Total Pageviews
Friday, 8 December 2006
'Hen Bobl Mewn Ceir'
Y Cymro - 8/12/06
Rhyw gyfnod o ddal-i-fyny y bu hi i mi’n ddiweddar, gan fod cynifer o gynyrchiadau yn teithio, a minnau’n ceisio cramu cymaint i mewn ag y medrai. Perfformiad olaf-ond-un Sgript Cymru o’r ddrama ‘Hen Bobl Mewn Ceir’ aeth â hi'r wythnos hon - ac yn wir, roedd hi’n bwrw hen wragedd a ffyn wrth imi wibio draw am Harlech yn y car! Oherwydd y tywydd, doedd gen i fawr o awydd mynd - ond mynd bu raid, a hynny am fod gen i barch mawr at awdur y ddrama Meic Povey.
Wrth ‘yrru yn y glaw, cofiais am rai o gynyrchiadau cwmni Dalier Sylw o waith Povey yn y gorffennol, cynhyrchiadau oedd wedi cael dylanwad arnaf; hanes y ddau gariad Tom (Dafydd Dafis) a Steff (Danny Grehan) a’u carwriaeth ‘anghonfensiynol’ yn ‘Wyneb yn Wyneb’ nôl ym 1993; Defi (Owen Garmon) a Mair (Christine Pritchard) yn gaeth i’w cynefin a’u hatgofion yn ‘Fel Anifail’ ym 1995; tynged deuluol y nain (Lis Miles), y fam (Betsan Llwyd) a’r ferch (Catrin Powell) wedyn yn ‘Tair’ ym 1998; a phortread bythgofiadwy'r diweddar unigryw Beryl Williams o ‘Nel’ yn y ffilm o’r un enw gan gwmni Opus i S4C.
‘Fel hen bobl mewn ceir, profi’r byd o bell yw hanes Roy a Ceri’ - a dyna dderbyn eglurhad am deitl annelwig y ddrama, ar daflen hysbysebu’r cwmni. Mae ‘Roy’ (Alun ap Brynley) yn gweithio fel nyrs mewn hosbis ac oherwydd gwaeledd un o’i gyd-weithwyr, daw wyneb yn wyneb â nyrs sy’n dod i’w gynorthwyo sef ‘Ceri’ (Eiry Hughes). Wrth i’r ddau ddod i nabod ei gilydd, mae’n amlwg fod y ddau’n gaeth i’w sefyllfaoedd - Roy oherwydd ei fam fusgrell a Ceri mewn priodas ddi-ryw. Fel gyda holl gymeriadau Povey, drwy geisio newid pethe, mae chwarae’n troi’n chwerw, a’r ddau yn cael eu gorfodi i wynebu realiti.
Fel un o’n prif ddramodwyr, allwn i’m disgwyl llai na strwythr cryf i’r ddrama, ac fe gafwyd hynny; yn ogystal â deialog fyrlymus oedd yn llifo o enau’r ddau actor - llifo mor sydyn gyda llaw, nes peri i’r ddrama fod ar ben mewn cwta awr! Ond, roedd yma hefyd wendidau. Yn gyntaf, roedd hi’n anodd gennai gredu y byddai’r ddau gymeriad yma yn magu teimladau mor angerddol tuag at ei gilydd mewn cyn lleied o amser. Roedd yna fai mawr hefyd ar y castio, gan nad oedd y ddau yn gweddu i’w gilydd o gwbl. Roedd Eiry lawer rhy ifanc i Alun, ac Alun ddim digon deniadol i Eiry. Fe amharodd hyn yn fawr ar fy mwynhad o’r ddrama. Wrth edrych yn ôl ar fy ngholofn yn Y Cymro ym mis Mehefin eleni, wedi derbyn datganiad gan Sgript Cymru yn sôn am y ddrama, mi welis i’r disgrifiad canlynol : “Mae Roy yn nyrs 59 mlwydd oed… Mae Ceri, (yn) nyrs gynorthwyol 39 mlwydd oed…” - a dyna’r gwendid. Am ba reswm bynnag, fe fu newid er gwaeth, a chamgymeriad mawr oedd peidio cael actores hŷn a phrofiadol i wneud y rhan.
Digon di-liw a diddychymyg oedd cyfarwyddo Elen Bowman, Cynllunio Ben Anderson a Chynllun Goleuo Elanor Higgins. Pam, o pam, na ewch chi weld cynhyrchiadau safonol boed yn Llundain, Dulyn neu Gaeredin mond i WELD pa mor effeithiol y gall goleuo gofalus a chyfarwyddo creadigol fod?. Dwi’n siŵr nad oes yr un hosbis yn cael ei lanhau gymaint ag oedd yr offer yn y cynhyrchiad yma, a’r actorion druan yn gorfod canfod rhywbeth i’w wneud byth a beunydd. Oni fasa’i cael tegell a deunydd gwneud paned wedi torri ar undonedd y glanhau tragwyddol? Roedd elfennau o’r llwyfannu yn fy atgoffa o waith Bethan Jones ar y ddrama ‘Wyneb yn Wyneb’ dair blynedd ar ddeg yn ôl, gyda’r fam ‘Laura’ (Olwen Rees) yn cerdded mewn siâp sgwâr ar gychwyn ac ar ddiwedd y ddrama, gyda phob ongl o’i llwybr wedi’i oleuo yn unigol a gwahanol, a thu hwnt o effeithiol. Dowch laen bois bach, defnyddiwch fymryn o ddychymyg!
Rhyw gymeradwyaeth ddigon tila a gafwyd gan y cwta ugain ohonom yn Theatr Ardudwy; doedd y tywydd ddim yn help, ond mae’n rhaid i’r cwmni ysgwyddo’r cyfrifoldeb hefyd. Er imi brynu copi o’r sgript, a chael cryn foddhad o weld strwythr ac adeiladwaith Povey, fydd hi ddim yn cael ei chofio fel un o’i ddramâu gorau; ond mae’r parch yn aros.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment