Friday, 29 October 2010
'Ivan and the Dogs'
Y Cymro – 29/10/10
Wrth ymweld ag Athen rai wythnosau’n ôl, ac yn fwy felly pan yn yr India flwyddyn ynghynt, synnais o weld cymaint o gŵn gwyllt oedd yn cerdded y strydoedd. Cael fy annog gan bawb i beidio â’u cyffwrdd, a’r anifeiliaid ‘rheibus’ hyn yn ôl rhai, yn bla ac angen eu difa. I unrhyw un fel fi, gafodd ei fagu o fewn teulu oedd yn caru anifeiliaid anwes, (gyda’r ci neu’r gath fel arfer yn hawlio’r sedd gorau yn y lolfa!), roedd yr ysfa anwesol yn anodd ei anwybyddu. ‘Cyfaill gorau dyn’ meddai’r hen air, ac wedi gwylio ymateb ein ci defaid ‘Nel’ i farwolaeth fy nhad, ac yna fy mam, allai fyth ag anghytuno gyda hynny. Maen nhw’n rhan o unrhyw deulu, ac yn fwy sensitif nag unrhyw blentyn.
I gyd gŵn garwyr, mae’n rhaid ichi fynychu Theatr Soho ar hyn o bryd, er mwyn profi stori ddirdynnol ‘Ivan and the Dogs’ sy’n cael ei gyflwyno ar y cyd gan ATC ar theatr ei hun. Yn seiliedig ar stori wir Ivan Mishukov, gafodd ei fagu gan gŵn gwyllt ar strydoedd Moscow yn y 1990, mae’n ddameg fythgofiadwy am ymdrech un plentyn i oroesi, er gwaetha ei dad maeth creulon, y ‘militia’milenig, ei gyd-gyfeilion gaeth i gyffuriau a’r cartref i blant amddifad digysur.
Natur syml, plentynaidd yr actor Rad Kaim, a’m denodd o’r eiliad cyntaf. Roedd ei fynegiant pwyllog, heb wastraffu geiriau yn ergydion emosiynol pendant. Mewn dinas wedi’i ddinistrio gan ddirwasgiad, roedd bywyd yn llwm ac yn frwydr dyddiol i fyw : ‘All the money went and there was nothing to buy food with. So Mothers and Fathers tried to find things they could get rid of, things that ate, things that drank or things that needed to be kept warm. The dogs went first’.
Ond, prinhau wnaeth y bwyd, a buan wedyn gwelwyd rhai teuluoedd yn gorfod ymwared â’u plant hyd yn oed. Creuwyd arall-fyd tanddaearol ar gyrion y ddinas, byd a dry’n oroesiad i’r cymhwysaf o fedru nid yn unig wrthsefyll yr oerfel a’r eira, ond y bwlis a’r begera. Byd ble roedd yr ysfa i ddianc yn ormesol, a hafan hawdd y cwmwl cyffuriau yn fodd i anghofio, dros dro.
Er mai dewis i redeg i ffwrdd wnaeth Ivan, o dan law creulon ei dad maeth oedd yn curo’i fam, a’r cecru dyddiol, buan y canfu ei hun ynghanol y byd creulon hwn. Ei unig gysur oedd y cŵn gwyllt, yn benodol un ci gwyn, a ddaeth yn ei dro yn bennaf ffrind iddo. Begera, dwyn a rhannu oedd ei achubiaeth, a’r ci, ac wedyn y cŵn, yn dod yn amddiffynwyr digyfaddawd iddo. Eu gwres, eu cwmni a’u cyfarthiad a’i cadwodd yn fyw am flynyddoedd, hyd nes i’r Militia ei ddal, a difa’r cŵn. Er ei osod mewn cartref i blant amddifad, ac i grefydd geisio adfer ei ffydd a meddiannu ei enaid, parhau i uniaethu â’r cŵn wnaeth Ivan, gan weld enaid ei gi gwyn, ymhob ci wedi hynny, yn ogystal â’i enaid ei hun.
Wedi’i lwyfannu mor daclus a diffwdan a’r deud, gyda’r actor yn gaeth o fewn bocs gwyn gydol y sioe, cefais brofiad theatrig cofiadwy tu hwnt. Roedd y gerddoriaeth a’r delweddau oedd yn cyd-fynd â’r geiriau yn anwesu anwyldeb y cyfan, a’r dagrau yn llygaid yr actor yn brawf sicr o bŵer y geiriau yn ogystal â hygrededd sgript Hattie Naylor a chyfarwyddo sensitif Ellen McDougall.
Mae ‘Ivan and the Dogs’ i’w weld yn Theatr Soho tan y 6ed o Dachwedd.
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment