Total Pageviews

Wednesday, 2 March 2011

'Honest'


Y Cymro 04/03/11

Ac achos arall i ddathlu, wrth imi lwyddo i ddal yr actor o Gymro Trystan Gravelle yn perfformio’r fonolog ‘Honest’ gan y dramodydd ifanc D C Moore, yn nhafarn y Queen’s Head, yma ger Picadilly Circus. Dyma ddrama amrwd arall, yn cael ei gyflwyno mor foel â di-flewyn ar dafod a’r iaith liwgar, gyfoethog a dirdynnol o’i mewn.

Hanes a phrofiadau'r llanc ifanc ‘Dave’ sydd wedi diflasu ar ei fywyd yn y ddinas, ac wedi suro yn erbyn pawb a phopeth yw’r deugain munud byr, ond byrlymus, wrth iddo foddi’i ofidiau, a siarad yn onest am ei fywyd trwsgl a trasig. Does 'na ddim cuddio ar acen Gymraeg cyfoethog Gravelle, a hynny a roddodd yr ergyd fwyaf imi, wrth iddo ddisgrifio’i lwybrau amrywiol, mewn rhannau o’r ddinas sy’n gynefin i minnau. Dewrder a gallu’r actor fydd yn aros yn y cof, a’r geiriau o onestrwydd dirdynnol a rannwyd rhyngom.

Bydd ‘Honest’ i’w weld tan Ebrill 3ydd. Mwy drwy ymweld â www.sohotheatre.com

'Frankenstein'






Y Cymro 04/03/11

Ac wrth sôn am lwyddiannau, rhaid imi annog pob un ohonoch i fentro i’r Theatr Genedlaethol yma yn Llundain i weld y campwaith theatrig, ‘Frankenstein’ sydd wedi’i gyfarwyddo gan y cyfarwyddwr ffilm, Danny Boyle. Boyle oedd yn gyfrifol am y ffilm ‘Slumdog Millionaire’ a gipiodd cymaint o Wobrau rai blynyddoedd yn ôl.

Gogoniant y cynhyrchiad ydi gweledigaeth a synnwyr dramatig cryf Boyle, sydd, drwy ei dîm profiadol sef y cynllunydd set Mark Tildesley, y cynllunydd goleuo Bruno Poet a chynllunydd gwisgoedd Suttirat Anne Larlarb, yn mynd â ni ar daith drwy’r blynyddoedd, yn gronolegol a daearyddol i gorneli pellaf y byd. Cipiodd y cynhyrchiad fy ngwynt mewn mannau, wrth imi syllu’n gegrwth at fawredd yr hyn oedd yn cael ei gyfleu ar y llwyfan o’m blaen. Anghofiai fyth, tra byddai fyw, yr olygfa sy’n cyfleu’r Chwyldro Diwydiannol, wrth i’r peth gosaf at drên yn llawn o drugareddau hyrddio’i ffordd yn llawn pobol ag arfau a stem i ganol y gynulleidfa, gan fwrw ei gysgodion prysur ar gefn y llwyfan. Yn gyfeiliant i’r cyfan, trac sain wreiddiol sy’n gyfuniad perffaith o synau a cherddoriaeth gan y grwp Underworld.

I gyd fynd â’r set, mae yma dîm profiadol o actorion, gan gynnwys y ddau brif actor Benedict Cumberbatch a Jonny Lee Miller - y ddau, gyda llaw, yn newid eu rôl yn nos weithiol gan rannu’r ddau brif gymeriad sef y gwyddonydd ‘Victor Frankenstein’ a’r anghenfil sy’n cael ei greu ganddo. O’r eiliad yr esgorodd Miller, yn noeth o’r groth wyddonol sy’n cylchdroi’n araf o gwmpas y llwyfan moel, wrth i’r gynulleidfa gyrraedd, fe wyddwn yn syth fod ei berfformiad am fod mor amrwd a bythgofiadwy ag y bu. Felly hefyd gyda’r Cumberbatch angerddol, sy’n colli pob rheolaeth ar yr anghenfil y creodd, ac sy’n talu’r pris yn llawn ar ddiwedd y ddwy awr ddi-dor, ddramatig a bendigedig.

Oes, mae yma wendidau yn y sgript sigledig mewn mannau a pherfformiad prennaidd y tad a’r ferch, ond mae llawer mwy i’w ganmol a’i gofio, sy’n codi uwchlaw’r cyfan, at y myrdd o fylbiau mân sy’n cynhesu’r digwydd uwchben.

