Friday, 25 November 2011

'Salt, Root and Roe'



Y Cymro – 25/11/11

Bwthyn ar draeth yng ngorllewin Cymru yw’r lleoliad ar gyfer ail ddrama’r Cymro Tim Price, ‘Salt, Root and Roe’, sydd i’w weld yng ngofod tanddaearol clyd Stiwdios Trafalgar yma yn Llundain ar hyn o bryd. Rhan o dymor newydd y Donmar Warehouse yw’r cynhyrchiad, sy’n cynnwys gwaith gan Conor McPherson a Jean Paul Sartre rhwng rŵan a diwedd Ionawr. Pedwar actor, a dim ond un ohonynt yn Gymry, sy’n rhan o’r delyneg o ddrama ddirdynnol a thrist hon.

Calon y ddrama yw’r ddwy chwaer oedrannus ’Iola’ (Ann Calder-Marshall) ac ‘Anest’ (Anna Carteret) sy’n penderfynu terfynu eu bywydau, ynghlwm a’i gilydd, yn nhonnau oer y môr. Wedi derbyn llythyr ffarwel gan ei modryb, mae merch ‘Anest’, ‘Menna’ (Imogen Stubbs) yn rhuthro i’r bwthyn i chwilio amdani, gyda chymorth yr heddwas lleol ‘Gareth’ (Roger Evans). Buan iawn y sylweddolwn fod ‘Menna’ hefyd yn diodde’n feddyliol wrth gael ei dylanwadu’n drwm gan OCD ei gŵr dros lendid. Wedi i’r ddwy chwaer ddychwelyd, dychryn a chynddeiriogi wna ‘Menna’ o weld ei mam yn rhan o gynllwyn ei modryb i ladd ei hun, a buan y daw’r egluro, y cofio, yr edifarhau ac amlygrwydd salwch creulon ‘Iola’ sef dementia i halltu a hollti’r teulu agos hwn.

Mae’r sgript o waith Price yn llawn hiraeth ac atgofion am eu tad, a’i chwedlau Cymreig a swynodd y ddwy ferch fach, lawer dydd. Mae yma ganu ac is thema gynnes o’r hen benillion ‘Aderyn du a'i blufyn sidan,’ a thocyn go helaeth o’r Gymraeg, rhwng dialog cyhyrog y teulu, wrth geisio delio gyda gorddryswch ‘Iola’. Yr astudiaeth o greulondeb henaint a’m swynodd fwyaf, wrth wylio’r dadfeilio drwy berfformiad trydanol a dagreuol Anna Calder-Marshall, sy’n byw’r cymeriad o’r eiliad cyntaf hyd at dristwch y diwedd pwerus a chofiadwy.

Oes, mae yma wendidau, a’r pennaf un yw anallu’r cast profiadol yma i ynganu’r Gymraeg. Yn ôl y rhaglen, cawsant eu dysgu gan Penny Dyer fel ‘hyfforddwr tafodiaith’ gyda Lisa Jên Brown fel ‘ymgynghorodd cerddoriaeth Cymru’. Er bod sŵn yr acen ddeheuol (nid Gorllewinol) yn canu’n gywir yn gyffredinol, roeddwn i’n gwingo bob tro y clywais yr ‘Iow-lah’ Saesnig diog yn hytrach na phurdeb afieithus yr ‘Iola’ Gymraeg. Pwrpas amlwg y Gymraeg oedd profi mai dyma oedd iaith gyntaf y ddwy chwaer, ac yn rhan o’u gorffennol diflanedig hiraethus. Yn anffodus, roedd y baglu estron yn pellhau’r cofio yn hytrach nag anwesu’r oes a fu.

Mae 'na gwestiwn amlwg yn codi eto ynghylch pam na chastiwyd tair actores o Gymru yn y rhannau godidog yma?. Byddai rhywun o statws Siân Phillips neu Sharon Morgan wedi llwyddo gystal os nad gwell na’r dewisedig rai. Peidiwch â’m ngham-ddallt i, mae perfformiad y pedwar actor ar y llwyfan yn drydanol a chofiadwy tu hwnt, ond byddai’r Cymry wedi medru crisialu cywirdeb y cyfan.

Er cystal oedd cynllun set syml Chloe Lamford, o fewn hualau creulon cyfyngderau’r gofod clyd, allwn i’m peidio â theimlo bod y ddrama yn dioddef o bryd i’w gilydd, oherwydd y diffyg symud. Yn enwedig felly rhwng y golygfeydd, lle nad oedd dianc i’r actorion wrth gael eu coreograffi’n gynnil i symud ac ail-osod ar gyfer yr olygfa ddilynol. Hoffais yn fawr y tanc pysgod yng nghefn y set, gyda’r bwthyn bach yn suddo yn ei ddŵr, wedi’i oleuo’n ofalus gan Anna Watson, sy’n ein hatgoffa am freuder bywyd. Roedd cyfarwyddo Is Gyfarwyddwr y Donmar, Hamish Pirie hefyd yn llwyddiannus ar y cyfan, a’i allu i wneud i’r actorion fyw’r rhannau anodd hyn yn effeithiol iawn, dro ar ôl tro.

Aeth yr iâs oer ddramatig i lawr fy nghefn tua diwedd y sioe, wrth i’r ddwy chwaer ddewr baratoi am eu hangau wrth gefnu am y môr, law yn llaw, i gyfeiliant goleuo pwrpasol a cherddoriaeth linynnol chwyddedig . Arwydd sicr o lwyddiant theatrig yr ennyd, a’r olygfa ddirdynnol fydd yn aros gyda mi, am amser hir.

Mae ‘Salt, Root and Roe’ i’w weld yn Stiwdios Trafalgar tan y 3ydd o Ragfyr.

1 comment:

  1. Swnio'n wych. Ydy o yn teithio wedyn, tybed? Dim modd i mi gyrraedd Llundain cyn y 3ydd!

    ReplyDelete