Wednesday, 23 February 2011
'Racing Demon'
Y Cymro – 25/02/11
‘Racing Demon’ yw'r ail o'r tair drama sy'n rhan o dymor David Hare yn Sheffield; ‘Plenty’ oedd y cyntaf wedi'i gyfarwyddo gan Thea Sharrock , a’r Cymro annwyl Peter Gill yn gyfrifol am gyfarwyddo’r olaf sef ‘Breath of Life’. Daniel ei hun sy'n cyfarwyddo ‘Racing Demon’ sy'n rhan o'r drioled o ddramâu a gyfansoddodd Hare yn y Nawdegau am 'gyflwr y Genedl'. Crefydd sydd dan y lach y tro hwn, wrth inni ymuno â'r Weinidogaeth wrth drafod pob ongl, agwedd a brycheuyn o'r pwnc dadleuol hwn. O'r dysgu i'r Dioddefaint, o'r bwlio i'r beio, mae holl angerdd ac aberth ac arferiad yn cael ei drafod a'i drin yn y ddrama rymus hon.
Y Parchedig ‘Lionel Espy’ (Malcolm Sinclair) yw’r cyntaf ar y llwyfan, i ddatgan ei bryder a’i boendod dros ei ffydd sy’n gwegian o dan ei gwestiynu parhaol. I’r gwrthwyneb wedyn, mae’r Parchedig ‘Tony Ferris’, sydd ar gychwyn ei yrfa Weinidogaethol yn llawn Ffydd a Gobaith, ac yn dal i gredu yn y Gwyrthiau a’r Iachau, ac yn danbaid ei grwsâd dros ei Grefydd. Gwegian ac ysu am fywyd tawel, digynnwrf y mae’r Parchedig ‘Donald ‘Streaky’ Bacon’ (Matthew Cottle) a’r Parchedig ‘Harry Henderson’ (Ian Gelder) ond tydi’r ddau chwaith, ddim yn bell o’i phroblemau a ddaw i’r wyneb yn ystod y ddwy awr o ddrama.
Yr hyn sy’n wych am y ddrama yw gallu Hare i gyflwyno’r holl ddadleuon rhwng y cenedlaethau a phob agwedd posib o’r Weinidogaeth; o apwyntio merched hyd at rywioldeb, diota, trais, rhyw tu allan i briodas, ac effaith y gwaith diddiolch beunyddiol ar y teulu a’u cariadon. Cawn flas o fywyd y cartref trwy gyfraniadau’r gwragedd a’r cariadon ‘Frances Parnell’ (Emma Hamilton), ‘Heather Espy’ (Jane Wymark) ac ‘Ewan Gilmour’ (Paul Rattray) yn ogystal â barn yr Uwch Bwyllgorau gan yr Esgobion Jonathan Coy a Mark Tandy.
Steil, Symlder a manylder cyfarwyddo Daniel sydd unwaith eto wedi ennyn adolygiadau pum seren gan y Wasg Genedlaethol, gan gynnwys Michael Billington, a fu’n eistedd drws nesa imi ar noson y Wasg!. Drwy gynllun set trawiadol Tom Rogers, sy’n gosod yr holl ddigwydd o flaen ffenest wydr enfawr, sy’n newid ei liw a’i siâp yn ôl gofyn yr olygfa a gallu goleuo creadigol Tim Mitchell, dyma gynhyrchiad cofiadwy a chredadwy sy’n dal i godi cwestiynau ar gychwyn yr unfed ganrif ar hugain.
Ewch i Sheffield, a mwyhewch y tair drama, a pheidiwch da chi â’u methu. Mae galw eisoes am i’r cynhyrchiad ymgartrefu yn Llundain, ond daliwch ar y cyfle i’w weld yn ei holl ogoniant gwreiddiol.
Mwy o fanylion drwy ymweld â www.sheffieldtheatres.co.uk
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment