Total Pageviews

Wednesday 16 October 2024

"Theatr Genedlaethol" i Ieuenctid a Phlant Cymru!

[Dyma fersiwn llawn a anfonais at Golwg ar yr 2 Hydref 2024 ac a gafodd ei atal tan heddiw, a hynny wedi ei gwtogi a'i sensro, er imi gyflwyno ffeithiau fel tystiolaeth i gyd-fynd â'r cwestiynu â'm barn. Fyddai ddim yn cyfrannu eto [am ddim] i Golwg.]

Bum ar wibdaith i Ogledd Cymru dros y penwythnos, fy ymweliad cyntaf â'r hen Ogledd ers rhai blynyddoedd. Mynd yno'n bwrpasol, er mwyn gweld cynhyrchiad Frân Wen a Pontio Bangor o'r ddwy ran gyntaf o'u prosiect OLION. A dwi'n falch imi fynd, petai ond i sawru gogoniant theatrig Rhan Un: Arianrhod a lwyfannwyd yng ngofod gwag Pontio. Gwell imi beidio sôn am Ran Dau: Yr Isfyd ar strydoedd Bangor, gan mai methiant fel cynhyrchiad theatr oedd hwnnw i mi, ond rhaid canmol gwaith y cwmni yn y gymuned a'r cyd-weithio a fu gyda'r elusen GISDA.

 

Ond yr hyn dwi am ei drafod, neu rannu efo chi, ydi'r pryderon a'r trafodaethau glywais i tra bod yno. Yn gyntaf, lle mae'r adolygwyr theatr Cymraeg? A lle mae'r gofod inni ddarllen adolygiadau o'r cynyrchiadau a chreu Archif gwerthfawr o waddol theatrig Cymru? Mae gwefan BBC Cymru wedi'i "archifo ers 2014" a rhaid deud-y-drefn wrth y Golwg wythnosol 'ma hefyd!. Mae'r Barn a'r [Y] Cymro misol yn fwy gwleidyddol na chelfyddydol erbyn hyn. Dwi'n cofio cyfnod yn y 1990au a'r 2000au pan roedd cylchgronau Cymraeg yn llawn o adolygiadau o gynyrchiadau theatr. Maen nhw'n brinnach na chynhyrchiad prif lwyfan i OEDOLION gan Theatr Genedlaethol Cymru, ar hyn o bryd!

 

A dyna'r ail-gŵyn glywes i. Lle mae cynyrchiadau "mawr" ein Theatr Genedlaethol honedig i gynulleidfaoedd hŷn? Sut bod cwmni fel Frân Wen yn gallu llwyfannu cynyrchiadau theatrig uchelgeisiol, ar lwyfan Canolfan y Mileniwm neu Pontio Bangor, tra bod ein 'Theatr Genedlaethol' yn mynd o fonolog i ddialog, mewn pabell neu gaffi ar gaeau Eisteddfodol Cymru? Neu'n llwyfannu cyd-gynyrchiadau (neu fenthyciadau?) o sioeau i blant a phobl ifanc mewn ysgolion neu Ŵyliau ieuenctid [sef union swyddogaeth cwmnïau fel Frân Wen ac Arad Goch sy'n cael eu hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru i wneud dim ond hynny!]. Mae rhywbeth mawr o'i le yn rhywle. Nid fi sy'n gofyn cofiwch, ond y bobol gwrddais ar fy ymweliad, ond sy'n dewis cadw'n ddistaw mewn cysgodion ofnus. 

'Dwi 'di sylwi ar batrwm arall hefyd, sy'n prysur ddod yn norm yng Nghymru, yn enwedig o Egin y Theatr Genedlaethol. Y pwysigrwydd amlwg ar dderbyn enwebiadau am wobrau Cenedlaethol, tu allan i Gymru. Mae'n rhaid imi gyfaddef bod yr enwebiad diweddaraf, sy'n cael ei frolio ar eu gwefan, wedi gwneud imi chwerthin. Enwebiad gan "UK Theatre" am "Ragoriaeth Mewn Teithio". Teithio beth?, oedd y benbleth ym Mangor!. Wel, maen nhw'n dyfynnu o'u cais am enwebiad er mwyn rhoi gwybod inni! - "Yn ystod y cyfnod dan sylw (14 Awst 2023 – 28 Awst 2024), bu’r cwmni’n llwyfannu 92 o berfformiadau mewn tua 50 lleoliad gwahanol yng Nghymru, gan gyrraedd mwy na 20,000 o bobl gyda’n rhaglen o berfformiadau a phrosiectau cyfranogi." 

Arfer arall dwi wedi sylwi arno yng Nghymru ydi'r tueddiad Academaidd i or-ddadansoddi unrhyw weithgaredd theatrig! Chwilio'n ddyfal am ddamcaniaeth neu theori [o Rwsia fel arfer!] i gyfiawnhau gwaith theatr o Aberystwyth neu Gaerdydd. [Tydi cwmnïau Gogledd Cymru ddim yn dalld petha felly - gneud sioeau i'r werin datws ma nhw!!] Felly dewch inni ddadansoddi'r "flwyddyn" yma - o fis Awst i Awst, yn hanes gweithgaredd "deithiol" Theatr Genedlaethol Cymru: 

  • Swyn [cynhyrchiad Cwmni Krystal S Lowe "i blant hyd at 7 oed" gan un actor] "yn    seiliedig ar y llyfr ‘Whimsy’ gan Krystal S. Lowe". 5 perfformiad yn Ffwrnes Llanelli, 3 yn Theatr Felinfach, 3 yng Nghanolfan Celf Memo, Y Bari, 4 yng Nghanolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin, 4 yn Chapter Caerdydd, 3 yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd, 1 yn Theatr Derek Williams, Y Bala, 2 yn Pontio, Bangor ac 2 yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
  • Rhinoseros [cyfieithiad - cynhyrchiad prif lwyfan gydag 8 actor - da chi'n cofio sut beth ydi hynny?!] 5 perfformiad yn y Sherman, 2 yn Pontio, 1 yn Aberystwyth, 1 ym Mhwllheli, 1 yn Hafren, 1 yn Mwldan, 1 yn Galeri ac 1 yn Taliesin, Abertawe.
  • Yr Hogyn Pren [ail-lwyfaniad o Eisteddfod 2023 o sioe fenthyg gan Small World Theatre i bobol ifanc] 3 dangosiad yn Aberystwyth fel rhan o Ŵyl Theatr Ryngwladol Arad Goch - Agor Drysau i blant a phobol ifanc, a 2 berfformiad mewn ysgolion yn Aberystwyth. 
  • Ie, Ie, Ie [sioe fenthyg i bobol ifanc] "addasiad Cymraeg o 'Yes Yes Yes' " cynhyrchiad Eleanor Bishop a Karin McCracken o Aotearoa, Seland Newydd [sydd "ar werth" drwy asiantaeth prynu theatr Aurora Nova]. 5 dangosiad yn y Sherman, 1 yn Pontio, 1 yn Galeri, 1 yn Theatr Clwyd, 1 yn Y Bala, 1 yn Abertawe, 1 yng Nghaerfyrddin ac 1 y Llanelli. 12 i gyd, yn ogystal â 7 mewn Ysgolion Uwchradd neu Golegau. 
  • Kiki Cymraeg ("perfformiad Sgratsh") [sioe fenthyg arall i bobol ifanc gan Gymuned Dawnsfa Cymru] 1 perfformiad yng Nghaerdydd. 
  • Parti Priodas [ail-lwyfaniad o ddrama Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 2023 gyda 2 actor] 6 perfformiad yng Nghaerdydd, 1 y Llanelli, 1 yng Nghaerfyrddin, 1 ym Merthyr Tudful, 1 yn Felinfach, 1 yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth, 1 yn Rhosllanerchrugog, 1 yn Llanrwst, 1 yn Bangor, 1 yn Llangefni, 2 yng Nghaernarfon, 1 yn Y Bala, a 2 ym Mhwllheli. 
  • Ie, Ie, Ie [eto, eto, eto] yn Eisteddfod yr Urdd 2024 - 1 perfformiad. 
  • Ha/Ha [ar y cyd â Theatr Clwyd] yn Eisteddfod Genedlaethol 2024 - 3 perfformiad. 
  • Brên. Calon. Fi [monolog arall] yn Eisteddfod Genedlaethol 2024 - 4 perfformiad. 

Dyna ichi'r "92 perfformiad" mewn "tua 50 lleoliad" gafodd ei gyfleu ar bapur, am "yr enwebiad!". Ond, o'u dadansoddi'n gall, dim ond 4 cynhyrchiad i oedolion, a 2 o rheiny yn gawl-eildwyn o'r Eisteddfod a ddaeth i ben, deuddydd cyn y dyddiad cyntaf!. Roedd 53 o'r "92 perfformiad" ar gyfer plant neu bobol ifanc. Roedd 29 o'r "tua 50" lleoliad mewn ysgolion, neu Ŵyliau i blant neu ieuenctid. Dim ond 39 "perfformiad" ar gyfer y gynulleidfa hŷn, a 7 o'r rheiny mewn pabell ar gae'r Eisteddfod, 20 "perfformiad' o sioe oedd eisoes wedi'i lwyfannu yn Eisteddfod 2023, felly dim on 20 "perfformiad" o waith newydd neu gyfieithiad. O'r 9 cynhyrchiad, roedd 5 ohonynt yn gyd-gynyrchiadau [neu'n fenthyciadau yn fy marn i], o waith cwmnïau eraill.

 


Dau reswm pam y dewisais deithio o Lundain i Bangor [aros am noson, talu am westy a'r tanwydd] oedd mawredd uchelgeisol Frân Wen o "roi gwedd newydd ar hen chwedl" ac i weld Sharon Morgan oedd yng nghast Rhan Un o'r cynhyrchiad. Peth prin iawn, o be' welai i, ydi cael gweld actor hŷn na 50 oed ar lwyfan y theatr Gymraeg, ers blynyddoedd bellach! Dim ond 3 actor hŷn na 50 oed, a hynny mewn 13 perfformiad yn unig o'r cynhyrchiad Rhinoseros, a welsom am lwyfan ein "Theatr Gen", yn ystod y cyfnod dan sylw. Ai dyma'r arlwy ddisgwyliedig a derbyniol gan ein Theatr Genedlaethol?

Does ryfedd bod y gynulleidfa Gymraeg yn flin! Ai mud, byddar a dall ydi Bwrdd y Theatr Genedlaethol a Chyngor y Celfyddydau, 'ta dim ond darllen hanes y cwmni ar bapur, maen nhw?. A gwell imi enwi'r "Ymddiriedolwyr" dethol, rhag ofn ichi anghofio pwy yw'r bobol amlwg a blaenllaw yma, yn y Theatr Gymraeg ar hyn o bryd: Yr Athro Jerry Hunter, Yr Athro Nia Edwards-Behi, Siôn Fôn, Elin Parisa Fouladi, Gwyn Jones, Fiona Phillips, Catherine Rees, Rhys Miles Thomas, Gwyn Williams a Meilir Rhys Williams. Na, finna' chwaith!. Fel un sy'n ymddiddori ym Myd y Theatr, dim ond dau sy'n gyfarwydd imi, mewn cyd-destun theatraidd!.

 

Os borwch chi ymhellach ar eu gwefan, yn benodol yr eu 'Archif' dewisol o sioeau'r gorffennol, mae'r mwyafrif o'r adolygiadau [uniaith Saesneg] yn deillio o gylchgronau neu wefannau di-Gymraeg. Fel y "Steffan Donnelly's astute, lucid staging... Luxury ensemble casting" o The Guardian [gan Gareth Llŷr Evans, sy'n digwydd bod yn Swyddog Drama i'r Eisteddfod Genedlaethol hefyd - onid gwrthdrawiad buddiannol ydi peth felly, yn enwedig o gofio am y "cydweithio agos" sydd rhwng y ddau Sefydliad?. "A smart Welsh-language revival of Ionesco's classic" gan The Stage, "One of the most exciting theatre companies in the UK" gan BBC Front Row, "Theatr Genedlaethol Cymru has given us hope for a better theatrical future for Wales” gan Buzz Magazine, ac eraill fel The Welsh Agenda, Arts Scene Wales a The Nation, i enwi dim ond rhai. Prin iawn yw'r sylwadau o gyhoeddiadau Cymraeg, sef yr union gynulleidfa mae ein Theatr Genedlaethol i fod i'w/i'n diwallu.

 

Mae hyd yn oed staff canolfannau celf fel Pontio a Galeri yn holi pryd maen nhw am weld / marchnata / gwerthu tocynnau i gynhyrchiad "mawr" gan y Theatr Genedlaethol?. Does 'na ddim sôn am waddol theatrig Cefin Roberts a Judith Roberts [a Daniel Evans] yn eu "harchif", dim ond cofnod [dewisol eto!] o gyfnod Arwel Gruffydd a "Steffan Donnelly wrth y llyw". Er dwi'n ama'n fawr mai gweledigaeth "Cyfarwyddwr Gweithredol a Chyd-Brif Weithredwr" y cwmni - Angharad Jones Leefe sy'n cael ei weld, gan iddi hawlio lle uwch na'r "Cyfarwyddwr Artistig" ar eu gwefan!.


Tybed os mai dim ond bobol Bangor sy'n gofyn yr un cwestiynau? Roedd un o'r bobol y bûm yn sgwrsio â nhw o Gaerdydd! Ond falle mai dewisol ydi clyw ein Theatr Genedlaethol a'u hymddiriedolwyr academaidd bellach, os nad yw'r farn, y dweud neu'r anrhydedd yn dod gan Sefydliad neu gyhoeddiad di-Gymraeg! 

A beth, medde chi, sydd i ddod yn "eu blwyddyn" newydd?! Wel, Dawns y Ceirw [sioe i blant 5-9 oed- "cyd-gynhyrchiad" arall gyda Chwmni Dawns Genedlaethol Cymru]. 'Dawns', sylwer! O, a "chyfieithiad" o "fonolog" arall gan actor ifanc [38 oed] - Fy Enw yw Rachel Corrie [a welais yn ei ffurf wreiddiol yng Nghaeredin yn 2006] ac sy'n cael ei lwyfannu tair gwaith yr wythnos hon, ac un o'r rheiny ddim mewn theatr!

A'r "genhadaeth" a'r "weledigaeth" ar eu gwefan? "Theatr deithiol genedlaethol sy'n rhoi Cymru a’i phobl ar y map, yn agored ac yn groesawgar i bawb, gan sicrhau dyfodol disglair i’n hiaith a’n diwylliant. Creu theatr Gymraeg fel man i ddod ynghyd, i gysylltu’r adnabyddus a’r annisgwyl, Cymreictod a’r byd, i drafod yn ddwys ac i godi’r galon." 

Gwell fyddai canolbwyntio mwy ar "[g]reu theatr Gymraeg" ar lwyfannau theatrau Cymru na "rhoi Cymru a'i phobl ar y map" o Loegr!. Oes, mae wirioneddol angen inni "drafod yn ddwys ac i godi'r galon". 



Monday 30 September 2024

OLION : Rhan Un: Arianrhod a Rhan Dau: Yr Isfyd (Frân Wen/Pontio/GISDA/Storiel)

Y dewin Gwydion (Owain Gwynn) a'i chwaer Arianrhod (Rhian Blythe) - Rhan Un [llun Craig Fuller]


OLION - Rhan Un: Arianrhod  ****

Dwi 'di bod yn dyheu am weld cynhyrchiad gwir theatrig yn y Gymraeg, ers dyddiau pantomeimiau Cwmni Theatr Cymru, a ddaeth i ben pan oeddwn i’n ddeg oed! A dyma ni, ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, yn cael ail brofi'r wefr mewn ysblander gweledol a chlywedol, diolch i OLION - Rhan Un: Arianrhod, cynhyrchiad tair-rhan Frân Wen [ar y cyd â Pontio, Bangor, GISDA a Storiel]. 

Er nad oes rhaglen brintiedig i gyd fynd â'r cynhyrchiad, "dyma ail-ddychmygiad cyfoes o chwedl Arianrhod" yn ôl gwefan Frân Wen. Ac hanes Arianrhod (Rhian Blythe) a gawn, wedi'i seilio ar gefndir Y Mabinogi. Cawn ein cyflwyno i'r prif gymeriad a'i theulu, ei brodyr y dewin Gwydion (Owain Gwynn) a Gilfaethwy (Rhodri Trefor), ei mam Dôn (Sharon Morgan) a Goewin (Mirain Fflur) sydd ddim yn perthyn i'r teulu, ond yn perthyn i'r chwedl [wreiddiol].

Arianrhod (Rhian Blythe) yng Nghaer Arianrhod - Rhan Un [llun Craig Fuller]

Ond y cymeriad canolog i'r cyfan ydi Caer Arianrhod, "yn fwrlwm o ryw a hedonistiaeth ysbrydol ac mae Arianrhod a’i ffrindiau agos - sydd wedi dianc o ryfel cartref - yn paratoi am eclips solar sy’n gaddo gwawr newydd." Gyda diolch i "5 o ddawnswyr [Mischa Jardine, Amber Howells, Julia Costa, Keith Alexander a Harrison Claxton] dan arweiniad y coreograffydd a chyd-gyfarwyddwr [y sioe] Anthony Matsena", agorwyd y sioe mewn ecstasi corfforol a meddwol y Gaer, a'm hatgoffodd o gynhyrchiad o'r Bacchae a welais i yng Ngŵyl Caeredin yn 2007

"Archwilio’r dewrder o fod yn ‘wahanol’ mewn byd anfaddeuol," yw diben y cynhyrchiad, yn ôl cyfarwyddwr artistig Frân Wen a chyd-gyfarwyddwr y cynhyrchiad, Gethin Evans. Ac mae'n amlwg bod trafodaethau lu wedi'u cynnal am ystyr 'bod yn wahanol' mewn gweithdai yn yr ardal. 'Gwahanol' ydi'r Arianrhod hoyw yn yr "ail-ddychmygiad cyfoes" yma; sy'n cael ei threisio gan ei brawd Gilfaethwy ar orchymyn eu brawd Gwydion, wedi iddo wenwyno'r giwed yn y Gaer gyda'i ddoniau fel dewin. Yr un dewin sy'n creu a throi Blodeuwedd yn dylluan, er mwyn creu gwraig i Lleu Llaw Gyffes, mab Arianrhod yn Y Mabinogi.

Heb oes nag oni bai, rhan o lwyddiant y cynhyrchiad ydi'r chwa o awyr iach greadigol o allu'r coreograffydd Anthony Matsena, sy'n enedigol o Zimbabwe ond wedi'i fagu yn Abertawe, sy'n codi'r sioe i safon uchel iawn. All neb wadu’r trydan theatrig a grëwyd gan y goleuo, y seinlun, y coreograffi a’r weledigaeth sylfaenol. Gwych iawn. Felly hefyd gyda'r ynys-gaer o set o waith Elin Steele, ynghanol gofod gwag Pontio, wedi'i hamgylchynu gan fur o reiliau haearn oddi fry, oedd yn cyfleu Llys Dôn i'r dim. Trueni mai dim ond un olygfa oedd yno, gan fod presenoldeb dramatig Sharon Morgan yn ei gwisg ddu drwy'r giatiau haearn, yn drawiadol dros ben.


Dôn (Sharon Morgan) yn Llys Dôn - Rhan Un [llun Craig Fuller]

Uchelgeisiol hefyd oedd sgript o waith Angharad Elen a Sera Moore Williams, oedd yn fwriadol lenyddol, i gadw at naws y chwedl wreiddiol. Bu'n llwyddianus, ar y cyfan, er bod ambell i frawddeg yn taro'r glust yn chwithig. Ac er cystal oedd egni brwdfrydig pob actor a dawnsiwr, dwi'n amau mai arddull cyfarwyddo 'sioe gerdd' a barodd imi ofni'r elfen o or-ymdrechu, gor-ystumio a gor-weiddi ar brydiau. Mae cynlideb yn gallu bod yr un mor theatrig â'r seinlun a'r goleuo.

 

Wrth i'r act gyntaf ddod i ben, a chodi'r cynhyrchiad i'w uchafbwynt trydanol a chwbl wefreiddiol, meddyliais mai dyma ddiwedd Rhan Un, felly sioc oedd deall bod yn rhaid i'r gynulleidfa ymadael â'r theatr er mwyn ei osod at "yr ail act".


Madoc (Owen Alun), Heulwen (Mirain Fflur), Seren (Aisha-May Hunte) ac Elan (Chenai Chikanza) yn ail-act Rhan Un [llun Craig Fuller]

Cwta 20 munud ydi’r ail ‘act’ ddryslyd a llawn rhegfeydd, a'i hunig bwrpas ydi cyflwyno Elan (Chenai Chikanza) o Fangor y presennol, sydd angen dychwelyd “i’r parti ar y Pier” gan wahodd ‘plant Annwn' [yr isfyd wedi boddi Caer Arianrhod] i fynd gyda hi. "Miloedd o flynyddoedd yn ddiweddarach, ac mae disgynyddion Arianrhod yn dal i fyw mewn ofn ar wely’r cefnfor," ydi'r eglurhad ar y wefan, a chawn ein cyflwyno i dri chymeriad arall sef yr Heulwen feichiog (Mirain Fflur) a'i gŵr/brawd? Madoc (Owen Alun) a Seren (Aisha-May Hunte). Mae'r tri yn ymdrechu i gladdu 'Dylan' (Dylan Eil-Don? brawd/gŵr/plentyn?) cyn cael eu tywys o'r isfyd i "brofi’r tir uwchben".


Elan (Chenai Chikanza) yn ail-act Rhan Un [llun Craig Fuller]

Rhaid canmol portread grymus yr actores 16 oed [Chenai Chikanza] o'r cymeriad unigryw Elan, oedd yn dod â gwefr drydanol i'r act ddi-angen yma. Os mai cynrychioli ieuenctid cyfredol Bangor oedd y bwriad, yna mae'r fratiaith a'r rhesu o regfeydd yn argoeli'n dywyll iawn at ddyfodol iaith y Gymru Fydd. Anghyson hefyd oedd ei chymeriad, gan iddi'n amlwg fod wedi derbyn addysg Gymraeg eithaf safonol o wybod am gefndir Arianrhod a'r Mabinogi! Mae'n drueni na chyflwynwyd Elan a'r cymeriadau eraill wedi'r boddi theatrig ar ddiwedd yr act gyntaf, fyddai wedi cynnal uchafbwynt y cynhyrchiad theatrig yma, hyd y diwedd.


OLION - Rhan Dau: Yr Isfyd  **  [* a'r drydedd * am y prosiect cymunedol]


Gethin Evans (cyfarwyddwr artistig Frân Wen) yn egluro golygfa gyntaf Rhan Dau

A dyma ddod at yr Ail Ran oedd i fod i gychwyn ar y pier ym Mangor yn y parti "cwïar ar y pier" dan arweiniad y cymeriad unigryw arall, Maggi Noggi (Kristoffer Hughes). Digwydd bod, roeddwn eisioes wedi cael cyfle i ddarllen braslun o gynnwys OLION - Rhan Dau: Yr Isfyd drwy linc gyfrifiadurol ar bostyn ger Pier Bangor.

 

Cyn dod at yr ail-ran fel cynhyrchiad theatr, rhaid nodi bod y prosiect OLION yn "rhaglen 15 mis o weithgareddau [wedi] ei gefnogi gan Gyngor Gwynedd [ac] wedi derbyn £252,911 gan Lywodraeth y DU drwy eu Cronfa Ffyniant Gyffredin". Rhan ganolog a phwysig o'r prosiect ydi Gŵyl Adda Fest, a drefnwyd yn ystod y prynhawn ar gae Ffordd Glynne, yn Hirael [ger Pwll Nofo Bangor].


Fel prosiect 'promenade', neu ar gerdded, oedd man cychwyn Rhan Dau, wedi'i gyfarwyddo gan Marc Rees. Roeddwn i eisioes wedi profi y math yma o 'gynhyrchiad theatrig' dros y ddeuddeg mlynedd diwethaf, gan gynnwys yng Nghymru The Passion ym Mhorth Talbot, Tir Sir Gâr yng Nghaerfyrddin a Raw Material : Llareggub Revistied yn Nhalacharn. Er mwyn sicrhau llwyddiant, mae angen asgwrn cefn storïol cryf, a thîm cynhyrchu a chreadigol cryfach!. 


Yn drasig o anffodus, yn dilyn "digwyddiad" ar/ger Pier Bangor yn ystod y prynhawn, bu'n rhaid i Gethin Evans ein hysbysu fel 400 o gynulleidfa ddisgwyliedig, na fyddai'n addas o ran parch, i'r cwmni lwyfannu'r olygfa agoriadol ar y Pier. Yn hytrach, rhoddwyd inni lith ddisgrifiadol brys o'r hyn oedd i fod i ddigwydd, tra bod yr actorion yn sefyll mewn rhes tu cefn iddo yn y maes parcio. Siawns na ellid fod wedi cyfleu'r prif ddigwydd a'r dweud mewn ffordd mwy creadigol? Wedi cwbl, onid byrfyrio a chreu ydi dawn gynhenid pob actor a chyfarwyddwr?


O ganlyniad i golli'r elfen weledol a chlywedol o'r olygfa gyntaf, anodd iawn oedd deall eto, beth oedd bwriad a stori y ddwy awr a hanner a ddilynodd. O ia, 'bod yn wahanol'.  Mae'n anodd bod yn or-feirniadol, gan fod y gymuned leol a'r elusennau yn ran mor annatod o'r cynhyrchiad, ond a bod yn deg â ni fel cynulleidfa, roedd na feiau a bylchau mawr yn ein dealltwriaeth o'r hyn yr oeddem i fod i'w weld, a'i gasglu o'r darnau di-siâp o'r jig-so. Diog ac anfaddeuol ydi dibynnu neu ddisgwyl i'r gynulleidfa ddarllen y syniad ar bapur ac mi ddylai Frân Wen ddysgu o'r camgymeriad enfawr yma.


Yr hyn ddeallais i, o beth weles i, [ac nid o beth ddarllenais i!], roedd y tri cymeriad a welsom yn act 2 o Ran Un [disgynyddion Annwn] yn dychwelyd i Fangor, gyda'r cymeriad Elan. Roedd Elan (Chenai Chikanza) wedi ffoi o'i chartref, a'i mam Gwyneth (Rhian Blythe) [nyrs yn Ysbyty Gwynedd], yn chwilio'n daer am ei merch, drwy gydol y rhan. Ar y pier, yr hyn yr oeddem i fod i'w brofi [a siawns na ellid o leiaf fod wedi rhoi blas inni ohono?] oedd y parti 'cwïar ar y pier', wedi'i drefnu fel "[g]wrthwynebiad i Gŵyl Adda Fest". Yn anffodus, yn weledol, roedd y tri cymeriad [Heulwen, Madoc a Seren] yn edrych fel trychfilod dychrynllyd, y tro cyntaf inni ei gweld yn y byd yma, a mwya'r sydyn, roedd y tri "ar ffo".


Yr ymwelwyr o Annwn yn Rhan Dau


Felly, wrth gael ein hebrwng ar y daith o'r Pier, roeddem i brofi sawl golygfa gymunedol gyda'r bwriad o ychwanegu at y ddrama.  Sylwais ar hen-wr yn rhaffu geiriau tu allan i dafarn, ac am na chawsom gyfle ddigon hir i aros a cheisio synnwyr, [gan ein gyrru ymlaen fel gyrr o wartheg] collwyd ystyr a chyfraniad sawl golygfa. Gwelais ddwy wraig yn dadlau? trafod? poeni? ar lôn y Garth a wedyn tair geneth yn ystumio'n greadigol ar y traeth, heb eto, ddeall yr ystyr storïol. Ymlaen at griw o bobol ifanc yn chwarae? ac yn gefnlen iddynt y geiriau "cewch groeso yma" felly, roedd y gymuned yn barod i roi croeso i'r creaduriaid dychrynllyd yma, er gwaetha'r ffaith bod nhw'n cael dylanwad negyddol ar eu plant? 


Amrywiol olygefydd ar ein taith yn Rhan Dau


Collwyd pob cyfeiriad at, ac unrhyw olwg  [neu o leiaf gorymdaith o Falchder] y "cwïars ar y Pier",  hyd nes dod at Maggi Noggi yn meimio cân Caryl Parry Jones [am dreulio noson gyfan yn recordio cân yn stiwdio Sain, Llandwrog] sef Nos yng Nghaer Arianrhod. Ac wedi hynny, fel Blodeuwedd gynt, diflannodd Maggi o'r cynhyrchiad heb yngan gair o gwbl, a cholli cyfle am linyn storïol cryf 'am fod yn wahanol' ond derbyniol. Onid geiriau olaf Blodeuwedd yn nrama Saunders Lewis yw "Hedaf i Gaer Arianrhod. Caf gan dy chwaer / Groeso anghyffredin i ferch yng nghyfraith."?


Ymlaen â ni at leoliad Gŵyl Adda Fest, a golygfa gyda dialog y tro hwn. Yma gwelsom Gwyneth (Rhian Blythe) yn gweld ei merch Elan (Chenai Chikanza) yn annerch y dorf, tra bod un o'r ymwelwyr dychrynllyd, [Madoc (Owen Alun)] yn cael ei ddal gan yr heddlu? y dorf? y ddinas?. Yn annerch y dorf [ni] oedd yr actor Owain Gwynn, rhyw fath o drefnydd yr Ŵyl? O ail-ddarllen crynodeb o Ran Dau, fe gollwyd sawl llinyn storïol pwysig o'r olygfa agoriadol, dialog fyddai wedi ein cynorthwyo i ddeall pam bod Elan wedi dianc o'i chartref, a pham bod Maggi Noggi yn rhan o'r cynhyrchiad o gwbl?! 


Amrywiol olygefydd ar ein taith yn Rhan Dau

Er tegwch i rai o'r 400 ohonom fu'n ceisio gwneud synnwyr o'r cynhyrchiad, neu'r rhai a dalodd i weld Rhan Un, heb fedru cael tocyn i Ran Dau, dyma'r hadau holl bwysig a fethwyd ei gyfleu yn weledol na'n glywedol o'r olygfa gyntaf. [yn union fel sy'n cael ei nodi ar eu gwefan] "Mae Elan ar y pier gyda’i ffrindiau, yn cwyno am ei mam ac yn ei chymharu â’r Arianrhod ‘drwg’ y mae hi wedi bod yn dysgu amdani yn yr ysgol. Mae Maggi [Noggi] yn croesawu’r bobl ifanc gyda breichiau agored ac mae parti yn cychwyn. Mae Elan yn mynd mewn i siop Maggi -‘Dragwyddoldeb’ - ac yn gwisgo ei gwisg am y noson sy’n gwneud iddi edrych fel Arianrhod 2.0. Yn nghanol popeth, mae Elan yn derbyn galwad gan ei mam, mae hi’n ben boeth ac yn gwthio Elan yn rhy bell - efallai ychydig yn rhy bell yn llythrennol! Mae Elan yn diflannu am ychydig funudau ar ôl disgyn i’r dŵr. Ein amser ni = Mae Elan yn diflannu am ychydig funudau. Yn y byd = Mae Elan yn suddo i waelod Afon Menai ac yn cyfarfod â Madoc, Heulwen a Seren (Act 2 o sioe llwyfan OLION). Mae Elan yn ymddangos o’r dŵr, yn dringo i fyny’r pier, ac mae’n cael ei dilyn gan dri creadur sydd wedi eu synnu gan y byd o’u cwmpas ac sy’n perfformio defod cyfarwydd er mwyn diogelu eu hunain. Maent yn dod ar draws prysurdeb gwyllt a seirennau yr heddlu, felly maent yn penderfynu dianc a chwilio am loches er mwyn cael amser i gynllunio."

Y ddwy olygfa wrthgyferbyniol yn y Nyth a Pwll Nofio Bangor o Rhan Dau

Ar gychwyn y cynhyrchiad, rhoddwyd inni gerdyn ar linyn, oedd yn dynodi lle yr oeddem i fod ar amser benodol. Rhanwyd y gynulleidfa yn ddwy, er mwyn profi dwy olygfa wahanol mewn dau leoliad wrthgyferbyniol. Eto, o beth ddeallais i o'i gweld, golygfa Heulwen (Mirain Fflur) yn rhoi genedigaeth i'w phlentyn yng nghartref newydd a chwaethus Frân Wen sef Nyth, ac wedyn carchariad a rhyddhad y dieithryn Madoc (Owen Alun) mewn golygfa drawiadol gydag Owain Gwynn yn y Pwll Nofio. Mi wnes i fwynhau'r ddwy olygfa, yn enwedig yr un yn y Pwll Nofio, am bod yna rhyw lun o ystyr a chnawd o dan y ddialog oedd yn cael ei gyflwyno. Ac eto, roedd y neges tu cefn i'r dweud 'am fod yn wahanol' yn anneglur.

Ffwndrus a rhwystredigaethus oedd Rhan Dau, yn ei gyfanrwydd, a phlîs peidiwch â bod mor nawddoglyd a disgwyl i ni, fel cynllulleidfa geisio canfod atebion ein hunain, yn y gelfyddyd ddryslyd â gyflwynwyd. Llwyddiant cynyrchiadau tebyg i Tir Sir Gâr a The Passion ydi sgript cychwynol cryf a deallus, sy'n parchu'i chynulleidfa o'r olygfa gyntaf. Ac onid un o gamau sylfaenol unrhyw gynhyrchiad o'r math yma [yn enwedig tu allan] ydi trefnu bod 'contingency plan' a lleoliad-wrth-gefn wrth law, petai'r tywydd yn wael, neu bod ryw "digwyddiad" annisgwyl yn chwalu'r gobeithion gwreiddiol? O'n i'n meddwl bod yn rhaid darparu'r fath gynllun at ddibenion yr ysweiriant cyhoeddus, er mwyn gwarchod pawb? Efallai bod y Frân Wen wedi bod yn rhy uchelgeisiol y tro hwn, drwy gyflwyno dau gynhyrchiad a gŵyl dros un diwrnod, heb seiliau ddigon cryf i'r Ail Ran.

Er gwaetha'r ddialog druenus, a'r diwedd pawb-yn-caru'i-gilydd-am-byth, roedd yr 'olygfa olaf eto'n ddramatig a theatrig, a hawdd gweld lle y gwariwyd ran helaeth o'r £250,000! Rhaid llongyfarch Frân Wen am anelu yn uchel, ac am eu gwaith canmoladwy o fewn y gymuned. Roedd y mwynhâd ar wyneb y cast lleol o bob oed yn heintus a chalonogol, ond siom blêr gocheladwy oedd Rhan Dau fel cyfanwaith theatrig. Diolch byth bod Rhan Tri: Y Fam, ar ffilm! [yn yr Hydref].


Y diweddglo


 

Friday 20 September 2024

Slave Play - Duke of York Theatre

Dwi 'di gweld digon o theatr erbyn hyn i fod yn eangfrydig; neu dyna o'n i'n credu tan brynhawn ddoe, pan weles i'r ddrama 'ddadleuol' Slave Play.  Rhaid imi fod yn onest a datgan imi deimlo elfennau o'r un ffieidd-dra a wnes i wedi gweld y ddrama Blasted gan Sarah Kane bron i ddeg mlynedd ar hugain yn ôl.

Ro'n i'n ymwybodol cyn cyrraedd theatr y Duke Of York fod hon yn ddrama sydd wedi codi twrw ymhell cyn iddi agor yma yn Llundain. Wedi cyfnod llwyddiannus ar Broadway a gwobrau theatr lu yn yr UDA, roedd cyhoeddi eu bwriad o gynnal nosweithiau gyda chynulleidfaoedd "Black only" yn boenus o ddadleuol, gan bawb o bob lliw. Dychmygwch wneud yr un peth gyda chynulleidfa croenwyn?! Pwy fydda’r cyntaf i godi twrw wedyn? Heip marchnata bwriadol? Gewch chi benderfynu.
 
"Yn y 'MacGregor Plantation' mae'r 'Old South' yn fyw o hyd," dywed deunydd marchnata'r ddrama; "Mae 'na wres yn yr awyr, yn y caeau cotwm ac ym mhŵer y chwip. Ac eto, nid haul yw popeth melyn... tybed?" Doedd gen i ddim syniad beth i'w ddisgwyl. Yn fwriadol. Glywes i awgrym nad oedd y ddrama na'r cynhyrchiad yn cyd fynd â'r disgwyliadau Prydeinig am ddrama gyfnod, 'rymus. Ac felly, dyna pam y mentrais i'w gweld.
 


Wrth gyrraedd y theatr, mae cynorthwyr y swyddfa docynnau yn gosod sticeri Starbucks ar lens camerâu ein ffonau symudol. Dim byd newydd yn hynny, gan i'r un peth gael ei wneud sawl gwaith o'r blaen, er mwyn diogelu cyfrinedd y cynhyrchiad (ac yn y pen draw, i warchod noethi'r prif gymeriadau). Camu wedyn i'r theatr, ac wynebu llwyfan llawn o ddrychau enfawr, fel ein bod ni, y gynulleidfa, yn cael ein hatgoffa mai adlewyrchiad ohonom ni fel cymdeithas (croenwyn?) sydd yma. Eto, dim byd newydd. A rhaid nodi, mewn matinee bnawn Mercher ym mis Medi, mai gwyn oedd o leiaf 85% o'r gynulleidfa. Roeddwn i'n falch iawn o gwmni'r ddwy ddynes groenddu oedrannus, oedd yn mwynhau eu hufen iâ wrth fy ochor, cyn i'r cynhyrchiad gychwyn.
 
