Y Cymro - 27/10/06
Ynghanol y bwrlwm o ddramâu sy’n teithio drwy Gymru ar hyn o bryd, roedd hi’n amser imi ymweld â Llundain unwaith eto er mwyn cadw llygad ar y llwyfan yno. Llwyddo i weld tair sioe mewn un penwythnos, ac mi glywch chi hanes y ddwy arall dros yr wythnosau nesaf. Ond, yr wythnos hon, dwi am fynd â chi ar daith draw i’r Ariannin a hynny i gyfeiliant cerddoriaeth hudolus Lloyd Webber yn ei sioe ‘Evita’.
Agorodd y fersiwn newydd o’r ddrama gerdd enwog yma gan Syr Tim Rice ac Andrew Lloyd Webber ar yr 21ain o Fehefin eleni, ar yr union ddyddiad yr agorodd y cynhyrchiad cynta o’r sioe nôl ym 1978. Elaine Paige a Joss Ackland oedd y sêr bryd hynny, ac eleni y gantores Elena Roger o Buenos Aires sy’n hawlio’r sylw.
Ers y saithdegau, mae’r sioe a stori Eva Peron wedi dod yn gyfarwydd i bawb, a hynny yn benna oherwydd y fersiwn ffilm a gynhyrchwyd rhai blynyddoedd yn ôl gyda neb llai na Madonna yn y brif ran.
Fel y ffilm, mae’r sioe lwyfan yn mynd â ni nôl i’r Ariannin rhwng y cyfnod 1934 a 1952. Mae’r stori yn cael ei adrodd gan fyfyriwr cyffredin - ‘Che’ (Matt Rawle) sy’n ein cyflwyno ni i ferch bymtheg oed, Eva Duarte (Elena Roger) sy’n ysu am gael bod yn actores enwog. Wrth iddi ddenu a defnyddio dynion i gyrraedd ei nod, mae’n cwrdd â’r Colonel Juan Peron (Philip Quast) ac wedi iddo ddod yn Arlywydd yr Ariannyn ym 1943, mae Evita hefyd yn ennill ei henwogrwydd, gan ddod yn fwy poblogaidd na Peron hyd yn oed. Wrth i bethau ddirywio yn wleidyddol ac o ran iechyd Eva, dim ond angau sy’n aros.
Er fy mod i wrth fy modd efo rhai o’r caneuon cofiadwy yn y sioe, fel ‘Another Suitcase in Another Hall’ a’r byth ganiadwy ‘Don’t Cry for me Argentina’, doeddwn i ddim mor hoff o’r cynhyrchiad newydd yma. Yn bersonol, doedd gan ‘run o’r tri phrif gymeriad bresenoldeb ar y llwyfan. Doeddwn i ddim yn teimlo mod i wedi gweld perfformiadau fyddai’n aros efo mi am byth. Mae’r wir dweud bod Elena Roger yn werth ei gweld, nid yn unig am fod ganddi gorff fel titw tomos a llais fel y gylfinir, ond wedi dweud hynny, allwn i’m peidio cael fy atgoffa o berfformiadau gwell Madonna neu Elaine Paige. Mae’r un peth yn wir am Matt Rawle fel y cymeriad ‘Che’ sydd â’r dasg anodd o’n tywys ni drwy’r stori a’r blynyddoedd. Eto, er yn olygus, ac yn amlwg yn medru canu fel y profais yn yr Ail Act, doedd ei berfformiad o ddim teilyngu lle yn fy nghwpwrdd atgofion!
Roeddwn i wedi disgwyl mwy o’r llwyfannu. Dwy ‘set’ sydd yma mewn gwirionedd, ac wedi codi’r mur ar gychwyn yn sioe, prin iawn oedd y newid i’r sgwâr Casa Rosada drwy gydol y sioe. Falle y byddai’r cynhyrchwyr yn gwrthddadlau bod y pwyslais wedi’i roi fwyfwy ar yr ochor ddawns, gan gyflwyno naws America-Ladin i’r gerddoriaeth a swyn y tango. Digon teg, roedd hynny yn gweithio ar y cyfan, OND - welis i ‘rioed drigolion unrhyw ddinas yn dawnsio’r tango yn eu galar! Di-chwaeth i mi.
Siom hefyd ym mherfformiad Elena o’r gân enillodd Oscar yn y ffilm : ‘You Must Love Me’ - cân sy’n cael ei chanu gan Evita yn ei gwaeledd yn erfyn ar Peron i ofalu amdani. Cefais y teimlad ei bod hi wedi’i gosod rwla-rwla mond er mwyn ei chynnwys a bod y gantores wedi rhuthro trwyddi. Collwyd cyfle euraidd yn fy marn i i greu un o olygfeydd mwya cofiadwy yn y sioe ddigofiadwy yma.
Mae’r sioe i’w gweld yn Theatr yr Adelphi ar y Strand yn Llundain.