Y Cymro - 7/9/07
Nid yn aml ddyddiau yma ‘dwi’n gadael y theatr wedi cael gwefr; wedi gweld cynhyrchiad sy’n fy nghyffwrdd neu fy nghyffroi. Ond fe lwyddodd cynhyrchiad cwmni mccv/108 o’r ddrama ddadleuol ‘Corpus Christi’ gan Terrence McNally i wneud hynny, a pheri imi fynd yn ôl i weld eu cynhyrchiad eilwaith. Pam felly? Beth oedd mor arbennig am y ddrama hon? Ai gwir eu datganiad inni ‘gwestiynu popeth a gredwn’?
Wel yn gyntaf, fe lwyddodd y cwmni i greu teimlad o frawdgarwch a chariad mawr cyn cychwyn y ddrama. Fe gyrhaddo nhw’n theatr yr un amser â’r gynulleidfa, gan gludo’r set, y props a’u gwisgoedd gyda nhw. Fe gawsom weld y cwmni yn paratoi, ac yn cofleidio’i gilydd, i ddymuno’n dda cyn cychwyn y ddrama. Wedi i John Lennon orffen canu ‘Imagine’, fe gamodd un o’r cwmni ymlaen, a’n croesawu fel cynulleidfa, a’n cyflwyno i’r actorion a’u cymeriadau. Bedyddiwyd pob actor yn un o ddisgyblion Iesu Grist, gan adael dau gymeriad ar ôl - Iesu ei hun, a Jiwdas.
Mae’r ddrama hon wedi creu dadleuon mawr le bynnag y llwyfannir hir, a hynny am fod y dramodydd yn ail-adrodd hanes Iesu Grist, ond trwy alw’r prif gymeriad yn ‘Joshua’ - bachgen ifanc hoyw sy’n ffoi o’i dref enedigol sef Corpus Christi yn Texas, am ei fod yn cael ei geryddu dros ei rywioldeb . Mae’n dychwelyd i’r dref, ac yn casglu ei ddisgyblion ynghyd - disgyblion sy’n gymysg o’i bartneriaid rhywiol, ei elynion, a’i gariad Jiwdas sy’n ei fradychu, ac yn arwain at ei groeshoeliad.
‘Cafodd y ddrama enedigaeth gythryblus iawn yn Efrog Newydd’, meddai awdur y ddrama, ‘...a pharodd yr holl helynt i lawer o bobl gadw draw. Doedd o ddim yn fwriad gennyf ddychryn pobol, roedd o fod i ymestyn ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n ddwyfol ymhob un ohonom... Daeth fy nrama am gariad a ffydd yn esgus am gasineb a thrais’.
Drwy gyfarwyddo medrus Nic Arnzen, a pherfformiadau cofiadwy gan James Brandon fel ‘Joshua’ a Chris Payne fel ‘Jiwdas’, dyma gynhyrchiad y byddai’n cofio amdano am amser hir. Mae sôn am deithio’r ddrama i’r Ŵyl Ymylol yn Nulyn y flwyddyn nesaf - mwy am hynny yn nes at yr achos.
A dyna ni, ddiwedd yr Ŵyl am flwyddyn arall. Blwyddyn ble gwerthwyd 1.7 miliwn o docynnau, sy’n godiad o 10.8% ar werthiant 2006. Blwyddyn ble gwelwyd mwy o Gymry yn perfformio nag erioed o’r blaen, a blwyddyn y cofia innau amdani am yr amrywiaeth a’r weledigaeth theatrig.
No comments:
Post a Comment