Plîs talwch a theithiwch i’w weld; er bod pob tocyn wedi’i werthu hyd yma, mi fydd na fis arall ar werth erbyn i’r rhifyn yma o’r Cymro eich cyrraedd. Os na allwch chi ei weld yn ei briod le ar lwyfan, bydd y cynhyrchiad yn cael ei ddarlledu’n fyw i’ch sinema leol ar ddwy noson wahanol - 7fed a’r 24ain o Fawrth drwy garedigrwydd yr NT Live.

Mwy am ‘Frankenstein’ drwy ymweld â www.nationaltheatre.org.uk

Arwel Gruffydd


Y Cymro 04/03/11

Newyddion da i gychwyn, gyda’r cyhoeddiad yr wythnos hon mai Arwel Gruffydd sy’n hanu o Flaenau Ffestiniog fydd Cyfarwyddwr Artistig newydd Theatr Genedlaethol Cymru. Fe gofiwch mai Arwel fu’n gyfrifol am gyfarwyddo’r cynhyrchiad llwyddiannus o ‘Llwyth’ rai misoedd yn ôl, felly mae’r gobaith a’r ffydd yn fawr, am arlwy amrywiol a gweledigaeth ac arweiniad deallus a dramatig. Llongyfarchiadau mawr ar ei benodiad, ac amser a ddengys...

Wednesday, 23 February 2011

'Racing Demon'




Y Cymro – 25/02/11

‘Racing Demon’ yw'r ail o'r tair drama sy'n rhan o dymor David Hare yn Sheffield; ‘Plenty’ oedd y cyntaf wedi'i gyfarwyddo gan Thea Sharrock , a’r Cymro annwyl Peter Gill yn gyfrifol am gyfarwyddo’r olaf sef ‘Breath of Life’. Daniel ei hun sy'n cyfarwyddo ‘Racing Demon’ sy'n rhan o'r drioled o ddramâu a gyfansoddodd Hare yn y Nawdegau am 'gyflwr y Genedl'. Crefydd sydd dan y lach y tro hwn, wrth inni ymuno â'r Weinidogaeth wrth drafod pob ongl, agwedd a brycheuyn o'r pwnc dadleuol hwn. O'r dysgu i'r Dioddefaint, o'r bwlio i'r beio, mae holl angerdd ac aberth ac arferiad yn cael ei drafod a'i drin yn y ddrama rymus hon.

Y Parchedig ‘Lionel Espy’ (Malcolm Sinclair) yw’r cyntaf ar y llwyfan, i ddatgan ei bryder a’i boendod dros ei ffydd sy’n gwegian o dan ei gwestiynu parhaol. I’r gwrthwyneb wedyn, mae’r Parchedig ‘Tony Ferris’, sydd ar gychwyn ei yrfa Weinidogaethol yn llawn Ffydd a Gobaith, ac yn dal i gredu yn y Gwyrthiau a’r Iachau, ac yn danbaid ei grwsâd dros ei Grefydd. Gwegian ac ysu am fywyd tawel, digynnwrf y mae’r Parchedig ‘Donald ‘Streaky’ Bacon’ (Matthew Cottle) a’r Parchedig ‘Harry Henderson’ (Ian Gelder) ond tydi’r ddau chwaith, ddim yn bell o’i phroblemau a ddaw i’r wyneb yn ystod y ddwy awr o ddrama.

Yr hyn sy’n wych am y ddrama yw gallu Hare i gyflwyno’r holl ddadleuon rhwng y cenedlaethau a phob agwedd posib o’r Weinidogaeth; o apwyntio merched hyd at rywioldeb, diota, trais, rhyw tu allan i briodas, ac effaith y gwaith diddiolch beunyddiol ar y teulu a’u cariadon. Cawn flas o fywyd y cartref trwy gyfraniadau’r gwragedd a’r cariadon ‘Frances Parnell’ (Emma Hamilton), ‘Heather Espy’ (Jane Wymark) ac ‘Ewan Gilmour’ (Paul Rattray) yn ogystal â barn yr Uwch Bwyllgorau gan yr Esgobion Jonathan Coy a Mark Tandy.

Steil, Symlder a manylder cyfarwyddo Daniel sydd unwaith eto wedi ennyn adolygiadau pum seren gan y Wasg Genedlaethol, gan gynnwys Michael Billington, a fu’n eistedd drws nesa imi ar noson y Wasg!. Drwy gynllun set trawiadol Tom Rogers, sy’n gosod yr holl ddigwydd o flaen ffenest wydr enfawr, sy’n newid ei liw a’i siâp yn ôl gofyn yr olygfa a gallu goleuo creadigol Tim Mitchell, dyma gynhyrchiad cofiadwy a chredadwy sy’n dal i godi cwestiynau ar gychwyn yr unfed ganrif ar hugain.

Ewch i Sheffield, a mwyhewch y tair drama, a pheidiwch da chi â’u methu. Mae galw eisoes am i’r cynhyrchiad ymgartrefu yn Llundain, ond daliwch ar y cyfle i’w weld yn ei holl ogoniant gwreiddiol.

Mwy o fanylion drwy ymweld â www.sheffieldtheatres.co.uk

'Whatsonstage Awards'




Y Cymro – 25/02/11

Wythnos o ddathlu’r wythnos hon rhwng gwobrau theatr flynyddol gwefan y Whatsonstage ac ail gynhyrchiad Daniel Evans yn nhymor dramâu David Hare yn theatrau Sheffield.

Y dramâu cerdd ‘Legally Blonde’ a ‘Les Miserables’ oedd prif lwyddiannau’r gwobrau Whatsonstage eleni, wrth i’r gyntaf gipio tair gwobr, gan gynnwys y wobr am yr actores orau mewn drama gerdd i Sheridan Smith. Tair gwobr hefyd i ‘Les Miserables’ gan gynnwys digwyddiad theatraidd y flwyddyn, am y gyngerdd wych yn yr O2. Zoë Wanamaker a David Suchet oedd yr actorion gorau, am eu portread o’r gŵr a gwraig yn nrama Arthur Miller ‘All My Sons’ a fu yn Theatr Apollo am rai wythnosau ganol yr haf diwethaf.

Sioc fawr i lawer ohonom, oedd yn bresennol nos Sul yn Theatr Prince of Wales, cartref y ddrama gerdd ‘Mamma Mia’, oedd gweld Ramin Karimloo a Joseph Millson yn ennill y gwobrau gwrywaidd am yr actorion gorau yn y ddrama gerdd ddadleuol ‘Love Never Dies’, a gafodd gryn artaith gan ddilynwyr Whatsonstage am fod y cynhyrchiad mor ddifrifol o wael.

Braf oedd gweld y Cymro Mark Evans yn casglu’r Wobr am y ddrama gerdd orau yn y West End ar ran y sioe ‘Wicked’, ac Iwan Lewis (a welais yn y sioe ‘Passion’) a Rhian Lois o’r sioe ‘La Bohème) yn perfformio mewn golygfeydd o wahanol sioeau rhwng y gwobrau. Cafwyd blas hefyd o ddwy sioe newydd sydd ar fin agor sef ‘Ghost’ ac ‘The Umbrellas of Cherbourg’ ac o’r hyn a welais a chlywais, mae gwledd yn ein haros.

Mwy o fanylion drwy ymweld â www.Whatsonstage.com

Wednesday, 16 February 2011

'Love Story'





Y Cymro – 18/02/11

Gyda chymaint o sioeau yn agor a chau yma yn Llundain, mae’n anodd iawn gweld popeth. I‘r rhai sy’n fy nilyn ar Twitter (@paul_griffiths_) fe wyddoch mod i yn y theatr bron bob nos yn ddiweddar! Allai’m cwyno, gan fy mod wrth fy modd!

Y newyddion yr wythnos hon yw bod y sioe ‘Dirty Dancing’ yn dod i ben ar gychwyn mis Gorffennaf eleni. Mae’r sioe wedi ymgartrefu yn yr Aldwych ers 2006, a rhaid cyfaddef mod i’n eitha’ balch ei bod hi’n mynd! Doeddwn i ddim yn ffan fawr ohoni, ac yn synnu ei bod hi wedi para cyhyd. I’r miloedd oedd wedi gwirioni (gan gynnwys bysus di-ri o wragedd Caernarfon!) peidiwch â phoeni, mae 'na sôn am daith yn yr Hydref drwy’r wlad!

Newyddion sydd wedi fy siomi’n fawr yw bod drama gerdd Howard Goodall ‘Love Story’ hefyd yn cau’n gynnar ddiwedd Chwefror. I’r rhai sydd heb ei weld, mynnwch eich tocynnau heddiw. Mae hi’n fendigedig o sioe, yn deimladwy, dwfn a dirdynnol mewn mannau, ac yn seiliedig ar y ffilm o’r un enw.

Dilyn perthynas dau fyfyriwr, o dras dra gwahanol, wna’r stori; ‘Oliver Barrett IV’ (Michael Xavier) a ‘Jenny Cavilleri’ (Emma Williams) sy’n syrthio dros eu pen a’u clustiau mewn cariad a’i gilydd, yng ngwyneb llwyth o dreialon. O gychwyn y ddrama, ac i ddilynwyr selog y ffilm, mae’n amlwg na fydd diwedd hapus i’w hanes, wrth i Leukaemia lwydo bywyd Jenny, sy’n arwain at ei marwolaeth ifanc gynnar.

Does dim angen dweud fod mwyafrif, os nad y cyfan o’r gynulleidfa yn eu dagrau at ddiwedd y sioe. Ac nid rhyw igian crio smalio, ond bonllefau o ing a phoen, wrth wylio a sylweddoli bod y garwriaeth berffaith a phrydferth yma yn dod i ben.

Perfformiadau pwerus a bythgofiadwy Michael Xavier ac Emma Williams sy’n goleuo llwyfan theatr y Duchess, ac sydd wedi sicrhau canmoliaeth uchel i bawb a’u gwelodd. Braf hefyd oedd gweld y Gymraes o’r Rhyl, Rebecca Trehearne ymysg y cwmni. Os am fynd, ewch a phaced go swmpus o hancesi efo chi!

Mae ‘Love Story’ i’w weld yn y Duchess tan 26ain o Chwefror.

'Clybourne Park'






Y Cymro – 18/02/11

A sôn am berfformiadau pwerus, mi ges i’r cyfle o’r diwedd i weld cynhyrchiad y Royal Court o ‘Clybourne Park’, y bu cymaint o ganmoliaeth a sylw iddi ers y llynedd. Bellach, wedi ymgartrefu yn theatr Wyndhams, mae’r cynhyrchiad a’r ddrama ddadleuol yma yn dal i gorddi a chosi’r cynulleidfaoedd, gyda’u stori sy’n llawn o jôcs a chyfeiriadaeth hiliol, am bob carfan o’r gymdeithas.

Mae’r act gyntaf wedi’i gosod yn 1959, mewn tŷ ynghanol swbwrbia dosbarth canol croenwyn Clybourne Park, Chicago, ble mae ‘Russ’ (Stuart McQuarrie) a’i wraig hurt ‘Bev’ (Sophie Thompson) yn paratoi i fudo o’r ardal i ran arall o’r ddinas. Buan y sylweddolwn fod yna nifer o resymau dros hyn, nid yn unig am fod eu mab ‘Kenneth’ wedi cyflawni hunanladdiad yn y tŷ, yn dilyn ei brofiadau yn Rhyfel Korea, a’r ymateb a dderbyniodd gan y gymuned leol wedi iddo ddychwelyd. Ymateb a digwyddiadau sydd wedi suro ac sy’n dawel ladd enaid a meddwl ei dad Russ, wrth iddo ferwi’n dawel yn ei sedd gydol yr act gyntaf, cyn ffrwydro’n wenfflam ar ei diwedd. Ffrwydrad sy’n cal ei danio yn sgil ymweliad arweinydd cymdeithas y cymdogion lleol ‘Karl’ (Stephen Campbell Moore), sy’n erfyn arnynt i wrthod gwerthu, wedi deall mai teulu croenddu fydd yn ymgartrefu yno.

Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, fe gychwyn yr ail act yn 2009, ac mae’r tŷ ar fin cael ei ddymchwel, er mwyn codi cartref newydd i deulu croenwyn, ynghanol y gymuned groenddu! Fe dry’r holl ddadleuon ar ei ben, sy’n dysteb i ffwlbri a ffars yr Oes sydd ohoni.

Mewn sgript sy’n llawn ergydion a sylwadau miniog, am ein cymundedau, a gwirioneddau fydd yn brifo ambell un, mae digonedd o gyfleoedd hefyd gan Bruce Norris inni chwerthin yn uchel, boed hynny gyda, neu ar ben y cymeriadau. Mae 'na ambell glasur o jôc yma hefyd, ond sy’n llawer rhy las i’w hail adrodd ar dudalennau’r Cymro!

Rhwng adeiladwaith tynn y sgript, a pherfformiadau ffrwydrol a bythgofiadwy Stuart McQuarrie a Sophie Thompson (yn y ddwy act) dyma gynhyrchiad sy’n rhaid ichi’i weld.

Fydd hi ddim yn plesio pawb, a rhaid cyfaddef iddi gymryd rhyw chwarter awr o leia’ imi dderbyn a chael fy swyno gan y stori, ond unwaith mae’r crafangau’n cydio, mae’r canlyniad yn gadarnhaol iawn.

Mae 'Clybourne Park’ i’w weld yn y Wyndhams ar hyn o bryd – mwy o fanylion drwy ymweld â www.clybournepark.co.uk