Total Pageviews
Saturday, 30 September 2006
'The Grapes of Wrath'
Y Cymro - 30/09/06
Er imi glywed sôn am nofel ddadleuol John Steinbeck, ‘The Grapes of Wrath’ a hynny yn bennaf oherwydd ffilm John Ford gyda Henry Fonda yn y pedwardegau, doeddwn i ddim yn gyfarwydd o gwbl â’r stori na’r hanes dadleuol tu ôl iddi.
Yn dilyn llwyddiant ‘Of Mice and Men’, doedd hi ddim yn syndod felly bod Tim Baker wedi dewis i addasu’r nofel yma ar gyfer cynhyrchiad diweddara Clwyd Theatr Cymru, a hynny yn bennaf oherwydd y stori gre’ emosiynol am deulu yn brwydro yn erbyn annhegwch cymdeithasol a gwleidyddol. Mae’r cyfan wedi’i leoli yn America yn ystod cyfnod y Dirwasgiad Mawr pan gafodd 250,000 o deuluoedd eu gorfodi i adael eu cartrefi yn Oklahoma gan deithio draw am California i chwilio am waith. Dilynwn hanes teulu’r ‘Joad’ ar eu taith enbyd draw am Galifornia, gan dreulio cyfnodau byr mewn gwahanol wersylloedd, wrth chwilio am hafan ddiogel, parch a heddwch. Mae enw’r teulu yn adlais hefyd o hanes ‘Job’ yn y Beibl, a ddangosodd gryn fynadd o dan orthrwm. Dyma thema sy’n nodweddu llawer o waith Tim Baker - o ddyddiau ei gynyrchiadau cynnar efo Theatr Gorllewin Morgannwg hyd at anghyfiawnder nofelau Alexander Cordell yn y drindod o ddramâu a berfformiodd Clwyd Theatr Cymru rai blynyddoedd yn ôl. Brwydr y bobol gyffredin yn erbyn anhegwch a rhagfarn, gan ennill y dydd a’u hunan-barch.
Roedd set eang a chwaethus Max Jones yn effeithiol tu hwnt, ac yn atgoffa rhywun o arddull ffilm, drwy ganolbwyntio ein sylw ar rannau penodol o’r llwyfan i gyd-fynd â’r stori. Braf hefyd oedd gweld cast o 34 yn cyd-actio’n fendigedig, a phob un yn portreadu’i gymeriad yn gryf a chyson.
Rhaid canmol perfformiad Lynn Hunter fel mam y teulu, sy’n cynnal rhan helaeth o’r ddrama gyda’i pherfformiad cadarn a graenus tu hwnt. Clod hefyd i Bradley Freegard fel ‘Tom Joad’, mab hyna’r teulu sy’n cael ei ryddhau o’r carchar ar gychwyn y nofel, ac sy’n ymuno â’r teulu ar eu taith drasig draw am Galifornia. Roedd sawl wyneb cyfarwydd ymysg y cast helaeth fel Maldwyn John, Gwyn Vaughan Jones a Rhys Parry Jones. Braf gweld yr actorion yma yn cael eu castio mewn rhannau sy’n sialens iddynt, ac yn gyfle gwych i ddangos eu doniau fel actorion profiadol, o gysgod cymeriadau operâu sebon a chyfresi drama.
Cyfanwaith cynhyrchiadau Tim Baker sy’n apelio bob tro. Mae ganddo’r gallu i ddod â phawb ynghyd yn un corws sy’n adleisio neges y ddrama ar gân a cherddoriaeth. Mae’r cyd-weithio rhyngddo â’r cyfansoddwr Dyfan Jones wastad yn llwyddianus, a chlod arbennig i Dyfrig Morris sy’n arddangos ei ddawn brofiadol fel drymiwr, drwy gyfeilio i nifer o’r caneuon.
Unig wendid y cynhyrchiad ydi’r ffaith ei fod o tua ugain munud yn rhy hir. Roeddwn innau yn dyheu am fynadd Job ynghanol gwres ac undonedd yr Ail-Act. Daeth y gawod o law, sy’n adlais o’r dymestl yn y stori, fel chwa o awyr iach ynghanol gwres llethol Theatr Anthony Hopkins. Mi ellid yn hawdd fod wedi tocio’r stori, heb golli’r ddrama na’r neges. Gair i gall at yr addasiad nesaf Mr Baker!
Ond peidiwch â gadael i hynny eich rhwystro rhag heidio draw i’r Wyddgrug i weld cynhyrchiad arall sy’n taro deuddeg. O’r set i’r sain, o’r cast i’r canu - dyma gynhyrchiad safonol a theatrig sy’n deilwng o gynulleidfa niferus. Mae’r cynhyrchiad i’w weld yno tan y 7fed o Hydref.
Friday, 15 September 2006
'Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2006'
Y Cymro - 15/09/06
Fyddai wrth fy modd yn teithio i Theatr Clwyd, gan fy mod i wastad yn cael gwefr o bob cynhyrchiad dwi’n ei weld yno. Roedd hynny sicr yn wir am Nos Sadwrn diwethaf wrth imi ymuno â’r gynulleidfa niferus yn Theatr Anthony Hopkins ar gyfer Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru 2006. Welis i ‘rioed gymaint o ddrama mewn un noson!
Wyth cystadleuydd yn ymgiprys am wobr ariannol o £4000 i’w ddefnyddio ‘ar gyfer hyfforddiant pellach mewn maes arbenigol o ddewis yr enillydd’ yng ngeiriau Bryn ei hun. A rhaid cytuno â geiriau un o’r beirniad, Daniel Evans, fod yr Ysgoloriaeth hon yn ‘bont aur’ rhwng y byd amatur a’r byd proffesiynol.
Cafwyd eiliadau o theatr pur gan bob un o’r wyth cystadleuydd. Hyder lleisiol Osian Gwynn wrth ddilyn yr arad yng ‘Nghân yr Arad Goch’; cynildeb ac aeddfedrwydd Elin Myfanwy Phillips wrth bortreadu’r fam drasig yn nrama Frank Vickery, ‘Sleeping with Mickey’; Hiwmor a hyder Manon Mai Rhys wrth ganu’r alaw draddodiadol ‘Ddaw Hi Ddim’; a holl berfformiad egniol a theatrig Gethin Page wrth glocsio o’r traddodiadol i’r modern. Dewi Siôn Evans wedyn a’i berfformiad emosiynol o ‘Pam Dduw, Pam?’ o’r ddrama gerdd ‘Miss Saigon’; holl raglen brofiadol a swynol Rhys Taylor ar y Clarinét; llefaru cynnes a chyfoethog Owain Phillips wrth fynd â ni drwy gymeriadau ‘Dan y Wenallt’ yng nghyfieithiad ‘gwell na’r gwreiddiol’ T James Jones, ac yna’r unigryw Elain Llwyd yn gyrru iâs oer i lawr fy nghefn ar gerdd dant ac yn fwy felly ar yr unawdau o sawl sioe cerdd. Gwych iawn.
Mae’n amlwg bod tipyn o ddrama hefyd gefn llwyfan wrth i’r chwe beirniad gymryd awr a chwarter i ddod i benderfyniad ynglŷn â’r buddugol. Rhys Taylor aeth â hi, a go brin y gall unrhyw un wadu ei dalent arbennig ar y Clarinét, a swynodd pawb oedd yn y theatr ar y noson.
Allwch chi’m cael drama dda heb wrthdaro, ac roedd yna ddigon o hynny ymysg y gynulleidfa ar y noson. Roedd yna sawl dadl a gwrthddadl gwerth ei chlywed, ac o bosib ANGEN eu trafod. Yn gyntaf, a ddylai Rhys fod wedi ennill? Mae o eisioes WEDI graddio o’r Coleg Cerdd Frenhinol y Gogledd, Manceinion a hefyd wedi rhyddhau ei CD cyntaf, yn wahanol i Elain sydd ar gychwyn ei hastudiaethau yn y Central School of Speech and Drama yn Llundain. Pwy sydd angen yr arian fwya’?. Gellir gwrthddadlau bod Elain hefyd wedi gweithio yn broffesiynol yng Nghymru ar gyfresi radio a chyngherddau teledu. Ond, chwaeth beirniad ydi hi ar ddiwedd y dydd, a nhw sy’n gorfod pwyso a mesur pwy roddodd y wefr fwyaf ar y noson. Wedyn beth am y llefarwyr? Dyna chi Owain Phillips, a ddaeth yn fuddugol ar y gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Llefaru yw ei ddawn ef, ac nid actio. Oedd ganddo obaith mewn gwirionedd yn erbyn perfformiadau theatrig Elain, Gethin neu Dewi Siôn?.
Beth am raglen yr wyth cystadleuydd? Oedd y darnau a berfformiwyd ganddynt yn gwneud teilyngdod â’u gallu? Oedd yna ddigon o amrywiaeth o fewn yr wyth rhaglen? Ydi ‘Blodeuwedd’ a ‘Dan y Wenallt’ yn rhoi digon o her i wthio’r perfformwyr i allu uniaethu â’r cymeriadau, i ‘olygu rhywbeth dyfnach iddynt? Yn bersonol, dwi’m yn credu eu bod nhw. Rhaid dewis yn fwy gofalus at y dyfodol. Gwthiwch y ffiniau!
Mewn Steddfod neu Ŵyl fel ei gilydd, dwy wobr sydd - cyntaf neu gam. Fel ddudodd Bryn ei hun, mae 'na wastad flwyddyn nesaf. Ond, ni fydd gin pawb ei ffefryn, a barn ynglŷn â phwy ddylid fod wedi ennill. Mae un peth yn sicr, mi wn i…
Friday, 8 September 2006
Gwyl Caeredin 2006
Y Cymro - 8/9/06
Wedi gwerthu dros 1.5 miliwn o docynnau - y nifer mwya erioed, mae’r Ŵyl yng Nghaeredin bellach ar ben am flwyddyn arall. Tipyn o anrheg ar ei phen-blwydd yn 60 oed.
Wrth i’r cwmniau adael y ddinas, mae sawl cynhyrchiad yn mynd ar daith. Cwmni Theatr Apricot o Landeilo i gychwyn efo’r ddrama ‘Y Tylwyth Teg’. Roeddwn i wrth fy modd pan welis i deitl Cymraeg ynghanol rhaglen yr ŵyl, ac yn edrych ymlaen yn fawr i weld y cynhyrchiad. Mae’r stori wedi’i selio ar ein straeon gwerin am y tylwyth teg a’u crimbil, yn hudo plant a phobol i’w byd diamser tanddaearol. Cafodd y sioe ei llwyfannu yng nghrombil tywyll y Smirnoff Underbelly - un o brif ganolfannau’r Ŵyl, ac roedd cael eistedd yn yr oerni a’r tywyllwch tanddaearol, yn ychwanegu at y profiad o wylio’r sioe. Llwyddodd y tri actor - Benedict Hitchins, Rachel King a Ros Steele i’n hargyhoeddi o dristwch dyrys y ‘bobol fach’ yma. Roedd eu gwylio ym fwynhad llwyr. Prin oedd y ddialog, gan roi mwy o bwyslais ar ystumiau’r corff, i greu cyfanwaith prydferth a phwerus. Bydd y cwmni yn ymweld â Chanolfan Gelf Gate yng Nghaerdydd nos Sadwrn. Medi’r 9fed, Llandeilo ar yr 11eg o Fedi a Phontardawe ar y 14eg.
Cynhyrchiad arall sydd wedi teithio o Gaeredin i Stratford-upon-Avon ydi cynhyrchiad cwmni'r Royal Shakespeare o ‘Troilus a Cressida’. Wyddwn i ddim am y ddrama yma, ond doedd hynny yn amharu dim ar y mwynhad. Roedd gweld ehangder y cynhyrchiad yn rhoi gwefr ynddo’i hun gyda chast o 35 yn herio’i gilydd mewn brwydr waedlyd. Torrwyd ar drymder y ddialog gan gerddoriaeth oedd yn lliwio’r naws ac roedd y set epig a’r goleuo gofalus yn hynod o drawiadol. Braf iawn oedd gweld yr actor o Sir Fôn Julian Lewis-Jones yn hawlio’i le yn y cast cryf, wrth bortreadu’r labwst o filwr ‘Ajax’. Perfformiad cry’ arall o Gymru, a chynhyrchiad gwerth ei weld. Mae’r perfformiadau yn dod i ben Nos Sadwrn, Medi’r 9fed.
Ac o sôn am Fôn, cynhyrchiad yr hoffwn i weld yn teithio, er nad oes bwriad i wneud hynny ar hyn o bryd, ydi’r sioe ‘Floating’ - cyd-gynhyrchiad rhwng cwmni Hoipolloi a chynyrchiadau Hugh Hughes. Dyma’r cynhyrchiad a barodd imi chwerthin fwya yn ystod fy ymweliad â’r Alban. Cyflwynwyd y sioe gan Hugh Hughes (Shôn Dale-Jones) a’i gydymaith Sioned Rowlands (Jill Norman) .
Dychmygwch yr olygfa - ar y 1af o Ebrill 1982, cafodd Sir Fôn ei hysgwyd gan ddaeargryn enfawr, nes peri i’r pontydd ddymchwel, ac mae’r ynys yn cael ei datgysylltu oddi wrth y tir mawr. Wrth iddi ddechrau arnofio draw am y moroedd mawr, mae’r trigolion sy’n dal arni yn ceisio gwneud popeth i achub y sefyllfa. Cawn hanes eu hymdrech i gasglu holl gynfasau gwely ar draws yr ynys, gan ddod â’r cwbl ynghyd i stad ddiwydiannol yn Llangefni er mwyn eu gwnïo at ei gilydd, gyda’r bwriad o greu hwyl enfawr i’w gosod ar ben Tŵr Marcwis! A sôn am hwyl, roedd perfformiadau egniol y ddau actor yn werth eu gweld wrth gyflwyno hanes a chefndir Sir Fôn i’r gynulleidfa Ryngwladol yn yr Alban. Er imi holi’r cwmni ar y pryd os oedd bwriad i ddod â’r sioe i Gymru, yn anffodus, does dim cynlluniau hyd yma.
Wrth i’r plant ddychwelyd i’r ysgol, ac wrth inni ffarwelio â gwyliau’r Haf am flwyddyn arall, dwi’n edrych ymlaen am Dymor yr Hydref llawn a phrysur yn ein theatrau…
Friday, 1 September 2006
Gwyl Caeredin 2006
Y Cymro -1/9/06
Mae’r Ŵyl Ryngwladol ac Ymylol yng Nghaeredin fel bocs o siocled enfawr! Digon o ddewis at unrhyw ddant. Ond fy nghyngor i ar ôl eleni fyddai paratowch yn ofalus cyn mynd, gan brynu’ch tocynnau ymlaen llaw, a gwisgo esgidiau addas gan fod y sioeau wedi’i gwasgaru dros 260 o leoliadau ar draws y ddinas!
Roeddwn i wedi ceisio dewis sioeau fyddai’n apelio am resymau gwahanol. Y sioe gerdd ‘Closer Than Ever’ gan Gynyrchiadau Kent-Mcardle i gychwyn, am fy mod i wedi gwirioni efo un gân o’r sioe sef ‘If I Sing’ wedi clywed Rhydian Marc yn canu cyfieithiad Cymraeg ohoni yn Eisteddfod yr Urdd eleni. ‘Boom Bang-a-Bang’ wedyn gan Gwmni Theatr ‘About Turn’, drama wedi’i gyfansoddi gan Jonathan Harvey, awdur y gyfres gomedi ‘Gimme Gimme Gimme’. Dramâu mwy uchelgeisiol wedyn fel cynhyrchiad Alan Rickman i’r Royal Court o’r ddrama ‘My Name is Rachel Corrie’ yn seiliedig ar stori wir am y ferch a gollodd ei bywyd ym Mhalestina. Byth ers gweld y sioe ‘Sunday in the Park with George’, cefais flas ar gerddoriaeth unigryw Sondheim, ac felly dyma ychwanegu’r ddrama gerdd ‘Passion’ gan Gwmni Primavera at y rhestr.
Un cynhyrchiad gafodd lawer o sylw yn yr Ŵyl Ymylol eleni oedd sioe o’r enw ‘Apollo / Dionsysus’ gan Gwmni ‘TheDead’. Un o’r prif resymau am y sylw oedd y ffaith bod y ddau brif actor yn noeth drwy’r ddrama! Syniad da sut i werthu tocynnau medda rhai, (ac yn wir FE werthwyd y tocynnau!) ond, roedd yma lawer iawn mwy yn y ddrama hon. Dyma bortread prydferth, cynnil, onest a chynnes o dduwiau’r Groegiaid - Dionysus (Jonny Liron) - duw’r gwin, ac Apollo (Andrew Oliveira) - duw trefn a gwirionedd. Cefais fy swyno gan sgript farddonol Daniel Austin, ac roedd cael bod yn y gynulleidfa, a phrofi’r ‘gwin’ yn brofiad arbennig iawn.
Drama arall gafodd effaith fawr arna’i oedd cynhyrchiad Theatr Genedlaethol yr Alban o ‘Realism’ wedi’i gyfarwyddo a’i chyfansoddi gan Anthony Neilson. Difyr oedd gweld bod Anthony wedi astudio yng Ngholeg Cerdd a Drama, Caerdydd, ac allai ‘mond gobeithio y daw yn ôl i Gymru rhyw ddydd i greu cynhyrchiad cofiadwy yma. Dychmygwch yr ‘olygfa, llwyfan llawn tywod, y props a’r dodrefn wedi’i gladdu yn ei ganol, a’r actorion yn straffaglu drwyddo; y cyfan yn ychwanegu at afrealaeth ‘realaeth’ y teitl. Hanes un dyn (Stuart McQuarrie) a gafwyd yn ymdrechu i wneud synnwyr o’i fywyd. Mae’n anodd egluro’n union beth yw’r stori, ac mae hynny’n cwbl fwriadol. Nid dyna yw’r nod. Cawsom ein cyflwyno i’w gariadon, ei rieni, ei gyfeillion a hyd yn oed ei gath - oedd yn cael ei actio gan ddyn mewn siwt cath! Roedd goleuo Chahine Yavroyan yn hynod o drawiadol, gan beri i’r tywod newid ei liw yn ôl y galw, a’r cynhyrchiad cyffredinol yn brofiad nas anghofiaf am beth amser.
Dyma be ddylem ei weld yng Nghymru. Do, fe gafwyd hyn yn ‘Esther’, ond pam ddim yng ngweddill cynhyrchiadau’r cwmni Cenedlaethol?. Ydwi’n swnian? Wel, os na wna i, pwy wnaiff?! Mae’n rhaid i’r sefydliad yma fod yn atebol i ni fel cynulleidfa ac mae’n bryd i’r Bwrdd cysglyd wrando!
Ychydig fisoedd sydd ers i’r cwmni yn Yr Alban gael ei sefydlu, ac eto mae sawl cynhyrchiad wedi taro deuddeg. Roedd eu cynhyrchiad cynta yn arbrofol ac eto’n ysbrydoledig. Gwahoddwyd deg cyfarwyddwr gwahanol i ddehongli’r thema ‘Adre’, a chafwyd deg cynhyrchiad gwahanol yn cael ei berfformio trwy’r Alban, cyn dod ynghyd ym mis Chwefror eleni. Gwych iawn. Bwriad Vicky Featherstone, Cyfarwyddwr Artistig y cwmni yw i “herio’r artistiaid i gymryd risg gan roi’r annisgwyl i’w cynulleidfa” ac i “ greu theatr sy’n edrych i’r dyfodol yn hytrach nac i’r gorffennol”. Geiriau o gyngor efallai i’n Theatr ni. Mwy o’r bocs siocled yr wythnos nesa!.
Subscribe to:
Posts (Atom)