Y Cymro - 14/9/07
Mae’n rhyfedd fel mae’r oes yn newid. Am flynyddoedd, cafodd ein hannwyl deledu ei feio am gadw pobol draw o’r theatr. Erbyn hyn, y bocs (nid-mor-fychan) sy’n gyfrifol am gastio rhai o’r sioeau mwya’ poblogaidd yn y West End!. Dyna chi ‘The Sound of Music’ i gychwyn, a’r Gymraes Connie Fisher, yn gwbl haeddu dod i’r brig efo’i pherfformiad unigryw o ‘Maria’ gan chwalu cysgod Julie Andrews am byth; Lee Mead wedyn yn ‘Joseff a’i Gôt Amryliw’, yn parhau i swyno’r gynulleidfa a’i lais melfedaidd a’i ‘frethyn ystlys’ dadlennol (faswn i’n taeru sy’n mynd yn llai wrth i’r sioe barhau!). A dyma ddod at y ddeuawd ddiweddara i gamu o’r sgrin i’r llwyfan sef Danny Bayne a Susan McFadden, enillwyr y gyfres i ganfod sêr newydd y ddrama gerdd bythol-boblogaidd ‘Grease’.
Er na welais i fawr o’r gyfres deledu, na chwaith y gyfres i ganfod y ‘Joseff’ newydd oedd yn digwydd bod yn cyd-redeg â hi, allwn i’m peidio teimlo bod gan bwy bynnag oedd am ddod i’r brig, orchwyl anferth i’w gyflawni drwy bortreadu’r ddau eicon yma gafodd eu hanfarwoli gan John Travolta ac Olivia Newton-John yn y ffilm a ryddhawyd ym 1978. Ond roedd y ddrama gerdd yn bod cyn hynny. Ym 1971, cyfansoddodd yr awduron Americanaidd Jim Jacobs a Warren Casey ‘ddrama gyda cherddoriaeth achlysurol’, a’i llwyfannu hi mewn theatr yn Chicago. Pan welodd y cynhyrchwyr Ken Waissman a Maxine Fox eu cynhyrchiad, awgrymodd y ddau y byddai drama gerdd yn gweithio’n well. Wedi ail-edrych ar y cyfan, ac ail-gyfansoddi, agorodd ‘Grease’ yn Manhattan ar y 14eg o Chwefror 1972. Derbyniodd y sioe ganmoliaeth uchel a buan iawn symudwyd y sioe i Broadway. Barry Bostwick a Carole Demas oedd y ddau wreiddiol i bortreadu’r ddau gariad enwog ‘Danny Zuko’ a ‘Sandy Dumbrowski’, sy’n mynychu’r ysgol uwchradd Rydell High yn Chicago ym 1959. Mae’r sioe yn olrhain eu cyfeillgarwch, gan ddelio efo pynciau cymdeithasol fel trais y gangiau a beichiogrwydd, ond hefyd yn delio â themâu fel cariad, cyfeillgarwch a gwrthdaro’r arddegau.
Buan iawn y daeth enwau mwy cyfarwydd i lenwi esgidiau’r ddau brif gymeriad, ac wrth i’r blynyddoedd ruthro heibio ar Broadway, gwelwyd cantorion fel Patrick Swayze, John Travolta a hyd yn oed Richard Gere yn mentro gwisgo’r siaced ledr enwog. Gwelwyd y sioe yn Llundain am y tro cyntaf ym mis Mehefin 1973, gyda’r actor (anadnabyddus bryd hynny), Richard Gere ac Elaine Page wrth y llyw.
Felly, beth am y ddau ddiweddara? Oedd ganddyn nhw’r gallu lleisiol a’r ddawn actio i gynnal y ddau ran flaenllaw yma? Oedd ganddyn nhw’r hud arbennig a’r presenoldeb llwyfan i sicrhau bod cenhedlaeth arall yn syrthio mewn cariad a chydymdeimlo efo’r ddau gariad? Yn onest, ac yn siomedig o anffodus, na ydi’r ateb.
Does 'na’m dwywaith fod gan y ddau berfformiwr yma leisiau bendigedig, ac roedd y ddau ar eu gorau yn eu hunawdau fel ‘Hopelessly Devoted to you’ a ‘Sandy’, ond y gwendid mawr ydi’r ffaith mai ‘perfformwyr’ neu ‘ddawnswyr’ ydi’r ddau ac nid actorion. Mae angen i ‘Danny’ sefyll allan ynghanol y criw o hogiau; mae angen iddo fod yn olygus ac eto’n beryglus o tyff a dynol; mae angen iddo fedru cipio neu dorri calon unrhyw ferch gydag un edrychiad, ac yn anffodus, tydi’r gallu hynny ddim ym meddiant y llanc pedair ar bymtheg oed Danny Bayne. Ynghanol yr ail-act, mae gofyn iddo ddod i’r llwyfan mewn shorts a chrys T, gyda’r bwriad o edrych yn rhywiol a siapus, ond bois bach, weles i fwy o rywioldeb mewn bwced a mop nag oedd ar y llwyfan!
Pan oedd y cast i gyd ar y llwyfan, collwyd y ddau ohonynt ynghanol y criw; doedd yna ddim byd am bersonoliaeth y ddau oedd yn serennu na chwaith yn mynnu sylw. Dim ond ar ddiwedd y sioe, yn ystod y finale, ac wedi trawsnewidiad ‘Sandy’ y dechreuais i deimlo bod y ddau o’r diwedd wedi canfod eu cymeriadau, ac yn dechrau amlygu’i hunain.
O ran y cynhyrchiad yn gyffredinol, yr hyn sy’n achub y cyfan, heb os ydi’r caneuon cofiadwy. Syml iawn ydi’r set, ac wedi gweld cynyrchiadau mor ddrudfawr â ‘Wicked’ a gostiodd saith miliwn o bunnau a ‘Lord of the Rings’ oedd yn ddeuddeg miliwn, mae cynhyrchiad fel hwn yn edrych yn eitha’ rhad a gwag. Wedi dechrau digon tila ac aradeg, sy’n ein cyflwyno ni i’r band a rhai o alawon mwya’ cofiadwy'r sioe, mae’n cymryd tipyn o amser i’r troed gyrraedd y sbardun, ac i’r enwog ‘Greased Lightning’ gyrraedd y lôn gyflym. Rhy neis-neis, perffaith, a glân oedd popeth am y sioe, ac roeddwn i’n dyheu am y caledi a’r ‘coolness’ oedd wrth wraidd y ffilm enwog. Er iddi wella erbyn yr ail-ran, gwan iawn oedd y cymeriad ‘Rizo’ (Jayde Westaby) yn ei ffrogiau benywaidd, a hithau i fod y caletaf o’r merched. Ar un adeg, yn y ddeuawd ‘Mooning’, roedd ‘Roger’ (Richard Hardwick) a ‘Jan’ (Laurie Scarth) yn serennu fwy na’r ddau brif gymeriad, a hynny’n syml am fod gan y ddau actor ifanc yma brofiad helaeth ar lwyfan, ac roedd hynny i’w weld yn amlwg.
Ynghanol yr anobaith, mae yma ambell i olygfa fel y ‘Beauty School Drop Out’ a’r ‘Finale’ sy’n werth ei weld, ond yn anffodus, tydi gweddill o’r sioe ddim yn cynnal y safon.
Mae ‘Grease’ i’w weld yn Theatr Picadilly ar hyn o bryd. Am fwy o fanylion, ymwelwch â www.greasethemusical.co.uk