi i ‘Betty Blue Eyes’ ddod i ben rai wythnosau yn ôl). Roedd yn rhaid i Gillian heneiddio gryn dipyn, yn ogystal â magu acen galed a frathog Gogledd Ddwyrain Lloegr, ac fe lwyddodd i wneud hynny yn odidog. Allwn i ddim clywed arlliw o’r Gymraeg yn ei phortread cynnil a chomediol o’r nain ffwndrus, sy’n cael y cyfle i ganu un o’r caneuon mwyaf doniol, ac eto’n drist yn y sioe, wrth hel atgofion gyda ‘Billy’ am ei gŵr a oedd, yn ei geiriau ei hun, yn ‘complete and utter bastard!’.

Friday, 11 November 2011

'Marat / Sade'



Y Cymro - 11/11/11

Mor wahanol i gynhyrchiad dadleuol yr RSC o’r ddrama ‘Marat/Sade’ a lwyddais i’w ddal, cyn diwedd ei gyfnod yn Stratford Upon Avon, dros y Sul. Dyma ddrama sy’n cael ei gydnabod fel ‘the play that changed British Theatre forever’, ac sy’n delio’n gywrain iawn â salwch meddwl, gan osod y digwydd mewn ysbyty meddwl, wrth i’r cleifion ymarfer drama am lofruddiaeth Jean-Paul Marat (Arsher Ali) o dan gyfarwyddyd y ‘ Marquis de Sade’ (Jasper Britton).

Wedi’r holl sylw yn y Wasg Genedlaethol am y gynulleidfa yn gadael y theatr cyn yr egwyl, wedi’u syfdannu gan yr hyn oedd yn digwydd ar y llwyfan, rhai imi gyfaddef, nad oedd y cyfan mor ‘erchyll’ ac ‘ysgytiol’ a’r hyn a rybuddiwyd.

Roedd hi’n gynhyrchiad mentrus , cofiadwy a chyfoes o ddrama Oesol , berthnasol ac aeddfed.

'The Village Social'




Y Cymro - 11/11/11

Wythnos o ddatganiadau, dysgeidiaeth a siomedigaeth fu hi imi, wrth imi wibio o un cornel o’r wlad i’r llall, er mwyn ceisio dal yr arlwy ddramatig hydrefol hael. O’r NTW i’r RSC, o Sir y Fflint i Stratford Upon Avon, a datganiadau diri am dymhorau newydd yn ein theatrau a seremonïau gwobrwyo.

Newyddion da i gychwyn, gyda’r Theatr Genedlaethol yn cyhoeddi manylion am gynhyrchiad arall ar gyfer Haf 2012. Mae’n amlwg fod y gic garedig roddais i yn Y Cymro, (Hydref 21ain) wedi’i deimlo! Clywais hefyd (er na welais y llythyr hyd yma) fod Arwel Gruffydd wedi ymateb i erthygl yn Golwg, yr un wythnos, ond dim ymateb i Y Cymro... Does bosib bod Mr Gruffydd yn anwybyddu papur Cenedlaethol y Cymry?...

Yn ôl at y datganiad, sy’n cyhoeddi’n dalog bod ‘Theatr Genedlaethol Cymru i fod yn rhan o Ŵyl Shakespeare y Byd’. Gŵyl arbennig yw hon, sy’n cael ei threfnu dan adain yr RSC (y cwmni Shakespeare brenhinol) a fydd yn cyflwyno inni nifer o gynyrchiadau gwahanol o ddramâu'r bardd o Stratford rhwng Ebrill a mis Medi 2012, fel rhan o ddathliadau’r Gemau Olympaidd. Cyfieithiad newydd Gwyneth Lewis o’r ddrama ‘The Tempest’ dan y teitl ‘Y Storm’ fydd yn cael ei gyflwyno, a hynny mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Llandow, ym Mro Morgannwg. Elen Bowman fydd yn cyfarwyddo, gyda thîm addawol iawn sy’n cynnwys Simon Allen o’r National Theatre fel cyfansoddwr, a Liz Ranken o’r RSC (fu’n cyd-weithio ag Elen ar eu cynhyrchiad o ‘Deffro’r Gwanwyn’) fel y coreograffydd.

Trueni na chyhoeddwyd enw’r brif actor fydd yn etifeddu mantell hud ‘Prospero’ neu fod wedi dal yn ol ar yr holl ddatganiadau, gwta dair wythnos rhwng ei gilydd, er mwyn lansio’r rhaglen newydd yn ei gyfanrwydd. Trueni hefyd nad yw’r cynhyrchiad yn rhaglen swyddogol yr Ŵyl, a dderbyniais yn yr RSC dros y Sul, gan fod cynhyrchiad yr NTW (National Theatre Wales) o ‘Coriolan/us’ (sy’n rhan o’r un Ŵyl) a fydd i’w weld yn Stiwdios Ffilm y Ddraig, ger Pen-y-Bont ar Ogwr ym mis Awst, yn hawlio hysbyseb amlwg.

Ac o sôn am yr NTW, i Neuadd Goffa Edith Bankes yn Northop, Sir y Fflint y bu’n rhaid imi deithio, er mwyn dal eu taith ddiweddara o gwmpas neuaddau pentrefi gyda’r cynhyrchiad ‘The Village Social’ o waith Dafydd James a Ben Lewis. Dyma gynhyrchiad dros ben llestri, bantomeimllyd, am griw o bentrefwyr gwallgo’ sy’n byw ym mhentref ‘Cae Bach’ ac sydd wedi’u melltithio gan drigolion Annwfn , am sefydlu’r pentref ar eu tir cysegredig.

Wrth gamu i mewn i’r neuadd, roedd y cynhyrchiad eisoes ar waith, gyda’r actorion yn gymysg a’r gynulleidfa wrth baratoi ar gyfer noson o godi arian hydrefol, wrth ddisgwyl am ymweliad yr ysbrydegydd ‘Madam Isis’. Yn eu mysg roedd y ddynes llnau hynafol ‘Jean’ (Sue Roderick), y llances ifanc drawiadol drefnus ‘Yvonne’ (Carys Eleri), yr hen ferch ganol oed hen ffasiwn ‘ Lisa-Jên’ (Rebecca Harries), y trefnydd ffyslyd a’i glipfwrdd ‘Lawrence’ (Darren Lawrence) , y swyddog diogelwch ‘ Dave’ (Oliver Wood) a’r llanc ifanc golygus, a mab y trefnydd ‘Dion’ (Gwydion Rhys).

Ond wedi i’r miri gychwyn, a phawb yn disgwyl am gyrhaeddiad ‘Madam Isis’, buan y sylweddolais, er cystal oedd y safonau cynhyrchu drudfawr, mai gwan iawn iawn, oedd y sgript, a’r deunydd crai oedd yn dod o enau’r actorion. Gwaethygu wnaeth y cyfan wrth i ‘Madam Isis’ gyrraedd, a pheri i gyfrinachau tywyllaf y cymeriadau hurt hyn gael eu gwireddu, yn ôl straeon lleol o lyfr ‘Lisa-Jên’. Dychwelyd wnaeth bob cymeriad, wedi’u gwisgo yn ôl hunllef eu hisymwybod gan gynnwys Sue Roderick a ddaeth i mewn gyda phen ci gwaedlyd ar dop ei gwallt gwyllt! Trodd y pantomeim dros ben llestri i mewn i ffilm arswyd erchyll, am gadawodd yn gegrwth wrth wylio’r cyfan yn suddo’n is ac yn is i fethiant llwyr.

Unig achubiaeth y noson oedd ymson trydanol Gwydion Rhys tua diwedd y sioe, a ddangosodd rym a gallu'r actor ifanc yma, a pham yr enillodd Wobr Richard Burton yn Eisteddfod 2009.

Friday, 4 November 2011

'Driving Miss Daisy'





Y Cymro – 4 Tachwedd 2011

A sôn am ddathlu, roeddwn innau ar ben fy nigon ddechrau’r wythnos wrth wylio un o’r cynyrchiadau mwyaf nodedig y West End yr hydref hwn, sef ‘Driving Miss Daisy’ gyda neb allai na Vanessa Redgrave a James Earl Jones wrth y llyw. Dyma soned, syml, brydferth o ddrama, sy’n dilyn y cyfeillgarwch rhwng y ‘Miss Daisy’ (Redgrave) groen wyn, Iddewig, ystyfnig, a’i gwas o yrrwr croen ddu, annwyl, ‘Hoke Colburn’ (Earl-Jones) rhwng 1948 a 1973. Y cyfnod gwaethaf yn hanes apartheid, a chyfnod dylanwadol Martin Luther King.

Roeddwn i’n gyfarwydd â’r ffilm o’r un enw, a ryddhawyd ym 1989 gyda Morgan Freeman a Jessica Tandy yn y ddau brif ran, ond wyddwn i ddim mai addasiad o’r ddrama lwyfan gynharach gan Alfred Uhry, oedd y ffilm. Gyda chymaint o ffilmiau yn cael eu troi’n ddramâu yn ddiweddar, mae’n hawdd drysu! Seiliodd Uhry y ddrama ar ei brofiadau personol a’i atgofion am ei fam o’r un cyfnod.

Symlder y llwyfannu, a pherfformiadau cofiadwy'r ddau brif gymeriad a’m swynodd. Mae 'na ryw wefr drydanol ar dân yn y theatr, pan welai berfformiadau actorion o statws Redgrave ac Earl Jones, fel y profais o weld Kevin Spacey yn ‘Richard III’ neu Judi Dench yn ‘Madame de Sade' rai blynyddoedd yn ôl. Mae’r gallu ganddynt i oleuo’r llwyfan, i hawlio’ch sylw, ac i arddangos yr hud arbennig a’u gwnaeth yn sêr.

Roedd yr olygfa drist, emosiynol a thynner o’r ‘Miss Daisy’ wael a gwan, yn ei chwman o henaint, yn cael ei bwydo gan gacen dathlu’r cynhaeaf o law ‘Hoke’, ac sy’n cloi’r ddrama, yn bwerus o gofiadwy. Felly hefyd gyda pherfformiad y mab ‘Boolie’ (Boyd Gaines), trydydd gymeriad y ddrama, a’r un sy’n dod â’r ddau at ei gilydd, er gwaethaf anhapusrwydd ei fam, o gael ei gweld yng nghwmni’r croenddu ar gychwyn y ddrama.

Wedi ennill llwyth o wobrau eisoes ar Broadway, dwi’n sicr y bydd y cynhyrchiad yma’n dilyn llwyddiant y Cymry dros y misoedd nesaf. Os am ei ddal, mae’r ddrama i’w gweld yn y Wyndhams tan yr 17eg o Ragfyr. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.daisywestend.com

Gwobrau TMA a Peter Brooke




Y Cymro – 04/11/11

Newyddion da i gychwyn, wrth i nifer o Gymry gipio gwobrau lu am wahanol gynyrchiadau, mewn dwy seremoni Wobrwyo yma yn Llundain, yr wythnos hon.

Gwobrau’r TMA, (Gwobrau Rheolwyr y Theatrau) oedd y cyntaf, wrth i Michael Sheen a’i gyd-gyfarwyddwr Bill Mitchell, dderbyn y Wobr am y cyfarwyddwr gorau am eu cynhyrchiad o ‘The Passion’ ym Mhorth Talbot i National Theatre Wales, dros y Pasg. Cynhyrchiad a’m gwefreiddiodd i, a phawb a’i gwelodd. Clod hefyd i Daniel Evans, wrth i ddau gynhyrchiad gan Theatrau Sheffield, yn ystod ei arweinyddiaeth artistig, gipio dwy wobr yn ogystal. Claire Price i gychwyn fel y gyd-actores orau, am ei pherfformiad yn y ddrama ‘The Pride’, cynhyrchiad y bu Daniel ei hun yn rhan ohono, ac a’m swynodd innau hefyd, a Lizzie Clachan a Natasha Chivers am y cynllun gorau, am eu gwaith ar y cynhyrchiad ‘Happy Days’. Music Theatre Wales oedd y trydydd i ddathlu, wrth gipio’r wobr am yr orchest orau ym myd opera, am eu cynhyrchiad o ‘Greek’ gan Mark-Anthony Turnage.

Ymlaen wedyn at Wobrau Peter Brooke, am waith y theatrau ymylol, wrth i NTW eto gipio Gwobr Dan Crawford am y datblygiad newydd, am eu tymor cyntaf llwyddiannus, gyda chyfeiriad eto at y cynhyrchiad 72awr o ‘The Passion’.

Dechrau addawol iawn i dymor y dathlu yma yn Llundain. Croesi bysedd y cawn mwy o lwyddiant yng Ngwobrau’r Oliviers , yr Evening Standard a’r Whatsonstage dros y misoedd nesaf.