Wednesday, 23 February 2011

'Racing Demon'




Y Cymro – 25/02/11

‘Racing Demon’ yw'r ail o'r tair drama sy'n rhan o dymor David Hare yn Sheffield; ‘Plenty’ oedd y cyntaf wedi'i gyfarwyddo gan Thea Sharrock , a’r Cymro annwyl Peter Gill yn gyfrifol am gyfarwyddo’r olaf sef ‘Breath of Life’. Daniel ei hun sy'n cyfarwyddo ‘Racing Demon’ sy'n rhan o'r drioled o ddramâu a gyfansoddodd Hare yn y Nawdegau am 'gyflwr y Genedl'. Crefydd sydd dan y lach y tro hwn, wrth inni ymuno â'r Weinidogaeth wrth drafod pob ongl, agwedd a brycheuyn o'r pwnc dadleuol hwn. O'r dysgu i'r Dioddefaint, o'r bwlio i'r beio, mae holl angerdd ac aberth ac arferiad yn cael ei drafod a'i drin yn y ddrama rymus hon.

Y Parchedig ‘Lionel Espy’ (Malcolm Sinclair) yw’r cyntaf ar y llwyfan, i ddatgan ei bryder a’i boendod dros ei ffydd sy’n gwegian o dan ei gwestiynu parhaol. I’r gwrthwyneb wedyn, mae’r Parchedig ‘Tony Ferris’, sydd ar gychwyn ei yrfa Weinidogaethol yn llawn Ffydd a Gobaith, ac yn dal i gredu yn y Gwyrthiau a’r Iachau, ac yn danbaid ei grwsâd dros ei Grefydd. Gwegian ac ysu am fywyd tawel, digynnwrf y mae’r Parchedig ‘Donald ‘Streaky’ Bacon’ (Matthew Cottle) a’r Parchedig ‘Harry Henderson’ (Ian Gelder) ond tydi’r ddau chwaith, ddim yn bell o’i phroblemau a ddaw i’r wyneb yn ystod y ddwy awr o ddrama.

Yr hyn sy’n wych am y ddrama yw gallu Hare i gyflwyno’r holl ddadleuon rhwng y cenedlaethau a phob agwedd posib o’r Weinidogaeth; o apwyntio merched hyd at rywioldeb, diota, trais, rhyw tu allan i briodas, ac effaith y gwaith diddiolch beunyddiol ar y teulu a’u cariadon. Cawn flas o fywyd y cartref trwy gyfraniadau’r gwragedd a’r cariadon ‘Frances Parnell’ (Emma Hamilton), ‘Heather Espy’ (Jane Wymark) ac ‘Ewan Gilmour’ (Paul Rattray) yn ogystal â barn yr Uwch Bwyllgorau gan yr Esgobion Jonathan Coy a Mark Tandy.

Steil, Symlder a manylder cyfarwyddo Daniel sydd unwaith eto wedi ennyn adolygiadau pum seren gan y Wasg Genedlaethol, gan gynnwys Michael Billington, a fu’n eistedd drws nesa imi ar noson y Wasg!. Drwy gynllun set trawiadol Tom Rogers, sy’n gosod yr holl ddigwydd o flaen ffenest wydr enfawr, sy’n newid ei liw a’i siâp yn ôl gofyn yr olygfa a gallu goleuo creadigol Tim Mitchell, dyma gynhyrchiad cofiadwy a chredadwy sy’n dal i godi cwestiynau ar gychwyn yr unfed ganrif ar hugain.

Ewch i Sheffield, a mwyhewch y tair drama, a pheidiwch da chi â’u methu. Mae galw eisoes am i’r cynhyrchiad ymgartrefu yn Llundain, ond daliwch ar y cyfle i’w weld yn ei holl ogoniant gwreiddiol.

Mwy o fanylion drwy ymweld â www.sheffieldtheatres.co.uk

'Whatsonstage Awards'




Y Cymro – 25/02/11

Wythnos o ddathlu’r wythnos hon rhwng gwobrau theatr flynyddol gwefan y Whatsonstage ac ail gynhyrchiad Daniel Evans yn nhymor dramâu David Hare yn theatrau Sheffield.

Y dramâu cerdd ‘Legally Blonde’ a ‘Les Miserables’ oedd prif lwyddiannau’r gwobrau Whatsonstage eleni, wrth i’r gyntaf gipio tair gwobr, gan gynnwys y wobr am yr actores orau mewn drama gerdd i Sheridan Smith. Tair gwobr hefyd i ‘Les Miserables’ gan gynnwys digwyddiad theatraidd y flwyddyn, am y gyngerdd wych yn yr O2. Zoë Wanamaker a David Suchet oedd yr actorion gorau, am eu portread o’r gŵr a gwraig yn nrama Arthur Miller ‘All My Sons’ a fu yn Theatr Apollo am rai wythnosau ganol yr haf diwethaf.

Sioc fawr i lawer ohonom, oedd yn bresennol nos Sul yn Theatr Prince of Wales, cartref y ddrama gerdd ‘Mamma Mia’, oedd gweld Ramin Karimloo a Joseph Millson yn ennill y gwobrau gwrywaidd am yr actorion gorau yn y ddrama gerdd ddadleuol ‘Love Never Dies’, a gafodd gryn artaith gan ddilynwyr Whatsonstage am fod y cynhyrchiad mor ddifrifol o wael.

Braf oedd gweld y Cymro Mark Evans yn casglu’r Wobr am y ddrama gerdd orau yn y West End ar ran y sioe ‘Wicked’, ac Iwan Lewis (a welais yn y sioe ‘Passion’) a Rhian Lois o’r sioe ‘La Bohème) yn perfformio mewn golygfeydd o wahanol sioeau rhwng y gwobrau. Cafwyd blas hefyd o ddwy sioe newydd sydd ar fin agor sef ‘Ghost’ ac ‘The Umbrellas of Cherbourg’ ac o’r hyn a welais a chlywais, mae gwledd yn ein haros.

Mwy o fanylion drwy ymweld â www.Whatsonstage.com

Wednesday, 16 February 2011

'Love Story'





Y Cymro – 18/02/11

Gyda chymaint o sioeau yn agor a chau yma yn Llundain, mae’n anodd iawn gweld popeth. I‘r rhai sy’n fy nilyn ar Twitter (@paul_griffiths_) fe wyddoch mod i yn y theatr bron bob nos yn ddiweddar! Allai’m cwyno, gan fy mod wrth fy modd!

Y newyddion yr wythnos hon yw bod y sioe ‘Dirty Dancing’ yn dod i ben ar gychwyn mis Gorffennaf eleni. Mae’r sioe wedi ymgartrefu yn yr Aldwych ers 2006, a rhaid cyfaddef mod i’n eitha’ balch ei bod hi’n mynd! Doeddwn i ddim yn ffan fawr ohoni, ac yn synnu ei bod hi wedi para cyhyd. I’r miloedd oedd wedi gwirioni (gan gynnwys bysus di-ri o wragedd Caernarfon!) peidiwch â phoeni, mae 'na sôn am daith yn yr Hydref drwy’r wlad!

Newyddion sydd wedi fy siomi’n fawr yw bod drama gerdd Howard Goodall ‘Love Story’ hefyd yn cau’n gynnar ddiwedd Chwefror. I’r rhai sydd heb ei weld, mynnwch eich tocynnau heddiw. Mae hi’n fendigedig o sioe, yn deimladwy, dwfn a dirdynnol mewn mannau, ac yn seiliedig ar y ffilm o’r un enw.

Dilyn perthynas dau fyfyriwr, o dras dra gwahanol, wna’r stori; ‘Oliver Barrett IV’ (Michael Xavier) a ‘Jenny Cavilleri’ (Emma Williams) sy’n syrthio dros eu pen a’u clustiau mewn cariad a’i gilydd, yng ngwyneb llwyth o dreialon. O gychwyn y ddrama, ac i ddilynwyr selog y ffilm, mae’n amlwg na fydd diwedd hapus i’w hanes, wrth i Leukaemia lwydo bywyd Jenny, sy’n arwain at ei marwolaeth ifanc gynnar.

Does dim angen dweud fod mwyafrif, os nad y cyfan o’r gynulleidfa yn eu dagrau at ddiwedd y sioe. Ac nid rhyw igian crio smalio, ond bonllefau o ing a phoen, wrth wylio a sylweddoli bod y garwriaeth berffaith a phrydferth yma yn dod i ben.

Perfformiadau pwerus a bythgofiadwy Michael Xavier ac Emma Williams sy’n goleuo llwyfan theatr y Duchess, ac sydd wedi sicrhau canmoliaeth uchel i bawb a’u gwelodd. Braf hefyd oedd gweld y Gymraes o’r Rhyl, Rebecca Trehearne ymysg y cwmni. Os am fynd, ewch a phaced go swmpus o hancesi efo chi!

Mae ‘Love Story’ i’w weld yn y Duchess tan 26ain o Chwefror.

'Clybourne Park'






Y Cymro – 18/02/11

A sôn am berfformiadau pwerus, mi ges i’r cyfle o’r diwedd i weld cynhyrchiad y Royal Court o ‘Clybourne Park’, y bu cymaint o ganmoliaeth a sylw iddi ers y llynedd. Bellach, wedi ymgartrefu yn theatr Wyndhams, mae’r cynhyrchiad a’r ddrama ddadleuol yma yn dal i gorddi a chosi’r cynulleidfaoedd, gyda’u stori sy’n llawn o jôcs a chyfeiriadaeth hiliol, am bob carfan o’r gymdeithas.

Mae’r act gyntaf wedi’i gosod yn 1959, mewn tŷ ynghanol swbwrbia dosbarth canol croenwyn Clybourne Park, Chicago, ble mae ‘Russ’ (Stuart McQuarrie) a’i wraig hurt ‘Bev’ (Sophie Thompson) yn paratoi i fudo o’r ardal i ran arall o’r ddinas. Buan y sylweddolwn fod yna nifer o resymau dros hyn, nid yn unig am fod eu mab ‘Kenneth’ wedi cyflawni hunanladdiad yn y tŷ, yn dilyn ei brofiadau yn Rhyfel Korea, a’r ymateb a dderbyniodd gan y gymuned leol wedi iddo ddychwelyd. Ymateb a digwyddiadau sydd wedi suro ac sy’n dawel ladd enaid a meddwl ei dad Russ, wrth iddo ferwi’n dawel yn ei sedd gydol yr act gyntaf, cyn ffrwydro’n wenfflam ar ei diwedd. Ffrwydrad sy’n cal ei danio yn sgil ymweliad arweinydd cymdeithas y cymdogion lleol ‘Karl’ (Stephen Campbell Moore), sy’n erfyn arnynt i wrthod gwerthu, wedi deall mai teulu croenddu fydd yn ymgartrefu yno.

Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, fe gychwyn yr ail act yn 2009, ac mae’r tŷ ar fin cael ei ddymchwel, er mwyn codi cartref newydd i deulu croenwyn, ynghanol y gymuned groenddu! Fe dry’r holl ddadleuon ar ei ben, sy’n dysteb i ffwlbri a ffars yr Oes sydd ohoni.

Mewn sgript sy’n llawn ergydion a sylwadau miniog, am ein cymundedau, a gwirioneddau fydd yn brifo ambell un, mae digonedd o gyfleoedd hefyd gan Bruce Norris inni chwerthin yn uchel, boed hynny gyda, neu ar ben y cymeriadau. Mae 'na ambell glasur o jôc yma hefyd, ond sy’n llawer rhy las i’w hail adrodd ar dudalennau’r Cymro!

Rhwng adeiladwaith tynn y sgript, a pherfformiadau ffrwydrol a bythgofiadwy Stuart McQuarrie a Sophie Thompson (yn y ddwy act) dyma gynhyrchiad sy’n rhaid ichi’i weld.

Fydd hi ddim yn plesio pawb, a rhaid cyfaddef iddi gymryd rhyw chwarter awr o leia’ imi dderbyn a chael fy swyno gan y stori, ond unwaith mae’r crafangau’n cydio, mae’r canlyniad yn gadarnhaol iawn.

Mae 'Clybourne Park’ i’w weld yn y Wyndhams ar hyn o bryd – mwy o fanylion drwy ymweld â www.clybournepark.co.uk

Friday, 11 February 2011

'Me and My Girl'



Y Cymro – 11/02/11

Mae’n flwyddyn bellach ers i Daniel Evans ymgymryd â’r awenau fel arweinydd artistig Theatrau Sheffield, ac am flwyddyn y bu hi! Derbyniodd ganmoliaeth a nifer dirifedi o adolygiadau pedair neu bum seren gan y Wasg Genedlaethol, ond yn fwy pwysig efallai, fe enillodd barch ac edmygedd y gynulleidfa leol.

