Y Cymro 01/4/11
Taro wyth yn hytrach na deuddeg wnaeth addasiad diweddara Theatr Bara Caws o nofel Fawr Caradog Prichard, ‘Un Nos Ola Leuad’. “Da ni wedi gwerthu pob tocyn ym mhob canolfan drwy Gymru gyfan ers y noson gyntaf ym Methesda cofia”, meddai Linda Brown, gweinyddydd y cwmni. “Yn fy 28 mlynedd o weithio hefo Bara Caws - dwi erioed wedi gweld hyn 'di digwydd o'r blaen,” ychwanegodd.
Ac MAE hynny yn galondid mawr iawn imi ac i’r Ddrama Gymraeg, sydd yn sicr yn profi rhyw Ddadeni cyffrous ar hyn o bryd. Fu gen i barch mawr tuag at Bara Caws ers blynyddoedd bellach, ac atgofion plentyndod am eu teithiau di-ri i bob cornel o Gymru, gan gynnwys Y Ganolfan yn Nolwyddelan ble y gwelais gynyrchiadau a ysgogodd fy niddordeb sicr ym Myd y Ddrama. Dwi di sôn sawl tro am eu cyfraniad safonol, cyson o’r digri a’r difrif dros y blynyddoedd, a does gen i ddim amheuaeth y byddai sawl cornel o Gymru yn dlawd iawn eu hadloniant celfyddydol, heb ymweliad chwarterol a’u dogn o’r Bara (Caws) beunyddiol!
Ym 1961, y cyhoeddwyd y nofel , ac felly priodol oedd nodi’r dathliad, trwy lwyfannu addasiad Betsan Llwyd (cyfarwyddwr y sioe bresennol) o addasiad John Ogwen a Maureen Rhys o’r nofel, ar gyfer un o deithiau olaf Cwmni Theatr Cymru, nôl ym 1981. Cafwyd dathliad arall o’r gwaith ym 1991, pan aeth Cwmni Gaucho ati i addasu’r nofel yn ffilm, gyda Betsan Llwyd yn portreadu’r fam a Dyfan Roberts yn y brif ran.
Mae’r stori ddirdynnol yn wybyddus i bawb. Hanes ‘Y Dyn’ (Rhys Richards) sy’n dychwelyd i’w ardal enedigol, ar noson ola leuad, wrth i atgofion o’i blentyndod lifo’n ôl i’w boenydio. Wrth iddo gofio’i hynt ai helynt pan yn blentyn (Sion Trystan), mae’n cofio hefyd am y llu o gymeriadau lliwgar a fu’n rhan annatod o’i fagwraeth a’i fro. Cymeriadau sy’n cael eu darlunio’n ddramatig a llwyddiannus ar y cyfan gan yr ensemble sef Arwyn Jones, Rhodri Siôn a Manon Wilkinson. Ond daw’r boen fwyaf a’r euogrwydd o gofio gwallgofrwydd ei fam (Carys Gwilym), sy’n awgrymu’n gryf ei fod yntau hefyd bellach yn diodde’r un penyd, yng ngolau’r lleuad llawn.
Gwendid mwyaf y cynhyrchiad hwn imi, ydi gogoniant Bara Caws. Mae hi’n nofel rhy fawr o lawer i’w gwasgu i lwyfan mor fach. Mae angen pellter, ehangder a dyfnder yma i gyfleu’r gwallgofrwydd a’r unigrwydd sydd o dan haenau trwchus o hiwmor a thristwch. Fe ddylai’r cyfan fod ar gynfas llawer mwy, sy’n caniatáu i’r goleuo ( a ddylai dderbyn y flaenoriaeth oherwydd pwysigrwydd y nos a’r lleuad) i yrru ias oer i lawr y cefn. Rhyw faglu dros ei gilydd wnaeth y chwe actor, ar y llwyfan caeth o lechi llwyd ac ambell i focs symudol. Roedd presenoldeb cyson ‘Y Dyn’ ar y lefel uchaf, yn y cefndir, yn gelfyddydol gywir, ond oherwydd cyfyngderau’r set, yn caethiwo Rhys Richards ar sawl lefel.
Os am lwyfannu addasiad o’r maint hwn, yna dylid cwtogi’r cwmni i ddau actor yn unig, a lleihau’r set a’r dodrefn, gan adael dim ond Y fam a’r mab, fel dwi’n amau oedd yng nghynhyrchiad gwreiddiol John Ogwen nol ym 1981. Byddai hynny wedi bod yn dipyn mwy o sialens i’r cwmni.
Roedd hiwmor yr addasiad yn gweithio’n llawer gwell na difrifoldeb y ffilm ym 1991. Cafwyd sawl golygfa hynod o gofiadwy fel y ffeit a’r miri efo’r organ yn yr Eglwys a weithiodd yn dda. Felly hefyd gyda’r myrdd o ymweliadau a chameos gan y cymeriadau lliwgar, drwy gydol y stori. Y gwendid imi, dro ar ôl tro, oedd bod rhuthr yr addasiad neu’r cyfarwyddo, yn peri i’r golygfeydd gael eu gollwng ar ddiwedd y gair yn hytrach na’r emosiwn. Y ddwy enghraifft am trawodd fwyaf oedd yr olygfa enwog wrth i’r mab ffarwelio a’i fam, wedi mynd â hi i’r Seilam. Falle bod y geiriau ar y ddalen wedi dod i ben, ond byddai cynnal yr edrychiad, yr emosiwn, yr euogrwydd a’r boen wedi gallu bod yn llawer cryfach. Felly hefyd gyda’r diweddglo a’n gadawodd yn swrth, yn ddifflach ac yn crefu am fwy.
Llwyddodd Rhys Richards, ar y cyfan, o fewn cyfyngderau’r set, i gyfleu’r dyn diarth yn dda iawn, er nad oeddwn yn teimlo fod y briodas rhyngddo â’i hunan ifancach ym mhresenoldeb Sion Trystan, mor agos ag y dylai fod. Hiwmor, afiaith a llygaid lliwgar Sion Trystan am trawodd fwyaf am y sioe, oedd yn cwbl gredadwy fel y mab, yn enwedig yn artaith y crio, o golli’i fam. Roedd ‘gwallgofrwydd’ Carys Gwilym hefyd yn gynnil ac yn effeithiol , ond bod gwir angen lle iddi ddianc tu hwnt i’r geiriau mewn mannau.
Caethiwed sioe deithiol oedd pennaf wendid y cynhyrchiad imi. Serch hynny, synnwn i ddim na fydd y rhan helaeth o’r gynulleidfa wedi mwynhau treulio orig yng nghwmni cymeriadau lliwgar Caradog Prichard, ac ail-flasu gogoniant un o nofelau mwya’r iaith Gymraeg.
Mae’r daith yn dod i ben nos yfory. Bydd y cwmni yn ymweld â Rhuthun heno (Ebrill 1af) a Criccieth fory (Ebrill 2il). Mwy am Bara Caws drwy ymweld â www.theatrbaracaws.com
1 comment:
This book encapsulates the rich tapestry of life in North Wales as it was. Theatre Bara Caws and our own wonderful actors have brought Caradog Prichard's fine book to life time and again.
Post a Comment