Chwalwyd yr holl ddisgwyliadau yn fuan iawn. Fe gychwyn y ddrama gyda thair senario wahanol; morwyn groenddu mewn gwisg gyfnod yn sgubo'r llawr, cyn cael ei herio gan ei meistr croenwyn. Herio ta fflyrtio? Dyna'r amwysedd bwriadol. Fe orffennir yr olygfa gyda'r ddau yn ymgodymu mewn cyfathrach rywiol amlwg, wedi i'r meistr ddefnyddio termau sarhaus i'w chyfarch. Yn yr ail olygfa, cawn ein cyflwyno i ddau gymeriad hanesyddol arall, mewn gwisgoedd cyfnod; y dywysoges croenwyn sydd eto yn herio (ta fflyrtio?) ei gwas, sy'n ymddangos yn groenwyn, ac mae'r olygfa hon hefyd yn diweddu mewn cyfathrach rywiol, wahanol i'r arferol! Ai ddim i fanylu, dim ond awgrymu mai hi oedd â'r grym y tro hwn, gyda chymorth pidyn plastig du!. A pharhau wnaeth y thema yn y drydedd olygfa, ond gyda dau ŵr bonheddig y tro hwn; y gwas ffarm croenwyn a'r meistr o ffermwr croenddu. Yma eto, mae yma herio (ta fflyrtio?) sydd, fel da chi'n disgwyl, yn diweddu mewn gweithred rywiol arall, gyda'r gwas croenwyn yn llyfu bŵts lledr y ffarmwr, tra bod yntau'n amlwg yn cyrraedd uchafbwynt o gyffro rhywiol. Comedi ta sioc fwriadol?
 
Doedd gen i ddim syniad be aflwydd o'n i 'di talu i'w weld!. Gyda llaw, gwell imi nodi (er budd yr Eisteddfod Genedlaethol!) mai dramodydd croenddu o'r Amerig, Jeremy O.Harris sy'n gyfrifol am y gwaith, sy'n digwydd bod yn hoyw hefyd. Pam crybwyll hynny? Wel, am ei fod yn rhan annatod o'r holl genadwri sy'n cael ei wthio allan i'r gynulleidfa Brydeinig. Cenadwri sy'n ceisio (ac yn methu yn ôl mwyafrif o'r adolygwyr yma yn Llundain) i'w egluro yn ail-ran y ddrama; ail ran ar bapur yn unig, gan nad oes toriad rhwng y ddwy ran, ac felly carcharir y gynulleidfa yn ein lle am dros ddwy awr!



Gan fod y cynhyrchiad yn dod i ben ymhen tridiau, fyddai ddim yn chwalu amwysedd y ddrama drwy ddatgelu mai gweithdy mewn grŵp seicoleg, yw'r tair golygfa a welwyd gyntaf. Gweithdy i gyplau priod cymysg, er mwyn eu helpu gyda phroblemau rhywiol. Torrir ar y romp hanesyddol gan y waedd "Starbucks" - 'gair saff' yr arbrawf seicolegol, cyn i'r ddwy seiciatrydd ifanc, un yn groenwyn, a'r llall yn groenddu, ddod i ail-osod y llwyfan. Dwy, gyda llaw, sydd mewn perthynas ramantaidd â'i gilydd. Wrth greu hanner cylch o gadeiriau melyn yn eu deuoedd, rhydd gyfle i'r cyplau a welwyd yn y rhan gyntaf i newid i'w gwisgoedd cyfoes, cyn ymuno yn yr (hanner) cylch.
 
Falla mai dyma'r fan imi gyfaddef mod i'n ffan fawr o'r gyfres deledu Americanaidd Couples Therapy gyda Dr Orna Guralnik, sydd i'w weld ar y BBC yma'n Mhrydain. A dyma'r senario sy'n cael ei gyflwyno yn yr "awr" nesa, wrth i'r ddwy seiciatrydd geisio dehongli'r "ffantasïau rhywiol" a welwyd yn y rhan gyntaf. Ffantasïau sydd i fod i ddatgelu'r elfennau negyddol oddi mewn i'r priodasau cymysg, ond sy'n troi'n ffars gymysglyd greulon. Codi hwyl ar yr holl broses o therapi sy'n cael ei gyfleu i gychwyn, gyda'r ddwy arweinydd yn defnyddio'u sgiliau therapi eithafol i geisio cael pawb yn y cylch i rannu eu teimladau a'u hofnau a'u dyheadau. Yr elfen fwyaf sy'n cael ei drafod ydi'r syniad o "white privilige" a pha hawl sydd gan y gwynion i drin y duon yn eilradd. Ydi, mae hi'n hen ddadl ac yn un sy'n haeddu triniaeth sensitif, ond yn anffodus, tydi'r ddrama hon ddim yn helpu'r achos.
 
Brafado (hoyw?) y dramodydd a'm trawodd i fwya'; y gor-drafod bod pidynnau'r duon yn fwy na'r gwynion, ac felly yn eu gosod uwchlaw, yn nhermau rhywiol. Aneglur ac anghyson ydi teimladau'r cymeriadau i gyd, heblaw'r ergyd olaf bob tro, mai bai ni'r gwynion ydi popeth!. 



Es i weld y ddrama er mwyn dysgu, er mwyn profi er mwyn gwrando, ond dychwelais (mi fentrai) gyda chenadwri wrthgyferbyniol i'r hyn a fwriadwyd. Oes, mae yna gic go hegar yn yr olygfa olaf un, a honno'n olygfa boenus a phryderus, nad oes dim byd yn newid i bobol groenddu.  Ond am weddill y ddrama, yr elfen o sioc heb foeswers sy'n aros. Sioc er mwyn sioc er mwyn comedi, sydd mor wahanol i'r ffieidd-dra addysgiadol a phwerus yng ngwaith Sarah Kane, neu Mark Ravenhill, sy'n holi'r dramodydd yn y rhaglen. 
 
Mae angen dramâu sy'n trafod profiad pawb yn y byd, waeth beth fo lliw eu croen neu'i crefydd, neu'r iaith sy'n dod o'u genau. Mae yna le sicr i angerdd a gwylltineb a sgrechfeydd o dyma'n-profiad-ni-felly-gwrandewch. Ac heb os, ar y llwyfan yw un o'r llefydd mwyaf grymus i wneud hynny. Ond mae'n rhaid i'r deunydd fod yn ddeallus i bawb, yn ddeallus ac addysgiadol, nid yn fygythiol a gor-ymosodol. Mae lliwio pawb â'r un brwsh yr un mor beryglus a'i anwybyddu. 
 
Yr unig rai ar eu traed ar ddiwedd y ddrama oedd y 15% o'r gynulleidfa groenddu, ar wahân i'r ddwy gymdoges a fu wrth fy ochor, a adawodd y theatr ar ôl awr a hanner. 
 
 

Friday 16 August 2024

Dyfodol Y Fedal Ddrama (2025 ymlaen) - Pwy 'da chi am bechu?

Dwi'n falch iawn, (ar un llaw eironig!), bod yr Eisteddfod Genedlaethol wedi chwalu'r nyth eleni, dros sgandal Y Fedal Ddrama. Os nad oedd canslo Theatr y Maes a'r Pentref Drama yn ddigon, mae canslo'r dramodydd buddugol, (a'r holl ddramodwyr eraill), a'r Seremoni a'r Gystadleuaeth yn ei chyfanrwydd, wedi dadlennu peryglon enbyd sy'n wynebu'r Theatr Gymraeg yng Nghymru (unwaith eto).


Roeddwn i eisoes wedi prynu Rhestr Testunau Eisteddfod Wrecsam 2025 cyn siambyls Pontypridd, ac wedi dychryn o weld bod 'Y Fedal Ddrama' wedi'i chanslo hefyd, a 'Medal y Dramodydd' wedi cymryd ei lle. Wn i'm pam trafferthu i gadw 'Medal' o unrhyw fath, gan ei bod hi'n glir i unrhyw un mai 'comisiwn o £3000' yw'r gystadleuaeth bellach, ac nid cystadleuaeth cyfansoddi drama. Wedi'i ganslo hefyd mae'r beirniaid annibynnol a di-duedd a 'chonsortiwm o'r cwmnïau proffesiynnol' wedi cymryd eu lle.  Yr unig rai fydd yn elwa o'r newid enbyd yma, ydi'r cwmnïau theatr broffesiynol - ac yn benodol, y Theatr Genedlaethol, ac nid ni ddramodwyr druan.


