Gyda Noson Tân Gwyllt ar y gorwel, ac wedi byw ym Methesda am tua dwy flynedd, does ryfedd bod cynhyrchiad Theatre 503 o’r ddrama Tachwedd gan Jon Berry, wedi apelio ataf. Ymysg y cast, roedd enwau dau actor Cymraeg oedd yn gyfarwydd imi, a dau oedd ddim; mi wyddwn fod y cyfarwyddwr o Gymro Jac Ifan Moore wedi cyfarwyddo o leiaf un llwyfaniad o ddramâu buddugol Medal Ddrama’r Eisteddfod Genedlaethol, ac felly roedd y cynhwysion yn addawol. Felly, pam yr ofn? Atgofion anffodus efallai o gynhyrchiad Cymreig arall yn yr un theatr, o’r enw Land of Our Fathers gan Chris Urch yn 2013; cynhyrchiad oedd yn llawn o gamsyniadau am Gymru’r 1970au, a’m gadawodd yn gandryll ac yn drist.
Dwi’n falch mod i wedi cael cipolwg brys ar gefndir y ddrama cyn dringo’r grisiau i’r popty creadigol fechan hon yn Battersea, De-Llundain. Darn o dir ym Methesda [ger Bangor] dros gyfnod o bedwar cyfnod yw craidd y ddrama, a hynny ym mis Tachwedd 1742, 1902, 1975 a 2024. Y flwyddyn a ddaliodd fy sylw gyntaf oedd ynghanol Streic tair blynedd gweithwyr Chwarel y Penrhyn [1900-1903] a fathodd y frawddeg eiconig Gymraeg, “Nid oes bradwr yn y tŷ hwn”. Gallwn feddwl am 1975 fel cyfnod o wrthryfel economaidd, wedi llanast Llywodraeth Dorïaidd Ted Heath, a buddugoliaeth leiafrifol Llafur o dan Harold Wilson ym 1974. Rhy gynnar i’r streiciau enwog a ddaeth yn sgil cyfnod Thatcher yn y 1980, fyddai, efallai wedi bod yn fwy defnyddiol o ran digwyddiadau dramatig. A gwers Gymraeg i'r adolygydd di-academaidd hwn[!], sef tarddiad y gair / enw, 'tachwedd', sy'n perthyn i 'trachywedd' ac yn gallu golygu 'lladdfa' neu '
Casgliad y Werin |
Lleolir y digwydd oddi fewn i gorlan o lechi Cymreig, neu ‘grawia’ yn ôl yr enw lleol. O dan draed, roedd gro mân, oedd yn ymdebygu’n gamarweiniol i lo mân, ac efallai eto, y byddai deunydd mwy tebyg i las y llechi, wedi bod yn fwy trawiadol. Ar focs cardbord ar stôl bren roedd enw’r dref [Bethesda] a’r pedair blwyddyn wedi’i nodi arno. Daeth y pedwar actor i’r llwyfan yn drawiadol dros ben, gan godi llond llaw o’r gro bob yn un, a’i fwyta, oedd yn eu cysylltu’n syth â’r tir, gan adleisio ei bwysigrwydd i’w cynnal ar sawl lefel.
Llun Douglas Clarke-Wood |
Gyda rhychwant o “2000 mlynedd” a “phedwar o bobol” roedd ceisio gosod darnau jig-so'r Act gyntaf at ei gilydd yn dipyn o sialens. Yn anffodus, doedd dewis-wisg pob cymeriad ddim yn ein helpu yn hynny o beth, gan fod y newid bwriadol gynnil, efallai’n rhy gynnil, i wahaniaethu rhwng y cyfnodau. Fe gawsom olygfa yn y presennol? rhwng yr awdures [na ddeallais tan yn hwyrach yn y ddrama] (Carri Munn) a llanc ifanc oedd yn gwerthu ei gartref iddi. Roedd yn amlwg fod yma berthynas o gyswllt rhwng y ddau, ond methais â’i ganfod, yn yr olygfa gyntaf hon. Wedyn, cawsom ein cyflwyno i nifer o gymeriadau a straeon gwahanol, gyda’r un gwendid o fethu deall pa gyfnod a beth oedd perthynas pawb â’i gilydd. Deallais fod yma lanc ifanc eto (Bedwyr Bowen) yn byw mewn tyddyn [1742?], gyda’i fam (Cari Munn) a’i dad gwael o iechyd, (Glyn Pritchard) tra bod yntau yn caru efo merch leol [di-Gymraeg?] (Saran Morgan). Wedyn i gyfnod gwahanol [1975?] ble roedd y gŵr (Glyn Prichard) yn cecru efo’i wraig (Cari Munn) dros ddiffyg gwaith yn “y ffactri” tra bod ei gyfaill (Bedwyr Bowen) oedd hefyd allan o waith, yn ddylanwad drwg arno. Wedyn i gyfnod arall [1902] ble roedd “y streic” yn ei anterth, ac arian yn brin i’r fam (Cari Munn) a’i merch (Saran Morgan) a’i brawd (Bedwyr Bowen).
Llun Douglas Clarke-Wood |
Oherwydd yr holl linynnau storïol a’r cymhlethdodau pellach drwy or-gynildeb y set a’r gwisgoedd, roedd cyrraedd yr egwyl yn fendith, petai ond i gael munud i feddwl a cheisio deall yr hyn yr oeddwn wedi’i weld. Rhaid canmol portread y pedwar actor o’r holl gymeriadau, a bod eu hacenion Gogleddol yn falm i glust llanc o Ddyffryn Conwy, yn enwedig mewn cynhyrchiad Cymreig yn Llundain. Allai’m dechrau rhestru enghreifftiau o acenion deheuol dwi wedi’i glywed mewn dramâu wedi’u lleoli yn y Gogledd!
Ond pan gychwynnodd yr ail-act, disgynnodd y darnau i’w lle yn llawer mwy rhwydd, a daeth iachawdwriaeth o ddeall ac ystyr, a neges bwysig i’m clyw. Gorthrwm y Sais sydd yma, o be ddeallais; o newyddiadurwr Prydeinig yn cwestiynu addasrwydd troi trychineb teuluol yr awdures Gymraeg yn nofel; o dwyll posib tir feddiannwr Prydeinig a’i ferch, i ddwyn cartref a thir y llanc ifanc a’i deulu; o oruchafiaeth afiach a rhagrith pŵer Crefyddol y landlord o Sais ar deulu Cymraeg yn ystod Streic y Penrhyn; a bwriad y gŵr di-waith o ddial a’r sefyllfa druenus ei deulu, drwy losgi’r “ffactri”, yn adleisio’r ymgyrch i losgi tai haf yn y 1980au.
Llun Douglas Clarke-Wood |
Drwy gyfarwyddo deallus Jac Ifan Moore a goleuo effeithiol James Harvey, a set drawiadol ond syml Rebecca Wood, roedd hwn yn berl o gynhyrchiad Cymreig, wedi’i gyflwyno’n drawiadol ac emosiynol ar adegau, gan bedwar actor hyderus. Roedd seiniaeth cynnil ond gwbl effeithiol Joseff Harris o frefiadau defaid, tipiadau’r cloc a fflamau’r tân yn cwblhau’r portread taclus a thrawiadol yma, o effaith y mewnlifiad ar gymuned Gymraeg.
Er gwaethaf ambell i dro chwithig yn y sgript fel cyfeirio at fynd i'r "Blaenau" [Ffestiniog] yn hytrach na "'Stiniog" a sawl amrywiaeth od o "Fy Nhad", roedd yr ymdeimlad ac adnabyddiaeth o Gymru a'r Gymraeg, yn llwyddo'n rhyfeddol.
Gobeithio’n wir y caiff cynulleidfaoedd Cymru weld y cynhyrchiad a hynny yn Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg wreiddiol – dyma gynhyrchiad fyddai’n gwbl addas a chwbl haeddiannol i fod yn “gyd-cynhyrchiad” i’n Theatr Genedlaethol Gymraeg, yn hytrach na mwy o ddawns a sioeau i blant.
Mae Tachwedd yn Theatr 503 tan Tachwedd 2il. Archebwch yma.
No comments:
Post a Comment