Friday, 22 October 2010

'Hay Fever'




Y Cymro – 22/10/10

Comedïau Noël Coward sydd wedi bod yn llenwi llwyfannau Llundain yn ddiweddar. ‘Private Lives’ efo Kim Cattrall a Matthew MacFayden gafodd fy sylw dro yn ôl, ac ers hynny mae ‘Design for Living’ i’w weld yn yr Old Vic ar hyn o bryd, yn ogystal ag ‘Hay Fever’ yn y Rose, Kingston. O be glywai ar y winllan, bydd cynhyrchiad arall eto fyth o ‘Blythe Spirit’ efo Alison Steadman y tro hwn, yn cyrraedd y West End fis Mawrth nesaf.

Heb os, mae’r comedïau crafog, Prydeinig rhonc, yn cynnwys cymeriadau comig cryf; cymeriadau sy’n denu sylw, ac weithiau dyheadau rhai o’n hactorion mwyaf adnabyddus i’w portreadu. Bu cynhyrchiad hynod o gofiadwy o ‘Hay Fever’ yn y West End dro yn ôl gyda neb llai na Judi Dench yn portreadu’r gyn-actores ‘Judith Bliss’ sy’n rhannu’r bwthyn gwledig moethus yn y 1920au gyda’i theulu unigryw a boncyrs! Celia Imrie sydd bellach yn ymuno â’r rhestr nodedig o actorion, yng nghynhyrchiad Stephen Unwin, yn y Rose, Kingston, er y bydd Nichola McAuliffe wedi camu i’w hesgidiau moethus erbyn diwedd y mis, oherwydd ymrwymiadau ffilmio Celia.

Teulu’r Bliss yw canolbwynt y comedi, wrth i bob un ohonynt yn eu tro, yn ddiarwybod i’r gweddill, wahodd ‘cyfaill’ i dreulio’r penwythnos yn y bwthyn. Erbyn canol yr act gyntaf, mae’r lolfa yn llawn o gymeriadau lliwgar Coward, bob un a’i broblem, neu ei bwyth sydd angen ei dalu’n ôl. Ond breuder a balchder bwystfilaidd y tad a’r fam, a’u plant sy’n cynnal y cyfan, wrth i’r ffraeo a’r cecru barhau, ac erbyn diwedd y drydedd act, ddychryn eu gwesteion cymaint, nes bod y pedwar ohonynt yn llwyddo i ffoi gyda’i gilydd y bore canlynol, ynghanol ffrae fawr y teulu, heb i’r un ohonynt sylwi!

Celia Imrie sy’n serennu heb os, ac yn cynnal rhan helaeth o’r cynhyrchiad wrth iddi arnofio ar draws y llwyfan, yn ei dillad nos liwgar a sidanaidd, yn gor-actio’n bwrpasol, wrth ddyheu am gael bod yn ôl yn llygad y cyhoedd. Dwi’n hoff iawn o ddawn comedïol Celia, sy’n fwyaf adnabyddus am ei gwaith yng nghyfresi comedi Victoria Wood. Mae ganddi’r ddawn anhygoel o fedru anwesu’r dialog gomedïol, a’i gyflwyno’n llawn surni a sychder dirmygus a dychanol, yn ôl gofyn yr olygfa. Roedd ei hatgasedd, neu efallai ei chenfigen o ‘gyfaill / cariad’ ei gŵr, yr anghenfil annwyl ‘Myra Arundel’ (Alexandra Gilbreath) yn peri i’r ergydion gwenwynig, gael eu saethu dro ar ôl tro. Yr anwyldeb ffug wedyn wrth iddi geisio denu sylw’r llanc golygus ‘Sandy Tyrell’ (Sam Swainsbury ) ei gwestai hi am y penwythnos yn y bwthyn.

Oherwydd natur dros-ben-llestri’r gyn-actores o fam, mae’n anffodus o ofynnol felly i’r teulu cyfan orfod bod mor boncyrs a hithau, yn enwedig wrth iddynt oll orfod ail-fyw un o ddramâu clasurol a mwyaf llwyddiannus y fam, ‘Love's Whirlwind’ dro ar ôl tro. Ar adegau, mae’r cyfan yn llithro tuag at beryglon y felodrama eithafol, ond cryfder Celia fel y fam, a hafan dawel eto’n nerfus y diplomydd ‘Richard Greatham’ (Adrian Lukis) sy’n angori’r cyfan yn ôl i realaeth.

Moesuthrwydd y cynhyrchiad sy’n aros yn y cof, o’r set hyd eithafion byd dychymygol Coward, wrth roi blas unwaith yn rhagor ar fohemia’r 20au. Er imi gael gwell blas ar y comedi hwn, tydi’r cyfan ddim yn taro deuddeg i’r llanc o Ddyffryn Conwy. Efallai fy mod i’n rhy ifanc, neu ddim mor wladgarol Brydeinig â gweddill y gynulleidfa, ond mi drysorai daclusrwydd ei dechneg lenyddol a pherfformiad cofiadwy Celia Imrie.

Bydd ‘Hay Fever’ i’w weld yn y Rose, Kingston hyd ddiwedd Hydref. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.rosetheatrekingston.org

No comments:

Post a Comment