All neb wadu'r amrywiaeth helaeth a gyflwynwyd ar lwyfannau’r tair canolfan - o Ibsen i Shakespeare, o Sam Shepard i Polly Stenham. Uchafbwynt y flwyddyn imi’n bersonol oedd y ddrama gerdd ‘Me and My Girl’ a ddaeth i ben yr wythnos diwethaf.

Mae’r ddwy awr a hanner o daith o Lundain i Sheffield yn medru bod yn hynod o ddiflas, ond mae’r croeso a’r brwdfrydedd ymhen y daith yn euro pob milltir o’r daith. Synnais, i gychwyn, o weld cynifer o gynulleidfa ar gyfer matinee brynhawn Sadwrn, ond yn fwy na hynny, o glywed bod y mwyafrif o’r gynulleidfa amrywiol ar eu hail neu’u trydydd hymweliad. Bob un am ail-fyw’r mwynhad o weld y sioe am y tro cyntaf, a chael clywed yr alawon bythganiadwy fel ‘The Lambeth Walk’ neu ‘Leaning on a Lampost’. Ychwanegwch at hynny dalent diffuant a thrydanol Daniel Crossley fel y llanc ifanc ‘Bill Snibson’, sy’n etifeddu cyfoeth ei dad, a chalon ei gariad cyntaf ‘Sally Smith’ (Jemima Rooper) yng ngwyneb gwrthwynebiad ei deulu ffroenuchel y ‘Dduges Dene’ (Miriam Margolyes) a ‘Syr John Tremayne’ (Patrick Ryecart), ac fe gewch chi ddwy awr a hanner o adloniant pur.

Braf oedd gweld mai’r Cyfarwyddwr Cerdd o Gymru Jae Alexander oedd yn gyfrifol am y gerddoriaeth a thîm cynhyrchu profiadol gan gynnwys y cyfarwyddwr Anna Mackmin a’r arch goreograffydd Stephen Mear. Prawf sicr o lwyddiant y prynhawn oedd y dagrau o lawenydd a balchder a ddisgynnodd i lawr ruddiau addasydd y stori, Stephen Fry, a gododd ar ei draed mor sydyn â minnau, i gymeradwyo’r cwmni cyfan ar ddiwedd y sioe.

Gobeithio’n wir y bydd y cynhyrchiad unai’n teithio neu yn ymgartrefu yma yn Llundain am gyfnod yn hwyrach eleni. Cofiwch fod tymor o ddramâu David Hare i’w weld yn Sheffield ar hyn o bryd. Mwy am ‘Racing Demons’ dros yr wythnosau nesaf.

The Harri Parri's


Y Cymro – 11/02/11

Ac o Sheffield i’r Chapter yng Nghaerdydd, neu’n hytrach i bentref ‘Llanllai’ yng Ngorllewin Cymru, i gwrdd â thylwyth ‘Yr Harri-Parris’. Dyma sioe gerddorol llawn comedi o waith Llinos Mai, oedd hefyd yn gyfrifol am ei chyfarwyddo. Wel, am gymeriad! Yn seiliedig ar ei phrofiad personol o fudo o’r Gorllewin i Gaerdydd pan yn ddeunaw oed, mae’r sioe liwgar a llawn bywyd yn dilyn hanes ‘Anni’ sy’n penderfynu gadael ei theulu a’i ffrind gorau, er mwyn symud i Lundain.

Drwy gyfres o olygfeydd amrywiol sy’n cyfarch y gynulleidfa, a chadwyn o ganeuon hurt o ddoniol, cawn flas ar fywyd y wlad, a’r gobaith am fywyd gwell tu hwnt i’r ffin. Ond buan iawn mae’r hyder am hedfan yn troi’n hiraethu, a hafan o hen wynebau Clwb ‘Rumours’ Abergwaun yn apelio’n llawer mwy na strydoedd Soho.
Cryfder y gwaith oedd yr astudiaeth o fywyd plwyfol a naïf cymuned wledig, a chaneuon fel y ‘weekenders’ a’r dysgu Cymraeg yn ddoniol tu hwnt. Angerdd ac egni Llinos, ynghyd â Paul Morgans, Daniel Rochford a Gareth Wyn Griffiths fydd yn aros yn y cof, a braf gweld dewrder Cyngor y Celfyddydau i noddi a chefnogi prosiectau o’i math. Hir y pery hynny.

Yn anffodus, mae’r ddwy sioe bellach wedi dod i ben.