Friday, 18 November 2011
'Billy Elliott'
Y Cymro – 18/11/11
Dilyn y Cymry sydd ar lwyfannau’r West End wnes i dros yr wythnosau diwethaf, gan ail-ymweld â dwy sioe sydd wastad wedi bod yn agos iawn at fy nghalon; ‘Billy Elliot’ i gychwyn yn theatr y Victoria Palace gyda’r fythol fybli Gillian Elisa, a ‘Wicked’ wedyn, dafliad carreg o’i gilydd, yn theatr yr Apollo Victoria gyda Marc Evans o Sir Ddinbych.
Dyma’r drydydd ymweliad imi â’r sioe ‘Billy Elliot’ sy’n seiliedig ar y ffilm enwog o’r un enw am y llanc ifanc ‘Billy’ (Dean Charles-Chapman) sy’n ceisio gwireddu ei freuddwyd o gael bod yn ddawnsiwr, yng ngwyneb llu o anawsterau. Wedi’i leoli yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr yn ystod streic y glowyr ym 1984/85, mae’n stori’n gyflawn ac emosiynol am angerdd y gwahanol genedlaethau sydd am lynu wrth eu gwerthoedd, doed a ddelo.
Bellach yn ei seithfed flwyddyn yn y Victoria Palace, prin iawn ydi’r tocynnau o hyd, a phrinnach fyth yw tocyn rhad ar gyfer y sioe, gan ei bod hi’n dal i werthu. Un o’r rhesymau amlwg am hynny imi, yw cerddoriaeth ganadwy a chofiadwy Elton John, sy’n cyfleu’r angerdd, y frwydr, y cwffio a’r cyfnod i’r dim. Felly hefyd gyda choreograffi gwefreiddiol Peter Darling, sydd ymysg y gorau ar unrhyw lwyfan yn Llundain y dyddiau yma. Mae ei ddawn i blethu a phriodi gwahanol garfannau’r gymdeithas yn wledd i’r llygaid, wrth i’r mur o heddweision ymdoddi drwy’r glowyr a’r genod ifanc sy’n dawnsio ballet. O gael y ‘Billy’ cywir yn y brif ran, gall ei symudiadau yntau fod mor drydanol â’r geiriau a’r gerddoriaeth sy’n cyd-fynd â’r cyfan, heb sôn am yr olygfa brydferth pan mae ‘Billy’ yn hedfan fry yn ei freuddwydion mewn deuawd o ddawns glasurol â dawnsiwr ballet brofiadol.
Wedi colli’i fam yn ifanc, mae’r ‘Billy’ deuddeg oed yn byw adref gyda’i frawd ‘Tony’ (Tom Lorcan), ei dad (Martin Marquez) a’i nain (Gillian Elisa). Dyma deulu caled, sydd wastad wedi gorfod cwffio yn erbyn y Drefn, wrth weithio oriau mawr yn y Pyllau Glo am arian bach. Gyda’r streic yn ei anterth, yr arian yn brin, y gobaith a’r balchder yn danbaid, does fawr o groeso i ddymuniad ‘Billy’ o gael bod yn ddawnsiwr. Gwaethygu mae petha dros y flwyddyn dyngedfennol honno, wrth i Magi Thatcher a’r giwed, rwygo sawl teulu arwahan, yn eu brwydr ddyddiol i fyw.
Roedd hi’n hyfryd i weld Gillian Elisa ar lwyfan y West End am y tro cyntaf, mewn rôl tu hwnt o anodd, a gafodd ei anfarwoli gan y dalentog Ann Emery (sydd newydd ddychwelyd i’r sioe, wedi i ‘Betty Blue Eyes’ ddod i ben rai wythnosau yn ôl). Roedd yn rhaid i Gillian heneiddio gryn dipyn, yn ogystal â magu acen galed a frathog Gogledd Ddwyrain Lloegr, ac fe lwyddodd i wneud hynny yn odidog. Allwn i ddim clywed arlliw o’r Gymraeg yn ei phortread cynnil a chomediol o’r nain ffwndrus, sy’n cael y cyfle i ganu un o’r caneuon mwyaf doniol, ac eto’n drist yn y sioe, wrth hel atgofion gyda ‘Billy’ am ei gŵr a oedd, yn ei geiriau ei hun, yn ‘complete and utter bastard!’.
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment