Friday, 29 October 2010

'Ivan and the Dogs'




Y Cymro – 29/10/10

Wrth ymweld ag Athen rai wythnosau’n ôl, ac yn fwy felly pan yn yr India flwyddyn ynghynt, synnais o weld cymaint o gŵn gwyllt oedd yn cerdded y strydoedd. Cael fy annog gan bawb i beidio â’u cyffwrdd, a’r anifeiliaid ‘rheibus’ hyn yn ôl rhai, yn bla ac angen eu difa. I unrhyw un fel fi, gafodd ei fagu o fewn teulu oedd yn caru anifeiliaid anwes, (gyda’r ci neu’r gath fel arfer yn hawlio’r sedd gorau yn y lolfa!), roedd yr ysfa anwesol yn anodd ei anwybyddu. ‘Cyfaill gorau dyn’ meddai’r hen air, ac wedi gwylio ymateb ein ci defaid ‘Nel’ i farwolaeth fy nhad, ac yna fy mam, allai fyth ag anghytuno gyda hynny. Maen nhw’n rhan o unrhyw deulu, ac yn fwy sensitif nag unrhyw blentyn.

I gyd gŵn garwyr, mae’n rhaid ichi fynychu Theatr Soho ar hyn o bryd, er mwyn profi stori ddirdynnol ‘Ivan and the Dogs’ sy’n cael ei gyflwyno ar y cyd gan ATC ar theatr ei hun. Yn seiliedig ar stori wir Ivan Mishukov, gafodd ei fagu gan gŵn gwyllt ar strydoedd Moscow yn y 1990, mae’n ddameg fythgofiadwy am ymdrech un plentyn i oroesi, er gwaetha ei dad maeth creulon, y ‘militia’milenig, ei gyd-gyfeilion gaeth i gyffuriau a’r cartref i blant amddifad digysur.

Natur syml, plentynaidd yr actor Rad Kaim, a’m denodd o’r eiliad cyntaf. Roedd ei fynegiant pwyllog, heb wastraffu geiriau yn ergydion emosiynol pendant. Mewn dinas wedi’i ddinistrio gan ddirwasgiad, roedd bywyd yn llwm ac yn frwydr dyddiol i fyw : ‘All the money went and there was nothing to buy food with. So Mothers and Fathers tried to find things they could get rid of, things that ate, things that drank or things that needed to be kept warm. The dogs went first’.

Ond, prinhau wnaeth y bwyd, a buan wedyn gwelwyd rhai teuluoedd yn gorfod ymwared â’u plant hyd yn oed. Creuwyd arall-fyd tanddaearol ar gyrion y ddinas, byd a dry’n oroesiad i’r cymhwysaf o fedru nid yn unig wrthsefyll yr oerfel a’r eira, ond y bwlis a’r begera. Byd ble roedd yr ysfa i ddianc yn ormesol, a hafan hawdd y cwmwl cyffuriau yn fodd i anghofio, dros dro.

Er mai dewis i redeg i ffwrdd wnaeth Ivan, o dan law creulon ei dad maeth oedd yn curo’i fam, a’r cecru dyddiol, buan y canfu ei hun ynghanol y byd creulon hwn. Ei unig gysur oedd y cŵn gwyllt, yn benodol un ci gwyn, a ddaeth yn ei dro yn bennaf ffrind iddo. Begera, dwyn a rhannu oedd ei achubiaeth, a’r ci, ac wedyn y cŵn, yn dod yn amddiffynwyr digyfaddawd iddo. Eu gwres, eu cwmni a’u cyfarthiad a’i cadwodd yn fyw am flynyddoedd, hyd nes i’r Militia ei ddal, a difa’r cŵn. Er ei osod mewn cartref i blant amddifad, ac i grefydd geisio adfer ei ffydd a meddiannu ei enaid, parhau i uniaethu â’r cŵn wnaeth Ivan, gan weld enaid ei gi gwyn, ymhob ci wedi hynny, yn ogystal â’i enaid ei hun.

Wedi’i lwyfannu mor daclus a diffwdan a’r deud, gyda’r actor yn gaeth o fewn bocs gwyn gydol y sioe, cefais brofiad theatrig cofiadwy tu hwnt. Roedd y gerddoriaeth a’r delweddau oedd yn cyd-fynd â’r geiriau yn anwesu anwyldeb y cyfan, a’r dagrau yn llygaid yr actor yn brawf sicr o bŵer y geiriau yn ogystal â hygrededd sgript Hattie Naylor a chyfarwyddo sensitif Ellen McDougall.

Mae ‘Ivan and the Dogs’ i’w weld yn Theatr Soho tan y 6ed o Dachwedd.

Friday, 22 October 2010

'Hay Fever'




Y Cymro – 22/10/10

Comedïau Noël Coward sydd wedi bod yn llenwi llwyfannau Llundain yn ddiweddar. ‘Private Lives’ efo Kim Cattrall a Matthew MacFayden gafodd fy sylw dro yn ôl, ac ers hynny mae ‘Design for Living’ i’w weld yn yr Old Vic ar hyn o bryd, yn ogystal ag ‘Hay Fever’ yn y Rose, Kingston. O be glywai ar y winllan, bydd cynhyrchiad arall eto fyth o ‘Blythe Spirit’ efo Alison Steadman y tro hwn, yn cyrraedd y West End fis Mawrth nesaf.

Heb os, mae’r comedïau crafog, Prydeinig rhonc, yn cynnwys cymeriadau comig cryf; cymeriadau sy’n denu sylw, ac weithiau dyheadau rhai o’n hactorion mwyaf adnabyddus i’w portreadu. Bu cynhyrchiad hynod o gofiadwy o ‘Hay Fever’ yn y West End dro yn ôl gyda neb llai na Judi Dench yn portreadu’r gyn-actores ‘Judith Bliss’ sy’n rhannu’r bwthyn gwledig moethus yn y 1920au gyda’i theulu unigryw a boncyrs! Celia Imrie sydd bellach yn ymuno â’r rhestr nodedig o actorion, yng nghynhyrchiad Stephen Unwin, yn y Rose, Kingston, er y bydd Nichola McAuliffe wedi camu i’w hesgidiau moethus erbyn diwedd y mis, oherwydd ymrwymiadau ffilmio Celia.

Teulu’r Bliss yw canolbwynt y comedi, wrth i bob un ohonynt yn eu tro, yn ddiarwybod i’r gweddill, wahodd ‘cyfaill’ i dreulio’r penwythnos yn y bwthyn. Erbyn canol yr act gyntaf, mae’r lolfa yn llawn o gymeriadau lliwgar Coward, bob un a’i broblem, neu ei bwyth sydd angen ei dalu’n ôl. Ond breuder a balchder bwystfilaidd y tad a’r fam, a’u plant sy’n cynnal y cyfan, wrth i’r ffraeo a’r cecru barhau, ac erbyn diwedd y drydedd act, ddychryn eu gwesteion cymaint, nes bod y pedwar ohonynt yn llwyddo i ffoi gyda’i gilydd y bore canlynol, ynghanol ffrae fawr y teulu, heb i’r un ohonynt sylwi!

Celia Imrie sy’n serennu heb os, ac yn cynnal rhan helaeth o’r cynhyrchiad wrth iddi arnofio ar draws y llwyfan, yn ei dillad nos liwgar a sidanaidd, yn gor-actio’n bwrpasol, wrth ddyheu am gael bod yn ôl yn llygad y cyhoedd. Dwi’n hoff iawn o ddawn comedïol Celia, sy’n fwyaf adnabyddus am ei gwaith yng nghyfresi comedi Victoria Wood. Mae ganddi’r ddawn anhygoel o fedru anwesu’r dialog gomedïol, a’i gyflwyno’n llawn surni a sychder dirmygus a dychanol, yn ôl gofyn yr olygfa. Roedd ei hatgasedd, neu efallai ei chenfigen o ‘gyfaill / cariad’ ei gŵr, yr anghenfil annwyl ‘Myra Arundel’ (Alexandra Gilbreath) yn peri i’r ergydion gwenwynig, gael eu saethu dro ar ôl tro. Yr anwyldeb ffug wedyn wrth iddi geisio denu sylw’r llanc golygus ‘Sandy Tyrell’ (Sam Swainsbury ) ei gwestai hi am y penwythnos yn y bwthyn.

Oherwydd natur dros-ben-llestri’r gyn-actores o fam, mae’n anffodus o ofynnol felly i’r teulu cyfan orfod bod mor boncyrs a hithau, yn enwedig wrth iddynt oll orfod ail-fyw un o ddramâu clasurol a mwyaf llwyddiannus y fam, ‘Love's Whirlwind’ dro ar ôl tro. Ar adegau, mae’r cyfan yn llithro tuag at beryglon y felodrama eithafol, ond cryfder Celia fel y fam, a hafan dawel eto’n nerfus y diplomydd ‘Richard Greatham’ (Adrian Lukis) sy’n angori’r cyfan yn ôl i realaeth.

Moesuthrwydd y cynhyrchiad sy’n aros yn y cof, o’r set hyd eithafion byd dychymygol Coward, wrth roi blas unwaith yn rhagor ar fohemia’r 20au. Er imi gael gwell blas ar y comedi hwn, tydi’r cyfan ddim yn taro deuddeg i’r llanc o Ddyffryn Conwy. Efallai fy mod i’n rhy ifanc, neu ddim mor wladgarol Brydeinig â gweddill y gynulleidfa, ond mi drysorai daclusrwydd ei dechneg lenyddol a pherfformiad cofiadwy Celia Imrie.

Bydd ‘Hay Fever’ i’w weld yn y Rose, Kingston hyd ddiwedd Hydref. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.rosetheatrekingston.org

Friday, 8 October 2010

Edrych mlaen...



Y Cymro - 08/10/10

Cyfarchion o Athen! Na, dwi heb ddrysu, ond wedi hedfan draw i dalu teyrnged i Dionysos, duw drama, gwin a phethau da! Braf oedd cael treulio orig ddymunol iawn yn ei theatr yn llygad yr haul, wrth droed ddeheuol yr Acropollis a dychmygu’r awyrgylch o weld y drasiedi ‘Antigone’ o waith Sophocles am y tro cynta’! Rhyfedd meddwl bod y cerrig o’n nghwmpas yno er cyn Crist. Ennyd i sylweddoli a gwerthfawrogi gogoniant hanes y wlad ryfeddol hon.

Fyddai wedi mudo, ac wedi ymweld â sawl dinas arall, cyn imi’ch cyfarch chi tro nesa, felly orig i ddal i fyny efo’r hyn sydd i ddod ar lwyfannau Llundain.

Y newyddion mawr yr wythnos hon ydi bod y sioe hirddisgwyliedig ‘Shrek the Musical’ yn agor yn swyddogol yn y Theatr Royal, Drury Lane ar y 6ed o Fai 2011. Bydd ‘Oliver’ – sydd wedi lletya yno ers y gyfres deledu yn dod i ben, fel sy’n digwydd gyda sawl sioe arall ar hyn o bryd. (Avenue Q a Sweet Charity i enwi ond dwy) Nigel Lindsay fydd yn cael ei baentio o’i gorun iiw sawdl yn wyrdd fel yr anghenfil annwyl ‘Shrek’, tra bydd Richard Blackwood yn troi mewn i’r ‘Donkey, Nigel Harman fydd ‘Yr Arglwydd Farquaad’ ac Amanda Holden fydd y ‘Dywysoges Fiona’. Tipyn o gast, a thipyn o ddisgwyl am godi’r llen.

Sioe arall sydd newydd agor yma, er nid yn swyddogol, ydi ‘Flashdance - the Musical’ eto’n seiliedig ar y ffilm o’r un enw. Fues I' n ddigon ffodus (os mai dyna’r term cywir!) i weld y perfformiad cyntaf erioed o’r sioe hon nos Sadwrn diwethaf. Bregus, blêr a braidd yn ddiflas oedd hi yn fy marn i. Mae gan y cwmni cwta dair wythnos rŵan i wella a chryfhau cyn i lygad craff yr adolygwyr dafoli’r cyfan ar noson y Wasg, sy’n nodi’r agoriad swyddogol.

Ymysg y dramâu cerdd eraill sy’n hawlio’u cartrefi newydd cyn bo hir yw ‘Ghost’ - eto’n seiliedig ar y ffilm o’r un enw! (Oes, mae yma batrwm truenus, sydd, mae arnai ofn, yn adlewyrchu’r hyn sy’n gwerthu ar hyn o bryd). I chi sy’n byw yn y Gogledd, bydd cyfle i weld y sioe yn Nhŷ Opera Manceinion o’r 28ain o Fawrth 2011 tan fis Mai, cyn i’r sioe setlo yn Llundain ym mis Mehefin 2011.

Ac, eto fyth, ffilm arall sydd ar ei ffordd o’r sgrin fawr i’r llwyfan yw ‘Bridget Jones’ sydd heb gael ei gadarnhau hyd yma. Mae yma enwau mawr eisoes yn gysylltiedig â’r gwaith gyda neb llai na Sheridan Smith, (yn ôl y son) yn cael ei hystyried ar gyfer y brif ran. O ran y gerddoriaeth, mae Lilly Allen ymysg rhai o’r cyfansoddwyr sydd wedi cael eu holi ynglŷn â’r cynhyrchiad.

A newyddion da i’r Cymry a ffans Sondheim. Cafwyd si'r wythnos hon y bydd Daniel Evans yn portreadu’r prif gymeriad yn y ddrama gerdd ‘Company’ o waith Sondheim yn Sheffield dros y Nadolig 2011. Jonathan Munby fydd yn cyfarwyddo a Christopher Oram yn cynllunio. Fues i’n ffodus o weld perfformiad o’r ddrama gerdd hon yng Nghaeredin yn 2007, ac yn wir, mae perl yn eich aros, yn enwedig gyda Daniel yn portreadu’r llanc ifanc ‘Bobby’ sy’n cwestiynu popeth, ar achlysur ei ben-blwydd yn 35 mlwydd oed.

Cyn hynny, bydd Daniel yn ymddangos mewn cyngerdd arbennig o’r ddrama gerdd ‘Merrily We Roll Along’ fydd yn Theatr y Queens ar Nos Sul, 31ain o Hydref fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Sondheim yn 80 mlwydd oed. Y Donmar sy’n trefnu’r gyngerdd, sy’n cynnwys aelodau o’r cwmni gwreiddiol a berfformiodd y gwaith ar eu cyfer nol yn y flwyddyn 2000.

Mwy o fanylion drwy ymweld a www.shrekthemusical.co.uk, www.ghostthemusical.com, www.flashdancethemusical.com a www.donmarwarehouse.com

Friday, 1 October 2010

'Krapp's Last Tape'



Y Cymro 01/10/10

Dwy ddrama a dau gynhyrchiad cwbl wahanol yr wythnos hon. O’r Beckett llwm, llonydd ac weithiau’n llawen i gynhyrchiad newydd o’r Clasur cyfoethog a chofiadwy Les Miserables yn y Barbican, sy’n llawn Cymry!

Michael Gambon yw’r enw mawr sy’n denu’r cyhoedd i Theatr y Duchess ar hyn o bryd er mwyn treulio awr yng nghwmni’r hen ŵr ‘Krapp’, sy’n pydru byw ar achlysur ei ben-blwydd yn chwedeg naw, yn bwyta bananas ac yn cofnodi blwyddyn o gofiant ar dâp ar bob pen-blwydd. Monolog o eiddo Beckett yw ‘Krapp’s Last Tape’ sydd wastad yn denu’r enwau mawr i ymgymryd â’r dasg enfawr o’i bortreadu - o Patrick Magee i John Hurt a hyd yn oed Harold Pinter ei hun.

Yn ystod yr orig lonydd a llwm, sy’n cychwyn gyda bron i chwarter awr o dawelwch wrth i ‘Krapp’ ddeffro’n araf, cyn symud o amgylch ei ddesg i chwilio am dâp sain arbennig, cyn dod o hyd i ddwy fanana, a’u bwyta’n gyfan, cawn glywed un o’r tapiau a recordiwyd 30 mlynedd yn gynharach, ar achlysur ei ben-blwydd yn 39 mlwydd oed.

Buan y daw hi’n amlwg i bawb, pam bod y tâp a’r atgof arbennig yma mor bwysig iddo, a thalp helaeth o’r ddrama yn ffrydio o’r peiriant ‘reel to reel’ sy’n cael ei dyrchu o’r llanast yn y llofft gerllaw.

Dyma bortread o fethiant o awdur, sy’n meddwi ar eiriau ac êl, sy’n byw ar fananas ac atgofion blynyddol, sy’n cefnu ar bob awgrym o gariad, ac wedi ymserchu’i fywyd ar gyfer ei ‘opus...magnum’.

Er cystal oedd trydan hudolus Gambon, sy’n llusgo’i hun ar draws y llwyfan, yn cwffio efo’i emosiynau wrth hel atgofion am yr hyn a fu, roedd y cyfan i mi braidd yn ddiflas a di-liw. Er imi fedru deall yn iawn beth oedd byrdwn Beckett, a’r syniad canolog yn un atyniadol, am hen ŵr yn ail-fyw ei fywyd yn flynyddol, doedd yr oedi, y llonyddwch, a’r talpiau helaeth o lais ar dâp ddim yn ddigon i fy niddanu, ac allwn i’m aros i gael dianc allan i liw a llawnder yr Aldwych!

Mae ‘Krapp’s Last Tape’ i’w weld yn y Duchess tan yr 20fed o Dachwedd - mwy o fanylion drwy ymweld â www.nimaxtheatres.com

'Les Miserables - Tour'




Y Cymro 01/10/10

Yn gwbl wrthgyferbyniol, fyddwn i wedi medru eistedd am oriau lawer mwy yn y Barbican ar noson dathlu penblwydd y sioe Les Miserables yn 25 mlwydd oed. I ddathlu’r achlysur, fe gomisiynodd Cameron Macintosh gynhyrchiad newydd o’r sioe gofiadwy, sydd wedi bod yn teithio’r wlad drwy’r flwyddyn. Yr hyn sy’n hyfryd am y cynhyrchiad newydd a ffres hwn gan Laurence Connor a James Powell, ydi’r ffaith bod y cyfan yn llonydd, heb y llwyfan troi cyson. Drwy gyfuno set newydd bwrpasol o waith Matt Kinley, sydd wedi’u hysbrydoli gan waith yr artist a’r llenor gwreiddiol Victor Hugo, a thaflunio delweddau trawiadol i gyd fynd a’r digwydd, mae’r wedd newydd yma’n taro deuddeg, ac eto’n dangos pa mor bwerus ydi’r stori, y sgript a’r gerddoriaeth.

Braf hefyd oedd gweld cyn cymaint o Gymry yn rhan o’r cynhyrchiad, yn cael eu harwain gan y ‘Jean-Valjean’ gorau posib, John Owen-Jones, sydd ag un o’r lleisiau gorau ym myd y ddrama gerdd ar hyn o bryd. Yn cadw cwmni iddo mae Rhidian Marc ac Owain Williams, dau o wynebau cyfarwydd ar lwyfannau ein heisteddfodau, heb anghofio Leigh Rhianon Coggins, Beth Davies, Christopher Jacobsen, David Lawrence, Rhiannon Sarah Porter a Leighton Rafferty.

Balchder yn wir oedd cael bod yno, a’r gymeradwyaeth a’r ganmoliaeth sydd wedi dilyn (yn enwedig ar fyd dyrys y ‘Twitter’) yn brawf o lwyddiant y sioe. Hir y pery’r daith, a hefyd y cynhyrchiad gwreiddiol yn theatr y Queens gyda’r Cymro arall y soniais amdano bythefnos yn ôl, Dylan Williams o Fangor.

Mae ‘Les Miserables’ yn y Barbican tan yr 2il o Hydref, gyda chyngerdd arbennig yn yr O2 ar y 3ydd o Hydref. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.lesmis.com I ddilynwyr Twitter, ymunwch â mi am sylwebaeth feunyddiol @paul_griffiths_