Dwi'n ddigon hen i gofio'r helynt a fu dros Dlŵs ac wedyn Medal Ddrama'r Genedlaethol ers degawdau bellach. 1989 i 1991 oedd cychwyn fy nghofio, cyn i lawer o'n harweinyddion artistig presennol gael eu geni!. Beirniaid yn anghytuno dros bwy i'w gwobrwyo, actorion o'u co' am fod y beirniaid am wobrwyo dramâu anorffenedig, a bod y dramâu hynny yn cael eu hail-sgwennu mewn ymarferion!. Adolygwyr yn lloerig am ddiffyg sylw a pharch i'r ddrama. Cwmnïau yn cwffio dros bwy oedd yn cael llwyfannu’r buddugol. Fel y gwelwch chi, does fawr wedi newid!

Eisteddfod Llanrwst 1989

Y peryg mawr, yn enw 'datblygu' a 'newid', ydi'n bod ni'n mynd am yn ôl, yn lle ymlaen. Er nad oedd y sefyllfa'n berffaith o gwbl, mi fu 'na gyfnod cyn y Clo Covid lle (yn fy marn i) 'roedd pethau wedi dechrau setlo. Roedd gyda ni Theatr Genedlaethol; a Theatr a Phentref Drama ar y Maes. Hwre! Ac roedd y Theatr Genedlaethol yn perfformio'r dramâu buddugol, neu o leia'n cynnal darlleniad, yn ôl eu ffafriaeth. Ac 'roedd gennym 'ddramodwyr' newydd teilwng fel Gareth Evans-Jones, Gruffydd Siôn Ywain, Hefin Robinson ac Heiddwen Tomos, a'u dramâu buddugol.


 
Ond fe ddaeth newid, eto, ac arweinydd presennol y Theatr Genedlaethol yn datgan yn blwmp ac yn blaen, nad oedd ganddo ddim diddordeb mewn bod yn rhan o'r Gystadleuaeth. A dyna ddechrau’r diwedd. Canslo'r Theatr (gan mai cyd-gynnal Theatr y Maes efo'r Theatr Gen' oedd yr Eisteddfod), ac o'r herwydd, canslo'r Pentref Drama. A'r esgus a roddwyd ar y pryd? Nad oedd dramâu'r Fedal yn cyd-fynd ag ethos y Theatr Genedlaethol newydd, ac nad oeddent am gael eu clymu wrth orfod llwyfannu neu drefnu darlleniad o'r buddugol. A dyna'r farwol i'r Fedal Ddrama, ymhell cyn llanast eleni. Doedd y patrwm hynafol o gyfansoddi drama yn unig ddim yn gweddu i weledigaeth (gŵyl) ymylol y Theatr Genedlaethol. Theatr stryd, neu theatr fringe sy'n ffitio i gaffi neu far, ydi'r nod bellach. Monologau neu gomedi arbrofol rhad, sy'n cael ei gynnig i Brifwyl ein Cenedl, yn lle cynhyrchiad safonol Cenedlaethol.
 
Theatr Genedlaethol Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol 2023

Ac felly, mae'n gwbl glir, mai dyna sy' tu cefn i'r penderfyniad o newid y gystadleuaeth, a pham bod y Theatr Genedlaethol wedi aros yn fud drwy'r llanast diweddaraf. Drwy 'ofyn i'r dramodwyr gyflwyno 'braslun', a 'proffil' o'r cymeriadau ac enghraifft o ambell i 'olygfa, mae'r pŵer yn cael ei gyflwyno'n daclus i ddwylo'r cwmnïau theatr; cânt greu be ma' nhw am ei lwyfannu, yn hytrach na be mae'r dramodwyr eisiau'i greu. Pa wahaniaeth ydi'r 'gystadleuaeth newydd' i'r broses arferol o gynnig am gomisiwn? A be' sy'n atal y cwmnïau rhag gwthio syniadau a dramodwyr sydd eisoes yn gyfarwydd iddynt, i gystadlu? Sylwer ar y geiriad cyfleus 'Gellid cyflwyno Dramâu nad ydynt eisoes wedi cael eu cyflwyno i unrhyw un o aelodau'r Consortiwm' yn hytrach na, 'Ni chaniateir cyflwyno Dramâu sydd eisioes wedi cael eu cyflwyno' . Ac yn waeth na hynny, 'Gellid cyflwyno fel cyd-ysgrifennwr, gan rannu'r wobr ariannol a'r profiad sydd ynghlwm â'r wobr.' Sut aflwydd mae 'rhannu'r' Fedal Ddrama? A faint o 'gyd-ysgrifennwyr' sy'n dderbyniol? Un? Tri? Deg? Faint o adborth annibynnol fydd na yn y broses guddiedig hon? A phwy fydd yn 'gwarchod' y dramodwyr mewn gwirionedd?
 
Dilynwch y patrwm uchod i'r eithaf, (yn enwedig ar ôl y llanast eleni), ac mae'r cyfan yn drewi'n gyfleus, cyn cychwyn. O blygu'r gystadleuaeth yn fwriadol, o gytuno i gyd-weithio cyn beirniadu, o wthio dramodwyr unigol ar draul eraill,  gall y cyfan gyd-fynd â pholisïau’r cwmnïau i ymgyraedd at eu targedau ariannu. A bod yn hollol onest, mae arlliw o hynny eisoes i'w weld eleni.  


Mae'n amlwg bod beirniaid Medal 2024 wedi penderfynu gwobrwyo "llais newydd ffres" ar draul (o bosib) dramodwyr eraill, pa liw bynnag fo eu croen. Pwy a ŵyr os oedd gwaith y buddugol gystal â drama anfuddugol Wyn Bowen Harries?. Go brin, gyda'r fath ganmoliaeth am ei ddrama 'DNA'


Am fod beirniadaeth gyfan y gystadleuaeth wedi'i gelu rhag y cyhoedd, chawn ni byth wybod. Be sy'n gwbl amlwg ydi bod y cynllun wedi bac ffeirio big-time!, gan (yn ôl awgrym Cefin Roberts ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru) fod yr 'actor' oedd i fod i gyflwyno'r gwaith, wedi gwylltio'n gacwn, ac yn amlwg wedi gwrthod cyflwyno'r gwaith! Pa hawl oedd gan y dramodydd 'gwyn' i feiddio defnyddio eu dychymyg a'u dawn ac i siarad ar ran cymuned nad oeddent yn perthyn iddi? A dyna ddychryn yr Eisteddfod o'u coua'n lân a chanslo pawb a phopeth! 

Pwy 'da chi am bechu? fydd y gystadleuaeth i'r Eisteddfod o hyn ymlaen. O adael i'r cwmnïau theatr gael gormod o 'rym fel hyn, yna dwi'n gwybod mai dramodwyr 'gwyn' fydd yn dioddef. A na, nid 'welsh privilege' yw hyn, fel sydd eisioes yn cael ei awgrymu, ond synnwyr cyffredin. Mae hynny yn gwbl amlwg, oherwydd dyna yw'r ethos newydd. Mae pob cwmni theatr o Gymru i Gaeredin i Galway i ganol y West End yn crefu am waith gan ddramodwyr o gefndiroedd 'anarferol'. A gwych o beth am hynny. Ond mae'r arfau a'r adnoddau i wneud hyn eisioes yn meddiant bob cwmni theatr sef 'comisiynu!' ac nid 'newid cystadlaethau Cenedlaethol'. 

Onid safon y Gymraeg, (o gofio Rheol Gymraeg yr Eisteddfod) a gallu unigol y dramodydd (nid dramodwyr neu'n waeth fyth y potensial o'r dramodydd a'i gyfieithydd), ddylia ragori dros y cynnwys a'r cymeriadau, a lliw croen yr awdur?  A beth am weledigaeth theatrig unigol y dramodydd?  O gyflwyno dim ond braslun o'r cynnwys a'r cymeriadau ac enghraifft brin o'r dialog, yna mae'n agor y drws i gwynion lu o annhegwch a thuedd. Dychmygwch wneud yr un peth yng nghystadleuaeth Y Goron neu'r Gadair neu'r Fedal Ryddiaith? Caniatau gwobrwyo 'cyd-weithio' neu'r bosibilrwydd o 'gyfieithu', neu meiddio wobrwyo'r syniad yn unig, gydag enghraifft o 'allu creadigol y bardd neu'r awdur?. Mae'r peth yn hurt bôst. Gwobrwyo'r cyfanwaith mwya' gorffenedig ac addawol yw pwrpas cystadleuaeth. Syniad comisiwn yw pob ymgais arall.

Os ar sail 'amrywiaeth anarferol' neu 'bod yn fwy cynhwysol' yw'r newidiadau yma, yna dylid gosod cystadleuaeth ar wahân ar ffurf Medal y Dysgwyr, gyda phroses cwbl dryloyw o weld a chyfarfod a sgwrsio gyda'r dramodwyr o flaen llaw. Peryg hynny yng nghyd-destun byd y ddrama, yw gwobrwyo ffrindiau ac anwybyddu'i gelynion! Ond falla mai dyna yw'r bwriad o'r dechra! Mae'n g'neud i rywun ama! Does ryfedd bod ein dramodwyr yn troi'n awduron!
 
Medal Ddrama'r Eisteddfod Genedlaethol

Rhoi hyder a'r Parch yn ôl i'r gystadleuaeth fel y mae hi, ydi'r unig ffordd ymlaen. Does dim angen newid y gystadleuaeth er mwyn trio plesio pawb. Newch chi fyth!. Dyna wendid S4C!  Newid y meddylfryd â'r 'arbenigwyr' sydd ynghlwm â hi, sydd raid. Os nad ydi'r Theatr Gen' neu'r cwmnïau theatr a diddordeb yn y gystadleuaeth fel y mae hi, yna ffarwel iddynt. Sawl cwmni sydd wedi trafferthu mynd i'r Llyfrgell Genedlaethol i weld gwaddol aflwyddiannus y Gystadleuaeth, a'r llwyfan o ddramodwyr 'addawol' a anwybyddwyd?

Pam ddim gofyn i'r Panel Drama leol ddewis beirniad - mae digon o actorion ac athrawon drama, a chyfarwyddwyr amatur a phrofiadol ymhob ardal. Gofynnwch iddynt ddewis actorion lleol i gyflwyno detholiad o'r buddugol, rhag amharu ar Weledigaeth Wych y Theatr Genedlaethol a'u prysurdeb!. Trefnwch Wasg i gyhoeddi'r ddrama, os ydi hi'n haeddu hynny, neu rhowch arian datblygu i'r awdur i gywreinio'u gwaith yn annibynnol i unrhyw gwmni a'u ego's unigol. Fel y dywedodd un o aelodau gweithgar byd y ddrama amatur yng Nghymru, mae 'na ddigon o gwmnïau ar lawr gwlad sy'n ysu am ddramâu newydd, os nad yw'r cwmnïau profiadol eu heisiau!

Friday 14 August 2015

'Gypsy'

Y Cymro 14/08/15 

Tra bod pawb arall yn heidio tua mwynder Maldwyn, llusgo’n hun i’r Savoy wnes i (dan frathiad go hegar o enau’r ‘ci du’) er mwyn ymuno yn y llu sydd eisoes wedi canmol portread ‘perffaith’ Imelda Staunton o ‘Rose’ yn y ddrama gerdd ‘Gypsy’.


Wythnos briodol iawn i weld y sioe wefreiddiol hon am fam ‘eisteddfodol’ sy’n mynnu gwthio ei ‘phlant’, ac yn arbennig felly ei merch ei hun – y ‘Jane’ benfelen berffaith yn gyntaf, ac wedyn yr enwog  ‘Gypsy Rose Lee’ i lygaid y llwyfan.  Er gwaetha pawb a phopeth, a’r ffaith hynod o greulon nad oes gronyn o dalent yn perthyn i’w ddwy, mae’r ‘Rose’ gegog a llawn hyder yn ddall o realiti’r sefyllfa. Y gwirionedd creulon sy’n codi dagrau diffuant iawn erbyn y diwedd yw mai methiant gyrfa’r fam sy’n gyfrifol am wthio a bwlio’r ‘plant’ o flaen cynulleidfaoedd Vaudeville'r cyfnod.


Er imi brynu tocyn dros flwyddyn yn ôl i weld y sioe yn ei chartref chwarelyddol creadigol yng Ngŵyl Chichester, methais â chyrraedd y fan honno, a bûm yn cicio’n hun am flwyddyn gyfa am fethu’r wledd.  Erbyn hyn, mae’r tocynnau fatha aur, a’r prif reswm heb os nag oni bai ydi portread gwefreiddiol Imelda Staunton sy’n hawlio’r llwyfan o’r cychwyn hyd dduwch y diwedd.  Un o’r portreadau hynny sy’n gyrru iâs oer i lawr y cefn, ac yn naddu’i le haeddiannol yn y cof.  Erbyn diwedd yr Act Gyntaf, a’i ‘phlant’ wedi ffoi,  a’r dyfodol yn edrych yn unig ac oer, mae ei datganiad di-fai o’r gân glasurol ‘Everything’s Coming Up Roses’ yn ein paratoi’n berffaith ar gyfer corwynt yr ail act.



Ar gwrs ffilm ryngwladol sawl blwyddyn yn ôl, mi ddysgais am bwysigrwydd taith y prif gymeriad, ddylai fod yn ddigon cryf i gynnal diddordeb y gynulleidfa.  Cyfrinach y daith (a llwyddiant y stori) yw lle i gychwyn y daith, er mwyn caniatáu digon o filltiroedd emosiynol i’w godro. Byddai rhai yn dadlau bod ‘Rose’ druan wedi cyrraedd diwedd ei thaith ar gychwyn y sioe. Ond cryfder cywaith Jule Styne, Stephen Sondheim ac Arthur Laurents yw gwthio’r cymeriad i’w eithaf, a gogoniant Imelda Staunton yw cyfiawnhau pob eiliad o’r daith ddramatig honno.



Mae’r sioe hefyd yn llawn o ganeuon adnabyddus sy’n fêl i’r glust fel ‘Some People’, ‘Together, Wherever we go’, ‘Small World’ a’r anfarwol ‘Everything’s Coming up Roses’.  Llifai môr o atgofion yn ôl am Iola Gregory yn y ffilm wych ‘Rhosyn a Rhith’ wrth geisio achub ei sinema leol; y diweddar Cilla Black, Lilly Savage (Paul O’Grady) a Barbara Windsor yn ail-fyw’r gân adnabyddus arall ‘You Gotta Get a Gimmick’ ar lwyfan y Royal Vareity; a mam yn fy ngorfodi fel plentyn 8 oed i wisgo fel ‘Gypsy Rose Lee’ a minna fawr callach mai seren striptease oedd prif enwogrwydd honno!!


Yn seiliedig ar atgofion ‘Gypsy Rose Lee’ am ei mam o 1957, mae’r ddrama gerdd yn cael ei harddel fel un o’r goreuon, a hynny gan amla’ yng nghyswllt portreadau anfarwol y goreuon o’r ‘fwystfil o fam’ neu’r ‘fam llwyfan eithafol’ sy’n cynnwys  Ethel Merman, Angela Landsbury, Patti LuPone, Bette Midler  a bellach Imelda Staunton.


Mae yna ambell docyn ar gael, gyda’r rhataf (yng nghefn y stalls) am gyn lleied â £24.  Ond mae’n rhaid i’r llen terfynol ddisgyn ar y 28ain o Dachwedd eleni, cyn i Imelda Druan ddisgyn yn un swp, wedi’r daith emosiynol, angerddol a chwbl drydanol.